Eitem ar yr agenda
DIWEDDARIAD AR BROSIECTAU CYFALAF MAWR: PROSIECT YSBYTY GOGLEDD SIR DDINBYCH, CLINIC RHUTHUN A CHANOLFAN IECHYD CORWEN
- Meeting of Pwyllgor Craffu Partneriaethau, Dydd Iau, 8 Tachwedd 2018 10.00 am (Item 6.)
- View the declarations of interest for item 6.
Derbyn
diweddariad gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am y
cynnydd o ran prosiectau cyfalaf sy’n ymwneud ag Ysbyty Gogledd Sir Ddinbych
(Achos Busnes ynghlwm), Clinig Rhuthun a Chanolfan Iechyd Corwen.
10.50 a.m. – 11.30 a.m.
Cofnodion:
Rhoddodd
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Clinigol -
Therapïau y Bwrdd Iechyd gyflwyniad i’r Pwyllgor yn amlinellu’r cynnydd a wnaed
hyd yma mewn perthynas â’r tri phrosiect cyfalaf mawr yn Sir Ddinbych. Amlinellodd y cefndir i bob prosiect ac, o
ran sefyllfa bresennol bob prosiect, dywedodd -
Canolfan Iechyd Corwen
·
bod cyfleuster addas i’r diben sy’n darparu amgylchedd o
ansawdd uchel ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol a gwasanaethau deintyddol
gwell wedi agor ar y safle yng Nghorwen ar 12 Hydref 2018, gydag agoriad
swyddogol wedi’i drefnu ar gyfer 29 Tachwedd 2018. Roedd gan y safle hefyd y potensial
i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau’n ymwneud ag iechyd.
·
roedd y Bwrdd Iechyd wedi dyfarnu £1.48m tuag at y
prosiect o’i Ddyraniad Cyfalaf yn ôl Disgresiwn
·
roedd y Ganolfan bellach yn cynnwys practis Meddyg Teulu
a oedd hefyd yn cynnwys ystafelloedd ymgynghori ar gyfer doctoriaid dan
hyfforddiant, gwasanaethau cardioleg arbenigol dan arweiniad Meddyg Teulu, dau
le deintydd, gwasanaethau nyrsio ardal, gwasanaethau iechyd,
ffisiotherapyddion, gwasanaethau podiatreg ynghyd â gwasanaethau iechyd meddwl
a chamddefnyddio sylweddau, a
·
gyda’r bwriad o ehangu’r gwasanaethau ymhellach, roedd
gwaith yn mynd rhagddo i recriwtio staff deintyddol ychwanegol ac i asesu a
oedd potensial i gynyddu presenoldeb y Sector Gwirfoddol (Trydydd Sector) ar y
safle i gefnogi gwaith y Gwasanaeth Iechyd yn yr ardal.
Clinig Mount Street, Rhuthun
·
yn 2016, bu i adolygiad o Ystadau Gofal Sylfaenol nodi
nad oedd y cyfleuster hwn yn addas i’r diben. Oherwydd ei gyflwr
gwael, daeth y Bwrdd Iechyd i’r casgliad na fyddai gwario oddeutu £750,000 i
ymgymryd â gwaith cynnal a chadw a diweddaru’r adeilad yn cyfateb i ddefnydd
effeithiol o adnoddau ac ni fyddai’n darparu datrysiad hirdymor i ddiwallu
anghenion ardal Rhuthun yn y dyfodol.
·
gwnaed penderfyniad strategol i wneud cais am £1.7m o
gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru at ddibenion darparu gwasanaethau gofal
sylfaenol yn agos at gartrefi cleifion drwy ad-leoli'r gwasanaethau a ddarperir
ar hyn o bryd yn y clinig safle Ysbyty Cymuned Rhuthun gyda’r posibilrwydd o
ddarparu gwasanaethau iechyd eraill ar y safle newydd maes o law.
·
ar hyn o bryd, roedd y cynigion i symud y practis Meddyg
Teulu, Ymwelwyr Iechyd, Nyrsys Ysgol ac ymarferwyr Iechyd Meddwl Cymunedol o
safle’r Clinig presennol i safle Ysbyty Rhuthun. Roedd y Tîm Deintyddol
Cymunedol wrthi’n ystyried dau opsiwn, i symud i safle Ysbyty Rhuthun neu i
ddefnyddio’r cyfleusterau presennol sydd ar gael yn Ninbych a Chorwen a darparu
gwasanaeth symudol lle bo’n briodol, tra roedd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru yn trafod â Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru i archwilio
posibiliadau mewn perthynas â darparu eu gwasanaethau o gyfleuster a rennir. Roedd gwaith
hefyd yn mynd rhagddo i archwilio’r potensial i ddarparu gwasanaethau
ychwanegol o’r cyfleuster a adleoliwyd i Ysbyty Rhuthun, hynny yw, gweithgarwch
gofal eilaidd / yn y gymuned megis gwasanaethau adferiad ysgyfeiniol ar gyfer
de’r sir, gweithgaredd lles a gwasanaethau i gefnogi hyfforddiant ar gyfer
Meddygon Teulu gwledig.
·
roedd llawer o ddigwyddiadau i fudd-ddeiliaid eisoes
wedi’u eu cynnal er mwyn mesur cefnogaeth a diddordeb y gymuned yn y model
gwasanaeth newydd a derbyn y gwasanaethau ‘newydd’ arfaethedig. Rhagwelwyd y
byddai’r holl ddigwyddiadau hyn yn dod i ben erbyn y Nadolig 2018. Roedd dylunwyr
wrthi’n paratoi i gynhyrchu briffiau dylunio ar gyfer y cynigion ynghyd â
chostau ac roedd achos busnes yn cael ei ysgrifennu gyda’r bwriad o sicrhau
cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect. Rhagwelwyd y
byddai’r Bwrdd Iechyd yn ystyried yr achos busnes yn ei gyfarfod ym mis Mawrth
2019 cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo. Ar yr amod nad
oes unrhyw oedi o ran yr amserlen a bod cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru yn
cael ei gymeradwyo, rhagwelwyd y byddai’r gwaith adeiladu yn dechrau yn ystod
yr haf 2019, gyda’r gwasanaethau olaf yn cael eu trosglwyddo o safle presennol
Clinig Mount Street i’r cyfleuster ar safle Ysbyty Rhuthun yn ystod y gwanwyn
neu’r haf 2020.
·
sicrhaodd yr aelodau nad oedd rheswm i bryderu mewn
perthynas â’r cynigion i symud gwasanaethau deintyddol cymunedol o Glinig Mount
Street, Rhuthun i Ddinbych a Chorwen a darparu gwasanaeth symudol. Byddai’r un
lefel o wasanaeth ar gael i gleifion yn Rhuthun a’r ardaloedd cyfagos a
byddai’r cleifion yn cael dewis lle yr oeddent yn dymuno cael mynediad at y gwasanaethau hynny,
yn Ninbych neu yng Ngorwen, neu os nad oedd yr un lleoliad yn gyfleus, byddai
modd iddynt wneud cais am wasanaeth symudol i’w cartrefi, a
·
chadarnhaodd bod ysbytai cymuned, megis Rhuthun, wedi ymgymryd
â sawl gwasanaeth ychwanegol yn ystod y blynyddoedd
diwethaf. Roedd ystafell Fewnwythiennol newydd Dinbych yn
darparu ystod o wasanaethau Mewnwythiennol arbenigol, hynny yw, Cemotherapi,
gwasanaethau ar gyfer Canolfan Walton ac ati, rhagwelwyd y byddai gwasanaethau
arbenigol eraill efallai yn cael eu darparu yn y gymuned / yn yr ysbyty cymuned
yn y dyfodol ac roedd staff yn cael eu hyfforddi i ddarparu’r gwasanaethau
arbenigol hyn.
Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych, Y Rhyl – roedd copi o’r Achos Busnes Amlinellol ar
gyfer y prosiect hwn, a gafodd ei ystyried a’i gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd yn
ystod ei gyfarfod ar 1 Tachwedd, ac yna ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w
gymeradwyo, wedi’i ddosbarthu i aelodau gyda phapurau cyfarfod y Pwyllgor.
·
roedd yr Achos Busnes Amlinellol a gymeradwywyd gan y
Bwrdd yn mynd i’r afael â thri phrif faes, meysydd yr oedd Llywodraeth Cymru
wedi gofyn i’w cael yn y ddogfen, yn bennaf, sut oedd y cynnig prosiect yn
cyd-fynd ac yn cyfrannu tuag at strategaeth a gweledigaeth gyffredinol y Bwrdd
Iechyd ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechyd yng Ngogledd Cymru, manylion
fforddiadwyedd refeniw'r cyfleuster newydd arfaethedig a sut oedd y Bwrdd yn
cynnig diogelu a defnyddio hen adeilad Ysbyty Brenhinol Alexandra, sy’n adeilad
rhestredig Gradd II, fel rhan o’i gynlluniau ar gyfer y safle.
·
roedd yr Achos Busnes Amlinellol yn darparu gwybodaeth ar
y gwasanaethau arfaethedig a fyddai’n cael eu darparu yn y cyfleuster newydd,
yn cynnwys ward gyda 28 o wlâu i gleifion mewnol ac uned asesu
amlddisgyblaethol, gwasanaeth ar gyfer mân anafiadau a salwch, clinigau i
gleifion allanol, Ystafell Therapi Mewnwythiennol, gwasanaethau diagnosteg a
therapi, gwasanaethau deintyddol cymunedol, gwasanaethau iechyd rhywiol,
gwasanaeth cleifion allanol iechyd meddwl pobl hŷn, Un Pwynt Mynediad/
safle gweithio integredig, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc,
cymorth gweinyddol ar gyfer timau integredig a chanolbwynt cymunedol (yn
cynnwys caffi, cyfleusterau Trydydd Sector ac ystafelloedd cyfarfod).
·
roedd yr amserlen arfaethedig ar gyfer y prosiect yn
cynnwys cael ymateb a chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru ar yr Achos Busnes
Amlinellol ddim hwyrach na diwedd mis Ionawr 2019. Byddai hyn yn galluogi i'r
Achos Busnes Llawn gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn mis Mawrth 2020,
gyda’r bwriad o ddechrau ar y gwaith adeiladu ar y safle yn ystod mis Medi 2020
a chwblhau’r adeilad newydd erbyn diwedd mis Mawrth 2022. Yn dilyn hyn,
disgwyliwyd y byddai’r gwaith ailwampio ar hen adeilad Ysbyty Brenhinol
Alexandra wedi’i gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2022.
Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, bu i Gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd
-
·
gadarnhau bod y prisiadau ar gyfer yr holl brosiectau
uchod wedi’u gwneud gan ymgynghorwyr prisio cymwys yn defnyddio fformiwla
benodol wrth ymgymryd ag ymarferion prisio. Roedd y prisiadau a
nodwyd ar gyfer yr Achos Busnes Amlinellol yn ystyried cost chwyddiant posibl.
·
cadarnhau bod y costau amcangyfrifedig ar gyfer y
prosiect Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych newydd arfaethedig wedi cynyddu’n
sylweddol rhwng yr amser y lluniwyd yr Achos Busnes Strategol yn 2013 a’r Achos
Busnes Amlinellol presennol, o £22.2m i £40.24m. Roedd tri rheswm am hyn
ac mae’r tri wedi’u nodi yn nogfen yr Achos Busnes Amlinellol a gylchredwyd i’r
Pwyllgor.
·
hysbysu bod yr amserlen a roddwyd ar gyfer symud ymlaen â
phrosiect Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych a phrosiectau eraill hyd at eu
cwblhau yn ddibynnol ar bob cam o fewn y prosiect yn cael ei gymeradwyo/
gyflawni ar amser. Roedd y dyddiadau carreg filltir ar hyn o bryd yn seiliedig ar y rhagdybiaethau hyn.
·
hysbysu bod gwaith cynllunio gweithlu yn mynd rhagddo
gyda’r bwriad o staffio’r cyfleuster newydd yn Y Rhyl. Roedd y gwaith
cynllunio gweithlu ar gyfer y cyfleuster yn amlweddog, roedd y staff a fyddai’n
darparu llawer iawn o’r gwasanaethau yn y cyfleuster eisoes wedi’u cyflogi,
byddai’n fater o’u hadleoli i’r cyfleuster. Byddai recriwtio staff
newydd yn canolbwyntio’n bennaf ar staff ar
gyfer y ward, a rheoli’r gwaith o redeg y cyfleuster a’r ystâd o ddydd i
ddydd. Roedd y Bwrdd Iechyd yn ymgymryd ag ymarferion
recriwtio lleol yn rheolaidd ac yn cymryd rhan mewn mentrau recriwtio
cenedlaethol.
·
cadarnhau, er y byddai nifer o’r gwasanaethau yn Ysbyty
Cymuned Gogledd Sir Ddinbych dan arweiniad nyrs neu ymarferydd nyrsio, digon
hawdd fyddai cael mynediad at gyngor meddygol os oedd angen.
·
amlinellu’r ystod o wasanaethau a oedd yn cael eu darparu
mewn Uned Triniaethau Dydd, a allai gael ei datblygu ar safle Ysbyty Cymuned
Gogledd Sir Ddinbych os yw’r cynllun peilot Uned Triniaethau Dydd, sy’n cael ei
dreialu yn Llandudno ar hyn o bryd yn llwyddiannus. Roedd y
gwasanaethau hyn yn cynnwys, triniaeth ar gyfer heintiau'r llwybr wrinol,
clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ac ati, sydd ar hyn o bryd yn golygu bod
rhaid i’r claf fynd i Ysbyty Ardal Cyffredinol. Pe bai’r cynllun peilot
yn llwyddiannus, byddai modd sefydlu Unedau Triniaethau Dydd ar nifer o
safleoedd ar draws Gogledd Cymru er mwyn lleihau’r pwysau ar Ysbytai Ardal
Cyffredinol. Byddai cleifion yn ymweld â’r uned yn ddyddiol,
naill ai'n defnyddio eu cludiant eu hunain, cludiant cyhoeddus neu lle bo’r
angen byddai cludiant yn cael ei ddarparu. Byddai'r cleifion yn
cael eu monitro ac os nad oedd eu cyflwr yn gwella’r gyda’r driniaeth a oedd yn
cael ei rhoi, neu’n gwaethygu, byddent yn cael eu 'symud ymlaen’ i’r uned
fewnol fwyaf priodol.
·
hysbysu nad oeddent ar hyn o bryd yn rhagweld y byddai
Uned Triniaethau Dydd ar gael yn unrhyw le arall heblaw Y Rhyl yn Sir Ddinbych,
oherwydd er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn effeithiol roedd rhaid ei leoli
mewn ardal â llawer o bobl. Er hynny, ni ddylai lleoliad yr uned fod yn rhwystr
i breswylwyr o ardaloedd eraill o fewn y sir rhag cael mynediad at ei
gwasanaethau os mai honno oedd yr uned agosaf at eu cartrefi.
·
hysbysu y byddai’r gwaith i ddatblygu’r Achos Busnes
Llawn ar gyfer prosiect Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych yn cynnwys
dadansoddiad manwl mewn perthynas â darpariaeth maes parcio a chysylltiadau
cludiant cyhoeddus i’r cyfleuster. Roedd y gwaith archwiliadol a gynhaliwyd eisoes
wedi nodi bod y safle wedi’i gwasanaethau’n dda gan gludiant cyhoeddus. Roedd y Bwrdd
Iechyd yn rhagweld y byddai’r gwaith o ddymchwel yr adeiladau dros dro ar safle
bresennol Ysbyty Brenhinol Alexandra yn sicrhau tir ychwanegol a oedd wedi’i
glustnodi ar gyfer maes parcio i’r
ysbyty. Yn ychwanegol, roedd meysydd parcio cyhoeddus y
codir tâl i barcio ynddynt, gerllaw, cyfleusterau parcio ar y promenâd a
lleoedd parcio am ddim ar strydoedd cyfagos. Roedd y Bwrdd hefyd yn
datblygu Cynllun Teithio Gwyrdd ac yn archwilio’r posibilrwydd o ‘brynu’ Ffordd
Alexandra gan y Cyngor i hwyluso ‘dad-fabwysiadu’ a fyddai’n darparu mynediad
diogel a hwylus rhwng hen safle Ysbyty Brenhinol Alexandra a safle’r cyfleuster
iechyd newydd ac o bosib y byddai hefyd yn creu mannau ychwanegol i gerbydau
gael parcio.
Yn ystod y
drafodaeth, mynegodd yr aelodau eu pryderon nad oedd rhai o’r cyfleusterau a
etifeddwyd gan y Bwrdd Iechyd presennol wedi bod yn destun prosesau cynllunio
busnes llym yn ystod eu dyluniad i sicrhau y byddent yn addas ar gyfer y
dyfodol. O ganlyniad, roedd y bwrdd yn
gorfod buddsoddi’n sylweddol er mwyn darparu safle addas ar gyfer darparu
gwasanaethau. Gofynnodd yr aelodau i
swyddogion y Bwrdd sicrhau y byddai’r holl gyfleusterau newydd arfaethedig yn
addas ar gyfer y dyfodol ac yn addasadwy er mwyn diwallu anghenion newidiol a
disgwyliadau yn y dyfodol.
Ar ddiwedd y
drafodaeth, diolchodd y Pwyllgor i swyddogion y Bwrdd Iechyd am fynychu’r cyfarfod
i ddiweddaru’r aelodau ar y cynnydd a wnaed hyd yma ar y prosiectau cyfalaf
uchod ac ateb eu cwestiynau mewn perthynas â hynny.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod -
(a) derbyn y
wybodaeth ar y sefyllfa bresennol o ran prosiectau cyfalaf Ysbyty Gogledd Sir
Ddinbych, Clinig Rhuthun a Chanolfan Iechyd Corwen, a
(b) gofyn bod y
Bwrdd Iechyd yn briffio’r Pwyllgor ymhellach ar yr holl brosiectau cyfalaf yn
Sir Ddinbych, yn cynnwys prosiect Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych, Canolfan
Iechyd Corwen , Clinig Rhuthun a datblygiad y Timau Adnoddau Cymunedol yn ystod
y Gwanwyn 2019.
Ar y pwynt hwn
(12.05 p.m.) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.
Dogfennau ategol: