Eitem ar yr agenda
AROLWG AELODAU YNGHYLCH AMSEROEDD CYFARFODYDD Y CYNGOR
Ystyried
adroddiad gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i ddarparu
canlyniadau’r Arolwg.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol, yr Arolwg Aelodau
ynghylch Amseroedd Cyfarfodydd y Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn
rhannu canlyniadau’r Arolwg.
Cynhaliwyd arolwg
Aelodau yn ystod misoedd Awst a Medi 2018 i ganfod beth oedd orau ganddynt o
ran amseroedd a lleoliadau cyfarfodydd y Cyngor a Phwyllgorau. Cafwyd cyfanswm o 35 ymateb, oedd yn
cynrychioli 74% o aelodau’r Cyngor.
Nododd y
Cynghorydd Paul Penlington fod yr arolwg wedi’i seilio ar Survey Monkey dienw a
oedd yn annemocrataidd, yn ei farn ef, ac roedd y cwestiynau’n rhai arweiniol. Teimlai
nad oedd cyfarfodydd boreol yn Rhuthun yn ffafriol i fwyafrif pobl Sir Ddinbych
oedd eisiau mynychu cyfarfod. Pwyllgor
Cynllunio oedd y cyfarfod roedd aelodau’r cyhoedd yn ei fynychu, am fod
ganddynt ddiddordeb personol fel arfer.
Aeth y Cynghorydd
Penlington yn ei flaen i nodi na chafodd cyfarfodydd am 6.30pm eu hawgrymu, ond
bod y Grŵp Tasg a Gorffen wedi bod o blaid o leiaf un cyfarfod Pwyllgor yn
cychwyn am 4.00pm. Cylch gwaith y
Grŵp Tasg a Gorffen oedd adrodd yn ôl i’r Cyngor Llawn, ond roedd wedi
adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd oedd eto, yn ei farn ef, yn
annemocrataidd.
Yn olaf, nododd y
Cynghorydd Penlington fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi’i llunio i
gymwys pobl, a bod angen i’r Cyngor adlewyrchu amrywiaeth yr ardal. I
gloi, credai bod yr arolwg yn annigonol ac yn annemocrataidd ar y cyfan. Teimlai bod y Cyngor yn methu â mynd i’r
afael â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac y dylai unrhyw benderfyniadau
a wnaed ar amseroedd cyfarfod fod o ganlyniad i bleidlais ddemocrataidd yn y
Cyngor Llawn.
Nododd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd bod y Mesur Llywodraeth Leol yn ei
gwneud yn ofynnol arolygu Aelodau ynghylch pryd y byddai orau ganddynt fynychu
cyfarfodydd. Yn arwain at yr etholiadau,
cynhaliwyd sioeau teithiol ledled y sir i ddarpar ymgeiswyr eu mynychu. Byddai goblygiadau cost ynghlwm â chadw
adeiladau ar agor ar gyfer cyfarfodydd gyda’r nos. Ni fyddai cost ychwanegol o
ran staff sy’n cefnogi cyfarfodydd, gan eu bod yn gweithio ar system hyblyg.
Yn ystod y
drafodaeth codwyd y materion canlynol:
·
Teimlai
ambell i aelod bod angen rhyw fath o arolwg cyhoeddus i ganfod barn y cyhoedd.
·
Mynegodd
rhai aelodau bryder am gyfarfodydd gyda’r nos, gan y gallai fod yn anniogel i
bobl deithio’n hwyr y nos, yn enwedig ym misoedd y gaeaf.
·
Ni
fyddai aelodau â theuluoedd yn hoffi bod allan mewn cyfarfod gyda’r nos gan y
byddent yn colli allan ar amser teulu gwerthfawr.
·
Roedd
nifer o’r Cynghorwyr hefyd yn Gynghorwyr Tref a Chymuned ac yn Llywodraethwyr
Ysgolion, sydd oll yn cynnal cyfarfodydd gyda’r nos.
·
Mynegodd
nifer o Gynghorwyr eu bod wedi digio gyda’r erthygl a gyhoeddwyd yn ddiweddar
yn y Daily Post, oedd yn cyfeirio at Gynghorwyr fel bod mewn “clwb pobl wedi
ymddeol”.
·
Cadarnhawyd
y gellid cynnal trafodaeth y tu allan i’r cyfarfod i drafod cwestiynau'r arolwg
yn y dyfodol.
·
Diben
y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd oedd cefnogi Aelodau ym mhob maes, ac
roedd yn Bwyllgor statudol oedd yn gallu delio ag adroddiad y Grŵp Tasg a
Gorffen.
·
O ran
cynnwys y cyhoedd, un ffordd yr oedd y cyngor yn mynd i’r afael â’r mater hwn
oedd drwy weddarlledu’r cyfarfodydd.
Ar y pwynt hwn,
derbyniodd y Cynghorydd Paul Penlington ganfyddiadau’r Grŵp Tasg a
Gorffen, a chytunodd gyda’r awgrym o gynnal un cyfarfod Pwyllgor am
4.00pm. Cynigiodd mai cyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio ddylai gael ei gynnal am 4.00pm. EILIWYD y cynnig gan y
Cynghorydd Emrys Wynne.
Nododd y
Cynghorydd Joe Welch, yn rhinwedd ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio,
mai’r Pwyllgor Cynllunio oedd un o'r cyfarfodydd â'r presenoldeb gorau o ran y
cyhoedd ac Aelodau nad ydynt yn rhan o'r Pwyllgor. Nododd nad oedd yn cymeradwyo cynnal y
Pwyllgor Cynllunio am 4.00pm.
Cytunwyd y
byddai’r diwygiad yn nodi y cytunwyd â chanfyddiadau’r Grŵp Tasg a
Gorffen, gydag un cyfarfod Pwyllgor yn cael ei gynnal am 4.00pm. EILIWYD y cynnig gan y Cynghorydd Geraint Lloyd
Williams.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y diwygiad arfaethedig gan y Cynghorydd Paul Penlington, gyda’r
canlyniadau fel a ganlyn:
(i)
O
blaid – 10
(ii)
Ymatal
– 2
(iii)
Gwrthod
– 28
Felly ni
dderbyniwyd y diwygiad arfaethedig.
Cynhaliwyd
pleidlais ar yr argymhelliad gwreiddiol i gadarnhau’r trefniadau presennol,
gyda’r canlyniadau fel a ganlyn:
(i)
O
blaid – 29
(ii)
Ymatal
– 5
(iii)
Gwrthod
– 6
PENDERFYNWYD
bod y Cyngor wedi ystyried canlyniadau’r arolwg ac argymhelliad y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd, a’i fod yn cadarnhau y bydd trefniadau amseroedd a
lleoliadau cyfarfodydd y Cyngor a Phwyllgorau yn aros fel ag y maent ar hyn o
bryd.
Dogfennau ategol: