Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN CORFFORAETHOL CHWARTER 2 - 2017//2022

Monitro cynnydd y Cyngor o ran cyflawni Cynllun Corfforaethol 2017 i 2022.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol adroddiad ac atodiadau’r Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (a oedd eisoes wedi’u cylchredeg) yn cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am berfformiad y Cyngor wrth ddarparu ei Gynllun Corfforaethol 2017-2022 ar ddiwedd chwarter dau 2018-19. Tynnodd sylw’r aelodau at adroddiad y Crynodeb Gweithredol ar gynnydd hyd yma – Atodiad 1, Atodiad 2 a oedd yn cynnwys yr adroddiad perfformiad chwarterol llawn, ac Atodiadau 3 a 4 a oedd yn cynnwys crynodeb o'r prosiectau a oedd ar y gweill gyda'r bwriad o wireddu'r Cynllun cyffredinol a’u safleoedd presennol, gan ddweud bod y Cabinet a'r swyddogion yn fodlon bod y cynnydd hyd yma fel y cynnydd a ragwelwyd.

 

Amlygodd y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol nifer o bwyntiau a phenderfyniadau a wnaethpwyd yn ddiweddar mewn perthynas â phob blaenoriaeth gorfforaethol yn y Cynllun:

·         Blaenoriaeth tai:  Roedd y gofrestr newydd ar gyfer Tai Fforddiadwy, Tai Teg, wedi cael ei hail-lansio’n ddiweddar ar y cyd â Grŵp Cynefin.  Roedd disgwyl i’r grŵp defnyddwyr mwyaf ar gyfer y gofrestr hon fod yn bobl cyflogedig 25 i 34 oed

·         Clymu Cymunedau:  Roedd cwmpas 4G wedi gwella yn y sir dros y misoedd diwethaf, roedd bellach yn unol â’r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer Cymru.  Roedd prosiect ar Bwyntiau Mynediad Digidol wedi cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Dyfodol Digidol yn ystod yr haf.  Oherwydd y posibilrwydd na fyddai’r prosiect hwn yn darparu newid hirdymor ac yn gwireddu gwerth am arian, penderfynwyd peidio â gweithredu’r prosiect.

·         Cymunedau Cryf:  Roedd statws y flaenoriaeth hon yn parhau fel ‘blaenoriaeth i’w gwella’ oherwydd bod gwaith ar y gweill i ddod â nifer o wahanol wasanaethau ac asiantaethau ynghyd i weithio ar ddatblygu Prosiect Cefnogi Gofalwyr ac achos busnes ar gyfer prosiect  ‘Gweithredu i leihau Cam-Drin Domestig yn Sir Ddinbych’.  Roedd gwaith ar y gweill hefyd ar brosiect yn ymwneud â chreu sir sy’n ‘Gyfeillgar i Ddementia’.

·         Yr Amgylchedd:  Roedd gwaith yn parhau er mwyn sicrhau bod stoc dai’r Cyngor yn cyflawni cyfradd ynni ‘C’ erbyn diwedd y Cynllun Corfforaethol

·         Pobl Ifanc:  Roedd Bwrsari Cyflogaeth Sir Ddinbych yn y broses o gael ei lansio.

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a’r Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol:

·         sicrhau’r Pwyllgor, er gwaethaf y ffaith bod dangosfwrdd y rhaglen yn dangos statws ‘mewn perygl’ ar gyfer ysgol ardal newydd Carreg Emlyn, nid oedd y prosiect mewn perygl ac roedd y gwaith adeiladu wedi hen ddechrau.  Roedd y statws perygl yn bodoli oherwydd yr oedi a gafwyd ar y dechrau wrth nodi safle dewisedig;

·         dweud bod lleoliadau prosiectau tai gofal ychwanegol yn cael eu pennu yn ôl yr angen am y math hwnnw o lety mewn ardal ynghyd â hyfywedd economaidd gweithredu’r math hwnnw o gyfleuster.  Byddai llety Gofal Ychwanegol yn golygu bod angen nifer ddigonol o unedau i sicrhau bod ei gostau gweithredu yn cael eu talu;

·         cadarnhau bod gwasanaethau a chefnogaeth i Ofalwyr yn ymddangos yn amlwg yn y Cynllun Corfforaethol.  Roedd Strategaeth Gofalwyr y Cyngor wedi cael ei archwilio gan y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn ddiweddar ac roedd disgwyl i Adroddiad Gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i Ofalwyr Ifanc gael ei gylchredeg i aelodau’r Pwyllgor hwnnw yn y dyfodol agos.  Roedd Bwrdd Prosiect Blaenoriaeth Gorfforaethol Cymunedau a’r Amgylchedd wedi ystyried achos busnes yn ddiweddar i gefnogi’r Strategaeth Gofalwyr;  

·         hysbysu’r Pwyllgor bod y rhaglen i blannu 2,200 o goed yn y Rhyl a Dinbych Uchaf wedi’i hariannu’n allanol a’i bod yn gysylltiedig â’r agenda lles, dyna pam mae’r rhaglen blannu yn gyfyngedig i wardiau mwyaf amddifad y cyngor sir.  Roedd Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor yn gweithio’n ddiwyd gydag ysgolion, cynghorau dinas, tref a chymuned ar brosiectau a chyfleoedd eraill i blannu coed;

·         dweud bod Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata’r Cyngor yn gweithio gyda’r Cynllun Tai Teg er mwyn ei hyrwyddo a thynnu sylw preswylwyr at ei fodolaeth;

·         dweud bod yr hyn sy’n gwneud eiddo yn ‘eiddo fforddiadwy’ yn cael ei bennu ar sail fformiwla cenedlaethol graddedig;

·         cadarnhau bod achos busnes wedi’i gymeradwyo’n ddiweddar i hwyluso penodiad Swyddog Cartrefi Gwag; a

·         cadarnhau bod Strategaeth Gyfathrebu ar gyfer prosiectau’r Byrddau Rhaglen yn eitem sefydlog ar agenda busnes y ddau Fwrdd

 

Croesawodd Aelodau y ffaith bod y prosiect i wneud Sir Ddinbych yn Gyfeillgar i Ddementia ar y cyd â Chymdeithas Alzheimer's yn cael ei gynnwys yn y flaenoriaeth gorfforaethol Cymunedau Cryf a bod y cynnig i gynnwys gweithgareddau i gefnogi rhieni yn rhan o’r flaenoriaeth gorfforaethol Pobl Ifanc. 

 

Cofrestrodd y Pwyllgor eu pryderon ynglŷn â’r cynnydd yn nifer yr achosion o gam-drin domestig sy’n cael ei adrodd, ond cydnabuwyd bod hyn yn rhannol o ganlyniad i newid yn y ffordd y caiff digwyddiadau eu cofnodi ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth. 

 

Gofynnodd aelodau’r Pwyllgor i ddigwyddiadau bioamrywiaeth cymunedol, megis gweithgareddau plannu coed, gael eu hysbysebu i gynulleidfaoedd ehangach er mwyn gwella lefelau cyfranogi ac fel bo mwy o waith yn digwydd ar y cyd rhwng y Cyngor Sir, cynghorau dinas, tref a chymuned a busnesau lleol ar waith a mentrau twristiaeth.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, aeth y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol a’r Cydlynydd Craffu ati i gael:

·         ffigyrau am nifer y bobl a gafodd help i gael mynediad at dai trwy wahanol gynlluniau gan y llywodraeth a gwybodaeth am yr hyn y tybiwyd sy’n berfformiad boddhaol mewn perthynas â helpu pobl i brynu eu cartref;

·         gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i fentrau cefn gwlad a bioamrywiaeth ledled y sir gan y tîm sy’n gweithio yn Loggerheads;

·         gwybodaeth am hyd y cytundebau cynnal a chadw sy’n gysylltiedig â choed a blannwyd o dan y cynllun plannu coed PLANT; a

·         manylion ynglŷn â phryd y byddai adroddiad ar Strategaeth Arwyddion Twristiaeth ar gyfer y sir yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau

 

 

.

 

PENDERFYNWYD: - Yn amodol ar y sylwadau uchod a darparu’r wybodaeth ofynnol i gydnabod perfformiad y Cyngor, ar ddiwedd Chwarter 2 2018-19, wrth ddarparu ei Gynllun Corfforaethol a gwella canlyniadau i ddinasyddion y sir

 

Dogfennau ategol: