Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 40/2018/0151/PF – THE REAL PETFOOD COMPANY, UNED 2, ROYAL WELCH AVENUE, BODELWYDDAN, Y RHYL

Ystyried cais am ganiatâd i godi un corn simdde 35 metr mewn uchder a 2m mewn diamedr sy’n sefyll yn annibynnol, wedi’i leoli i’r gogledd o'r ffatri yn The Real Petfood Company, Uned 2, Royal Welch Avenue, Bodelwyddan, Y Rhyl (amgaeir copi).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi un corn simnai 35 metr mewn uchder a 2m mewn diamedr sy’n sefyll yn annibynnol, wedi’i leoli i’r gogledd o'r ffatri yn The Real Petfood Company, Uned 2, Royal Welch Avenue, Bodelwyddan.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

 

Sioned Edwards (Cadnant Planning)(O blaid) – yn nodi fod y busnes yn cyflogi dros saith deg o bobl ac roedd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â phryderon trigolion lleol, drwy ddarparu’r ateb tymor hir gorau.   Dywedodd y siaradwr fod The Real Petfood Company yn dymuno bod yn gymydog da yn y gymuned ac roedd wedi gwrando ar bryderon trigolion a chwmnïau lleol.  Roedd newidiadau wedi eu cyflwyno i’r cais gwreiddiol i fynd i’r afael â'r pryder am arogl. 

Nodwyd mai prif ystyriaethau’r cynnig oedd treftadaeth, tirlun ac effeithiau gweledol ac amwynder preswyl ac arogl.  Gofynnwyd am wybodaeth ychwanegol gan ymgyngoreion yn ystod proses y cais ac roeddent wedi eu cynnwys yn y cais.   Amlygwyd na fyddai’r effaith weledol ac ar y tirlun yn sylweddol.   Ni dderbyniwyd gwrthwynebiadau gan yr ymgyngoreion statudol oedd yn cynnwys CADW, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys nac Ymgynghorydd Tirlun y Cyngor mewn perthynas ag effeithiau ar dreftadaeth, tirlun ac effaith weledol. Wrth nodi bod mater arogl sy’n bodoli’n barod yn codi o’r broses cynhyrchu bwyd anifeiliaid yn effeithio ar amwynder preswyl, bod y cynnig yn ceisio rheoli hyn.    Roedd yr ymgeisydd yn ystyried yr amodau a awgrymwyd gan swyddogion i fod yn dderbyniol.          

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod ymweliad safle wedi’i gynnal ar 9 Tachwedd 2018.

 

Trafodaeth Gyffredinol – rhoddodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Richard Mainon gefndir byr y cais i’r aelodau. Dywedodd ei fod yn bresennol i gynrychioli trigolion Bodelwyddan, oedd wedi bod yn barchus ac amyneddgar iawn drwy gydol y broses.   Dywedodd y Cynghorydd Mainon ei fod yn falch i weld bod sgwrwyr a’r hidlwyr wedi eu hychwanegu at y cais.   Roedd y Cyngor Tref yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi bod y cais wedi’i newid i fynd i’r afael â phryderon, ond gofynnwyd am sicrwydd ar gamau os canfyddir bod y cwmni wedi torri’r amodau os byddai’r cynigion yn cael eu cymeradwyo.      

 

Arweiniodd y Rheolwr Datblygu yr aelodau i’r wybodaeth ar y daflen gwybodaeth hwyr mewn perthynas â’r cais.   Amlygwyd bod yna ddwy drefn caniatâd sy’n berthnasol i’r eiddo – y cyntaf y cais cynllunio ar gyfer y simnai ac yn ail y broses caniatâd amgylcheddol.   Roedd y defnydd diwydiannol ar y safle wedi hen sefydlu.  Yn ei farn ef, y rheolaeth gryfaf dros weithgaredd ar y safle oedd y ddeddfwriaeth caniatâd amgylcheddol.        

 

Eglurodd y Rheolwr Busnes Diogelu’r Cyhoedd bod y materion ar y safle wedi bod yn destun craffu manwl, ac mewn perthynas â’r sefyllfa caniatâd amgylcheddol, argymhellwyd ystyried codi simnai i wasgaru’r allyriadau. Os byddai simnai yn cael ei chodi gyda chynllun lleihad ar waith, gellir gosod gorfodaeth a rheolaethau addas ar y safle. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young am eglurhad ar yr amserlen i ymgymryd â’r gwaith arfaethedig a gofynnwyd am sicrwydd dros ddilyn camau gorfodi os oes angen.  

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Busnes Diogelu’r Cyhoedd y byddai cyfnod ymgymryd â’r prosiect yn cael ei gynnwys yn yr hawlen, ac o fewn amserlen ymarferol.  Roedd gan y system y gallu i ddygymod â chynhyrchu mwy.    

 

Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Thomas am sicrwydd ar pa mor realistig oedd y gofyniad i dynnu'r simnai os byddai'r ffatri yn rhoi'r gorau i weithio.  Awgrymodd y Rheolwr Datblygu y byddai’r amod cynllunio yn ychwanegu pwysau i’r broses caniatâd amgylcheddol ac ystyried a fyddai’n rhesymol gorfodi tynnu’r simnai i lawr.

 

Mynegodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler bryderon bod elfennau fel gwynt yn gallu effeithio ar gyfeiriad arogl a phellter teithio.  Gofynnwyd am eglurhad o’r defnydd cynllunio gan y Rheolwr Datblygu, oedd wedi cynghori bod yr ymgynghorwyr wedi nodi bod uchder simnai dwy waith a hanner maint yr adeilad agosaf yn ofynnol i wasgaru’r allyriadau fyddai’n cael eu creu.   Byddai’r cynllun lleihau yn bodoli i drin unrhyw arogl drwg – allyriadau isel i leihau cryfder yr arogl. 

 

Amlygodd y Cynghorydd Brian Jones bwysigrwydd ymgysylltu â’r cwmni ar y dechrau os bydd unrhyw bryderon yn cael eu codi.    

 

Cynnig - Roedd y Cynghorydd Tony Thomas yn cynnig  argymhelliad y swyddog i ganiatáu’r cais, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Brian Jones.

 

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 16

GWRTHOD - 0

YMATAL - 1

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ynghyd â’r amodau ychwanegol, a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

Dogfennau ategol: