Eitem ar yr agenda
INFFYRMARI DINBYCH
- Meeting of Pwyllgor Craffu Partneriaethau, Dydd Iau, 8 Tachwedd 2018 10.00 am (Item 5.)
- View the declarations of interest for item 5.
Derbyn cyflwyniad
gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch cynlluniau ar
gyfer darparu gwasanaethau yn Inffyrmari Dinbych yn y dyfodol ar ôl cau Ward
Fammau.
10.10 a.m. – 10.50 a.m.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Bethan Jones (Cyfarwyddwr
Rhanbarth: Yr Ardal Ganolog), Gareth Evans
(Cyfarwyddwr Gwasanaethau Clinigol -
Therapïau) ac Alison (Cyfarwyddwr
Cynorthwyol Gwasanaethau Cymunedol) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
i’r cyfarfod i drafod yr eitemau busnes yn ymwneud â’r Gwasanaeth Iechyd.
Inffyrmari Dinbych - Rhoddodd y Cyfarwyddwr
Cynorthwyol Gwasanaethau Cymunedol friff, drwy gyflwyniad PowerPoint, i’r
Pwyllgor ar gefndir y penderfyniad i gau Ward Lleweni yn yr Inffyrmari ar ôl
cynnal gwiriadau diogelwch tân yn unol â’r canllaw a dderbyniwyd gan Lywodraeth
Cymru yn sgìl trychineb tân Tŵr Grenfell. Roedd y gwiriadau diogelwch tân wedi canfod bod yr
adeilad 200 mlwydd oed “wedi’i adrannu’n wael a bod y llawr cyntaf wedi’i
adeiladu o drawstiau pren a delltennau a phlaster.” Ar sail hynny, daeth yr aseswyr diogelwch
tân i’r casgliad “o ystyried nifer y cleifion sydd â phroblemau symudedd a'r
nifer gyfyngedig o staff, hyd yn oed pe bai’r holl waith adferol yn cael ei
gwblhau byddai gallu rheoli’r adeilad, sy’n gofyn am wacáu yn fertigol, yn
ddiogel yn ystod tân yn heriol iawn.” Ar sail yr wybodaeth hon, penderfynwyd
cael gwared ar 10 o’r 17 gwely ar Ward Lleweni er mwyn lleihau’r risgiau sy’n
gysylltiedig â gwacáu. Er mwyn gwneud iawn am y
golled o wlâu cymunedol yn Ninbych, cafwyd 5 gwely ychwanegol i gleifion mewnol
yn Ysbyty Rhuthun ac fe gynhaliwyd gwaith adferol, hynny yw'r panel larwm tân,
rhannu ac adrannu’r gofod yn y nenfwd ac ati, ar lawr gwaelod adeilad yr
Inffyrmari. Tra’r oedd gwaith hwn yn cael ei wneud roedd arolwg manwl o adeilad yr
ysbyty hefyd yn cael ei gynnal gan ymgynghoriaeth diogelwch tân. Briff yr ymgynghoriaeth oedd penderfynu ar
safon yr adrannu o fewn adeilad gwreiddiol yr ysbyty a gallu adeiladwaith yr
adeilad i wrthsefyll tân. Canfu’r arolwg hwn bod diffygion sylweddol o ran adrannu yn yr adeilad
gwreiddiol ar y llawr cyntaf ac yn y to. Roedd hyn yn golygu nad oedd yn cydymffurfio â
rheoliadau diogelwch tân cyfredol ac felly roedd y strategaeth wacáu bresennol
ar gyfer y llawr cyntaf, a oedd yn seiliedig ar drefniadau gwacáu llorweddol a
dibyniaeth ar adrannu, wedi’i pheryglu ac felly nid oedd yn cydymffurfio â
gofynion Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, o ganlyniad gwnaed
penderfyniad i roi’r gorau i ddefnyddio’r 7 gwely a oedd yn weddill i gleifion
mewnol ar Ward Lleweni a rhoi’r gorau i ddefnyddio’r ystafell esgor dan
arweiniad bydwraig. Pwysleisiodd, er nad oedd y llawr cyntaf bellach yn addas ar gyfer gwlâu i
gleifion mewnol ac ati, nid oedd hyn yn golygu nad oedd modd defnyddio’r llawr
at ddiben arall.
Wrth wneud y penderfyniad uchod, ymgynghorodd y
Bwrdd Iechyd ag ystod eang o fudd-ddeiliaid, yn cynnwys gwleidyddion lleol a
chenedlaethol, y Cyngor Iechyd Cymuned, staff, undebau llafur, staff yr
awdurdod lleol a Chynghrair Cyfeillion yr ysbyty. Cytunodd hefyd ar drefniadau hirdymor â Meddygon
Teulu Rhuthun i ofalu am y cleifion yn y gwlâu ychwanegol yn Ysbyty Cymuned
Rhuthun ac adleoli nifer fechan o staff i Ysbyty Rhuthun. O ganlyniad i golli’r gwlâu, comisiynwyd gwaith i ganfod capasiti cleifion
mewnol amgen ac archwilio llwybrau gofal
cleifion mewnol amgen.
Roedd Adran Ystadau Arbenigol GIG wrthi’n nodi’r
costau lefel uchel sy’n ofynnol i sicrhau bod y llawr cyntaf yn cydymffurfio â
rheoliadau iechyd a diogelwch gan gynnwys safonau diogelwch tân. Roedd eisoes yn hysbys y byddai’n rhaid gwneud
gwaith strwythurol mawr a byddai’r gwaith yn effeithio ar lety’r llawr gwaelod. Oherwydd yr angen i gwrdd â safonau
gwasanaeth iechyd modern, rhagwelwyd na fyddai modd symud yr 17 o wlâu, a
gollwyd ar ôl cau Ward Lleweni, i lawr gwaelod yr ysbyty. Rhagwelwyd y byddai 4 i 6 o wlâu
ychwanegol yn cael eu hychwanegu at y gwlâu ar y llawr gwaelod yn y pen
draw. Roedd dau opsiwn wedi’u nodi ar restr fer fel
datrysiadau posibl o ran sut y gellid darparu’r gwlâu ychwanegol hyn. Roedd un yn golygu trawsnewid yr ardal ffisiotherapi bresennol i fae/
ward wlâu ac adleoli’r ddarpariaeth ffisiotherapi i ran arall o safle’r ysbyty. Roedd yr opsiwn arall yn golygu adeiladu
estyniad. Byddai’r ddau opsiwn yn golygu y byddai’n rhaid gwneud cais i Lywodraeth
Cymru am gyllid cyfalaf er mwyn eu gwireddu. Pwysleisiodd swyddogion y Bwrdd Iechyd eu
hymrwymiad i sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu yn Inffyrmari Dinbych
yn y dyfodol. Yn ystod y misoedd diweddar, roedd y Bwrdd wedi buddsoddi mewn nifer o
brosiectau buddsoddi yn ymwneud â chyfleusterau, hynny yw, gosod boeler newydd,
diweddaru’r goleuadau allanol a'r palmentydd. Roedd y cyfleuster ar hyn o bryd yn darparu ystod
o wasanaethau cymunedol gwerthfawr i’r ardal leol, yn cynnwys gwlâu i gleifion
mewnol, clinigau cleifion allanol, gwasanaethau pelydr x, uned mân anafiadau,
awdioleg, ffisiotherapi, Ystafell Therapi Mewnwythiennol a gwasanaethau sgrinio
amrywiol. Roedd Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol yn awyddus i gyfuno eu gwasanaethau
ar y safle yn y dyfodol, tra bod y gwasanaethau pelydr x wedi cynyddu eu
sesiynau yn ddiweddar drwy ddarparu dwy sesiwn yn ychwanegol a arweiniodd at yr
ysbyty yn cynnig gwasanaeth pelydr x llawn amser. Roedd defnydd yr Ystafell Therapi Mewnwythiennol yn cynyddu, yn ogystal â’r
ymweliadau â’r uned mân anafiadau a oedd wedi nodi cynnydd o 22% yn nifer yr
ymwelwyr rhwng mis Ebrill a mis Hydref 2018 o gymharu â’r chwe mis blaenorol. Ar gyfartaledd, roedd cyfanswm o 50 o
gleifion y mis yn derbyn gofal fel cleifion mewnol yn Inffyrmari Dinbych ac
Ysbyty Rhuthun. Ar hyn o bryd, nid oedd swyddi gwag yn Inffyrmari Dinbych. Roedd swyddogion y Bwrdd Iechyd wedi cwrdd
yn ddiweddar gyda chynrychiolwyr o Gynghrair Cyfeillion yr ysbyty i drafod eu
syniadau ar gyfer gwasanaethau yn yr ysbyty yn y dyfodol. Roeddent wedi nodi rhai cynlluniau i’r Bwrdd Iechyd eu harchwilio ymhellach
ac wedi gofyn bod ardal y llawr cyntaf yn cael ei defnyddio cyn gynted â phosib
at ddibenion darparu rhyw fath o wasanaeth yn hytrach nag aros yn wag a pheri
pryder o ran dyfodol hirdymor yr ysbyty.
Mewn ymateb i gwestiynau aelodau, dyma swyddogion
y Bwrdd Iechyd yn -
·
hysbysu
bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd wedi cynnal archwiliad
diogelwch tân yn yr ysbyty yn ystod y misoedd diwethaf.
·
cadarnhau
y byddai presenoldeb trawstiau pren i gefnogi llawr ardal y llawr cyntaf yn
atal staff rhag gwacáu ward y llawr cyntaf yn ddiogel, gan ddefnyddio’r
weithdrefn wacáu llorweddol, pe bai tân. Roedd cydymffurfedd â rheoliadau a
gweithdrefnau diogelwch felly yn hanfodol. Roedd tân diweddar mewn cartref gofal yng Ngogledd
Cymru wedi tynnu sylw at y broblem hon. Roedd yr achos hwnnw yn cael ei archwilio gan yr
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
·
cadarnhau
y byddai safonau modern yn ymwneud â darpariaeth gofod ar gyfer cleifion mewnol
ar wardiau ysbyty yn ei gwneud yn amhosib i'r Bwrdd gael yr un faint o wlâu
newydd â’r nifer o wlâu a gollwyd yn yr Inffyrmari. Er hynny, roedd y Bwrdd Iechyd wedi
ymrwymo i wneud iawn am rai o’r gwlâu a ‘gollwyd’ drwy ddarparu 4 i 6 gwely
ychwanegol ar y ward ar y llawr gwaelod (Ward Famau).
·
hysbysu
y byddai’n rhaid creu a phrisio achos busnes i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru i
geisio cyllid cyfalaf er mwyn hwyluso darpariaeth y gwlâu ychwanegol ar Ward
Famau, gan y byddai cost y gwaith adeiladu ac ail-fodelu mwy na thebyg yn fwy
na £1m.
·
hysbysu’r
Pwyllgor pan fo costau ar gael a phan fo achos busnes drafft wedi’i gwblhau,
byddai’r Bwrdd yn ymgynghori â phreswylwyr, y Cyngor a budd-ddeiliaid eraill ar
y cyfleuster mwyaf addas i’w ddatblygu er mwyn diwallu anghenion y gymuned. Byddai’r prosiect yn cynnwys cyfleusterau
i gefnogi gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol ac anghenion darpariaeth
gwasanaeth iechyd cymunedol a ragwelir yn y dyfodol.
·
cadarnhau
bod gofynion urddas a phreifatrwydd bellach yn rhan hanfodol o’r broses
ddylunio ar gyfer cyfleuster iechyd newydd neu gyfleuster iechyd wedi’i
ailwampio.
·
hysbysu, er bod gan BIPBC
oddeutu 60 o wlâu cymunedol yn llai yn Sir Ddinbych o ganlyniad i gau Ysbyty
Cymuned Prestatyn, Ysbyty Brenhinol
Alexandra a Ward Lleweni yn Inffyrmari Dinbych yn ystod y blynyddoedd diwethaf,
nid oedd prinder o wlâu cymunedol yn y sir i ddiwallu angen lleol. Drwy reoli gwlâu yn well ac argaeledd
pecyn gofal cartref gwell i gleifion, roedd y galw am wlâu i gleifion mewnol
wedi lleihau. Cydnabuwyd bellach bod treulio cyfnodau hirach yn yr ysbyty yn cyfrannu at
golli’r gallu i ddefnyddio cyhyrau ac yn arwain at fwy o ddryswch ymhlith
cleifion, cyfeiriwyd at hyn yn aml fel ‘Parlys Pyjamas'. Drwy gydweithio’n effeithiol â’r
Gwasanaethau Cymdeithasol, llwyddodd y Gwasanaeth Iechyd i gael cleifion adref
yn gynt a thrwy wasanaethau’r Tîm Adnoddau Cymunedol, roedd yn gallu eu cefnogi
yn eu cartrefi eu hunain.
·
cadarnhau,
er mai’r nod oedd cael bobl adref cyn gynted â phosibl lle bo modd gwneud
hynny, cydnabu’r Bwrdd Iechyd bod angen i’r gwlâu cymunedol fod ar gael i’r
unigolion a oedd eu hangen ac y byddai cleifion a oedd yn agosáu at ddiwedd eu
hoes yn cael dewis yn lle yr oeddent eisiau treulio eu dyddiau olaf.
·
hysbysu, er bod gan ardaloedd
Cyngor Conwy a Sir Ddinbych y nifer fwyaf o breswylwyr hŷn yng Ngogledd
Cymru, roedd gan yr ardaloedd y niferoedd isaf o ran achosion o oedi wrth
drosglwyddo gofal. Er hynny, nid hyn oedd y rheswm dros beidio â chael gwlâu ysbyty cymuned o
gwbl. Roedd gan y cyfleuster cleifion mewnol Ysbyty Cymuned a chyfleusterau
eraill ran hanfodol i’w chwarae drwy ofal ymadfer ac ailhyfforddi pobl er mwyn
eu paratoi i ddychwelyd gartref. Rhagwelwyd y byddai gan gartrefi preswyl rôl i’w chwarae yn y dyfodol o ran
gofal ymadfer ac ailhyfforddi cleifion.
·
cadarnhau
bod y Gwasanaeth Gofal Cartref Uwch wedi’i ddatblygu yn dilyn cau Ysbyty
Brenhinol Alexandra fel dull o ddarparu gofal tebyg i ofal claf mewnol, yn
debyg i'r hyn a oedd yn cael ei ddarparu yn yr ysbytai cymunedol, i gleifion yn
eu cartrefi eu hunain.
·
ail-gadarnhau
nad oedd gan y Bwrdd Iechyd gynllun a bennwyd ymlaen llaw ar gyfer cau’r ysbyty
cymuned yn Ninbych. Fodd bynnag, roedd angen sefydlu’r math o gyfleuster iechyd y byddai’r dref
a’r ardal gyfagos ei angen ar gyfer y dyfodol, yn cynnwys pa wasanaethau fyddai’n
rhaid eu darparu ar y safle. Ar ôl penderfynu ar hynny, byddai’n rhaid llunio cynigion a chynlluniau er
mwyn darparu cyfleuster addas i’r dyfodol yn y dref. Roedd yn bwysig cofio bod “ysbyty cymuned”
yn llawer iawn mwy na gwlâu i gleifion mewnol yn unig, er bod gwlâu i gleifion
mewnol yn rhan bwysig o gyfleuster o’r
fath.
·
dweud
bod disgwyl i Adran Ystadau Arbenigol GIG Cymru fod mewn sefyllfa i ddarparu’r
Bwrdd Iechyd â chostau mynegol lefel uchel ar gyfer y gwaith ailwampio sydd
angen ei wneud ar y llawr gwaelod a Ward Lleweni erbyn diwedd mis Tachwedd
2019. Byddai gwaith wedyn yn dechrau ar lunio achos busnes amlinellol ar gyfer
y datblygiad arfaethedig yn y dyfodol i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru fel rhan
o’r cais am gyllid cyfalaf ar gyfer y prosiect. Nid oedd modd rhoi amserlen o ran faint o amser
fyddai’n ei gymryd i sicrhau’r cyllid angenrheidiol ond rhagwelwyd y byddai’n
cymryd o leiaf tair blynedd i’w sicrhau cyn gallu dechrau adeiladu ar y safle. Er hynny, yn unol â dymuniadau Cynghrair
Cyfeillion yr Ysbyty, roedd swyddogion y Bwrdd Iechyd yn awyddus i wneud
defnydd o Ward Lleweni dros dro yn hytrach na’i gadael yn wag. Byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r
posibilrwydd o leoli’r Tîm Adnoddau Cymunedol yno dros dro, neu symud y
Therapyddion Cymunedol yno er mwyn hwyluso’r gwasanaeth ‘camu i lawr’ (yn debyg
iawn i’r hyn a oedd yn digwydd yn Y Rhyl a Rhuthun) a symud y Tîm Nyrsio Ardal
i’r adeilad caban ar y safle. gwahodd aelodau’r Pwyllgor ac aelodau lleol i gysylltu â nhw â’u syniadau o
ran pa wasanaethau allai gael eu darparu ar y safle, naill ai ar sail dros dro
neu fel rhan o’r ddarpariaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol yn Ninbych, a
·
chadarnhau
y byddai’r gost o ail-ddarparu mwy o wlâu i gleifion mewnol yn lle’r rhai a
gollwyd yn yr Inffyrmari, yn cael ei harchwilio a’i hystyried cyn rhoi
ystyriaeth i’w darparu mewn man arall.
Dywedodd Cadeirydd Grŵp Ardal Aelodau
Dinbych, y Cynghorydd Rhys Thomas, wrth y Pwyllgor bod y Grŵp Ardal
Aelodau lleol yn monitro’r sefyllfa yn yr ysbyty’n agos, yn enwedig nifer y
gwlâu i gleifion mewnol oedd ar gael yno gan eu bod yn pryderu bod gan y Bwrdd
Iechyd duedd i gael gwared ar wlâu mewn ysbytai amrywiol cyn i wasanaethau
eraill gael eu sefydlu yn eu lle a chyn iddynt fod yn gwbl weithredol. Bydd swyddogion y Bwrdd Iechyd yn mynd i gyfarfod y Grŵp Ardal Aelodau
ym mis Ionawr 2019 i drafod y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r Inffyrmari.
Ar ddiwedd y drafodaeth -
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod -
(a) derbyn yr
wybodaeth ar y sefyllfa bresennol o ran Inffyrmari Dinbych, a
(b) bod adroddiad
pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y Gwanwyn 2019 ynglŷn â’r
costau mynegol a nodwyd at ddibenion darparu gwlâu ychwanegol yn yr ysbyty,
amlinellu’r cynnydd a wnaed o ran datblygu achos busnes ar gyfer darparu
gwasanaethau ar y safle yn y dyfodol, a manylu ar y cynlluniau hirdymor ar
gyfer y cyfleuster yn y dyfodol.