Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS AM DRWYDDED AR GYFER CERBYD HURIO PREIFAT

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am Drwydded Cerbydau Hurio Preifat.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (dosbarthwyd yn flaenorol) -

 

(i)            derbyniwyd cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat;

 

(ii)          roedd y cerbyd wedi ei drwyddedu ar gyfer hurio preifat yn flaenorol ond ni adnewyddwyd y drwydded cyn i’r drwydded bresennol ddod i ben ym mis Ebrill 2018, ac felly roedd angen delio â’r cais fel cais trwydded cerbyd newydd.

 

(iii)         nid oedd y swyddogion mewn safle i gymeradwyo’r cais gan fod y cerbyd wedi'i gofrestru yn 2007 ac felly nid oedd yn cydymffurfio â pholisi presennol y Cyngor a oedd yn nodi na ddylai unrhyw gerbyd wedi ei drwyddedu o dan gais newydd fod yn hŷn na 5 oed o ddyddiad ei gofrestru cyntaf, a

 

(iv)         gwahoddwyd yr ymgeisydd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi ei chais ac ateb cwestiynau’r aelodau.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol a chadarnhaodd ei bod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi (HB) yr adroddiad a gofynnwyd i’r Pwyllgor Trwyddedu ystyried os oedd yn briodol gwyro oddi wrth bolisi’r Cyngor o ran y gofyniad oedran ar gyfer cerbydau newydd er mwyn cymeradwyo’r cais fel yr ymgeisiwyd amdano.

 

Dywedodd yr ymgeisydd bod y cerbyd mewn cyflwr taclus, yn fecanyddol ddiogel, ac yn addas i'r diben fel y gwelwyd yn y lluniau a ddarparwyd.  Ni chyflawnwyd unrhyw waith tacsi cyffredinol, dim ond gwaith contract ysgol ac roedd y cerbyd wedi ei addasu ar gyfer wyth person ac yn darparu gofod ychwanegol ar gyfer bagiau/offer y disgyblion.  Roedd profiad blaenorol wedi dangos na fyddai cerbyd newydd mor gadarn ac ni fyddai’n gallu ymdopi â gofynion ffyrdd gwledig ac amodau mewn lleoliadau gwledig anghysbell - pe byddai rhaid prynu cerbyd newydd byddai goblygiadau cost a fyddai'n cael ei ysgwyddo gan y Cyngor wrth roi contractau ar gyfer darpariaeth cludiant i'r ysgol.  Cyfeiriodd yr ymgeisydd hefyd at ei hamgylchiadau teuluol personol ac eglurodd yr amgylchiadau a oedd wedi arwain at fethu ag adnewyddu’r drwydded bresennol cyn iddo ddod i ben gan gofio bod plât trwyddedu’r cerbyd wedi ei drosglwyddo ar gam cynharach.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau, cadarnhawyd bod seddi wedi cael eu tynnu o'r cerbyd yn flaenorol gan adael digon o seddi ar gyfer wyth person.  Roedd y cerbyd wedi cael tystysgrif cymeradwyaeth ar gyfer addasu nifer y seddi yn flaenorol - fodd bynnag byddai angen tystysgrif cymeradwyaeth newydd gan fod y cais yn cael ei drin fel cais cerbyd newydd.  Gan nad oedd unrhyw gwestiynau pellach, gwahoddwyd yr ymgeisydd i wneud datganiad terfynol a dywedodd nad oedd ganddi unrhyw beth i’w ychwanegu at ei chyflwyniad.

 

Oedwyd y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a -

 

PHENDERFYNWYD gwrthod y cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat.

 

Dyma resymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu -

 

Ystyriodd yr aelodau’r cais a sylwadau’r ymgeisydd yn yr achos yn ofalus.  Penderfynodd y Pwyllgor Trwyddedu wrthod y cais oherwydd bod y polisi’n nodi na ddylai cerbydau wedi’u trwyddedu o dan gais newydd fod yn hŷn na phump oed o ddyddiad ei gofrestru cyntaf.  Gan fod y cerbyd mewn cyswllt â’r cais yn yr achos hwn yn un ar ddeg oed, nid oedd yn cydymffurfio â'r polisi.  Roedd y Pwyllgor hefyd wedi ystyried nad oedd yr ymgeisydd wedi cynnig rhesymau derbyniol a fyddai’n eu perswadio i wyro oddi wrth eu polisi yn yr achos hwn.  Roedd y polisi presennol wedi bod mewn grym am ddwy flynedd a byddai’r Ymgeisydd wedi bod yn ymwybodol ohono.  Er bod y Pwyllgor Trwyddedu yn cydymdeimlo â phroblemau a brofodd yr ymgeisydd yn ddiweddar, roedd y Pwyllgor yn ystyried y polisi yn un llym ac felly’n bolisi oedd rhaid glynu ato.  Roedd y Cyngor wedi mabwysiadu’r polisi i godi safonau ymysg y fflyd ac roedd cyfyngiadau oedran cerbydau newydd yn rhan o hwnnw.

 

Roedd penderfyniadau a rhesymau’r Pwyllgor felly wedi eu cyfleu i’r Ymgeisydd.  Roedd hawl apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Llys Ynadon o fewn un diwrnod ar hugain.

 

 

Dogfennau ategol: