Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD AR BERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 2 – 2018-19

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,  Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi’i amgáu) yn rhoi diweddariad ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2017-2022 ar ddiwedd chwarter 2 2018 - 19.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol ar ddiwedd chwarter 2 o 2018/19.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i aelodau ar ddarpariaeth Cynllun Corfforaethol 2017-22 ar ddiwedd Chwarter 2  2018–19 .

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys tair prif elfen -

 

·         Crynodeb Gweithredol – yn nodi cyraeddiadau ac eithriadau allweddol gyda dau ddarn o sylwebaeth ar gyfer pob blaenoriaeth:

·          Adroddiad chwarterol llawn ar berfformiad a chynnydd y rhaglen – wedi’i gynhyrchu o System Rheoli Perfformiad Verto ac yn darparu asesiad yn seiliedig ar dystiolaeth o’r sefyllfa bresennol.

·         Crynodeb o’r prosiectau sy’n cael eu rheoli o dan bob Bwrdd Rhaglen – Cymunedau a’r Amgylchedd a Phobl Ifanc a Thai.

 

Roedd perfformiad fel y byddai disgwyl iddo fod ar gam mor gynnar o ystyried yr amseroedd a bennwyd ar gyfer gwelliannau.  Roedd dwy flaenoriaeth wedi’u hasesu fel rhai ar gyfer gwella, sef Cymunedau Gwydn a Phobl Ifanc, sy’n gofyn am fwy o fewnbwn gan bartneriaid allanol ac nad ydynt o dan reolaeth uniongyrchol y Cyngor.  Mae’r tair blaenoriaeth arall - Tai, Cymunedau Wedi'u Cysylltu â’r Amgylchedd yn parhau i fod ar lefel dderbyniol.   Roedd cynnydd ar draws y blaenoriaethau wedi’i asesu fel bod yn dda a rhoddwyd manylion y prosiectau a reolir gan y ddau Fwrdd Rhaglen gan amlygu'r gwahanol gamau y maent wedi'u cyrraedd.  Roedd un prosiect wedi’i wrthod a’i gau oherwydd nad oedd y Bwrdd yn ystyried y byddai’n cyflawni ei amcanion, sy'n dangos cadernid y broses asesu.

 

Arweiniodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol yr aelodau drwy’r meysydd blaenoriaeth yn yr adroddiad a thynnodd sylw at sawl maes o arfer da gan ymhelaethu ar ddatblygiadau’r prosiect mewn meysydd allweddol.  Ychwanegodd y Cynghorydd Thompson-Hill y caiff adroddiadau rheolaidd eu cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu fel rhan o’r broses fonitro er mwyn iddynt ystyried a oes angen ymchwilio ymhellach i rai meysydd.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd yr Aelodau’r materion canlynol –

 

·          o ran y prosiect i ddod a 500 o dai gwag yn ôl i ddefnydd, ystyriwyd bod 500 yn darged y byddai modd ei gyrraedd ond ei fod er hynny yn heriol o ystyried lefelau newidiol tai gwag - nodwyd fod cynnydd yn unol â’r targed.

·         soniodd yr Arweinydd am bwysigrwydd Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol ac roedd yn falch fod y Cyngor wedi dal gafael ar ei uchelgais ac wedi cynnal momentwm a’r ymrwymiad i drigolion i lwyddo er gwaethaf yr hinsawdd ariannol – ar ôl gosod y blaenoriaethau roedd cynnydd da’n cael ei wneud o ran eu cyflawni.

·         nodwyd ymgysylltiad aelodau'r Cabinet â’r Byrddau Rhaglen a sefydlwyd i ganolbwyntio ar flaenoriaethau a darpariaeth prosiectau, ynghyd â'r crynodeb allweddol o brosiectau ar gyfer gwneud gwelliannau a oedd wedi’u cynnwys fel atodiad i'r adroddiad - bu peth trafodaeth ar rinweddau cryfhau cysylltiadau gyda’r rhai nad ydynt yn aelodau o’r cabinet yn ychwanegol at y monitro rheolaidd gan y Pwyllgor Craffu a’r Adroddiad Gwelliant Blynyddol i’r Cabinet.  Cytunodd y Prif Weithredwr y byddai’n trafod gyda’r Aelod Arweiniol a fyddai lledaenu neu ddosbarthu gwybodaeth ymhellach yn ychwanegu gwerth at y broses bresennol.

·         Pwysleisiodd y Cynghorydd Mark Young bwysigrwydd sicrhau parhad yn y gwaith cynnal a chadw ar y systemau amddiffyn rhag llifogydd presennol, a rhoddwyd sicrwydd bod yr elfen hon yn cael ei hystyried fel busnes arferol, a bod rhaglen o waith cynnal a chadw wedi'i sefydlu - nod y Cynllun Corfforaethol yw gwella’r ddarpariaeth bresennol yn hytrach na delio â materion cynnal a chadw bob dydd.  Mewn perthynas â chynlluniau ac astudiaethau amddiffyn rhag llifogydd, nodwyd bod y gwaith yn parhau gyda phartneriaid.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones mewn perthynas â’r adroddiad annibynnol i’r llifogydd yn Ffordd Derwen, Y Rhyl, cadarnhaodd y Cynghorydd Brian Jones bod llythyr ar fin cael ei anfon allan i’r trigolion.

·          mewn ymateb i gwestiynau a godwyd ynglŷn â’r tan ar Fynydd Llandysilio, dywedodd yr Arweinydd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Chwefror 2019 yn ystyried yr effeithiau a’r gwersi a ddysgwyd yn dilyn y digwyddiad ac y byddai rhagor o fanylion ar gael bryd hynny.

·         Rhoddodd y Cynghorydd  Richard Mainon fwy o wybodaeth am y rhesymau y tu ôl i wrthod a chau’r prosiect Pwyntiau Mynediad Digidol; gan na fyddai’r prosiect yn cyflawni’r nod o wneud gwahaniaeth sylweddol gan gyfiawnhau’r gost, ystyriwyd y byddai'n ddoethach cyfeirio’r adnoddau ariannol tuag at ddod o hyd i ateb go iawn ar sail fwy parhaol.   Cytunodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol i ddosbarthu'r adroddiad cau i'r aelodau er gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol ar ddiwedd chwarter 2  2018/19.

 

 

Dogfennau ategol: