Eitem ar yr agenda
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD
Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Cofnodion:
Dim eitemau brys.
Ar y pwynt hwn,
dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai tri chwestiwn yn cael eu cyflwyno fel a
ganlyn:
(i)
Cododd
y Cynghorydd Glenn Swingler y cwestiwn canlynol:
“Fyddai modd i’r Aelod Arweiniol roi diweddariad i’r Cyngor ar y gwaith
arfaethedig o adeiladu 7 tŷ a 4 fflat fel tai cymdeithasol ar safle
fflatiau Pennant, Stryd Henllan, Dinbych Uchaf, gan egluro pam ei bod yn
ymddangos fod yna oedi pellach?”
Ymatebodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r
Amgylchedd fel a ganlyn:
“Cynhaliwyd ymweliadau safle oedd yn cynnwys yr Aelod Arweiniol, swyddogion
a Rheolwr y Rhaglen, Datblygiad Tai.
Rhoddodd Rheolwr y Rhaglen ddiweddariad i’r Aelodau am y sefyllfa
bresennol. Roedd Grŵp Cynefin am
gyflwyno cais cynllunio, ond roedd rhaid cynnal asesiadau pellach i fodloni’r
broses gynllunio”.
Nododd y Cynghorydd Glenn Swingler na fu Grŵp Cynefin yn llwyddiannus
yn eu cais i gael cyllid arloesol, ond eu bod wrthi'n gwneud cais am gyllid
pellach gan Lywodraeth Cymru. Gofynnodd
y Cynghorydd Swingler tybed a oedd unrhyw beth y gallai’r Cyngor ei wneud i
helpu Grŵp Cynefin.
Ar y pwynt hwn, cadarnhaodd y Cynghorydd Tony Thomas y byddai’n paratoi
ymateb ysgrifenedig i’r Cynghorydd Glenn Swingler maes o law.
(ii)
Cododd
y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor y cwestiwn canlynol:
“Yn dilyn y cyhoeddiad fod Allied Healthcare yn trosglwyddo ei gontractau
gofal i ddarparwyr eraill, beth yw’r sefyllfa yn Sir Ddinbych i bobl oedd yn
derbyn gofal gan Allied Healthcare, a pha gamau mae’r Cyngor wedi’u cymryd i
sicrhau parhad yng ngofal y bobl hyn?”
Ymatebodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth
fel a ganlyn:
“Mae Allied Healthcare wedi gwerthu eu hasedau busnes i gwmni o’r enw The
Health Care Resource Group. Golyga hyn
bod y rheolwyr a’r staff sy’n gweithio yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd yn parhau
yn eu swyddi, gan ddarparu parhad yng ngofal y tri ar ddeg o bobl y maent yn
rhoi cymorth iddynt yn y sir. Mae
profion diwydrwydd dyladwy wedi cael eu cynnal ac mae Arolygiaeth Gofal Cymru
wedi hysbysu’r perchennog newydd am ei gyfrifoldebau i gofrestru gyda nhw. Rydym yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac os na
fyddant yn cofrestru, byddwn yn cymryd camau pellach i sicrhau bod anghenion
gofal a chymorth unigolion yn cael eu bodloni’n briodol.”
Gofynnod y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor am ymateb pellach yn nodi a fyddai
The Health Care Resource Group yn cael eu trwyddedu yng Nghymru. Gofynnodd hefyd a roddwyd ystyriaeth i ddod
â hyn yn ôl yn fewnol yn hytrach na'i roi ar gontract allanol.
Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol y byddai’n darparu gwybodaeth bellach pan
fyddai ar gael iddi.
(iii)
Cododd
y Cynghorydd Rhys Thomas y cwestiwn canlynol:
“Ym mis Medi eleni, anfonwyd llythyr i un o rieni Ysgol Twm o’r Nant yn
gofyn am daliad ôl-ddyledion arian cinio o £13.20. Roedd y llythyr yn bygwth,
os na fyddai’r arian yn cael ei dalu neu becyn cinio yn cael ei ddarparu ar
gyfer y plentyn, y byddai hyn yn cael ei amlygu fel mater amddiffyn plant, ac y
byddai atgyfeiriad yn cael ei wneud ar unwaith i Dîm Plant Gwasanaethau
Cymdeithasol Sir Ddinbych. Mewn
gwirionedd, nid yn uniongyrchol o'r ysgol y daeth y llythyr, ond gan Gyngor Sir
Ddinbych.
Ar 27 Tachwedd eleni, anfonwyd llythyr arall yn enw Cyngor Sir Ddinbych i
rai o rieni Ysgol y Parc yn nodi, os na fyddai ôl-ddyledion arian cinio’n cael
eu talu, na fyddai eu plant yn cael cinio Nadolig yr ysgol, hyd yn oed pe baent
yn dod â'r arian ar y diwrnod i dalu amdano.
Tybed fyddai modd i’r Cyngor egluro pam fod y llythyrau annifyr a bygythiol
hyn yn cael eu hanfon i rieni yn enw ein cyngor, a pha gamau sy’n cael eu
cymryd i roi stop ar y bobl hyn sy’n meddwl fod hon yn ffordd dderbyniol o
geisio ad-daliad am ôl-ddyledion?
Rwy’n deall bod Pennaeth y Gwasanaeth wedi ymddiheuro ers hynny.”
Ymatebodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol fel a ganlyn:
“Yn gyntaf, cyhoeddwyd llythyr ar ôl gwyliau’r haf oedd yn hen lythyr na
ddylai fod wedi cael ei gyhoeddi. Cyn
gynted ag y daeth y mater i’w sylw, aeth Pennaeth y Gwasanaeth ati i newid y
llythyr a chafwyd sicrwydd na fyddai llythyr o’r math hwn yn cael ei anfon
allan yn y dyfodol.
Mewn perthynas â’r cinio Nadolig, ni ddylai’r llythyr hwnnw fod wedi’i
gyhoeddi chwaith, ac nid oedd wedi bod drwy broses atgyfeirio briodol y
gwasanaeth. Mae camau wedi’u cymryd gyda
Phennaeth y Gwasanaeth a’r rheolwyr i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto. Roedd croeso i unrhyw blentyn oedd eisiau
manteisio ar y cinio Nadolig wneud hynny.
Mae yna broses rheoli dyledion wedi’i sefydlu, a ddylai fod wedi cael ei
defnyddio.
Gallaf eich sicrhau bod pob mesur perthnasol mewn lle i atal hyn rhag
digwydd eto.”
Nododd y Cynghorydd Rhys Thomas ei fod yn dal mewn penbleth ynglŷn â
pham fod y Cyngor wedi ysgrifennu’r llythyrau, ond bod rhaid i’r ysgolion eu
hanfon i’r rhieni, er nad oeddent yn cytuno â nhw. Yna aeth ymlaen i ofyn i’r Aelod Arweiniol a
oedd yn wir y byddai'r ôl-ddyledion yn cael eu tynnu o gyllideb yr ysgol pe
byddent yn gwrthod anfon y llythyrau i'r rhieni?
Sicrhaodd yr Aelod Arweiniol y Cynghorydd Thomas na fyddai’n gyfreithiol
gwneud hynny, ac nad oedd yn wir, hyd eithaf ei wybodaeth.