Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD AR Y CYNLLUN GWEITHREDU ATAL DIGARTREFEDD A CHYNLLUN COMISIYNU DRAFFT 2019-22

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Comisiynu Atal Digartrefedd (copi ynghlwm) yn manylu ar y cynnydd a wnaed wrth gyflwyno’r Cynllun Gweithredu a chyflwyno Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl/Atal Digartrefedd drafft Sir Ddinbych cyn ei gyflwyno i’r Cabinet.

11.45 a.m. – 12.10 p.m.

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad a’r atodiadau (a gylchredwyd yn flaenorol) a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar gynnydd y Cyngor hyd yma o ran cyflawni ei Gynllun Gweithredu i Atal Digartrefedd, dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth wrth y Pwyllgor mai prif nod y Cyngor oedd atal digartrefedd.  Mewn ymgais i gyflawni’r nod hwn, mabwysiadwyd dull aml-asiantaeth ac aml-wasanaeth gyda’r bwriad o gefnogi pobl a oedd mewn perygl o fod yn ddigartref.  Hefyd ynghlwm wrth yr adroddiad oedd Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl/Atal Digartrefedd Sir Ddinbych drafft ar gyfer 2019-22, a oedd yn amlinellu sut yr oedd y Cyngor yn cynnig datblygu ac ail-fodelu prosiectau cefnogi yn y sir dros y tair blynedd nesaf i gefnogi mwy o bob a oedd naill ai’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.  Roeddent yn dal i aros am ymateb gan Lywodraeth Cymru o ran swm y cyllid Grant Cefnogi Pobl a fyddai’n cael ei ddyfarnu i'r Cyngor ar gyfer 2019-2022, er nad yw toriad i’r gyllideb yn ddisgwyliedig flwydd nesaf, roedd y Cyngor, fel rhan o gynllunio’r gyllideb, wedi cynnwys arian at raid o 5% yn y cynllun cyflawni.

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r aelodau, bu i’r Aelod Arweiniol, y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau a’r Swyddog Comisiynu Atal Digartrefedd -

 

·         gadarnhau bod swyddogion, wrth lunio’r Cynllun Comisiynu a’r Cynllun Gweithredu, wedi cynnwys cynllun wrth gefn gyda thoriad o 5% yn y rhagdybiaethau cyllideb.  Ar gyfer y flwyddyn i ddod, roedd hyn wedi’i wneud ar sail arbedion effeithlonrwydd posibl ac ail-lunio'r gwasanaethau i ddarparu mwy o waith atal digartrefedd yn hytrach na gwaith ymyrryd.  Roedd hefyd yn cael ei gydnabod yn eang bod gwaith atal yn y pen draw yn costio llai na gwaith ymyrraeth rhagweithiol.

·         cadarnhau bod y Gwasanaeth yn gweithio’n agos iawn â Chanolfan Dewi Sant yn Y Rhyl, a oedd yn darparu lloches a chymorth i unigolion a theuluoedd digartref.  Roedd Swyddog Digartrefedd y Cyngor a’r Swyddog Ymgysylltu â Dinasyddion yn ymweld â’r Ganolfan yn rheolaidd.  Yn ychwanegol roedd yr awdurdod wedi comisiynu gwasanaethau yn y ganolfan.

·         cyfeirio at y newid o ran ffocws i wasanaeth ataliol mwy rhagweithiol e.e. wrth i Swyddog Atal Digartrefedd y Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol ymweld â charcharorion cyn iddynt gael eu rhyddhau o’r carchar er mwyn eu rhwystro rhag gadael y carchar yn ddigartref.

·         cynghori bod y Gwasanaeth ar hyn o bryd yn gweithio gydag oddeutu 500 o aelwydydd yn Sir Ddinbych mewn perthynas â materion tai a digartrefedd.

·         hysbysu bod amryw o resymau i egluro pam bod unigolion a theuluoedd mewn perygl o golli eu cartrefi, hynny yw, camddefnyddio sylweddau/ cyffuriau/ alcohol, diwygio'r gyfundrefn les, trafferthion ariannol / dyledion, effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.  Dyna’r rheswm dros aildrefnu’r tîm i’w alluogi i gynnig cymorth ataliol sy’n fwy arbenigol.

·         pwysleisio bod pob unigolyn a fu mewn cysylltiad â’r Gwasanaeth wedi bod yn unigolyn diamddiffyn.

·         dangos, drwy astudiaeth achos, effeithiolrwydd y Swyddog Atal Digartrefedd o fewn y Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau (Civica) yn y Ganolfan Waith wrth helpu pobl i reoli eu dyledion a chynllunio eu harian er mwyn atal argyfwng.

·         cadarnhau y bu presenoldeb da yn y Diwrnod Atal Digartrefedd Blynyddol ac fe rannwyd llawer iawn o brofiadau personol yn ystod y digwyddiad.  Roedd yr adborth a gafwyd wedi’r digwyddiad yn gadarnhaol iawn.  Er hynny, byddai lle i wella bob amser.  O ganlyniad i’r digwyddiad hwn, roedd cysylltiadau cryfach yn cael eu creu rhwng partneriaid mewnol, gyda’r bwriad o gryfhau arferion gwaith i atal sefyllfaoedd rhag gwaethygu i argyfyngau.

·         hysbysu bod y broses dendro gystadleuol a gynhaliwyd ar gyfer darparu tai â chymorth wedi’i chynnal yn unol â Rheolau Gweithdrefn Gontractau’r Cyngor.  Roedd darparwr newydd wedi’i benodi.  Roedd y mwyafrif o’r ‘unedau â chymorth’ wedi’u trosglwyddo gan y darparwr blaenorol i’r darparwr newydd.  Fodd bynnag, roedd chwech o unedau yn dal heb eu trosglwyddo ac roedd y darparwr newydd wedi ymrwymo i ddarparu llety priodol yn lle’r unedau nad oedd wedi’u trosglwyddo.  Roedd rhai aelodau o staff wedi'u trosglwyddo i’r darparwr newydd o dan drefniadau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth.  Roedd y Cyngor yn monitro darpariaeth y contract yn agos, yn unol â'i weithdrefnau rheoli contract ac roedd cyfarfodydd rheolaidd yn cael ei cynnal â’r darparwr i gefnogi cydymffurfedd â gofynion y fanyleb dendro.

·         cadarnhau, er bod rhai unigolion/ teuluoedd yn ne’r sir yn cael eu cefnogi er mwyn iddynt allu osgoi bod yn ddigartref, roedd y mwyafrif o achosion a oedd yn derbyn cymorth wedi’u lleoli yng ngogledd y sir.

·         hysbysu, er i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ganolbwyntio ar unigolion dros 18 mlwydd oed, bod gan y Gwasanaeth ffigyrau ar gyfer unigolion 16-18 mlwydd oed a oedd mewn perygl o fod yn ddigartref.  Roedd y Gwasanaeth y gweithio gyda nhw drwy’r prosiect Llwybrau Cadarnhaol Pobl Ifanc.

·         cadarnhau bod gan y Gwasanaeth brotocol tywydd garw mewn perthynas â digartrefedd a oedd yn weithredol pan fo tywydd garw wedi’i ragweld, a

·         dweud y byddai adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos ar sut yr oedd yr Awdurdod yn bwriadau rhoi’r gorau i ddefnyddio llety anaddas i letya unigolion a theuluoedd digartref.

 

Awgrymodd yr Aelodau y dylai adroddiadau a Chynlluniau Comisiynu yn y dyfodol gynnwys ffigyrau gwirioneddol yn ychwanegol i’r canrannau wrth gyfeirio at unigolion / teuluoedd/ aelwydydd a gefnogir gan y Gwasanaeth a’i bartneriaid, gan y byddai hyn yn cynorthwyo’r Pwyllgor i fesur graddau’r problemau ac i weld graddau’r broblem ddigartrefedd yn y sir ac a oedd tueddiad yn datblygu.  Gofynnodd y Pwyllgor hefyd bod fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r Cynllun Comisiynu yn cael eu prawf-ddarllen er mwyn cael gwared ar gamgymeriadau sillafu a gramadeg sylfaenol a bod adroddiad gwybodaeth yn cael ei gyflwyno iddynt ar Bobl sy'n Gadael Carchar a’r Gwasanaeth Digartrefedd.

 

Wrth longyfarch y Gwasanaeth ar ei waith a’r cymorth yr oedd yn ei ddarparu i deuluoedd ac unigolion diamddiffyn. Pwysleisiodd yr aelodau'r angen i symud ymlaen ag amcanion y gwaith Un Llwybr Mynediad at Dai a pha mor bwysig yr oedd i’r Cyngor ddechrau ar ei gynlluniau i adeiladu mwy o dai cymdeithasol yn y sir.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth -

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod a darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani -

 

 (a)      cefnogi darpariaeth y Cynllun Gweithredu Atal Digartrefedd i sicrhau fod pawb yn cael eu cefnogi i fyw mewn cartrefi sy’n diwallu eu hanghenion;

 

 (b)      sicrhau bod cynlluniau ar y gweill i liniaru ar unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â newidiadau mewn cyllid Cefnogi Pobl yn y dyfodol;

 

 (c)       bod ei sylwadau a’i argymhellion yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad ar y Cynllun Comisiynu, i’w gyflwyno i’r Cabinet yn ystod ei gyfarfod ym mis Rhagfyr, a 

 

 (d)      bod Adroddiad Gwybodaeth ar Bobl sy'n Gadael Carchar a’r Gwasanaethau Digartrefedd yn cael ei ddosbarthu i aelodau.

 

 

Dogfennau ategol: