Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ARHOLIADAU ALLANOL DROS DRO AC ASESIADAU ATHRAWON

Adolygu perfformiad ysgolion a phlant sy’n derbyn gofal.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg, Plant a Phobl Ifanc adroddiad ar y cyd gan y Prif Reolwr Addysg ac Arweinydd Uwchradd GwE (a oedd eisoes wedi'i gylchredeg). Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor am ganlyniadau Asesiadau Athrawon a oedd wedi’u gwirio o’r Cyfnod Sylfaen (CS) i Gyfnod Allweddol 3 (CA3) a chanlyniadau arholiadau dros dro Cyfnod Allweddol 4 (CA4) ar gyfer disgyblion Sir Ddinbych yn ystod blwyddyn academaidd 2017/18. 

 

Yn ystod ei gyflwyniad tynnodd yr Aelod Arweiniol sylw at y ffaith bod y trothwy cyrhaeddiad ar gyfer cyflawni gradd ‘C’ yn yr arholiad TGAU Saesneg yn haf 2018 wedi codi o 20 pwynt o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.  O ganlyniad, yn seiliedig ar drothwy sgorio 2017, dyfarnwyd gradd ‘D’ i gyfanswm o 107 o ddisgyblion yn Sir Ddinbych y rhagwelwyd y byddent yn cyflawni gradd ‘C’ yn eu harholiad Saesneg yn haf 2018 – effeithiodd hyn ar gyfanswm o 700 o ddisgyblion ar draws rhanbarth GwE. 

 

Dywedodd yr Aelod Arweiniol bod pob awdurdod addysg lleol yng ngogledd Cymru a GwE wedi codi pryderon wrth Lywodraeth Cymru (LlC) am y cynnydd anghymesur yn y trothwy TGAU Saesneg o’i gymharu â phynciau eraill a’r effaith niweidiol yr oedd hyn yn ei gael ar ddisgyblion.  Roedd swyddogion addysg yn ceisio cyngor cyfreithiol ar y mater ar hyn o bryd.

 

Dywedodd Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant y Cyngor wrth aelodau bod yr adroddiad wedi’i gyflwyno mewn gwahanol fformat i flynyddoedd blaenorol er mwyn cydymffurfio â gofynion LlC.  Gan nad oedd data cyrhaeddiad cymharol cenedlaethol bellach yn cael eu cyhoeddi ar gyfer cyfnodau allweddol addysg, nid oedd disgwyl i awdurdodau addysg lleol feincnodi eu hunain yn erbyn awdurdodau eraill – ond gallai consortia addysg rhanbarthol grynhoi setiau data cymharol yn ôl rhanbarthau pe dymunent. 

 

Dywedodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant bod canlyniadau ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 (CA2) wedi parhau’n gadarn, sefyllfa a oedd wedi aros felly ers sawl blwyddyn ac yr oedd Estyn wedi’i gydnabod yn ei adroddiad diweddar yn dilyn ei arolwg o wasanaeth addysg y Cyngor. 

 

Er bod y gostyngiad mewn lefelau perfformiad yn CA4 wedi peri pryder, roedd yn bwysig cofio’r rhesymau pam fod hyn wedi digwydd a rhoi ystyriaeth i ganfyddiadau a chasgliadau Arolwg Estyn o Wasanaeth Addysg y Cyngor a oedd wedi bod yn eithriadol o gadarnhaol.  Roedd disgwyl i Estyn wneud cyfeiriadau ffafriol at wasanaethau addysg Sir Ddinbych yn Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr, a fyddai'n cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2018.

 

Roedd Atodiad 1 yr adroddiad yn cynnwys adroddiad drafft ar y cyd â GwE ar berfformiad addysgol Sir Ddinbych.  Roedd fformat a strwythur yr adroddiad hwn wedi’i gytuno ar draws y rhanbarth er mwyn sicrhau bod yr un math o wybodaeth yn cael ei adrodd i bob awdurdod lleol ac yn yr un fformat.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor:

·         er bo perfformiad disgyblion CS Sir Ddinbych wedi gostwng mymryn yn ystod y cyfnod asesu dan sylw, roedd y gostyngiad hwn wedi bod yn is na’r gostyngiad a gofnodwyd yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Y prif reswm dros y gostyngiad mewn perfformiad oedd y disgrifyddion canlyniadau mwy heriol a ddefnyddiwyd wrth asesu canlyniadau mewn iaith a mathemateg;

·         Yn ôl y disgwyl, roedd canlyniadau CA2 wedi parhau i wella fel y blynyddoedd blaenorol.  Wrth edrych ymlaen roedd y Cyngor a GwE wedi nodi’r angen i fynd i’r afael ag effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol, yn ogystal â sut i gefnogi disgyblion sy’n cyflawni lefelau uchel fel rhan o’u ffocws addysg gynradd yn y dyfodol;

·         roedd lefelau perfformiad yn parhau’n gryf yn CA3 yn unol â pherfformiad cenedlaethol yn gyffredinol.  Roedd perfformiad disgyblion Sir Ddinbych yn erbyn y Dangosydd Pynciau Craidd (DPC) wedi bod yn dda er gwaethaf y gostyngiad bach yn eu perfformiad mewn mathemateg.  Y rheswm am hyn oedd y ffaith bod cynnydd bach wedi bod mewn lefelau perfformiad Saesneg a chynnydd sylweddol ym mherfformiad disgyblion mewn Cymraeg.  Roedd swyddogion yn cydnabod bod angen i ysgolion newid y ffordd y maent yn herio a defnyddio data CA3 er mwyn sicrhau gwelliant parhaus.  Hefyd, roedd angen gwneud mwy o waith ar wella perfformiad disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn erbyn y DPC;

·         oherwydd y newidiadau a gyflwynwyd i’r broses arholiadau CA4 yn ystod 2016-17, roedd y data perfformiad yn dal i fod yn anwadal dros ben, a dyna pam roedd gostyngiad wedi digwydd yn y lefelau perfformiad yn genedlaethol yn arholiadau haf 2018.  Mae’r gostyngiad hwn yn cael ei ddwysau ymhellach gan y newid sylweddol yn y trothwy cyrhaeddiad ar gyfer Saesneg a Mathemateg yn arholiad haf 2018, a’r ffaith mai dim ond un pwnc Gwyddoniaeth sydd bellach yn cael ei gynnwys yn y sgôr 9 wedi’i chapio.  Er bo’r gostyngiad yn lefelau perfformiad Sir Ddinbych yn erbyn y sgôr 9 wedi’i chapio o minws 10.4 yn ymddangos yn sylweddol ar yr olwg gyntaf, o ystyried cyd-destun y newidiadau a gyflwynwyd i’r system arholiadau allanol yn ystod y blynyddoedd diwethaf roedd y gostyngiad mewn lefelau perfformiad yn ddealladwy.  Roedd Gwasanaeth Addysg Sir Ddinbych yn rhagweithiol iawn o ran herio a datblygu dangosyddion newydd a byddai felly’n herio effeithiolrwydd y set newydd o ddangosyddion;

·         Roedd ysgolion Sir Ddinbych yn canolbwyntio ar gefnogi pob disgybl unigol i gyflawni a gwireddu ei lawn botensial.  Roedd yr Awdurdod a’i ysgolion yn gweld pob disgybl yn gyfartal ac yn rhoi hawl iddynt dderbyn cefnogaeth briodol er mwyn sicrhau eu bod yn llwyddo hyd orau eu gallu.  Rhinwedd a gydnabuwyd gan Estyn; a

·         er mwyn cyflawni Gradd ‘C’ mewn arholiad TGAU Saesneg yn haf 2017 roedd gofyn i fyfyriwr sgorio 200 o bwyntiau, ar gyfer arholiad Tachwedd 2018 roedd y trothwy wedi codi i 206.  Fodd bynnag erbyn haf 2018 daeth yn hysbys bod y trothwy wedi cynyddu i 220, heb unrhyw rybudd o flaen llaw i awdurdodau addysg nac ysgolion.  Roedd CBAC, y Bwrdd Arholi, wedi mabwysiadu dull gweithredu tebyg ar gyfer yr arholiad TGAU Mathemateg hefyd.  Cytunodd pob Cyfarwyddwr Addysg yng ngogledd Cymru, GwE a phenaethiaid bod hyn yn annheg ac yn anghyson ag arferion blaenorol, ond er gwaethaf y ffaith bod pryderon wedi'u codi gyda CBAC a Chymwysterau Cymru, ni dderbyniwyd ateb boddhaol.  O ganlyniad, roedd yr Aelod Arweiniol wedi codi’r pryderon hyn gyda Gweinidog Cabinet dros Addysg LlC a gofyn iddi gynnal ymchwiliad. 

Roedd newidiadau mor sylweddol â hyn mewn ffiniau trothwy yn ei gwneud yn eithriadol o anodd i athrawon allu cefnogi disgyblion drwy’r broses arholi.  Gan fod gofyn i bob ysgol awdurdod lleol yng Nghymru ymgofrestru eu disgyblion ar gyfer arholiadau CBAC – ac nid arholiadau a weinyddir gan unrhyw fyrddau arholi eraill – gallai disgyblion fod dan anfantais wrth gystadlu am leoedd addysg bellach a/neu addysg uwch yn erbyn disgyblion o Loegr a/neu ysgolion annibynnol.  Er nad oedd unrhyw awgrym bod CBAC na Chymwysterau Cymru yn mynd i ailystyried graddau 2018, roedd yn bwysig wrth ystyried y newidiadau sydd ar y gorwel i'r system arholi, nad oedd newidiadau sylweddol fel hyn i’r trothwy yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol heb rybudd o flaen llaw. 

 

Gofynnodd Arweinydd Uwchradd GwE i gofnod gael ei wneud o’i ddiolchgarwch personol i Bennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant Sir Ddinbych a staff yr Adran am amddiffyn ysgolion y sir a dadlau dros y disgyblion.   Credai bod y ffaith eu bod yn sicrhau bod lleisiau’r sir a’r rhanbarth yn cael eu clywed ar lefel genedlaethol yn galonogol.

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant, Prif Reolwr Addysg ac Arweinydd Uwchradd GwE:

·         sicrhau aelodau y gallai’r Gwasanaeth ‘olrhain’ cynnydd a chyrhaeddiad pob disgybl unigol trwy gydol eu cyfnod mewn addysg.  Roedd y data a gedwir am bob disgybl yn cynnwys gwybodaeth am unrhyw heriau a allai effeithio ar eu perfformiad addysgol; boed hynny’n feddygol, corfforol, meddyliol neu bwysau ar amgylchedd y cartref.  Roedd manylion ar y lefel honno yn helpu’r Cyngor i sicrhau bod ymyrraeth a chefnogaeth briodol ac amserol yn cael ei chynnig i'r disgybl a'r teulu hefyd yn ôl yr angen, er mwyn helpu pob plentyn i wireddu ei lawn botensial.  Cynghorwyd aelodau i gysylltu â swyddogion os oeddent yn dymuno gweld y math o ddata a ddefnyddir gan y Gwasanaeth i ‘olrhain’ pob disgybl;

·         dweud mai un o gryfderau Sir Ddinbych yw ei fod yn gallu ‘olrhain’ perfformiad disgyblion a oedd yn cael eu haddysgu mewn lleoliadau heblaw am ysgolion (EOTAS).  Roedd yr awdurdod yn cynnwys y disgyblion hyn yn ei ddata perfformiad, nid pob awdurdod sy’n cynnwys data EOTAS yn eu hadroddiadau.  Gan fod y Cyngor yn ymwybodol o ddisgyblion EOTAS, gallai fonitro eu cynnydd, darparu cefnogaeth yn ôl y gofyn a chydymffurfio â’i ddyletswyddau diogelu a lleihau’r risg o Gamfanteisio'n Rhywiol Ar Blant.  Nid oedd pob awdurdod lleol yn cynnwys eu disgyblion EOTAS yn eu hadroddiadau, felly pe baent yn gorffen eu haddysg heb gymwysterau ni fyddai hynny’n cael ei adlewyrchu yn eu hadroddiadau data.  Fodd bynnag, nid oedd disgyblion a addysgir gartref yn cael eu cynnwys yn y data canlyniadau, gan nad oedd yn ofynnol iddynt eu cynnwys, ond roedd Sir Ddinbych yn gwybod pwy odden nhw;

·         cadarnhau bod y Meysydd Dysgu yn Fframwaith Asesu’r Cyfnod Sylfaen o ran iaith, llythrennedd, cyfathrebu a mathemateg yn ddefnyddiol i’r Awdurdod, gan ei fod yn cynorthwyo’r Gwasanaeth Addysg i nodi rhwystrau dysgu yn gynharach ac yn ei alluogi i ddarparu ymyrraeth briodol ar ddechrau siwrnai addysgol y disgybl.   Roedd y Gwasanaeth Addysg wedi gweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd ar ddarn o waith a oedd yn canolbwyntio ar ardaloedd o amddifadedd.  Tynnodd sylw at y ffaith bod problemau datblygu iaith a lleferydd yn amlwg mewn ardaloedd o amddifadedd uchel;

·         cytuno bod absenoldeb data cymharol at ddibenion meincnodi yn siomedig.  Er hynny, gobeithiwyd y byddai rhywfaint o wybodaeth gymharol ar gael erbyn i’r canlyniadau a wiriwyd fod yn barod i’w craffu;

·         cadarnhau bod perygl y gallai data CA4 ar gyfer 2019 fod yn ystumiedig hefyd, yn debyg i sefyllfa 2018, oherwydd bod y cymhwyster Gwyddoniaeth yn cael ei adolygu;

·         dweud bod y term ‘Cymraeg iaith gyntaf’ yn berthnasol i ddisgyblion a oedd yn derbyn eu haddysg trwy’r system addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir, p'un a oeddent yn siarad Cymraeg adref ai peidio.  Roedd Sir Ddinbych yn perfformio’n dda ar hyn o bryd o ran sgiliau Cymraeg yn y sector cyfrwng Cymraeg ac yn y sector Cymraeg ail iaith.  Gyda’r cwricwlwm newydd a fyddai’n cael ei gyflwyno byddai Cymraeg fel ail iaith yn dod i ben a byddai pob disgybl yn cael ei asesu yn ôl ei sgiliau Cymraeg iaith gyntaf;

·         pwysleisio bod y dangosydd Prydau Ysgol Am Ddim yn ddangosydd perfformiad crai a ddefnyddir i fesur lefel amddifadedd a’r gefnogaeth sy’n ofynnol mewn ysgol.  Roedd yn amrywio rhwng ysgolion.  Roedd dadansoddiad lleol o’r dangosydd hwn yn allweddol er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn derbyn yr un lefel o gefnogaeth i ddiwallu eu hanghenion penodol;

·         dweud bod oddeutu 44 o ddisgyblion ar draws ysgolion y sir yn ymddwyn mewn modd sy’n cael effaith niweidiol ar ddisgyblion eraill.  Roedd yr Awdurdod yn gweithio gyda’r heddlu, colegau a budd-ddeiliaid eraill i gefnogi'r disgyblion hyn a mynd i'r afael â'r materion a oedd yn peri iddynt ymddwyn yn wael.  Roedd hwn yn faes gwaith eithriadol o gymhleth a oedd yn mynnu dull gweithredu tymor canolig a thymor hir yn ogystal ag ymgysylltiad nifer o wahanol asiantaethau gan nad oedd y disgyblion hyn yn ymgysylltu â’r gymuned ehangach yn gyffredinol;

·         cadarnhau bod cyfansoddiad a rôl y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion (GMSY) yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd;

·         esbonio, er bod yr awdurdod lleol yn olrhain cynnydd disgyblion yn rheolaidd er mwyn rhoi cefnogaeth ddigonol iddynt gyflawni eu graddau arfaethedig, nid oedd yn gwybod o flaen llaw bod CBAC yn bwriadu codi’r trothwy ar gyfer gradd ‘C’ i 80 ar gyfer mathemateg a 220 ar gyfer Saesneg.  Mae’n bosibl y bydd hynny wedi effeithio ar opsiynau ôl-16 rhai disgyblion, yn arbennig o ran prentisiaethau. 

Roedd ysgolion chweched dosbarth a cholegau yn ymwybodol o’r broblem a achoswyd o ganlyniad i godi'r trothwy ac felly gostyngwyd eu meini prawf mynediad er mwyn galluogi disgyblion i ail-sefyll arholiadau gyda'r bwriad o gyflawni’r graddau gofynnol, gan gadw mewn cof bod y cynnydd yn y pwyntiau gofynnol i gyflawni gradd ‘C’ hefyd yn golygu y byddai cynnydd mewn trothwyau graddau ‘B’ ac ‘A’ hefyd;

·         cadarnhau nad oedd gan y Cyngor gyfrifoldebau mewn perthynas â theuluoedd a phlant sipsiwn a theithwyr.  Ar ôl i’r Awdurdod gael eu hysbysu bod teulu sipsiwn neu deithwyr wedi symud i’r ardal, byddai’r Swyddog Diogelu Addysg yn ymweld â’r teulu i gynnig cefnogaeth ac arweiniad.  Roedd gan yr Awdurdod blant sipsiwn a theithwyr preswyl yn cael eu haddysgu yn ysgolion y sir.  Er bod perswadio teuluoedd teithiol i gofrestru eu plant mewn ysgol leol a gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn bresennol yn aml yn heriol, roedd y swyddog arbenigol yn brofiadol iawn ac roedd yn annog teuluoedd i ymgysylltu â’r system addysg; a

·         cytuno y byddai rhywfaint o ddata cymharol yn cael ei ddarparu gyda’r adroddiad canlyniadau a wiriwyd ar ddechrau 2019, ond roedd croeso mawr i’r aelodau ymweld â’r Gwasanaeth yn unigol i fynd trwy’r data a gweld sut y gwnaethant ddefnyddio’r data a oedd ar gael i herio ysgolion a threfnu cefnogaeth briodol i’r disgyblion.

 

Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:

 

PENDERFYNWYD: - yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)           cydnabod perfformiad ysgolion yn erbyn perfformiad blaenorol a chefnogi’r meysydd a nodwyd i’w gwella;

(ii)          bod llythyr yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor at Gymwysterau Cymru yn cofrestru pryderon a siom aelodau ynglŷn â’r cynnydd sylweddol yn y trothwy gradd ‘C’ ar gyfer arholiad TGAU Saesneg haf 2018 o’i gymharu â throthwy 2017, a’r effaith niweidiol y cafodd hynny ar fyfyrwyr; a

(iii)         bod yr adroddiad y trefnwyd ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Ionawr 2019 ar y Canlyniadau Arholiadau Allanol a Wiriwyd yn cynnwys niferoedd gwirioneddol yn ogystal â chanrannau, a data cymharol rhanbarthol lle bo hynny’n bosibl, ynghyd â data absenoldeb a chyfraddau gwaharddiadau ym mhob un o ysgolion y Sir. 

 

Dogfennau ategol: