Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYNNYDD TWRISTIAETH

Rhoi ystyriaeth i adroddiad gan Arweinydd y Tîm: Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau (copi ynghlwm) gyda manylion ynghylch y cynnydd a gyflawnwyd hyd yma gyda mentrau twristiaeth amrywiol a’u cyfraniad tuag at ddarparu uchelgais cyffredinol y Cyngor mewn perthynas â datblygu economaidd a chael barn aelodau am hynny.

11.15 a.m. - 12 hanner dydd

 

Cofnodion:

Yn absenoldeb yr Arweinydd, cyflwynodd yr Arweinydd Twristiaeth: Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn manylu ar y cynnydd a gyflawnwyd mewn perthynas â mentrau twristiaeth amrywiol a’u cyfraniad tuag at gyflawni uchelgais gyffredinol y Cyngor mewn perthynas â datblygu economaidd.

 

Yn ystod ei gyflwyniad, tynnodd yr Arweinydd Twristiaeth sylw at lwyddiant Partneriaethau Twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru a Gogledd Cymru, yn enwedig yr olaf sydd wedi derbyn £140k gan Lywodraeth Cymru at ddibenion hyrwyddo cynnig twristiaeth yr ardal ar gyfer y gaeaf, a fyddai’n cefnogi’r weledigaeth o farchnata’r ardal fel cyrchfan i dwristiaid drwy gydol y flwyddyn. Y nod oedd cynyddu nifer y twristiaid a oedd yn ymweld â’r ardal, ond wrth wneud hynny, sicrhau budd economaidd cynaliadwy drwy gydol y flwyddyn yn hytrach na thwristiaeth tymhorol a oedd o fudd i’r economi am gyfnod cyfyngedig yn unig.

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus a’r Arweinydd Twristiaeth -

 

·         bod staff Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau’r Cyngor yn fodlon gweithio’n agos â grwpiau twristiaeth a digwyddiadau lleol pan yr oeddent yn trefnu digwyddiadau yn eu hardaloedd lleol. Gyda’r bwriad o symleiddio’r broses a hyrwyddo digwyddiadau lleol i’r eithaf, symleiddiwyd y broses Hyrwyddo Digwyddiadau. Roedd y ffurflen Hysbysu Digwyddiadau bellach wedi’i chrynhoi i ddwy ochr o dudalen A4. Ar ôl derbyn ffurflen wedi’i chwblhau byddai’n cael ei rhannu â’r holl wasanaethau a’r swyddogion a fyddai angen gwybod am y digwyddiad. Yn ychwanegol, byddai’r dyddiad arfaethedig ar gyfer y digwyddiad yn cael ei wirio yn erbyn digwyddiadau hysbys eraill a oedd yn cael eu cynnal ar y diwrnod hwnnw ac os teimlwyd y byddai digwyddiadau eraill yn yr ardal leol yn effeithio ar y digwyddiad byddai’r trefnwyr yn cael gwybod. Nid oedd hyn o reidrwydd yn golygu y byddai’n rhaid newid y dyddiad, roedd y drefn hon ar waith er mwyn codi ymwybyddiaeth a chefnogi llwyddiant yr holl ddigwyddiadau lleol.

·         fel rhan o’r gwaith i gyflawni’r flaenoriaeth gorfforaethol ‘Cymunedau Cysylltiedig’, trefnwyd adroddiad i’w gyflwyno i’r “Bwrdd Cymunedau a’r Amgylchedd” yn ei gyfarfod ym mis Hydref ar sut y gellid gwella isadeiledd yn y sir i gefnogi cynnal mathau gwahanol o ddigwyddiadau cymunedol a digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar dwristiaid.

·         byddai bob amser angen am lety dros nos ychwanegol i ymwelwyr yn Sir Ddinbych. Roedd hi’n ymddangos mai dim ond nifer gyfyngedig o leoedd oedd yn cynnig llety dros nos i dwristiaid yn rhan ganolog y Sir. Roedd llawer o westai i’w cael yn Ne Sir Ddinbych ac roedd llawer o safleoedd i garafannau sefydlog a theithiol yng ngogledd y sir. Er hynny, roedd gan Sir Ddinbych nifer sylweddol o letyau hunanarlwyo o safon ac roedd sawl un wedi ennill statws 5*.

·         roedd gan Croeso Cymru gyllid ar gael i fusnesau llety gwyliau a oedd yn awyddus i ennill statws 4* neu 5* er mwyn eu helpu i gyflawni’r nod hwn.

·         roedd sylw ar gyfryngau cymdeithasol yn sicr wedi cynyddu nifer yr ymwelwyr posibl a oedd wedi ceisio gwybodaeth am yr ardal leol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd hyn yn yr atodiadau amrywiol ynghlwm wrth yr adroddiad, yn cynnwys Atodiad 13 a oedd yn cynnwys gwybodaeth am Fonitor Gweithgaredd Economaidd Scarborough (STEAM). Roedd STEAM yn mesur effaith ymwelwyr sy’n aros ac ymwelwyr dydd ar yr economi leol.

·         defnyddiwyd y cyfryngau cymdeithasol i godi proffil yr ardal a dangos yr hyn oedd gan Sir Ddinbych i’w gynnig i dwristiaid, ond roedd y cyfryngau cymdeithasol yn un o sawl llwyfan codi proffil a ddefnyddiwyd at y diben hwn. Ymddangoswyd i nifer yr ymweliadau â gwefannau cyfryngau cymdeithasol gyrraedd uchafbwynt pan gynhaliwyd ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth penodol.

·         roedd gwaith yn mynd rhagddo i leihau nifer y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yr oedd Gwasanaeth Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau'r Cyngor yn eu defnyddio i hyrwyddo’r cynnig lleol, gyda’r bwriad o ddarparu deunydd marchnata a gwybodaeth fwy penodol.

·         roedd y ‘Blogiau’ (dolenni atynt wedi’u cynnwys yn yr atodiadau) wedi’u hysgrifennu gan unigolion annibynnol. Talodd Croeso Cymru i’r unigolion hyn lunio’r ‘Blogiau’, ac er bod rhannau o’u naratifau wedi’u golygu i sicrhau cywirdeb ffeithiol, gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod personoliaeth pob ‘blogiwr’ yn amlwg yn ei waith/ ei gwaith.

·         bod yr holl wybodaeth gyhoeddus a gynhyrchwyd gan y Cyngor a’i bartneriaid cyhoeddus yn cael ei chyhoeddi’n ddwyieithog.

·         nid oedd y Cyngor wedi cau unrhyw un o’i Fannau Gwybodaeth i Dwristiaid, roedd sawl un o’r cyfleusterau hyn ar draws y sir mewn adeiladau cyhoeddus e.e. llyfrgelloedd ac fe agorwyd un yn ddiweddar ar Ystâd Rhug, Corwen. Roedd trafodaethau ar y gweill gyda gweithwyr y Premier Inn newydd yn Y Rhyl er mwyn archwilio’r posibilrwydd o osod Man Gwybodaeth i Dwristiaid yno. Ar hyn o bryd roedd y Cyngor yn gweithredu dwy Ganolfan Groeso, un yn y Rhyl a’r llall yn Llangollen.

·         nid oedd unrhyw gynllun i leihau lefel y gwasanaeth a oedd yn cael ei gynnig yng Nghanolfannau Croeso’r sir. Roedd Canolfannau Croeso hefyd yn gallu cynhyrchu incwm drwy archebion a gwerthiant llyfrau ac ati. Byddai gwybodaeth mewn perthynas â nifer yr ymweliadau â Chanolfannau Croeso bob blwyddyn yn cael ei darparu i aelodau.

·         roedd busnesau lleol eisoes yn cydweithio â Chanolfannau Croeso mewn perthynas ag archebion, nwyddau, pecynnau gweithgareddau ac ati, ond roedd darparwyr llety a oedd yn rhan o gadwyn yn dueddol o ddewis peidio â rhyngweithio’n rheolaidd â gwasanaethau archebu Canolfannau Croeso. <0} Byddai lle a chyfle bob amser i wella’r gwasanaethau a oedd yn cael eu cynnig.

·         roedd gan Ganolfannau Croeso a Mannau Gwybodaeth i Dwristiaid y sir gyfoeth o wybodaeth am bwyntiau o ddiddordeb a hanes y sir. Roedd staff y Gwasanaeth Llyfrgell yn gyfarwydd iawn â’u hardaloedd lleol ac roeddent bob amser yn barod i rannu gwybodaeth ag ymwelwyr er mwyn eu helpu i wneud y mwyaf o’u hamser a mwynhau eu profiad yn ymweld â’r ardal.

·         nid oedd tystiolaeth bod busnesau llety lleol yn codi eu prisiau pan yr oedd digwyddiadau maer ‘arbennig’ yn cael eu cynnal yn y sir. Fodd bynnag, gan eu bod yn fusnesau annibynnol, roedd ganddynt yr hawl i godi eu prisiau os oeddent yn dymuno gwneud hynny, roedd busnesau preifat yn cael eu llywio gan bwysau marchnad yn hynny o beth.

·         cafwyd cryn dipyn o gyllid ar gyfer prosiectau twristiaeth gan yr Undeb Ewropeaidd. O ganlyniad, roedd Croeso Cymru yn ceisio sicrwydd gan Lywodraethau Cymru a’r DU o ran cyllid ar gyfer y dyfodol yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Roedd sicrwydd cyllid y dyfodol ar gyfer twristiaeth, yn debyg i sawl maes arall, yn anhysbys.

·         byddai’r profiad drwy gydol y flwyddyn i ymwelwyr yn Sir Ddinbych a’r ardaloedd cyfagos yn targedu ymwelwyr dydd a nos o drefi cyfagos megis Lerpwl a Manceinion yn ogystal ag unigolion a grwpiau sydd eisiau treulio penwythnosau tawel neu benwythnosau yn mwynhau gweithgareddau awyr agored yn yr ardal. Cymysgedd o brofiadau gwariant uchel ac isel i ymwelwyr, ac

·         roedd Gogledd Cymru bellach yn dechrau datblygu ei hunaniaeth ei hun o ran twristiaeth, yn debyg iawn i Ardal y Llynnoedd. Prosiect twristiaeth y gaeaf oedd y tro cyntaf i’r rhanbarth cyfan gydweithio ar un prosiect penodol, felly roedd y prosiect hwn yn cael ei ystyried fel ‘glasbrint’ posibl ar gyfer y dyfodol.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl -

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y sylwadau uchod ac ar ddarparu’r wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani, derbyn y data a’r wybodaeth a ddarparwyd yn yr adroddiad a’r atodiadau cysylltiedig.

 

 

Dogfennau ategol: