Eitem ar yr agenda
UNED CAFFAEL CYDWEITHREDOL
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) sy’n ceisio cymeradwyaeth
Cabinet i barhau â’r trefniant caffael cydweithredol presennol â Chyngor Sir y
Fflint am dair blynedd arall.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet –
(a) ymrwymo i dair
blynedd arall o Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Chyngor Sir y Fflint er mwyn i
Gyngor Sir Ddinbych gynnal gwasanaethau caffael cydweithredol a fydd yn
weithredol ar draws Sir Ddinbych a Sir y Fflint, a
(b) bod gan Bennaeth
y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd awdurdod i gymeradwyo ac
ymrwymo i ffurf briodol o gytundeb gyda Chyngor Sir y Fflint.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i
barhau â’r trefniant caffael cydweithredol presennol gyda Chyngor Sir y Fflint
am dair blynedd arall. Cyflwynodd
y Rheolwr Gweithrediadau Cyfreithiol a Chaffael a oedd wedi bod yn y swydd ers
mis Medi 2017.
Mae’r
Cabinet wedi cymeradwyo uno gyda Chyngor Sir y Fflint ym mis Mai 2014 i greu
Uned Caffael Cydweithredol gyda Sir Ddinbych yn gyflogwr er mwyn gwireddu nifer
o fendithion gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd ac arbedion maint, gan wella
capasiti a gwydnwch, a chynyddu perthnasoedd gyda chyflenwyr. Daeth y cytundeb i ben ym mis
Gorffennaf 2017 ac roedd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol wedi cytuno ar
estyniad i’r trefniant i alluogi comisiynu archwiliad ar y cyd a adroddwyd i’r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ym mis Mehefin 2018. Er fod yr adroddiad
archwilio wedi bod yn feirniadol, roedd yn hanesyddol i raddau helaeth ac roedd
nifer o’r materion wedi eu datrys yn dilyn penodiad y Rheolwr Gweithrediadau
Cyfreithiol a Chaffael a oedd hefyd wedi cynnig sefydlogrwydd i’r uned. Roedd cynllun gweithredu wedi
ei ddatblygu a rhoddwyd gwybod i’r Cabinet am fesurau i wella materion
llywodraethu oedd heb eu datrys ac annog ymrwymiad corfforaethol a gwleidyddol
i’r gwasanaeth a oedd yn cynnwys cryfhau trefniadau adrodd, craffu a monitro;
alinio strategaeth gaffael y ddau Gyngor, a mewnoli caffael ar y cyd o fewn
diwylliant y ddau Gyngor ar draws pob lefel ac ar lefel wleidyddol. Nodwyd y llwyddwyd i barhau i
gyflwyno’r gwasanaeth er mai dim ond chwarter nifer y gweithwyr fesul £1m o
wariant a argymhellir gan Lywodraeth
Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru sydd yna. Roedd yr uned yn cynnwys
swyddogion cymwys iawn yn gweithio gyda gwasanaethau i sicrhau fod caffael yn
cael eu cynnwys yn llawer cynharwch gan olygu fod pob gwasanaeth yn fwy
cyfarwydd â gofynion.
Cydnabu’r
Cynghorydd Thompson-Hill fod angen rhagor o waith ond fod cynnydd cadarnhaol
wedi ei wneud ac roedd buddion go iawn wedi eu cyflawni. Mewn ymateb i gwestiynau,
roedd y Cynghorydd Thompson-Hill a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Adnoddau Dynol a Democrataidd -
·
cadarnhawyd y byddai Archwilio
Mewnol y cynhyrchu adroddiad dilynol yn rhoi manylion y cynnydd yn erbyn y
cynllun gweithredu ar gyfer ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
ym mis Ionawr.
Roedd
y cynllun gweithredu yn cynnwys dyddiadau targed ar gyfer cwblhau yn
ddiweddarach yn y flwyddyn a fyddai’n arwain at adroddiad dilynol pellach i’r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i sicrhau cydymffurfiad llawn a chwblhau’r
cynllun gweithredu ac wedyn byddai trefniadau monitro ar gyfer y dyfodol yr
uned yn cael eu cytuno arnynt.
·
cadarnhau penderfyniad y
Cabinet mewn perthynas â’r dewisiadau dros ddarparu gorfodi troseddu
amgylcheddol ynghyd â chyfranogiad yr Uned Caffael Cydweithredol o fewn y broses
honno – yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd Caffael ar y Cyd, roedd cydweithwyr o
Sir y Fflint wedi bod yn agored i drafodaethau yn y dyfodol ar y posibilrwydd o
weithio ar y cyd isranbarthol.
·
hysbyswyd nad oedd y
feirniadaeth yn yr adroddiad yn ymwneud â maint yr uned na nifer y gweithwyr
ond roedd yn canolbwyntio ar sicrhau fod pob gwasanaeth yn ystyried caffael
cydweithredol ar y dechrau gyda chamau manwl i gyflawni'r nod honno
·
eglurwyd, wrth ystyried
arbedion a wireddir yn y dyfodol, er bod rhai arbedion yn hawdd i'w cyfrifo,
roedd yn anodd cyfrifo arbedion caffael eraill ac roedd gwaith yn mynd yn ei
flaen o ran sut i gyflawni'r manylyn hwnnw at ddibenion craffu a monitro yn y
dyfodol
·
rhoddwyd eglurhad o rôl y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol wrth sicrhau fod prosesau cywir ar waith ac
y cyflawnir y cynllun gweithredu ac amlygwyd yr angen i sicrhau mecanwaith
priodol ar gyfer monitro yn y dyfodol a chraffu ar arbedion a pherfformiad gan
y pwyllgor craffu.
·
dywedodd, o safbwynt strategaethau
caffael, y cytunwyd ar gyfres o ddangosyddion perfformiad allweddol gyda’r ddau
gyngor er bod rhai ffigyrau ar gyfer y trothwy rhagoriaeth yn wahanol er mwyn
adlewyrchu gwahanol nodau ac amcanion y Cyngor, roedd hefyd mesuryddion
perfformiad ar waith i fesur gwariant ar gyfer y ddwy ardal awdurdod lleol.
Cydnabu’r
Arweinydd y problemau dechreuol yn dilyn yr uno ond amlygodd y buddion o
safbwynt uned fwy hyfyw a rhagor o wydnwch staff. Credai mai’r trefniant
cydweithredol oedd y ffordd ymlaen ac o ystyried y bendithion i’w gwireddu a'r
sicrwydd a roddwyd o safbwynt camau gweithredu i fynd i'r afael â diffygion a
chyflwyno gwelliannau, roedd yn cefnogi'r argymhelliad.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet –
(a)
yn ymrwymo i
dair blynedd arall o Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Chyngor Sir y Fflint er
mwyn i Gyngor Sir Ddinbych gynnal gwasanaethau caffael cydweithredol a fydd yn
weithredol ar draws Sir Ddinbych a Sir y Fflint, a
(b) bod gan Bennaeth
y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd awdurdod i gymeradwyo ac
ymrwymo i ffurf briodol o gytundeb gyda Chyngor Sir y Fflint.
Dogfennau ategol: