Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a

 

 (b)      nodi a chytuno ar y defnydd o arian wrth gefn, tanwariant a ddygwyd ymlaen a rhyddhau arian at raid, er mwyn helpu i liniaru'r pwysau cyllideb cyffredinol sy'n wynebu'r Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.  Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2018/19 oedd £194.418m (£189252m yn 2017/18)

·        roedd amcanestyniad o orwariant o £1.164m ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol

·        rhoddwyd manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £4.6m a gytunwyd arnynt gan gynnwys y rhai hynny a oedd eisoes wedi eu cyflawni gyda’r dybiaeth y byddai pob effeithlonrwydd/ arbedion yn cael eu cyflawni – byddai unrhyw eithriadau yn cael eu hadrodd i'r Cabinet lle bo angen

·        amlygwyd risgiau ac amrywiadau cyfredol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a

·        darparwyd y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a’r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol).

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar lefel y gorwariant ar gyllidebau gwasanaethau a phryderon i'r perwyl hwnnw o ystyried symudiad ffigyrau canlyniad a ragolygwyd.  Gofynnwyd i’r Cabinet gytuno ar y defnydd o arian wrth gefn, tanwariant wedi’i ddwyn ymlaen, a rhyddhau arian at raid i helpu ariannu gorwariant mewn gwasanaethau.  Eglurodd y Prif Weithredwr fod y ffigyrau wedi eu cymell i raddau helaeth gan bwysau galw na ellid fod wedi ei ragweld ac y byddai'n gweithio gydag uwch arweinwyr ar fesurau tymor byr o fewn y flwyddyn i leihau gorwariant a byddai ymgynghori llawn gydag Aelodau Arweiniol ar effaith ehangach y mesurau hynny.

 

Amcangyfrifwyd ar hyn o bryd y byddai gorwariant o £728,000 ar Wasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol (adroddwyd £98,000 ym mis Medi) ac roedd prif bwyntiau’r drafodaeth yn cyfeirio at -

 

·        Cludiant i'r Ysgol – er gwaethaf dyraniad ychwanegol o £300,000 yn dilyn gweithredu’r polisi cludiant diwygiedig, nodwyd pwysau ychwanegol; roedd y pwysau parhaus newydd ar gyfer 2018/19 yn dod i gyfanswm o £593,000 ac yn cael eu trafod ar hyn o bryd fel rhan o’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2019/20 ymlaen.  

Cafwyd ychydig o drafodaeth ynghylch a fyddai’n well gosod y gyllideb hon o fewn y Gwasanaethau Addysg a Phlant er mwyn cael rhagor o eglurder ac atebolrwydd er ei fod yn bwysau a gydnabuwyd a oedd angen ei ddatrys lle bynnag y byddai’n cael ei osod.  Eglurodd Swyddogion y rhesymeg y tu ôl i’r safbwynt presennol o ystyried fod Addysg a Gwasanaethau Plant yn cynnal y broses o asesu i bennu a oedd plentyn yn gymwys i dderbyn cludiant i'r ysgol, ond roedd y trefniant comisiynu ar gyfer y rhai hynny a oedd yn gymwys ar gyfer cludiant i'r ysgol yn cael ei gynnal gan y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol oherwydd yr arbenigedd a’r sgiliau oedd eu hangen ar gyfer trafod y contractau ysgolion.  Byddai Swyddogion yn cyfarfod i drafod prif achosion y gorwariant, ac wedi hynny byddai’n gyfle da i ystyried ble fyddai’r lle gorau i osod Cludiant i'r Ysgol.

·        Prosiectau Mawr - mae hyn wedi bod yn broblem dros y blynyddoedd diwethaf.  

Roedd y prif reswm ynghylch y diffyg incwm yn ymwneud â faint o waith oedd ai angen a’r ad-daliad a oedd yn dod gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru.  Cynigiwyd y dylid ryddhau dyraniad cyllideb o £140,000 o arian at raid a ddaliwyd yn ganolog i leddfu pwysau yn barhaus a dylid cadw £159,000 fel arian wrth gefn i helpu cyllido’r pwysau mewn blynyddoedd i ddod, a’i ryddhau i helpu ariannu pwysau arall yn y gwasanaeth.  Eglurwyd nad oedd y swm a fuddsoddwyd yn rhwydwaith priffyrdd Sir Ddinbych o reidrwydd yn ymwneud â’r gwaith a gynhyrchwyd drwy'r Asiantaeth Gefnffyrdd, o ystyried bod contractwyr allanol hefyd yn gwneud gwaith ar briffyrdd.  Ychwanegodd y Cynghorydd Brian Jones fod incwm a gyllidebwyd wedi ei osod yn rhy uchel ac y byddai’n cael ei ddiwygio yn y flwyddyn ariannol nesaf i adlewyrchu’r gostyngiad

·        Strydwedd – ymhelaethodd y Cynghorydd Brian Jones ar y gost o £200,000 a oedd ei angen i unioni mater gyda ‘Tipiau a Etifeddwyd’ er mwyn diwallu gofynion statudol

·        Gwastraff – byddai’r pwysau yn 2018/19 yn cael ei ariannu o’r Gronfa Wrth Gefn ar gyfer Gwastraff ac roedd pwysau o £850,000 ar y gyllideb wedi ei gynnwys yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2019/20. Roedd Dyluniad Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu newydd wedi ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau

 

Roedd hefyd rhywfaint o drafodaeth ar y setliad cyllideb dros dro ar gyfer Sir Ddinbych a’r effaith ar gronfeydd wrth gefn a chyllid gostyngol wrth symud ymlaen.  Golygai’r setliad fod penderfyniadau anodd i'r Cyngor eu gwneud er mwyn cyflawni'r arbedion gofynnol a fyddai'n cael eu hystyried gan y Cabinet a’r Cyngor maes o law.  Nodwyd fod pwysau pellach yn cael ei roi ar Lywodraeth Cymru drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Arweinwyr Cynghorau i drafod y pwysau cyllido a’r setliad ariannol ar gyfer llywodraeth leol.  Cyfeiriwyd hefyd at Ddatganiad yr Hydref a gyhoeddwyd yn ddiweddar a dywedodd y Pennaeth Cyllid fod y ffigyrau pennawd wedi nodi y byddai adnoddau ychwanegol ar gyfer Cymru ond nid oeddem yn gwybod hyd yma a fyddai’n arwain at unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol.

 

Dyma rai o’r materion eraill a drafodwyd fel rhan o’r adroddiad cyllid -

 

·         Prosiectau Cyfalaf o Bwys -

 

Ysgol Ffydd 3 – 16 y Rhyl – eglurodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts a’r Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant gymhlethdodau ac anawsterau wrth recriwtio a’r broses ar gyfer penodi pennaeth ar gyfer yr ysgol a rhoddodd sicrwydd fod swyddogion yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Esgobaeth a’r Corff Llywodraethu i sicrhau'r penodiad gorau ar gyfer yr ysgol a sicrhau fod y paratoadau ar gyfer agor yr ysgol newydd yn gadarn er mwyn cynnig y ddarpariaeth addysgol orau ar gyfer y disgyblion

 

Datblygiad Harbwr y Rhyl – o safbwynt y contract cynnal a chadw ar gyfer Pont y Ddraig, eglurwyd nad oedd cost lawn y trefniadau cynnal a chadw wedi eu cynnwys yn y prisiad gwreiddiol ar gyfer y bont o ystyried ei ddyluniad unigryw ac roedd angen darparu adnoddau ar ei gyfer ers hynny

 

Glannau’r Rhyl a'r Parc Dŵr – eglurwyd y rhesymeg dros adleoli’r Ganolfan Groeso, gan y byddai’n caniatáu gweithgarwch masnachol ar y Pentref Plant gwag ac yn ychwanegu gwerth at y Ganolfan Groeso drwy ei lleoli ar y cyd ag Amgueddfa’r Rhyl yng Ngorsaf Drenau’r Rhyl  Cydnabuwyd fod angen Canolfan Groeso yn y Rhyl a phresenoldeb corfforol a chredwyd y byddai dod â’r Ganolfan Groeso a’r Amgueddfa ynghyd yn gweddu ei gilydd ac yn ychwanegu gwerth at y ddau wasanaeth.  Darparwyd y Ganolfan Groeso ar y cyd gyda Thwristiaeth Gogledd Cymru a byddai’r math o ddarpariaeth yn cael ei ailfodelu a’i addasu yn sgil y symud

 

·         Crynodeb o Arbedion a Gytunwyd Arnynt – Mynegodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor nifer o bryderon ynghylch yr arbedion a gytunwyd arnynt. 

Eglurwyd fod arbedion wedi eu cytuno'r llynedd ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2018/19 ac wedi eu hadrodd ar yr un fformat i’r Cabinet ers hynny.  Tybiwyd y byddai’r arbedion yn cael eu cyflawni.  Roedd paratoadau ar droed ar hyn o bryd ar gyfer arbedion y flwyddyn nesaf a byddai awgrymiadau ar gyfer arbedion posibl i’w darparu yn cael eu croesawu.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a

 

 (b)      nodi a chytuno ar y defnydd o arian wrth gefn, tanwariant a ddygwyd ymlaen a rhyddhau arian at raid, er mwyn helpu i liniaru'r pwysau cyffredinol ar y gyllideb sy'n wynebu'r Cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: