Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS I ADOLYGU TRWYDDED EIDDO – THE BARRELL, 37-39 STRYD Y DŴR, Y RHYL
Ystyried cais gan
Heddlu Gogledd Cymru i adolygu Trwydded Eiddo a wnaed yn unol ag Adran 51 o
Ddeddf Trwyddedu 2003 o ran The Barrell, 37-39 Stryd y Dŵr, y Rhyl
(amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).
10.00 a.m.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD diddymu’r
Drwydded Eiddo.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r
canlynol –
(i)
cais wedi dod i law gan Heddlu Gogledd Cymru i adolygu
trwydded eiddo a ddelir gan Mr Ian Mcallister mewn perthynas â The Barrell,
37-39 Stryd y Dŵr, y Rhyl (copi o'r Drwydded Eiddo bresennol a'r amserlen
weithredu gyfredol wedi’u hatodi fel Atodiad A i’r adroddiad);
(ii)
y sail i adolygu yn gysylltiedig â’r Amcanion Trwyddedu i
Atal Trosedd ac Anhrefn ac er mwyn Diogelwch y Cyhoedd fel a ganlyn –
·
“Mae gan Heddlu Gogledd Cymru ddiffyg hyder yn
rheolwyr yr eiddo i reoli'r eiddo’n gyfrifol
·
Methu â herio cwsmeriaid
meddw a chaniatáu i gwsmeriaid feddwi ar y safle a gwerthu diod i gwsmeriaid
meddw
·
Methu â rheoli ymddygiad
cwsmeriaid ar y safle
·
Methiant y safle i reoli
achosion o drosedd ac anhrefn yn ddigonol
·
Tystiolaeth o amgylchedd
o fewn yr eiddo lle caiff cymryd cyffuriau ei oddef yn agored
·
Methu â rhoi gwybod am yr
holl achosion o drosedd ac anhrefn i Heddlu Gogledd Cymru
·
Mae Heddlu Gogledd Cymru
o’r farn nad yw’r oriau ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy yn addas ar gyfer
yr eiddo a bod y rhan fwyaf o achosion mawr yn digwydd ar ôl 00:00
·
Methu â hyrwyddo’r
Amcanion Trwyddedu, yn enwedig Atal Trosedd ac Anrhefn, Diogelwch y Cyhoedd ac
Atal Niwsans Cyhoeddus”
Manylion llawn y cais i adolygu
wedi'u hatodi i'r adroddiad fel Atodiad B;
(iii)
nid oedd unrhyw sylwadau pellach wedi dod i law gan Awdurdodau
Cyfrifol nac aelodau o'r cyhoedd mewn ymateb i'r hysbysiad cyhoeddus gofynnol
ynglŷn â’r cais i adolygu.
(iv)
cyfeiriad at y protocol gorfodi ar y cyd gyda Heddlu
Gogledd Cymru a’r Cyngor a’r system orfodi tri cham sy’n arwain at gais i
adolygu’r Drwydded Eiddo;
(v)
Mr Sean Mountford wedi cael ei gynnig i fod yn
Oruchwylydd Dynodedig yr Eiddo yn yr eiddo ar ôl cyflwyno'r cais i adolygu, ond
nid oedd unrhyw gais swyddogol wedi'i dderbyn yn hynny o beth ac felly Mr David
Jai Jones oedd Goruchwylydd Dynodedig yr Eiddo’n dal i fod.
(vi)
yr angen i ystyried y cais i adolygu gan roi ystyriaeth
briodol i’r Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol a Datganiad
Polisi Trwyddedu’r Cyngor, a
(vii)
dewisiadau a oedd ar gael i'r Pwyllgor wrth benderfynu ar
y cais i adolygu.
Cyflwynodd y Swyddog
Trwyddedu (NJ) yr adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.
CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD (HEDDLU GOGLEDD CYMRU)
Roedd y Prif Arolygydd, Andrew Williams, a Rheolwr
Trwyddedu’r Heddlu, Aaron Haggas, yn bresennol i gefnogi'r Adolygiad ar ran
Heddlu Gogledd Cymru.
Tynnodd
Rheolwr Trwyddedu’r Heddlu sylw at ddyletswyddau eiddo trwyddedig i hybu'r
amcanion trwyddedu a chymryd camau gweithredol yn hynny o beth. Dywedodd na ddylai’r digwyddiadau sy’n cael
eu hamlygu yn y cais am adolygiad gael eu cyfrif yn ganlyniad arferol i
fusnesau trwyddedig na phroffil y dref ac roedd y camau a gymerwyd gan yr
eiddo'n rhoi canllaw i'r safon o ymddygiad a fyddai'n cael ei goddef. Roedd Heddlu Gogledd Cymru’n ystyried bod y
diffyg goblygiadau i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol yn yr eiddo
wedi achosi i ymddygiad o'r fath ddod allan i Stryd y Dŵr a bod diffyg
rheolaeth a chyfarwyddyd gan yr eiddo’n creu arfer o anhrefn lle mae nifer o
ddigwyddiadau angen cymorth gan yr Heddlu.
Dywedwyd hefyd nad oedd yr eiddo wedi gwneud unrhyw ymgais i fynd i'r
afael â phryderon ac roedd yr Heddlu wedi cyflwyno nifer o strategaethau, gan
gynnwys cwtogi'r oriau a ganiateir, a'r unig newid a weithredwyd oedd
trosglwyddo cyfrifoldeb dros reoli'r eiddo i aelod arall o'r teulu. Roedd yr eiddo'n daer o blaid aros ar agor ar
ôl hanner nos gan mai dyma eu cyfnod prysuraf a'u bod yn rhoi masnach o flaen
hybu'r amcanion trwyddedu. Yn olaf, nodwyd
bod diffyg camau gweithredol gan yr eiddo wedi hybu ymddygiad annerbyniol gan
gwsmeriaid ac wedi rhoi'r cyhoedd a staff mewn perygl.
Darparodd
y Prif Arolygydd, Andrew Williams, gyd-destun i’r cais am adolygiad o ran y
gymuned ehangach a’r buddsoddiad i adfywio’r Rhyl, ynghyd â chyfrifoldeb yr
Heddlu i sicrhau amgylchedd diogel i breswylwyr ac ymwelwyr. Mewn perthynas â’r economi gyda’r nos, roedd
y pwyslais ar atal ac ymyrryd yn gynnar, gan gynnwys herio ymddygiad meddw a'i
ganlyniadau. Cyfeiriodd y Prif Arolygydd
at ei gyflwyniadau a'r dystiolaeth a ddarparwyd o fewn y cais i adolygu a
thynnodd sylw at y canlynol –
·
credai mai The Barrell oedd yr
eiddo trwyddedig â'r rheolaeth waethaf yr oedd wedi'i weld yn ystod ei yrfa yn
yr Heddlu a thynnodd sylw at 24 o achosion a nodwyd yn y cais i adolygu a
ddigwyddodd rhwng 3 Ionawr 2018 a 30 Medi 2018. Roedd y rhan fwyaf helaeth o'r
achosion hynny wedi bod yn ystod oriau mân y bore ac roeddent yn cynnwys
ymddygiad meddw gan y cwsmeriaid.
Mewn
cyfarfod gyda’r Heddlu ar 24 Medi 2018 roedd Ian Mcallister, a oedd wedi dod yn
rheolwr ar yr eiddo yn lle ei fab Mark Mcallister, wedi rhoi sicrwydd
ynglŷn â rheolaeth yr eiddo yn y dyfodol.
Er gwaethaf y sicrwydd hwnnw, nid oedd tystiolaeth i gefnogi unrhyw
fesurau i geisio mynd i’r afael â’r problemau yn yr eiddo ac roedd problemau
wedi parhau i ddod i’r amlwg. Roedd y
digwyddiad mwyaf a'r achos pryder mwyaf a oedd wedi'i nodi yn y cais am
adolygiad wedi digwydd yn yr eiddo ar 29 Medi 2018 ac roedd yn cyfeirio at
ymosodiad treisgar gyda gwydr ar ferch a oedd wedi’i hanffurfio am oes. Ni alwyd yr Heddlu am bron i awr ar ôl y
digwyddiad, a oedd yn dangos nad oedd unrhyw welliant yn y ffordd roedd yr
eiddo’n cael ei reoli er bod Ian Mcallister yn ddeiliad trwydded profiadol ers
cryn amser.
·
bu digwyddiadau eraill ers
cyflwyno’r cais am adolygiad (roedd manylion y rheini wedi’u rhannu cyn y
cyfarfod) ac fe eglurodd y rheini er budd yr Is-bwyllgor Trwyddedu.
I
grynhoi, roedd pedwar digwyddiad wedi bod yn ystod y cyfnod ar 26 Hydref 2018,
20 Tachwedd 2018, 24 Tachwedd 2018 a 27 Tachwedd 2018 yn ymwneud ag ymddygiad
bygythiol neu ymosodiadau. Roedd y
digwyddiad diwethaf wedi bod yn oriau mân y diwrnod cynt pan oedd ymosodiad
wedi’i riportio yn yr eiddo. Roedd y
rhai a oedd ynghlwm yn feddw yn ôl yr Heddlu ac fe aethpwyd â'r un dan
amheuaeth o achosi’r helynt oddi yno.
Gadawyd y rhai a oedd ar ôl yno’n ôl i mewn i’r eiddo ar ôl i’r Heddlu
adael, er i’r Heddlu roi cyngor i wrthod gwerthu mwy iddynt, ac roedd yr
unigolion hynny wedyn yn rhan o ddigwyddiad arall yn yr ardal. Er bod yr Heddlu’n derbyn nad oedd Ian
Mcallister wedi bod yn gyfrifol am yr eiddo tan fis Medi 2018, ni fu unrhyw
welliant pan oedd o’n rheolwr.
·
dywedwyd eto bod y rhan fwyaf
helaeth o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi digwydd yn oriau mân y bore ac, yn y
rhan fwyaf o achosion, nid oedd yr Heddlu wedi cael eu galw fel mater o drefn i
achosion o anhrefn fel roedd tystiolaeth y cais am adolygiad yn ei nodi. Roedd yn amlwg nad oedd gofyn
i rai a oedd yn achosi problemau yn yr eiddo adael; roedd unigolion meddw'n
cael parhau i yfed yn yr eiddo; roedd cwsmer wedi cymryd cyffuriau'n agored yn
yr eiddo a phan ddywedwyd wrtho am stopio, caniatawyd iddo barhau i yfed ac ni
alwyd yr Heddlu. Er
gwaethaf sicrwydd yn y gorffennol i'r gwrthwyneb, roedd tystiolaeth bod Mark
Mcallister yn dal ynghlwm â'r eiddo – roedd wedi’i weld yn mynd i’r eiddo’n aml
a gofynnodd am gael cyfarfod gyda’r Cyngor mewn perthynas â’r safle.
Wrth
gloi ei gyflwyniad, teimlai'r Prif Arolygydd mai diddymu’r drwydded fyddai’r
cwrs mwyaf priodol yn yr achos hwn o ystyried y pryderon o ran diogelwch y
cyhoedd a phroblemau trosedd ac anhrefn a oedd yn gysylltiedig â’r eiddo ar ei
ffurf bresennol.
Mewn
ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd y Prif Arolygydd bod digon o gyfleoedd wedi
bod i reolwyr yr eiddo ymgysylltu gyda'r Heddlu a mynd i'r afael â'r pryderon a
godwyd. Cadarnhawyd bod y protocol
gorfodi ar y cyd gyda’r Heddlu a’r Cyngor wedi'i ddilyn ac roedd cyfarfodydd
cam 1 a cham 2 o'r protocol hwnnw wedi'u cynnal. Roedd yr Heddlu hefyd wedi cyfarfod gydag Ian
Mcallister pan ddaeth yn rheolwr ar yr eiddo ac roedd cyfarfod arall wedi’i
gynnal gyda’i gynrychiolydd cyfreithiol yr wythnos flaenorol pan oedd wedi
cynnig amser terfyn o 1:30am. Fodd bynnag,
nid oedd yr Heddlu’n ystyried bod yr amser hwnnw'n briodol o ystyried bod y
rhan fwyaf o'r achosion wedi digwydd ar ôl hanner nos ac roeddent yn credu bod
cyflwyno amser terfyn o 1:30am yn seiliedig ar ystyriaethau ariannol yn hytrach
nag ar fynd i'r afael â'r broblem o ran diogelwch y cyhoedd.
CYNRYCHIOLYDD DEILIAD TRWYDDED YR EIDDO
Roedd
Ian Mcallister (Deiliad Trwydded yr Eiddo) yn bresennol yn y cyfarfod gyda’i
ferch a'i gynrychiolydd cyfreithiol, Mr Ryan Rothwell, Linenhall Chambers.
Wrth
gyflwyno'r achos dros ei gleient, bu i Mr Rothwell –
·
ddweud y byddai'n anghyfiawn
ac anghymesur diddymu'r drwydded ar y cam hwn gan ddatgan nad oedd ei gleient
wedi cael digon o rybudd i ddatrys y problemau a oedd wedi bod yn yr
eiddo.
Nid
oedd yr eiddo wedi bod ger bron yr Is-bwyllgor Trwyddedu yn y gorffennol ac ni
fu unrhyw gais blaenorol chwaith i adolygu'r drwydded, a ddylai gael ei
ddefnyddio pan fetho popeth arall, yn enwedig o ystyried y gallai'r problemau
gael eu datrys yn briodol drwy gwtogi’r amser terfyn – yn hynny o beth,
awgrymodd y byddai 1:00am yn amser priodol.
Ar ben hyn, ni fynegwyd unrhyw gefnogaeth i ddiddymu'r drwydded ar ffurf
sylwadau a dderbyniwyd gan Awdurdodau Cyfrifol na'r cyhoedd yn dilyn hysbysiad
cyhoeddus ynglŷn â’r cais i adolygu.
·
dweud bod gan Ian Mcallister
dros dri deng mlynedd o brofiad fel deiliad trwydded a’i fod wedi dod i reoli'r
eiddo ar 24 Medi 2018 – nid oedd ynghlwm â’r safle o gwbl cyn y dyddiad hwnnw
pan oedd y rhan fwyaf o'r achosion wedi digwydd ac felly roedd yn annheg
awgrymu bod Ian Mcallister wedi cael digon o gyfle i fynd i’r afael â’r
problemau pan nad oedd ond wedi dod yn gyfrifol am yr eiddo am ddau fis, yn
enwedig o ystyried bod ei fab, Mark Mcallister wedi cael cyfnod o ddeng mis cyn
i Ian Mcallister ddod yn rheolwr.
·
cytuno gyda’r Heddlu, i
raddau, nad oedd proffil cymdeithasol y dref a’r ffaith bod achosion yn rhan
greiddiol o hynny yn golygu y dylid eu goddef ac y dylai'r eiddo weithredu i
ddatrys y problemau yn yr eiddo. Fodd bynnag, roedd gan y Rhyl, fel tref, broblemau gydag yfed yn hwyr y nos
ac, yn naturiol, roedd digwyddiadau yn yr amgylchedd hwnnw ac er bod ymgyrch i
fynd i'r afael â hynny, roedd llawer o waith i'w wneud ac, mewn gwirionedd, ni
fyddai cau'r eiddo'n llwyr yn cyfrannu at y nod hwn.
·
dadlau yn erbyn yr honiadau
nad oedd y rheolwyr wedi cydweithredu gyda’r Heddlu ac roedd Ian Mcallister o’r
farn bod yr Heddlu wedi rhoi’r gorau i gydweithredu ag o. Roedd Ian Mcallister wedi rhoi
nifer o fesurau ar waith fel a ganlyn –
°
Teledu cylch caeëdig – roedd
nifer o gamerâu a oedd wedi torri’n arfer bod yno a bellach roedd 16 o
gamerâu’n gweithio'n iawn yn yr eiddo. Roedd y fideos yn cael eu cadw am gyfnod
priodol ac, mewn rhai achosion, roedd y fideos wedi'u darparu i’r Heddlu ac roedd
rheolwyr yr eiddo wedi eu cynorthwyo.
°
Roedd gwahanol aelodau o staff
wedi’u diswyddo a rhai newydd wedi’u cyflogi yn eu lle, a oedd yn cadarnhau bod
y gweithiwr a oedd wedi gweld cyffuriau'n cael eu defnyddio yn yr eiddo ac wedi
methu â gweithredu wedi cael ei ddiswyddo, ac roedd y gweithwyr wedi derbyn
hyfforddiant.
I helpu i ddelio â’r materion
penodol a godwyd gan yr Heddlu, roedd Ian Mcallister wedi bod ar nifer o
gyrsiau hyfforddi a chyflwynodd dystysgrifau hyfforddi fel tystiolaeth (yn y
cyfarfod) mewn perthynas â gwirio oed; atal gwerthu i rai dan oed;
ymwybyddiaeth o gyffuriau a chwrs e-ddysgu ar alcohol a'i effeithiau, y
gyfraith ynglŷn â gwerthu alcohol, amddiffyn plant, cyfrifoldeb
cymdeithasol ac ymdrin â throseddau sy'n ymwneud ag alcohol.
°
Staff ar y drws – o ran y
digwyddiad ym mis Awst 2018 yn cynnwys aelod o staff ar y drws ddim yn
cynorthwyo i roi stop ar baffio, nodwyd mai gweithiwr ar y drws dros dro a oedd
ar ddyletswydd bryd hynny, wedi'i ddarparu gan asiantaeth, ac roedd y goruchwylydd
parhaol ar y drws yn delio â materion yn briodol.
·
dywedwyd bod nifer o
newidiadau wedi bod yn ddiweddar ers newid y rheolwr ac awgrymodd y dylai’r
eiddo weithredu ar lai o oriau am gyfnod prawf o dri mis yn hytrach na
diddymu’r drwydded.
·
roedd Ian Mcallister wedi
cydnabod yn glir bod angen gwneud newidiadau, fodd bynnag, mewn cyfarfod gyda’r
Heddlu wythnos ynghynt, dywedodd y cyfreithiwr nad oedd y Prif Arolygydd wedi
bod yn agored i drafod ynglŷn â chwtogi'r amser terfyn ac roedd yn credu y
dylid diddymu'r drwydded gan fod yr eiddo wedi cael digon o gyfle i fynd i'r
afael â'r meysydd a oedd o bryder – dau fis oedd Ian Mcallister wedi’i gael.
·
Cyfeiriodd at amgylchiadau’r
digwyddiad (ymosodiad â gwydr) a oedd wedi digwydd ar ôl i Ian Mcallister ddod
yn rheolwr ar yr eiddo ar 29 Medi 2018 fel y cyfeiriwyd ato yn nhystiolaeth yr
Heddlu a ddwedai fod Goruchwylydd Eiddo Dynodedig wedi'i gyflogi am gyfnod
prawf yn ystod y digwyddiad hwnnw ac roedd rheolwyr yr eiddo’n ei gondemnio am
ei weithredoedd wrth ymateb i’r digwyddiad hwnnw.
·
mewn ymateb i’r digwyddiadau
ychwanegol yn yr eiddo ers cyflwyno’r cais i adolygu (a ddosbarthwyd cyn y
cyfarfod), dywedodd –
°
26 Hydref 2018 – roedd yn
anffodus bod Mark Mcallister yn yr eiddo. Rhoddwyd sicrwydd nad oedd
Mark Mcallister ynghlwm â’r lle bellach a’i fod wedi’i wahardd o’r eiddo; roedd
y staff wedi cael cyfarwyddyd i weithredu'r gwaharddiad yn llym. Digwyddodd am 11:05am ac nid
oedd staff yn bresennol ar y drws i fynd ag o allan o’r eiddo.
°
20 Tachwedd 2018 – bu i'r staff
ar y drws ddelio â'r ymgais cychwynnol i ymosod ar unwaith ac fe daflwyd yr
unigolyn allan o'r eiddo; dywedwyd wrth yr Heddlu am yr ymosodiad arall y tu
allan i’r eiddo ac roedd yr eiddo wedi cydweithredu â’r Heddlu ac wedi
darparu'r fideo teledu cylch caeëdig i’w cynorthwyo. Digwyddodd hyn am 1:00am a
1:48am.
°
24 Tachwedd 2018 – bu'r
digwyddiad am 1:27am ac roedd yn anodd gwybod beth y gallai'r eiddo fod wedi'i
wneud gan ei fod yn ymwneud â rhywun nad oedd yn gysylltiedig â’r eiddo a oedd
yn pasio y tu allan. Dywedwyd
wrth yr Heddlu am y digwyddiad ac roedd yr eiddo wedi cydweithredu â’r Heddlu.
°
27 Tachwedd 2018 – ymdriniwyd
â’r digwyddiad ar unwaith ac roedd yn ymwneud ag unigolyn yn dod i'r eiddo ac yn
ymosod ar deulu a oedd wedi bod yn yr eiddo am rai oriau. Taflwyd yr ymosodwr o’r eiddo
ac fe ganiatawyd i’r teulu aros gan nad nhw oedd ar fai.
Wrth
gloi ei gyflwyniad, tynnodd Mr Rothwell sylw at amseriad y digwyddiadau y
cyfeiriodd yr Heddlu atynt a ddigwyddai, yn gyffredinol, ar ôl 1:00am ac felly
cyflwynwyd y byddai amser terfyn o 1:00am fel prawf am dri mis yn briodol, yn
enwedig o ystyried amseroedd agor hwyrach sawl eiddo trwyddedig arall yn yr
ardal, a byddai’n rhoi mwy o gyfle i Ian Mcallister ddangos y gallai fynd i’r
afael â materion sy’n peri pryder. Roedd
yr awgrym am amser terfyn o 1:00am yn ymarferol gan yr ystyrid y byddai’n
cynnig yr un canlyniad â chau am hanner nos o gofio amseroedd digwyddiadau
blaenorol, ond byddai amser terfyn cynharach yn golygu na fyddai’r busnes yn
ymarferol a byddai, gan hynny, yn arwain at gau'r eiddo.
Eglurodd
Mr Rothwell a Mr Mcallister faterion gan ymateb i gwestiynau’r aelodau fel a
ganlyn –
·
roedd un goruchwylydd llawn
amser yn cael ei gyflogi ar y drws yn yr eiddo ac roedd gweithiwr arall pan na
fyddai yno. Yn
flaenorol, roedd goruchwylydd ar ddyletswydd ar y drws o 11:00pm , ond ers i
Ian Mcallister ddod yn rheolwr, roedd goruchwylydd ar ddyletswydd ar y drws o
9:00pm ac roedd dau'n gweithio ar y drws o tua 10:30-11:30 ar yr adegau
prysuraf – nodwyd mai’r gyfradd o staff ar y drws i gwsmeriaid oedd 1:100 ac
nid oedd yr eiddo ond wedi’i drwyddedu i 100 o bobl.
·
eglurwyd yr oriau gweithredu a
ganiateir yn yr eiddo a oedd wedi’u nodi yn Nhrwydded yr Eiddo (Atodiad A i’r
adroddiad) o 7:00am tan 3:00am i ddarparu ar gyfer achlysuron chwaraeon
arbennig. Roedd
yr eiddo’n arfer agor am 8:00am ond yn dilyn cyngor gan yr Heddlu roedd bellach
yn agor am 11:00am yn unol â'r oriau agor arferol a oedd wedi'u nodi yn
Nhrwydded yr Eiddo.
·
roedd nifer o'r staff wedi'u
newid am weithlu hŷn a mwy profiadol ac eglurwyd sefyllfa’r Goruchwylydd
Eiddo Dynodedig – roedd y Goruchwylydd presennol, David Jai Jones, wedi dod i’r
swydd yn agos at ddiwedd y cyfnod yr oedd Mark Mcallister ynghlwm â rheoli’r
eiddo. Ar
adeg yr ymosodiad â gwydr ar 29 Medi 2018, roedd David Jai Jones wedi'i
gofrestru fel y Goruchwylydd Eiddo Dynodedig ond roedd Goruchwylydd dros dro
wedi bod ar ddyletswydd yn y swydd honno am gyfnod prawf – nid oedd unrhyw gais
i newid y Goruchwylydd Eiddo Dynodedig wedi’i dderbyn gan nad oedd y
Goruchwylydd dros dro wedi’i ystyried yn addas.
·
rhoddwyd sicrwydd bod Ian
Mcallister, pan ddaeth i reoli’r eiddo, wedi gweithredu’r holl gamau gweithredu
ar gais y Cyngor ar unwaith, gan gynnwys teledu cylch caeëdig, goruchwylwyr ar
y drysau a hyfforddiant. Roedd Ian Mcallister wedi’i synnu o glywed nad oedd yr Heddlu wedi’u galw
ar unwaith mewn perthynas â’r digwyddiad difrifol ar 29 Medi 2018 ac roedd, ers
hynny, wedi dweud wrth staff am roi gwybod am bob digwyddiad i’r Heddlu ar
unwaith, ac roedd hynny’n cael ei wneud.
·
ymhelaethodd ar brofiad
sylweddol Ian Mcallister gyda deng mlynedd ar hugain yn y maes yn cadarnhau ei
gymhwysedd fel landlord.
Roedd
wedi derbyn hyfforddiant pellach mewn meysydd a nodwyd gan yr Heddlu i ddarparu
mwy o sicrwydd yn hynny o beth.
DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD (HEDDLU GOGLEDD CYMRU)
Ymatebodd y Prif Arolygydd, Andrew Williams, i sylwadau a wnaed fel a
ganlyn –
·
O ran y cyfarfod gyda chynrychiolydd cyfreithiol Mr Ian
Mcallister yr wythnos flaenorol, dywedodd fod ei safbwyntiau wedi’u cyfleu’n
anghywir. Gwahoddwyd y cynrychiolydd cyfreithiol i gyflwyno
cynigion ac roedd wedi cadarnhau nad oedd yn barod i dderbyn yr amser terfyn a
gynigiwyd o 1:30am ac y byddai'n well ganddo fynd â'r mater ger bron yr
Is-bwyllgor Trwyddedu.
·
Amheus oedd y cyfeiriad bod Mark Mcallister wedi'i
wahardd o'r eiddo o ystyried mai ef oedd mab deiliad y drwydded ac roedd wedi’i
recordio ar deledu cylch caeëdig yn ddiweddar ac wedi'i weld yn mynd i mewn ac
allan o'r eiddo; roedd hefyd ar ddeall bod Mark Mcallister wedi cysylltu â’r
Cyngor mewn perthynas â chyfarfod ynglŷn â’r eiddo.
·
roedd yr Heddlu wedi siarad â’r Goruchwylydd Eiddo
Dynodedig dros dro ar ôl yr ymosodiad â gwydr ar 29 Medi 2018 a chadarnhawyd
bod David Jai Jones yn parhau fel y Goruchwylydd. Roedd y Goruchwylydd
dros dro wedi gofyn i'r Heddlu gael eu galw a dywedodd nad oedd eisiau dim i'w
wneud â'r eiddo mwyach.
·
o ran yr awgrym bod yr holl achosion yn digwydd ar ôl
1:00am, roedd digwyddiad newydd fod am 12:31am ganol yr wythnos ar 27 Tachwedd
2019. Ar ôl hanner nos, byddai cyfaint sylweddol o alcohol wedi’i yfed. Roedd pobl
feddw wedi bod yn paffio yn yr eiddo ac wedi aros yno ac ni chymerwyd camau
priodol i fynd i’r afael â’r mater.
Yn ei ddatganiad terfynol, dywedodd y Prif Arolygydd eto y dylai’r eiddo
wneud popeth y gallai i fynd i’r afael ag ymddygiad treisgar ac ni wnaed hynny
yma. Mor ddiweddar â 27 Tachwedd 2018,
roedd problem gyda grŵp o bobl ifanc meddw a oedd wedi cael dod yn ôl i
mewn i'r eiddo i barhau i yfed er i'r Heddlu ofyn i'r eiddo wrthod gwerthu i'r
unigolion hynny – tystiolaeth ddiweddar nad oedd yr eiddo’n ymdrin â
phroblemau’n effeithiol. [Dywedodd Mr
Rothwell bod cofnod y digwyddiad yn dweud “intoxication – not known fully as
persons are not known" ac felly nid oedd yn hysbys a oedd yr unigolion
wedi meddwi. Dywedodd y Prif Arolygydd
bo yr Heddwas a oedd wedi mynd at y digwyddiad wedi cadarnhau bod yr unigolion
yn feddw.]
GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS
Ar y pwynt hwn (11:00am),
gohiriwyd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried y cais.
Y PENDERFYNIAD A RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD diddymu’r Drwydded Eiddo.
Cyfleodd y Cadeirydd benderfyniad
yr Is-bwyllgor i bawb yn y cyfarfod a rhoddodd y Cyfreithiwr y rhesymau dros y
penderfyniad fel a ganlyn –
Ar ôl ystyried y cyflwyniadau’n ofalus mewn perthynas â’r cais i adolygu
Trwydded Eiddo The Barrell a ddygwyd ger bron y Pwyllgor gan Heddlu Gogledd
Cymru, canfu’r Is-bwyllgor Trwyddedu y canlynol –
1.
Bu methiant sylfaenol yn y modd roedd yr eiddo wedi’i
redeg dros nifer o fisoedd yn ddiweddar.
2.
Roedd yr Heddlu wedi dangos patrwm o ddigwyddiadau yn yr
eiddo a oedd yn peri pryder â dweud y lleiaf, ac a oedd yn gwbl groes i dri o’r
amcanion trwyddedu.
·
Roedd trosedd ac anhrefn o fewn yr eiddo ac o'i amgylch
ar nifer o achlysuron (fideo TCC)
·
Roedd niwsans cyhoeddus yn yr eiddo ac yn yr ardal
gyfagos bob awr o oriau mân y bore
·
Roedd yr achlysuron o drais o fewn ac o amgylch yr
eiddo'n effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd yn ddifrifol.
3.
Nid oedd unrhyw un o'r digwyddiadau wedi'u gwadu na'u
lliniaru mewn unrhyw fodd gan reolwyr yr eiddo.
4.
Heb ystyried bod Ian Mcallister yn ddiweddar wedi dod i
redeg yr eiddo, roedd digwyddiadau treisgar yn dal wedi bod mor ddiweddar â
dydd Llun/dydd Mawrth yr wythnos hon.
5.
Caniatawyd i bobl feddw ddod yn ôl i mewn i’r eiddo ar ôl
y ffrwgwd, er i’r Heddlu gynghori’r eiddo y dylai’r cwsmeriaid hynny fynd am
adref. Roedd hynny’n dangos nad oedd yr eiddo’n malio
llawer am gyngor yr Heddlu ac fe fethodd â gweld yr effaith o barhau i werthu i
bobl a oedd eisoes wedi meddwi'n llwyr.
6.
Roedd yr Is-bwyllgor Trwyddedu’n credu bod perygl
uniongyrchol i ddiogelwch y cyhoedd pe bai’r eiddo’n dal i weithredu.
7.
Er y derbynnid bod amryw broblemau cymdeithasol yn y
Rhyl, nid oedd unrhyw ymgais i liniaru’r ymddygiad a oedd yn parhau i ymddangos
o fewn ac o amgylch yr eiddo hwn.
8.
Roedd yr eiddo wedi methu â dangos camau gweithredu
digonol a fyddai’n sicrhau’r Is-bwyllgor Trwyddedu.
a. Nid oeddent yn
barod i gwtogi’r oriau gweithredu i hanner nos (er dangos bod y rhan fwyaf o’r
achosion yn digwydd ar ôl hanner nos).
b. Roeddent wedi
methu â darparu staff digonol ac effeithiol ar y drws.
c. Roeddent wedi
methu â chydymffurfio â’r Heddlu mewn perthynas â rhoi gwybod am ddigwyddiadau.
Cydnabyddid bod
y rheolwr newydd wedi cymryd rhai camau ers dod yn rheolwr ar yr eiddo, ond nid
oedd y rhain wedi cael yr effaith a ddymunid ac roedd digwyddiadau difrifol
wedi parhau i fod. Yn benodol bwysig
oedd yr ymosodiad difrifol â gwydr ar ferch yn yr eiddo. Yn ei hanfod, roedd yn rhy hwyr a dim digon o
newid wedi bod.
Cafodd pob un wybod am yr hawl i
apelio yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor Trwyddedu i’r Llys Ynadon o fewn un
diwrnod ar hugain.
Dogfennau ategol: