Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DYLUNIAD NEWYDD ARFAETHEDIG Y GWASANAETH GWASTRAFF AC AILGYLCHU

Rhoi ystyriaeth i adroddiad ar y cyd gan Bennaeth Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd a Rheolwr Ailgylchu a Gwastraff (copi ynghlwm) ar y Gwasanaeth Ailgylchu a Gwastraff arfaethedig ynghyd ag adborth a chanfyddiadau’r ymgysylltu a gwblhawyd i hysbysu’r cynnig.

10.10 a.m.– 11.00 a.m.

 

Cofnodion:

Cyn i’r Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy gyflwyno'r adroddiad a’r atodiadau ar y Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu newydd arfaethedig (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol), cyflwynodd Kelly Thomas o Raglen Gweithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) Cymru i'r cyfarfod. Eglurwyd bod WRAP Cymru yn sefydliad a oedd yn gweithio gyda llywodraethau, busnesau a chymunedau i ddarparu datrysiadau ymarferol er mwyn gwella economi cynaliadwy ac effeithlon o ran adnoddau. Eglurodd yr Aelod Arweiniol bod Kelly Thomas wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor i ddatblygu’r model arfaethedig a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn ystod y cyfarfod.

 

Yn ystod ei gyflwyniad, dywedodd yr Aelod Arweiniol wrth yr aelodau bod llawer o sesiynau/ gweithdai wedi’u cynnal ar gyfer aelodau etholedig yn ystod datblygiad y model newydd arfaethedig, er mwyn ceisio eu barn a’u briffio ar yr angen i newid y model gwastraff ac ailgylchu presennol. Er bod Sir Ddinbych wedi llwyddo am flynyddoedd i gadw ei safle fel y Cyngor sy’n perfformio orau yng Nghymru mewn perthynas ag ailgylchu gwastraff y cartref, roedd targedau a disgwyliadau cenedlaethol yn newid. O dan strategaeth 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' Llywodraeth Cymru a gofynion statudol Mesur Gwastraff (Cymru) 2010, erbyn 2024/25 bydd disgwyl i awdurdodau lleol gynyddu’r swm o wastraff sy’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu a’i gompostio i 70%. Ar hyn o bryd, roedd Sir Ddinbych yn bodloni’r targed o 64% a osodwyd ar gyfer 2019/20, ond roedd ei berfformiad wedi aros yr un fath yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, os nad oedd yn gallu cyrraedd y targed o 70% erbyn 2024/25 byddai modd codi dirwy arno o hyd at £200 y dunnell ar bob tunnell yr oedd yn ei anfon i safle tirlenwi a oedd yn uwch na’i lwfans tirlenwi. Yn ychwanegol i'r newidiadau i dargedau cenedlaethol, roedd agwedd y cyhoedd tuag at gyfrifoldeb dynoliaeth tuag at y blaned a chenedlaethau’r dyfodol hefyd yn newid, felly roedd angen dulliau mwy effeithiol i gael gwared ar wastraff ac ailgylchu/ ailddefnyddio. O ystyried yr holl elfennau hyn, roedd y Cyngor, o dan y model newydd, yn cynnig -

 

·         newid amlder casgliadau gwastraff ailgylchadwy o bob pythefnos i bob wythnos

·         cynyddu capasiti casgliadau gwastraff ailgylchadwy drwy ddarparu system ddidoli ymyl y ffordd ‘trolibocs’.

·         ehangu’r gwasanaeth casglu tecstilau ac esgidiau i gynnwys y sir gyfan; cyflwyno casgliadau ymyl y ffordd ychwanegol ar gyfer offer trydanol ac electronig gwastraff (WEEE) a gwasanaeth casglu batris y cartref.

·         cyflwyno gwasanaeth casglu gwastraff hylendid dynol e.e. clytiau a chynhyrchion anymataliaeth ac ati, y gellir gofyn amdano, a

·         newid amlder y gwasanaeth caglu gwastraff gweddilliol presennol o bob pythefnos i bob pedair wythnos ar gyfer y mwyafrif o aelwydydd.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol, er nad oedd modd cyfrifo’r gost wirioneddol o gyflwyno’r model newydd ar hyn o bryd oherwydd graddau'r gwaith a oedd angen ei wneud i ail-fodelu depos y Cyngor i ymdrin â’r gwastraff a fyddai’n cael ei anfon atynt, oherwydd y grant cyfalaf sylweddol ar gael gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno’r gwasanaeth didoli ymyl y ffordd, roedd gan y model y potensial i leihau’r pwysau ar y gyllideb a oedd eisoes yn bresennol o fewn y gwasanaeth casglu presennol a oedd ar hyn o bryd yn cael ei gyllido gan gronfeydd wrth gefn. Yn ychwanegol, roedd y model newydd yn cyd-fynd â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ailgylchu a rheoli gwaredu gwastraff yn y dyfodol.

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r aelodau, bu i’r Aelod Arweiniol, Pennaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd, Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu’r Cyngor a chynrychiolydd WRAP Cymru nodi’r canlynol -

 

·         dywedwyd bod gan yr holl fudd-ddeiliaid rôl i’w chwarae er mwyn sicrhau bod y sir yn cyflawni’r targed ailgylchu o 70%. Bydd gan breswylwyr yn benodol rôl fwy i’w chwarae drwy’r cynllun didoli ymyl y ffordd, gan fod gan yr agwedd hon y potensial i gynyddu swm y gwastraff ailgylchadwy sy’n cael ei brosesu;

·         cadarnhawyd y byddai’r Cyngor yn ei chael hi’n anodd cynnal ei lefel bresennol o 64% mewn perthynas ag ailgylchu gwastraff yn y dyfodol oherwydd newidiadau i weithgynhyrchu cynnyrch. Roedd gan y model rheoli gwastraff newydd arfaethedig, a oedd yn cyd-fynd â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli gwastraff yn y dyfodol, y potensial i godi perfformiad y Cyngor i 70%, mynd i’r afael â phwysau cyllidebol o fewn y gwasanaeth a darparu buddion a chyfleoedd ar gyfer menter gymdeithasol leol a’i gweithwyr;

·         dywedwyd, er bod y system ailgylchu ‘bin glas’ cymysg wedi profi’n hynod boblogaeth ymhlith preswylwyr, gwelwyd tueddiad yn ddiweddar o unigolion yn rhoi gwastraff nad oedd modd ei ailgylchu yn y biniau hyn ac felly’n llygru’r ffrwd ailgylchu;

·         nodwyd eu bod o’r farn y byddai cyflwyniad y model gwastraff newydd yn cynyddu’r cyfraddau ailgylchu yn y rhanbarth o oddeutu 3.1%. Roedd hwn yn amcangyfrif ceidwadol, roedd ardaloedd eraill a oedd wedi cyflwyno systemau tebyg yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi llwyddo i gynyddu eu cyfraddau ailgylchu o oddeutu 8%. Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi nodi cynnydd o 14% o ran cyfanswm y gwastraff ailgylchadwy yr oedd yn ei gasglu yn dilyn cyflwyniad gwasanaeth casglu gwastraff gweddilliol bob 4 wythnos ar draws y sir, er hyn roedd ei berfformiad ailgylchu cyn y newid yn is na pherfformiad Sir Ddinbych;

·         dywedwyd mai’r prif gynnyrch nad oedd modd ei ailgylchu ar hyn o bryd oedd ffilm plastig, er hynny, roedd profion yn mynd rhagddynt er mwyn ceisio canfod datrysiad i’r broblem hon;

·         cadarnhawyd bod gan y Gwasanaeth dîm o bum unigolyn a oedd yn ymweld ag unigolion ac aelwydydd gyda’r bwriad o’u haddysgu ar sut i reoli eu gwastraff cartref yn briodol. Roedd y Swyddogion hyn, ar gyfartaledd, yn ymgymryd ag oddeutu 1,000 o ymweliadau bob chwarter. Pe bai’r model newydd yn cael ei gymeradwyo, byddai gan y swyddogion hyn rôl hanfodol i’w chwarae wrth gyfathrebu gofynion a buddion y dull newydd â phreswylwyr a landlordiaid. Byddai gan WRAP rôl allweddol i’w chwarae hefyd o ran y strategaeth gyfathrebu ar gyfer y model newydd arfaethedig.

·         dywedwyd os oedd bocs/ bin ailgylchu wedi’i lygru’n llwyr byddai swyddogion yn ymweld â’r aelwyd dan sylw i drafod y mater. Fodd bynnag, os mai dim ond ychydig eitemau oedd yn llygredig o fewn y bocs, byddai’r eitemau hynny’n cael eu gadael ar ôl er mwyn i’r unigolyn gael gwared arnynt yn y ffordd briodol.

·         dywedwyd bod Bwrdd Prosiect Gwastraff wedi’i sefydlu i oruchwylio ymchwil a chyflwyniad y model gwastraff newydd arfaethedig. Roedd y Bwrdd yn cyfarfod bob pythefnos. Un o’r eitemau sefydlog ar y rhaglen oedd ‘cyfathrebu’ gan fod y Bwrdd, yn fuan iawn ar ôl sefydlu, wedi nodi pwysigrwydd cyfathrebu’r negeseuon cywir i breswylwyr cyn cyflwyno’r model newydd.

·         rhoddwyd gwybod i aelodau bod effaith y newid arfaethedig i’r model darparu gwasanaethau ar breswylwyr ac ar enw da’r Cyngor wedi’i nodi’n fuan yn ystod y broses gan fod ganddo’r potensial i gyfrannu tuag at egwyddor Datblygu Cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. O ystyried nodau ac amcanion y Ddeddf, cynhaliwyd Asesiad o Effaith ar Les ac fe adolygwyd y casgliadau gan Banel ‘Cyfeillion Beirniadol’, sef panel traws-wasanaeth mewnol. Roedd y Panel hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o lawer o wasanaethau a oedd wedi archwilio pob agwedd o’r Asesiad o Effaith ar Les a dyluniad y cynwysyddion;

·         dywedwyd er bod peth dryswch ymhlith y cyhoedd o ran pa eitemau oedd yn ailgylchadwy, byddai’r Cyngor yn cynghori unigolion i roi pob dim heblaw cynwysyddion plastig du yn y bin ailgylchu. Dywedwyd nad oedd modd ailgylchu pecynnau plastig du a ffilm plastig ar hyn o bryd. Roedd llawer o weithgynhyrchwyr yn ceisio lleihau eu defnydd o blastig du nes bo modd dylunio technoleg i’w wahanu oddi wrth liwiau eraill.

·         cadarnhawyd bod potiau, tybiau a hambyrddau plastig i gyd yn cael eu derbyn gan weithgynhyrchwyr yn y DU a oedd yn ymdrin â gwastraff ailgylchadwy. Fodd bynnag, un o brif fanteision y model gwastraff newydd arfaethedig oedd ei botensial i ddarparu deunyddiau i’w hailgylchu o ansawdd gwell i weithgynhyrchwyr yn y DU eu defnyddio.

·         dywedwyd bod gwastraff ailgylchu Sir Ddinbych ar hyn o bryd yn cael ei anfon i Felin Bapur Shotton, lle roedd yn cael ei drefnu a’i werthu i weithgynhyrchwyr. Roedd gweithredwyr y Felin yn chwilio’r farchnad yn rheolaidd er mwyn ceisio cael y pris gorau am y ‘gwastraff’ a oedd yn cael ei werthu.

·         cadarnhawyd y byddai’r gwasanaeth casglu gwastraff hylendid dynol arfaethedig yn wasanaeth wythnosol, rhad ac am ddim y gellir gofyn amdano. Byddai aelwydydd yn cael gymaint o gynhwysedd a oedd ei angen ar gyfer y gwasanaeth hwn;

·         dywedwyd bod manylion ynglŷn â'r cynwysyddion a ddarperir, amlder casgliadau, dull casglu, capasiti wythnosol a’r gweithdrefnau rheoleiddio a oedd yn gysylltiedig â phob math o gasgliad, i’w cael yn Atodiad I [A] i'r adroddiad.

·         dywedwyd bod ymarferoldeb cyflwyno gwasanaeth casglu ‘gwastraff anifeiliaid anwes’ wedi’i archwilio ar gais cynghorwyr. Fodd bynnag, daeth yn amlwg y byddai cyflwyno gwasanaeth arbennig yn gostus ac felly ni fyddai’n ddefnydd cost effeithiol o adnoddau. Roedd hefyd pryderon o ran iechyd a diogelwch yn ymwneud â gweithwyr gwasanaeth mewn perthynas â’r math hwn o ddarpariaeth arbennig. Nid oedd gan unrhyw ardal awdurdod lleol yn y DU yn wasanaeth casglu ‘gwastraff anifeiliaid anwes’ arbennig ar hyn o bryd. Roedd Swyddogion o’r farn y byddai’n fwy 'cost-effeithiol’ i roi ‘gwastraff anifeiliaid anwes’ yn y sachau gwastraff gweddilliol yn hytrach na’i gasglu ar wahân. Nid oeddent yn rhagweld y byddai ‘gwastraff anifeiliaid anwes’ yn broblem fawr. Os oedd unigolion yn dymuno cael gwared ar unrhyw aroglau a oedd yn cael ei achosi gan wastraff anifeiliaid anwes, dywedodd y swyddogion y dylid rhoi’r gwastraff mewn bagiau plastig yn hytrach na bagiau pydradwy ac yna eu rhoi yn y sach gwastraff gweddilliol. Fodd bynnag, byddai hyn yn benderfyniad i’r unigolyn.

·         dywedwyd y dylai aelwydydd a oedd ddim ond â gwastraff AHP yn achlysurol, hynny yw pan fo babanod ac ati yn ymweld, byddai modd iddynt roi’r gwastraff gyda’r gwastraff gweddilliol yn hytrach na chael bin AHP ar gyfer casgliadau rheolaidd.

·         dywedwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i archwilio a oedd modd i aelwydydd, nad oedd â biniau olwynion oherwydd problemau mynediad, gael sachau diogel rhag wylanod/ anifeiliaid ar gyfer gwastraff ailgylchu a gweddilliol, a fyddai o gymorth i gadw’r sachau untro a gyflwynir â’i gilydd. Roedd gwaith hefyd yn mynd rhagddo i ddylunio datrysiadau ymarferol ar gyfer eiddo lle na fyddai’n bosibl gweithredu model ‘darpariaeth gwasanaeth safonol’ e.e. yr eiddo a wasanaethir gan ardaloedd storio biniau cymunedol. Pe bai’r treialon hyn yn llwyddiannus, byddai cyflwyno sachau a/neu gynwysyddion i nifer fawr o’r aelwydydd hyn ar draws y sir, yn enwedig yr aelwydydd hynny sy'n defnyddio cyfleusterau gwastraff cymunedol, yn cynyddu cyfraddau ailgylchu, yn ogystal â chyflwyno cadis gwastraff bwyd ynghyd â gorfodaeth i gydymffurfio â’r gwasanaeth gwastraff bwyd. Yn ychwanegol, cyhoeddodd

·         cadarnhawyd bod y cynnig Llywodraeth Cymru yn ddiweddar bod cyllid ar gael ar gyfer materion cyfathrebu gwastraff bwyd ac ailgylchu. Pe na bai modd canfod datrysiadau priodol i storio gwastraff gweddilliol yn ddiogel am 4 wythnos mewn rhai ardaloedd, byddai’r Gwasanaeth yn trefnu casgliadau yn amlach. ar gyfer casglu gwastraff gweddilliol bob pedair wythnos ac nid bob mis.

·         cydnabuwyd bod rhai eiddo, gyda mynediad cyfyngedig at gefn eu tai, yn tueddu i gadw eu biniau ar olwynion ac ati yn eu gerddi blaen. Roedd yr arfer hwn, a oedd yn broblem ar draws y wlad, yn hyll ac nid oedd yn helpu wrth hyrwyddo’r ardal leol i ymwelwyr a busnesau. Roedd y Cyngor ar hyn o bryd yn ceisio archwilio opsiynau ar gyfer atal hyn er mwyn gwella’r amgylchedd lleol. Pe bai eiddo â ierdydd hygyrch yn y cefn, gallai’r Cyngor ystyried cynnig gwasanaeth y codir tâl amdano i landlordiaid os ydynt yn cael problem â thenantiaid sy’n gwrthod cymryd cyfrifoldeb dros eu biniau er mwyn eu cyflwyno ger pwyntiau casglu swyddogol ar ymyl y ffordd. Byddai’r gwasanaeth hwn yn casglu’r biniau o bwyntiau mynediad hygyrch yn y cefn a byddai’r Cyngor hefyd yn gweithio gyda landlordiaid i lunio datrysiadau priodol.

·         dywedwyd bod yr ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd a gynhaliwyd, ‘Ailgylchu Mwy, Gwastraffu Llai,’ a’r sesiynau galw heibio cysylltiedig wedi tynnu sylw at y ffaith fod preswylwyr yn ei chael hi’n anodd ailgylchu mwy gan fod y biniau ailgylchu cymysg glas yn llawn yn bell cyn y diwrnod casglu bob pythefnos, ond roedd hyn yn llawer llai cyffredin yn achos y biniau gwastraff gweddilliol. Roedd preswylwyr hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith y byddent yn croesawu’r cyfle i ailgylchu ystod ehangach o eitemau. Roedd y model newydd arfaethedig yn mynd i’r afael â’r awydd hwn. Byddai’r system ‘trolibocs' yn rhoi'r cyfle i breswylwyr ailgylchu hyd at 35 litr yn ychwanegol yr wythnos, gyda gwasanaethau casglu ychwanegol yn cael eu darparu ar gyfer AHP, WEEE a batris bychain.

·         dywedwyd bod y gyfradd ymateb i’r arolwg ymgynghoriad cyhoeddus, cafwyd cyfanswm o 2,450 arolwg, yn gadarnhaol, ac er nad oedd nifer fawr wedi mynychu’r sesiynau galw heibio, roedd y rhai a oedd wedi mynychu wedi bod yn gefnogol iawn o’r dull i gynyddu’r lefelau ailgylchu.

·         cadarnhawyd, yn rhan o’r casgliad gwastraff ailgylchu, y byddai sach y gellir ei hailddefnyddio a’i hatodi at handlen y ‘trolibocs’ yn cael ei darparu er mwyn ailgylchu cardfwrdd brown.

·         dywedwyd y byddai bocsys duon ar gyfer y ‘trolibocs’ yn rhatach i’w prynu na rai lliw a chytunwyd ag aelodau y byddai'r rhain yn llai amlwg os oedd rhaid eu storio y tu blaen i’r tŷ. Fodd bynnag, efallai y byddai’n rhaid rhoi caeadau gwahanol liw ar y bocsys er mwyn helpu unigolion sydd â nam ar eu golwg i wahaniaethu rhwng y bocsys a’r hyn y dylid ei roi ym mhob bocs. Fel arall byddai modd darparu bocsys gwahanol liw ar gais i’r aelwydydd hynny a oedd eu hangen.

·         dywedwyd, pe bai’r model newydd yn cael ei gymeradwyo, byddai modd i aelwydydd wneud cais am fin gwastraff gweddilliol mwy os oedd angen. Fodd bynnag, rhagwelwyd na fyddai gan bob aelwyd angen bin gwastraff gweddilliol mwy os oeddent yn cadw at y polisi ailgylchu, er enghraifft eiddo ag un unigolyn yn byw ynddo.

·         cadarnhawyd y byddai gwasanaeth â chymorth yn parhau ar gyfer preswylwyr nad oedd yn gallu rhoi eu biniau o flaen eu heiddo am resymau corfforol. Er hynny, mewn aelwydydd lle'r oedd unigolion abl hefyd yn byw, byddai disgwyl iddynt roi eu cynwysyddion gwastraff allan i’w casglu. Byddai hyn yn cynnwys eiddo mewn ardaloedd gwledig.

·         dywedwyd na fyddai’n ariannol hyfyw i ganiatáu i breswylwyr a oedd yn dymuno parhau â’r system ailgylchu bresennol i dalu am gael parhau i ddefnyddio’r system ‘bin glas’, gan y byddai hyn yn golygu anfon lorïau gwahanol i gasglu’r gwastraff.

·         dywedwyd na ddylai’r system ‘trolibocs’ arfaethedig arwain at focsys trymach na’r bin glas presennol, gan y byddai’r gwastraff yn cael ei gasglu bob wythnos yn hytrach na phob pythefnos ac roedd ‘gwastraff bwyd' yn drymach na unrhyw wastraff arall. Pe bai defnydd o’r system casglu ‘gwastraff bwyd’ yn cael ei orfodi yn llym, byddai hyn yn lleihau swm y gwastraff bwyd sydd yn ein system gwastraff gweddilliol. Byddai gorfodaeth i gydymffurfio â’r system ailgylchu ‘gwastraff bwyd’ yn lleihau swm a phwysau’r gwastraff gweddilliol a’r posibilrwydd i wastraff gweddilliol achosi arogleuon amhleserus ac ati.

·         pwysleisiwyd bod derbyn y cyllid cyfalaf o £7m gan Lywodraeth Cymru yn ddibynnol ar y Cyngor yn mabwysiadu model gwastraff ac ailgylchu Llywodraeth Cymru gyda’r bwriad o gyflawni ei dargedau ailgylchu a thirlenwi uchelgeisiol. pwysleisiwyd bod derbyn y cyllid cyfalaf o £7m gan Lywodraeth Cymru yn ddibynnol ar y Cyngor yn mabwysiadu model gwastraff ac ailgylchu Llywodraeth Cymru gyda’r bwriad o gyflawni ei dargedau ailgylchu a thirlenwi uchelgeisiol. Hyd yma, roedd y Cyngor wedi dewis peidio â newid ei system, ond byddai’r cyllid cyfalaf ar gael yn cefnogi’r costau cysylltiedig ag ailfodelu’r depos gwastraff ac ailgylchu er mwyn gweithredu’r model newydd. Nid oedd prisiadau manwl yn ymwneud â chostau ailddatblygu a gweithredu’r depos (neu weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau cyfagos) wedi’u cyfrifo eto gan fod angen cefnogaeth yr aelodau ar gyfer y model newydd arfaethedig yn gyntaf, cyn symud ymlaen i gyfrifo’r costau. Pe bai’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet yn gefnogol o’r cynigion byddai costau manwl yn cael eu llunio. Roedd cyfarfod wedi’i drefnu rhwng cynrychiolwyr y Cyngor a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru i drafod cyllid cyfalaf cyn cyflwyno’r cynnig ger bron y Cabinet ym mis Rhagfyr 2018.

·         dywedwyd bod gan y model newydd arfaethedig nifer fawr o fanteision yn gysylltiedig ag ef, yn ogystal â denu swm sylweddol o gyllid cyfalaf. Byddai’n gwella cyfraddau ailgylchu’r, ehangu’r mathau o ailgylchu oedd ar gael i breswylwyr, lleihau’r risg ariannol i’r Cyngor o ran bod yn gyfrifol am dalu ffioedd safleoedd tirlenwi a chosbau, cefnogi gwaith menter gymdeithasol leol a hybu’r economi lleol drwy greu oddeutu 18 swydd newydd. Byddai hefyd yn sicrhau bod gweithwyr presennol yn cael eu hail-hyfforddi neu'n dysgu sgiliau newydd er mwyn darparu’r gwasanaeth newydd. Roedd staff y gwasanaeth yn ymwybodol o’r cynigion

·         dywedwyd bod y ddarpariaeth o gyfleusterau ailgylchu cymunedol ar y cyfan yn cynhyrchu cynnyrch ailgylchu o ansawdd isel oherwydd lefelau halogiad y cynwysyddion.

·         cadarnhawyd bod Llywodraeth Y DU ar hyn o bryd yn ystyried manteision cynllun blaendal a dychwelyd.

·         dywedwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer rhaglen newid ymddygiad cenedlaethol gyda’r bwriad o annog cydymffurfedd â gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu. Roedd ymgyrch lleihau gwastraff eisoes wedi’u datblygu’n dda ac ar gael i’r awdurdod lleol eu defnyddio a’u lleoli. Un enghraifft o’r math hwn o newid ymddygiadol oedd y prosiect Caru Bwyd, Casáu Gwastraff. Roedd WRAP Cymru yn gweithio’n agos gyda sawl awdurdod lleol ar hyn o bryd i geisio lleihau gwastraff.

·         cydnabuwyd bod archfarchnadoedd ac ati’n defnyddio llawer o becynnau plastig, yn enwedig mewn perthynas â bwyd sy’n medru mynd yn ddrwg. Fodd bynnag, nid oedd o fewn gallu’r Cyngor i newid eu harferion. Byddai’n rhaid rhoi pwysau arnynt yn genedlaethol ac yn fewnol er mwyn newid arferion o’r fath. Roedd WRAP yn gweithio’n strategol ag archfarchnadoedd ar lefel genedlaethol i leihau pecynnau plastig diangen. Roedd Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am gael gwared ar gynhyrchion gwastraff o aelwydydd neu safleoedd busnes / manwerthu.

·         cadarnhawyd, o dan y Polisi Gwastraff ac Ailgylchu i gefnogi’r newid gwasanaeth arfaethedig, y byddai tâl yn cael ei godi am ddarparu bin gwastraff gweddilliol newydd i gyfeiriad nad oedd yn meddu ar fin gwastraff neu i eiddo newydd. Fodd bynnag, byddai deiliad y tŷ yn cael bin gwastraff gweddilliol mwy am ddim os y gofynnir amdano o ganlyniad i’r newid gwasanaeth arfaethedig a byddai hefyd yn cael cyfnod prawf er galluogi iddo benderfynu a oes ganddo angen y bin yn hirdymor. Felly, ni fyddai’r ffi yn dod i rym ar unwaith, byddai’n beth amser ar ôl cyflwyno’r newid gwasanaeth.

·         dywedwyd y byddai’r holl finiau glas a’r biniau duon llai yn cael eu casglu a’u hailgylchu os nad oedd deiliad y tŷ am eu cadw.

·         cadarnhawyd, ar hyn o bryd, nad oedd gan y Gwasanaeth unrhyw fewnbwn i’r broses cais cynllunio a/ neu rheoli adeilad mewn perthynas â darparu ardal storio biniau gwastraff ar gyfer tai newydd neu tai wedi’u hailwampio. Serch hynny, roedd hon yn agwedd yr oedd swyddogion yn dymuno mynd i’r afael â hi gyda chydweithwyr y Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, gan eu bod yn credu bod gan yr ‘amodau’, a oedd wedi eu cynnwys yn y broses caniatâd cynllunio, y potensial i warchod a gwella’r amgylchedd lleol, a

·         chadarnhawyd y byddai’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd taladwy y gellir gofyn amdano yn parhau'r un fath pe bai’r model newydd yn cael ei gymeradwy gan fod y gwasanaeth taladwy yn cyd-fynd â Glasbrint Casglu Gwastraff y Llywodraeth.

 

Holodd yr Aelodau a fyddai modd ailgylchu plastig ‘du’ gan fod gwastraff amaethyddol, megis y plastig du a ddefnyddir i lapio beliau, yn cael ei gasglu gan gontractwyr preifat o ffermydd a’i ailgylchu i greu meinciau, pyst ffensio a llochesau anifeiliaid ac ati. Canmolwyd y defnydd a wnaed o’r gwastraff bwyd a ailgylchwyd gan BioGen yn y sir, defnyddiwyd y gwastraff i gynhyrchu trydan a rhoddwyd y sgil-gynhyrchion ar dir amaethyddol fel gwrtaith. Pwysleisiwyd y pwysigrwydd o gael strategaeth gyfathrebu effeithiol ar waith yn ystod camau cynllunio a gweithredu’r prosiect, gyda gohebiaeth reolaidd a chlir yn cael ei hanfon at breswylwyr gan ddefnyddio'r holl lwyfannau cyfathrebu sydd ar gael at y diben hwn, yn cynnwys addysgu disgyblion y sir ar y system sy’n cael ei chyflwyno yn y gobaith y bydd y disgyblion hyn yn llwyddo i berswadio eu teuluoedd i gydymffurfio â gofynion y system. Dywedwyd y byddai taflen yn cael ei hanfon i bob eiddo cyn y Nadolig i hyrwyddo’r manteision o ailgylchu gwastraff bwyd.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol bod gan y model gwastraff ac ailgylchu newydd arfaethedig hwn y potensial i newid bywydau preswylwyr ac i newid y Cyngor a’r amgylchedd. Roedd Fframwaith Cynllun Cyfathrebu eisoes wedi’i ddatblygu gan ragweld cymeradwyaeth yr aelodau i symud ymlaen â gwaith pellach mewn perthynas â’r prosiect. Cytunodd yr Aelod Arweiniol i dreialu’r cynllun yn bersonol ac fe estynnodd wahoddiad i aelodau’r Pwyllgor ymuno ag ef os oeddent yn dymuno gwneud hynny.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, awgrymodd y Pwyllgor y byddai o bosib yn ddefnyddiol, pe bai’r model newydd yn cael ei roi ar waith, i breswylwyr gael fideo yn dangos y camau yn nhaith deunydd ailgylchadwy, gan y byddai hyn o bosib yn tynnu sylw unigolion at bwysigrwydd ailgylchu gwastraff a phwysigrwydd eu rôl yn y broses.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

 (a)      cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad II i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau;

 

 (b)      nodi bod yr arbedion refeniw presennol rhagamcanedig o £807,000 (Adran 6.2 o’r adroddiad), yn gyflawnadwy o weithredu'r dyluniad gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu arfaethedig, yn uwch nag unrhyw opsiwn arall a fodelwyd;

 

 (c)       nodi’r manteision cymdeithasol (Atodiad III [2] i’r adroddiad) a'r goblygiadau ariannol (Adran 6.3 o’r adroddiad) o ddefnyddio'r trydydd sector ar gyfer casglu tecstilau a WEEE (Offer Trydanol ac Electronig Gwastraff), ac argymell y parhad ac ehangiad trefniant gyda Menter Gymdeithasol o Sir Ddinbych ar gyfer casglu, ailddefnyddio ac ailgylchu'r deunyddiau hyn;

 

 (d)      cymeradwyo'r Dyluniad Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Newydd Arfaethedig fel yr amlinellir yn Atodiad I [A] i weithredu Glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer Casgliadau Gwastraff ac i alinio isadeiledd casgliadau ailgylchu gyda'r pum Awdurdod arall yng Ngogledd Cymru;

 

 (e)      nodi bod y Polisi Casglu Gwastraff Cartrefi drafft (Atodiad I [B] i’r adroddiad) wedi'i ddylunio i gefnogi gweithredu a rheoleiddio'r gwasanaeth arfaethedig er mwyn bodloni arbedion refeniw a thargedau amgylcheddol;

 

 (f)        nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cefnogaeth cyllid cyfalaf o £4m yn 2019/20 a £3m pellach ar 2020/21 ar gyfer gweithredu casgliadau didoli ar garreg y drws, a gofyn i'r Pennaeth Priffyrdd a'r Amgylchedd barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a WRAP i sicrhau'r holl gronfeydd cyfalaf ychwanegol sydd eu hangen i weithredu'r Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu newydd;

 

 (g)      gofyn i’r Pennaeth Priffyrdd a'r Amgylchedd gyflwyno adroddiad i'r Cabinet cyn gynted â phosibl (yn amodol ar gyflawni penderfyniad (f) uchod) i argymell gweithredu'r Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu newydd a amlinellir yn Atodiad I i’r adroddiad, a

 

 (h)      cheisio bod adroddiad pellach yn cynnwys gwybodaeth fanwl am y Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Newydd Arfaethedig, yn cynnwys gwybodaeth am ddyluniad gwasanaeth, gofynion ad-drefnu depo, costau dangosol, argaeledd cyllid, a manylion am y strategaeth gyfathrebu arfaethedig, yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ystod ei gyfarfod ym mis Mai 2019.

 

Ar y pwynt hwn (12.05 p.m.) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: