Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a gwybodaeth am gynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidol gytunedig.  Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2018/19 oedd £194.418m (£189.252m yn 2017/18).

·        rhagamcanwyd gorwariant o £1.292m ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol

·        rhoddwyd manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd cytunedig gwerth £4.6m gan gynnwys y rhai hynny a oedd eisoes wedi eu cyflawni gyda’r dybiaeth y byddai pob effeithlonrwydd/ arbediad yn cael eu cyflawni – byddai unrhyw eithriadau yn cael eu hadrodd i'r Cabinet lle bo angen.

·        amlygwyd risgiau ac amrywiadau cyfredol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a

·        darparwyd y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a’r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol).

 

Soniodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill am y meysydd risg arferol ond cadarnhaodd na fu fawr o newid yn y ffigyrau ers yr adroddiad i’r cyfarfod diwethaf.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr nad oedd yr heriau cysylltiedig â Chludiant Ysgolion a Gwasanaethau Plant yn unigryw i Sir Ddinbych ac mai'r rheswm y tu ôl iddynt oedd cynnydd mewn galw.   Cafwyd sicrwydd fod swyddogion wedi craffu’n fanwl ar y pwysau hwn y byddai angen delio ag o ochr yn ochr â'r setliad ariannol gwael ar gyfer 2019/20.

 

Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth –

 

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts at y pwysau ar gludiant ysgol, sef bron £600k, ond yn y cyd-destun hwn dywedodd fod Cyngor Sir Powys yn gwario oddeutu £68k y diwrnod (£12.5m y flwyddyn) ar gostau cludiant.

·           Rhoddodd sicrwydd ynghylch darbodaeth wrth weithredu’r meini prawf cymhwysedd am gludiant ysgol ac eglurodd elfennau disgresiwn y polisi.  Nid oedd yn hyrwyddo adolygiad o’r elfennau anstatudol gan ei fod yn credu y byddai hynny’n arwain at effaith arwyddocaol ar ddysgwyr.  Mae’r Cyngor wedi gwneud yr ymdrechion gorau dros y blynyddoedd diwethaf i ailstrwythuro gwasanaethau gan ganolbwyntio ar wytnwch er mwyn lleihau cyllidebau heb effeithio ar ddefnyddwyr gwasanaethau, ond mynegwyd pryderon na fydd efallai’n bosibl fforddio’r amddiffyniad hwnnw yn y dyfodol  Mewn ymateb i gwestiynau ynglŷn â’r posibilrwydd o gael arian ychwanegol, yn benodol ar gyfer gofal cymdeithasol, dywedodd y Cynghorydd Thompson-Hill fod £30m ychwanegol wedi'i gynnwys yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal cymdeithasol ar linell y gyllideb iechyd; roedd awdurdodau lleol yn lobio am beth o'r cyllid hwnnw.  O safbwynt clustnodi elfen ganlyniadol Cyllideb  Hydref y DU nid oedd yn hysbys eto a fyddai’n arwain at unrhyw arian ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol.   Disgwylir y cyhoeddiad am y setliad terfynol ar 19 Rhagfyr. Soniodd yr Aelodau eto am yr anawsterau gyda  chynllunio ariannol y dyfodol yng ngoleuni'r ansicrwydd ynghylch  cyllidebau a chyhoeddiad hwyr y setliad terfynol.  Dywedwyd fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dal i lobio Llywodraeth Cymru ar y pwynt hwn

·          Cyfeiriodd y Cynghorydd Mark Young at gyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru bod £15m wedi’i glustnodi ar gyfer datblygiad proffesiynol athrawon, a chadarnhaodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ei fod wedi codi’r mater gyda’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams. Nododd mai ei farn ef, o ystyried bod colli swyddi addysgu'n bosibilrwydd gwirioneddol, oedd y dylai awdurdodau lleol gael caniatâd i ddosbarthu cyllid addysg ar sail angen, fyddai’n fwy buddiol i ysgolion na chlustnodi gwariant yn benodol.  Roedd yr Ysgrifennydd Addysg wedi ymateb drwy ddweud fod undebau’r athrawon yn fodlon â’r dyraniad ar gyfer hyfforddiant.

·         mewn ymateb i gwestiynau am gontract cynnal a chadw Pont y Ddraig cafwyd eglurhad am faterion perthnasol i’r gwasanaeth a chostau trwsio ac eglurwyd y byddai angen ail drafod y contract cynnal a chadw er mwyn rhagweld costau’r dyfodol  a chostau trwsio gydol oes.  Roedd y costau ychwanegol eisoes wedi eu cynnwys yn yr amcangyfrifon cyfredol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol gytunedig.

 

 

Dogfennau ategol: