Eitem ar yr agenda
CYFLOG BYW GO IAWN
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cyllid (copi ynghlwm) i ddarparu gwybodaeth ac ystyried
goblygiadau talu’r Cyflog Byw Go Iawn.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol, adroddiad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) i ddarparu gwybodaeth am ac i ystyried goblygiadau
talu Cyflog Byw Go Iawn (RLW) a dod yn gyflogwr RLW achrededig.
Cadarnhaodd yr
Aelod Arweiniol bod gwaith a thrafodaethau yn mynd rhagddynt mewn perthynas â’r
strwythur cyflog diwygiedig o Ebrill 2019 ymlaen, i ymgorffori’r newidiadau a
gyflwynwyd gan y Dyfarniad Cyflog Llywodraeth Leol.
Ar y pwynt hwn,
cafwyd gwybodaeth am yr heriau ariannol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol. Byddai ansicrwydd wrth symud ymlaen os byddai
Cyngor Sir Ddinbych yn dod yn gyflogwr RLW achrededig, gan y byddai angen i’r
Cyngor warantu y byddai pob cyflenwr a chontractwr sy'n delio â Sir Ddinbych
hefyd yn cael RLW. Un o’r goblygiadau
mwyaf o ran cost fyddai’r sector gofal, fyddai’n cynyddu o £1 miliwn-£1.5
miliwn, a gallai hyn arwain at gwtogi mewn meysydd gwasanaeth eraill.
Ar y pwynt hwn,
cyflwynodd y Cynghorydd Graham Timms ddau ddiwygiad i’r argymhellion. Y diwygiad cyntaf oedd i gyflwyno adroddiad
diweddaru ar RLW i’r Cyngor Llawn ym mis Gorffennaf 2019, ond yn dilyn
trafodaeth, cytunwyd y byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn
ym mis Rhagfyr 2019. EILIWYD y
diwygiadau gan y Cynghorydd Cheryl Williams.
Dyma’r
diwygiadau:
(i)
Mae
Cyngor Sir Ddinbych yn cytuno y bydd pob gweithiwr, o Ebrill 2019 ymlaen, yn
ennill o leiaf isafswm y cyflog byw go iawn a osodwyd gan y Sefydliad Cyflog
Byw Go Iawn erbyn y mis Ebrill yn dilyn cyhoeddi canlyniad y cyfrifiad
blynyddol newydd.
(ii)
Mae
Cyngor Sir Ddinbych hefyd yn cytuno i ofyn i’w swyddogion baratoi adroddiad ar
gyfer y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr 2019, sy’n amlinellu sut y gallai’r Cyngor
symud tuag at y nod o sicrhau fod pawb sy’n gweithio i’r Cyngor, yn
uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn cael cyflog byw go iawn o leiaf. Dylai’r adroddiad hwnnw gynnwys costau ac
amcangyfrifon i alluogi'r Cyngor i wneud penderfyniad cytbwys ar y mater.
Yn ystod y
drafodaeth codwyd y materion canlynol:
·
Cadarnhawyd,
mewn perthynas â thalu staff, fod y fargen gyflog genedlaethol yn golygu y
byddai’r RLW neu gyfwerth yn cael ei dalu ym mis Ebrill 2019. Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae pen
isaf y raddfa wedi cynyddu o ganran llawer uwch na chyflogau yn uwch i fyny ar
y raddfa gyflog.
Mae hyn wedi achosi cywasgiad yn y graddfeydd, sydd wedi golygu cytuno ar
golofn gyflog newydd yn genedlaethol, fyddai’n cychwyn o Ebrill 2019
ymlaen. Roedd trafodaethau’n mynd
rhagddynt gydag undebau o ran y broses o drosglwyddo staff oddi ar y graddfeydd
cyflog presennol i’r graddfeydd cyflog newydd.
·
Byddai’r
mater o warantu talu’r RLW bob amser, fel y soniwyd yn flaenorol, yn achosi
sefyllfa lle byddai’r graddfeydd is yn codi i fod yn hafal i raddfa uwch.
Byddai hyn yn achosi anniddigrwydd ymysg staff oherwydd diflaniad y
gwahaniaeth cyflog.
·
O ran
cwmnïau allanol sy'n gweithio i Sir Ddinbych, byddai hyn yn achosi problemau
caffael, gan y byddai angen eu harchwilio a'u monitro.
Gellid dod â gwybodaeth mewn perthynas â’r mater hwn yn ôl fel gwybodaeth
bellach.
·
Cadarnhawyd
mai Cyngor Dinas Caerdydd oedd yr unig gyflogwyr RLW achrededig yng Nghymru.
Ar y pwynt hwn,
cynhaliwyd pleidlais, a dyma’r canlyniadau:
(i)
O
blaid yr argymhellion ynghyd â’r 2 ddiwygiad - 33
(ii)
Ymatal
– 0
(iii)
Yn
erbyn yr argymhellion ynghyd â’r 2 ddiwygiad – 10
Felly:
PENDERFYNWYD:
(i)
Y byddai’r Cyngor yn nodi goblygiadau cost
tybiedig talu’r Cyflog Byw Go Iawn a dod yn gyflogwr Cyflog Byw Go Iawn
(ii)
Y byddai’r Cyngor yn cael adroddiad ym mis
Rhagfyr 2019 ar argymhelliad y Sefydliad Cyflog Byw Go Iawn a chanlyniad y
trafodaethau cyflog cenedlaethol, ac, os bydd gwahaniaeth rhwng y ddau, yn
penderfynu a ydynt am dalu'r Cyflog Byw Go Iawn i'w staff yn y flwyddyn
ariannol ddilynol ai peidio.
(iii)
Bod Cyngor Sir Ddinbych hefyd yn cytuno i ofyn
i'w swyddogion baratoi adroddiad ar gyfer y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr 2019,
fydd yn amlinellu sut y gallai’r Cyngor symud tuag at y nod o sicrhau fod pawb
sy’n gweithio i’r Cyngor, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn cael cyflog
byw go iawn o leiaf. Dylai’r adroddiad
hwnnw gynnwys costau ac amcangyfrifon i alluogi'r Cyngor i wneud penderfyniad
cytbwys ar y mater.
Dogfennau ategol: