Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED SAFLE NEWYDD – ORIGIN 168 Y STRYD FAWR, PRESTATYN
Ystyried cais am
Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003
o ran 168, Stryd Fawr, Prestatyn (mae amlinelliad o'r cais a phapurau
cysylltiedig ynghlwm).
11.30 a.m.
Nodwch y drefn
i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais yn destun amodau.
Cofnodion:
Cyflwynwyd
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (dosbarthwyd yn
flaenorol) ar –
(i)
gais a dderbyniwyd gan Mr
Michael Kenneth Watts ar gyfer Trwydded Eiddo newydd mewn perthynas ag Origin,
168 y Stryd Fawr, Prestatyn, er mwyn gweithredu fel bar gyda cherddoriaeth
gefndir dawel gan werthu alcohol i’w yfed ar ac oddi ar yr eiddo;
(ii)
cais gan yr ymgeisydd am
ganiatâd i ddarparu’r gweithgareddau trwyddedadwy canlynol:
GWEITHGAREDD TRWYDDEDADWY |
DYDDIAU PERTHNASOL |
AMSER DECHRAU |
AMSER GORFFEN |
Cerddoriaeth wedi’i recordio
(dan do) Amseroedd ansafonol Amrywiadau tymhorol |
Dydd Sul - dydd Iau Dydd Gwener a dydd Sadwrn Dydd Sul Gŵyl y Banc Nos Galan Noswyl Nadolig |
12:00 12:00 12:00 11:00 11:00 |
23:00 01:00 00:00 02:00 01:00 |
Gwerthu alcohol (i’w yfed ar
ac oddi ar yr eiddo) |
Dydd Sul - dydd Iau Dydd Gwener a dydd Sadwrn Dydd Sul Gŵyl y Banc Nos Galan Noswyl Nadolig |
12:00 12:00 12:00 11:00 11:00 |
23:00 01:00 00:00 02:00 01:00 |
Oriau y bydd yr eiddo ar
agor i’r cyhoedd |
Fel rhai a geisir ar gyfer
gweithgareddau trwyddedadwy |
(iii)
sylwadau a gyflwynwyd gan
Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â’r cais a nifer o amodau a gynigiwyd (yr
oedd yr Ymgeisydd wedi cytuno iddynt) i gael eu gosod pe bai'r drwydded yn cael
ei chaniatáu er mwyn hyrwyddo amcanion trwyddedu atal trosedd ac anhrefn a
gwarchod plant rhag niwed (Atodiad B i’r adroddiad);
(iv)
sylwadau a gyflwynwyd gan
Adran Rheoli Llygredd y Cyngor (Atodiad E i’r adroddiad) yn mynegi pryderon
ynglŷn â pha mor agos yw'r eiddo at gartrefi preswyl a nifer o amodau a
gyflwynwyd ganddynt (yr oedd yr Ymgeisydd wedi cytuno iddynt) i gael eu gosod
pe bai'r drwydded yn cael ei chaniatáu er mwyn helpu i atal niwsans cyhoeddus;
(v)
un sylw ysgrifenedig a
dderbyniwyd gan rai sydd â chysylltiad (Atodiad D i’r adroddiad) mewn ymateb
i'r hysbysiad cyhoeddus yn ymwneud yn bennaf ag aflonyddwch posib’ o sŵn
ac ymddygiad gwrthgymdeithasol;
(vi)
y swyddogion wedi cychwyn
cyfryngu rhwng yr Ymgeisydd a’r rhai sydd â chysylltiad heb gyrraedd datrysiad
hyd yma;
(vii)
yr angen i ystyried y cais gan
roi ystyriaeth briodol i Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; i Ganllawiau a
gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol; i ddeddfwriaeth arall berthnasol ac i
sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a’r
(viii)
opsiynau sydd ar gael i'r
pwyllgor wrth benderfynu ar y cais.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) yr adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r
achos. Er bod Heddlu Gogledd Cymru ac
Adain Rheoli Llygredd y Cyngor wedi dod i gytundeb ynglŷn ag amodau y
dylid eu gosod ar y drwydded i fynd i'r afael â phryderon a hyrwyddo'r amcanion
trwyddedu, ni ddaethpwyd i gytundeb gyda'r rhai sydd â chysylltiad drwy
gyfryngu.
CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD
Roedd yr ymgeisydd, Mr Michael Watts, yn bresennol i gefnogi ei gais.
Eglurodd Mr Watts ei fod wedi ymgeisio am drwydded gerddoriaeth er mwyn
chwarae cerddoriaeth wedi’i recordio yn y cefndir yn unig a'r bwriad oedd creu
amgylchedd i sgwrsio a chymdeithasu wedi'i anelu at gwsmeriaid hŷn. [Eglurodd y Swyddog Trwyddedu nad oedd
cerddoriaeth gefndir wedi’i recordio yn weithgaredd a reoleiddir a oedd angen
ei drwyddedu.]
CYFLWYNIAD HEDDLU GOGLEDD
CYMRU
Nid oedd cynrychiolydd o Heddlu Gogledd Cymru yn bresennol. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau am y sylwadau
ysgrifenedig a nifer o amodau a gytunwyd rhwng yr Ymgeisydd a Heddlu Gogledd
Cymru er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ymhellach (i'w gweld yn Atodiad B
i'r adroddiad). Gofynnodd yr Heddlu a
fyddai’r aelodau'n ystyried cynnwys yr amodau hynny yn yr Atodlen Weithredu pe
baent yn penderfynu caniatáu'r cais.
CYFLWYNIAD ADAIN IECHYD YR
AMGYLCHEDD
Cyfeiriodd Mr Philip Caldwell o Adain Iechyd yr Amgylchedd at ei sylwadau
ysgrifenedig (Atodiad C i'r adroddiad) a gynigiai nifer o amodau (y cytunwyd
arnynt gyda'r Ymgeisydd) i'w gosod ar y drwydded, pe bai'n cael ei rhoi, er
mwyn atal niwsans cyhoeddus. Ychwanegodd
Mr Caldwell ei fod wedi siarad â’r Ymgeisydd hefyd mewn perthynas â’r broses
gynllunio a gofynnodd i rwystrau sŵn addas gael eu gosod yn yr eiddo. Gyda'r mesurau ychwanegol hynny, dywedodd Mr
Caldwell nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r cais, yn enwedig os oedd
wedi’i gyfyngu i gerddoriaeth gefndir yn unig.
CYFLWYNIAD Y RHAI Â
CHYSYLLTIAD
Roedd un sylw ysgrifenedig wedi ei dderbyn (Atodiad D i’r adroddiad) gan un
a oedd â chysylltiad, Miss P.E. Stevens o’r Stryd Fawr, Prestatyn. Roedd Miss Stevens wedi dweud na fyddai’n
bresennol yn y cyfarfod ac roedd yn fodlon i’r gwrandawiad barhau heb iddi fod
yno ac i'w sylwadau ysgrifenedig gael eu hystyried yn rhan o’r broses
honno. Yn dilyn hynny, darllenwyd ei
sylwadau ar lafar i’r Is-bwyllgor Trwyddedu ac roeddent yn mynegi pryder
ynglŷn â niwsans sŵn posib’ ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ymatebodd yr Ymgeisydd i gwestiynau’r aelodau fel a ganlyn -
·
Y bwriad oedd darparu ar gyfer
cwsmeriaid aeddfed, hŷn yn hytrach na’r genhedlaeth iau, a fydd efallai'n
rhoi peth cysur i'r unigolyn sydd wedi mynegi pryderon ynglŷn ag ymddygiad
gwrthgymdeithasol yn yr eiddo.
·
nid oedd lle parcio penodol ar
gyfer cwsmeriaid, ond os oedd cwsmeriaid yn yfed, ni ddylent fod yn gyrru beth
bynnag ac nid oedd eiddo trwyddedig tebyg yn yr ardal yn darparu lle parcio i
gwsmeriaid.
·
cadarnhaodd ei fod yn rhedeg
safle trwyddedig arall yn Abergele ac roedd yr holl staff wedi’u hyfforddi’n
briodol i werthu alcohol.
·
Roedd angen
ailwampio/ail-wneud yr eiddo a oedd wedi bod ar gau am oddeutu wyth mlynedd ac
roedd disgwyl i’r eiddo fod yn barod i agor o amgylch Pasg 2019.
DATGANIAD TERFYNOL YR
YMGEISYDD
Wrth wneud datganiad terfynol, soniodd Mr Watts eto am ei fwriad i agor bar
gin wedi'i anelu at gwsmeriaid hŷn gan ddarparu cerddoriaeth gefndir isel
er mwyn gallu sgwrsio.
GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS
Ar y pwynt hwn (11:55am), gohiriwyd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried y
cais.
Y PENDERFYNIAD A RHESYMAU DROS
Y PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD yn amodol ar yr amodau a nodir isod, rhoi
Trwydded Safle (fel y gwnaed cais amdani) ar gyfer y canlynol –
GWEITHGAREDD TRWYDDEDADWY |
DYDDIAU PERTHNASOL |
AMSEROEDD |
Cerddoriaeth wedi’i
recordio (dan do) Amseroedd ansafonol Amrywiadau tymhorol |
Dydd Sul – dydd Iau Dydd Gwener a dydd
Sadwrn Dydd Sul Gŵyl y
Banc Nos Galan Noswyl Nadolig |
12:00 – 23:00 12:00 – 01:00 12:00 – 00:00 11:00 – 02:00 11:00 – 01:00 |
Gwerthu alcohol (i’w
yfed ar ac oddi ar y safle) |
Dydd Sul – dydd Iau Dydd Gwener a dydd
Sadwrn Dydd Sul Gŵyl y
Banc Nos Galan Noswyl Nadolig |
12.00 – 23:00 12:00 – 01:00 12:00 – 00:00 11:00 – 02:00 11:00 – 01:00 |
Oriau mae’r eiddo ar
agor i’r cyhoedd |
Fel rhai a geisir ar
gyfer gweithgareddau trwyddedadwy |
|
AMODAU
Fel
y cawsant eu cyflwyno gan Heddlu Gogledd Cymru –
Atal Trosedd ac Anhrefn
1) TCC
a)
Bydd system
teledu cylch caeëdig yn cael ei gosod yn yr adeilad a bydd ar waith pryd bynnag
y bo’r safle ar agor.
b)
Bydd gan y system
teledu cylch caeëdig (TCC) gamerâu yn monitro tu mewn a thu allan yr adeilad.
Yn achos tu mewn yr eiddo bydd digon o gamerâu wedi eu gosod i weld pob rhan
o’r adeilad y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt, ac eithrio ardal y toiledau.
Mae'n rhaid i’r holl bwyntiau mynediad ac ymadael ddangos pen ac ysgwyddau’n
glir.
c)
Bydd y system
TCC yn ddigon safonol i fedru darparu delweddau o ansawdd tystiolaethol a gallu
adnabod wynebau mewn pob math o olau.
d)
Bydd gan y
system TCC gyfleuster i recordio delweddau o bob camera a bydd y lluniau hyn yn
cael eu cadw am o leiaf 28 diwrnod.
e)
Bydd y system
TCC yn cynnwys cyfleuster sy’n nodi’r dyddiad a'r amser cywir ar y delweddau
sy’n cael eu recordio.
f)
Bydd gan y
system TCC gyfleuster er mwyn gallu llwytho delweddau i ryw fath o gyfrwng
cludadwy. Cyfrifoldeb deiliad trwydded
yr eiddo yw darparu cyfrwng cludadwy, a phe bai cyfrwng cludadwy yn cael ei
feddiannu, mae'n gyfrifoldeb ar y safle i sicrhau bod fformatau ychwanegol o
gyfryngau cludadwy ar gael.
g)
Bydd delweddau
o'r system TCC ar gael i’r Heddlu neu swyddogion yr Awdurdod Lleol ar gais.
h)
Bydd o leiaf un
aelod o staff a fydd wedi'i hyfforddi i weithredu’r system TCC ac a fydd yn
gallu darparu'r delweddau a recordiwyd o'r system TCC ar ddyletswydd ar bob achlysur
pan fo’r safle ar agor.
i)
Mae’n rhaid i’r
Goruchwylydd Eiddo Dynodedig sicrhau fod y system TCC yn cael ei wirio’n
ddyddiol ar ddechrau pob diwrnod – bydd unrhyw ddiffygion yn y system yn cael
sylw ar unwaith.
Rhaid i hyn gynnwys gwirio bod y camerâu yn
gweithio, y cyfleusterau recordio, cyfleusterau ar gyfer darparu delweddau a
chywirdeb yr amser a'r dyddiad. Mae’n rhaid cadw cofnod ysgrifenedig o'r
gwiriadau hyn, gan gynnwys llofnod y person sy'n cynnal y gwiriad. Mae’n rhaid
i'r cofnod ysgrifenedig gael ei gadw ar y safle bob amser a dylai fod ar gael i
gynrychiolydd o unrhyw awdurdod cyfrifol ar gais.
2) CYN
cael caniatâd i werthu alcohol bydd pob aelod o staff heb drwydded bersonol,
gan gynnwys unrhyw aelodau o staff di-dâl, aelodau'r teulu a phobl achlysurol a
allai fod yn gysylltiedig â gwerthu alcohol ar y safle, gael eu hyfforddi yn eu
cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003 ac unrhyw ddiwygiadau dilynol i'r
Ddeddf honno – yn benodol, byddant yn cael hyfforddiant ar werthu alcohol i
bobl feddw.
3) Cynhelir hyfforddiant gloywi mewn perthynas â’r
hyfforddiant cychwynnol y sonnir amdano yn rhif 2 uchod ar gyfer pob aelod o
staff sy'n ymwneud â gwerthu alcohol bob chwe mis.
4) Bydd cofnod yn cael ei gadw o'r hyfforddiant
cychwynnol a’r hyfforddiant gloywi dilynol a dderbyniwyd a bydd yn cael ei
gyflwyno i’r Heddlu neu swyddogion yr Awdurdod Lleol ar gais.
5) Llyfr Digwyddiadau a Gwrthodiadau – rhaid cadw
llyfr digwyddiadau a gwrthodiadau (gyda’r tudalennau wedi’u rhifo) ar y safle a
bydd ar gael i'w archwilio gan yr awdurdodau cyfrifol. Rhaid defnyddio'r llyfr
digwyddiadau a gwrthodiadau i gofnodi'r canlynol:
a)
Unrhyw achos o
drais neu anhrefn ar neu yn union y tu allan i'r safle.
b)
Unrhyw
ddigwyddiad yn ymwneud â chyffuriau (cyflenwi/meddiant/dylanwad) ar y safle.
c)
Unrhyw drosedd
neu weithgarwch troseddol arall ar y safle.
d)
Unrhyw
wrthodiad i weini alcohol i bobl sy'n feddw.
e)
Unrhyw achos o
wrthod gweini alcohol i rai dan 18 oed neu unrhyw un sy'n ymddangos o dan 18
oed.
f)
Unrhyw alwad am
gymorth yr Heddlu, ambiwlans neu’r gwasanaeth tân i'r safle.
g)
Unrhyw un sy’n
cael ei anfon o’r safle.
h)
Unrhyw gymorth
cyntaf/gofal arall o roddir i gwsmer.
6) Rhaid i’r manylion fydd yn cael eu cofnodi o fewn y
llyfr digwyddiadau a gwrthodiadau gynnwys y canlynol:
a) Amser, diwrnod a dyddiad y digwyddiad neu
wrthodiad.
b) Enw’r sawl sy’n cofnodi.
c) Tyst o blith y staff.
d) Enw a chyfeiriad y cwsmer (os yw’n cael ei roi).
e) Disgrifiad o’r cwsmer.
f) Rheswm am wrthod neu natur y digwyddiad.
g) A gafodd yr heddlu, ambiwlans neu'r gwasanaeth tân eu
galw?
7) Mae’n rhaid i'r llyfr digwyddiadau a gwrthodiadau
fod ar gael i'w archwilio gan awdurdodau cyfrifol ar gais. Gall
yr wybodaeth hon hefyd gael ei chofnodi’n electronig trwy ddefnyddio system til
neu system debyg.
8) Pob nos Wener a Sadwrn, pob Gŵyl y Banc,
Noswyl Nadolig a Nos Galan, bydd o leiaf ddau oruchwylydd ar y drws sydd wedi
eu cofrestru gydag Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA) yn cael eu cyflogi o
21:00 hyd nes y bydd y safle’n cau ar gyfer busnes a’r cwsmeriaid i gyd wedi
gadael.
Bydd
y bobl hyn yn cael eu cyflogi’n benodol er mwyn rheoli'r cwsmeriaid sy’n dod i
mewn ac allan a chadw trefn ar y safle.
Amddiffyn Plant Rhag
Niwed
1) Bydd y safle’n gweithredu polisi gwirio oedran Her
25.
2) Bydd yr holl staff, gan gynnwys unrhyw aelodau
di-dâl o staff, aelodau'r teulu a gweithwyr achlysurol sydd ynghlwm â gwerthu
alcohol yn cael eu hyfforddi am bolisi Her 25 CYN cael caniatâd i werthu
alcohol a byddant yn ymgymryd â hyfforddiant gloywi bob chwe mis o leiaf.
3) Bydd cofnodion o'r hyfforddiant Her 25 yn cael eu
cadw a byddant ar gael i'w harchwilio gan swyddogion Heddlu Gogledd Cymru neu'r
Awdurdod Lleol ar gais.
Fel
y cyflwynodd Adran Rheoli Llygredd y Cyngor –
1) Bydd yr holl ddrysau a ffenestri yn wydr dwbl
eilaidd neu well, i leihau’r sŵn.
2) Bydd yr holl fynedfeydd ac allanfeydd, heb gynnwys
allanfeydd tân, yn cynnwys mynedfeydd cyntedd, a phob un gyda 2 set o ddrysau’n
cau ar eu pennau eu hunain, er mwyn lleihau’r sŵn; bydd y ddwy set o
ddrysau’n aros ar gau ac eithrio pan mae rhywun yn mynd i mewn ac allan tra bo
adloniant wedi'i reoleiddio ar fynd y tu mewn ar lefel sy’n cael ei chyfrif yn
uwch na sŵn yn y ‘cefndir’.
3) Bydd yr holl ddrysau a ffenestri yn cael eu cadw ar
gau pan fo cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar lefel sy’n cael ei chyfrif yn
uwch na sŵn ‘cefndir’ i leihau unrhyw sŵn fyddai’n cael ei ryddhau.
4) Bydd cyfyngwyr sŵn yn cael eu gosod ar offer
chwyddo sŵn ac yn cael eu gosod ar lefel sydd wedi ei chytuno gyda
Swyddogion Rheoli Llygredd Cyngor Sir Ddinbych. Bydd
cyfyngwyr yn cael eu defnyddio bob tro y bydd offer chwyddo'n cael ei
ddefnyddio ar gyfer adloniant wedi'i reoleiddio.
5) Os oes angen mwy o awyr iach, bydd system
awyru/tymheru aer wedi’i thrin yn acwstig yn cael ei gosod yn yr eiddo rhag bod
angen agor drysau a ffenestri pan fo cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar lefel
sy’n cael ei chyfrif yn uwch na sŵn ‘cefndir’.
6) Ni chaniateir chwarae cerddoriaeth fyw/wedi ei
recordio y tu allan.
7) Bydd yr ardal ysmygu'n cael ei chau i’r cyhoedd ar
gyfer yfed alcohol cyn 09:00 ac ar ôl 23:00.
8) Er mwyn osgoi tarfu ar eiddo gerllaw, dim ond rhwng
09:00 a 21:00 y caniateir gosod poteli mewn cynwysyddion y tu allan i'r eiddo.
9) Bydd arwyddion amlwg a chlir yn cael eu harddangos
ym mhob allanfa yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion y trigolion lleol a
gadael yr eiddo a’r ardal yn dawel.
10) Ni fydd unrhyw oleuadau llachar na goleuadau sy’n
fflachio yn cael eu gosod ar nac y tu allan i’r eiddo a bydd unrhyw oleuadau
mynediad neu ddiogelwch yn cael eu gosod a’u gweithredu fel na fyddant yn
achosi niwsans i drigolion gerllaw.
Cyfleodd
y Cadeirydd benderfyniad yr Is-bwyllgor i’r Ymgeisydd a rhoddodd y Cyfreithiwr
y rhesymau dros y penderfyniad fel a ganlyn –
Roedd yr aelodau wedi ystyried y cais a'r sylwadau a gyflwynwyd yn yr achos
hwn yn ofalus ac roeddent yn fodlon bod yr amodau arfaethedig y cytunwyd arnynt
gyda'r Heddlu ac Adain Rheoli Llygredd y Cyngor yn gymesurol ac y byddent yn
helpu i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.
Nododd yr Is-bwyllgor Trwyddedu bryderon y sawl a oedd â
chysylltiad. Dywedodd yr Is-bwyllgor
Trwyddedu mai bwriad yr Ymgeisydd oedd chwarae cerddoriaeth gefndir yn unig ac
nad oedd yn weithgaredd a reoleiddir. Pe
bai’r eiddo’n chwarae cerddoriaeth a fyddai’n cael ei gyfrif yn weithgarwch a
reoleiddir, roeddent yn fodlon y byddai’r amodau y cytunwyd arnynt rhwng yr
Ymgeisydd ac Adain Rheoli Llygredd y Cyngor yn mynd i’r afael ag unrhyw
bryderon sŵn gan y sawl a oedd â chysylltiad yn hynny o beth.
Cynghorwyd pawb am eu hawl i apelio yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor
i’r Llys Ynadon o fewn un diwrnod ar hugain.
Daeth y cyfarfod i ben am 12:05pm.
Dogfennau ategol: