Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

BARGEN DWF AR GYFER ECONOMI GOGLEDD CYMRU: DOGFEN GYNNIG

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth Cyhoeddus (copi ynghlwm) Gofyn i'r Cyngor fabwysiadu'r Ddogfen Cynnig ac awdurdodi'r Arweinydd i ymrwymo'r Cyngor, ochr yn ochr â'i bartneriaid, i ddod i gytundeb Penaethiaid Termau gyda'r llywodraethau yn y DU a llywodraethau Cymru.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, yr adroddiad yn argymell fod y Cyngor yn mabwysiadu Dogfen Gynnig ac awdurdodi’r Arweinydd i ymrwymo’r Cyngor i gytuno ar Benawdau Telerau â’r Llywodraethau, ar y cyd ag arweinwyr gwleidyddol a phroffesiynol y naw partner statudol arall sydd â chynrychiolaeth ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a Chyngor Busnes Gogledd Cymru, Mersi a Dyfrdwy.

 

Darparwyd gwybodaeth gefndir ynglŷn â chymeradwyaeth cydweithrediadau yn flaenorol er mwyn mabwysiadu’r Weledigaeth Dwf a datblygu Cynnig Bargen Dwf ar gyfer y rhanbarth. Roedd y Ddogfen Gynnig yn nodi’r rhaglenni blaenoriaeth ar gyfer gweithgaredd a phrosiectau i’w hystyried ar gyfer eu cynnwys yn y Fargen Dwf yng ngham Penawdau'r Telerau ac roedd yn gofyn am gymeradwyaeth gan y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru. Pwysleisiodd yr Arweinydd nad oedd mabwysiadu yn ymrwymo’r Cyngor i wneud unrhyw fuddsoddiad ariannol ei hun ar y cam hwn, ac roedd yn amodol ar risgiau a manteision ariannol y Fargen Dwf derfynol.

 

Dadleuodd yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr mai'r Ddogfen Gynnig oedd y cyfle gorau i ehangu economi Gogledd Cymru a chystadlu â rhanbarthau eraill gan dynnu sylw at yr effaith bosibl ar Sir Ddinbych yn benodol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod gan Sir Ddinbych gyfle gwych, drwy’r Fargen Dwf, i sicrhau buddsoddiad yn y meysydd a nodwyd yn y Cynllun Corfforaethol gan gynnwys cludiant, digidol, datblygu busnes a dysgu sgiliau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Mae aelodau wedi eu harwain gan adran yr Economi a’r Parth Cyhoeddus drwy'r Ddogfen Gynnig a’r pwyntiau perthnasol.   

 

Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol:

·         roedd angen amlygu’r effaith ar ardaloedd gwledig ac roedd trafodaethau yn mynd rhagddynt yn hynny o beth.  

·         cyfeiriwyd at yr anawsterau o ran rhagweld y goblygiadau ariannol o ystyried nad yw nifer na chost y prosiectau wedi’u cymeradwyo eto, cyfraniadau partneriaid eraill a rhagdybiaethau y gall rhai prosiectau greu refeniw - o ganlyniad darparwyd ystod o amcangyfrifon gyda chafeatau trwm a chost rhwng £130k - £320k ar gyfer Sir Ddinbych yn dibynnu ar ystod o amrywiaethau a thros gyfnod o bymtheg mlynedd gallai hyn amrywio o ddim costau i dros £1m o gostau - o ystyried yr ansicrwydd hwn dylid nodi’r goblygiadau ariannol.

·         pe bai’r Cynnig yn llwyddiannus byddai manylion yr ymrwymiadau ariannol, sy’n ofynnol gan awdurdodau lleol unigol er mwyn bod yn rhan o’r Fargen Dwf, yn debygol o ddod yn hysbys mor gynnar â Chwefror/Mawrth 2019 a byddai’n dibynnu ar y swm a sicrhawyd drwy fuddsoddiad y Llywodraeth.

·         amlygwyd pwysigrwydd a graddfa ymwneud y sector preifat a buddsoddiad yn y Fargen Dwf, a nodwyd fod trafodaethau gyda'r sector preifat yn parhau yn y cyswllt hwn. Roedd cynrychiolydd sector preifat ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac roedd Grŵp Rhanddeiliad wedi’i sefydlu yn cynnwys y sector preifat i hybu disgwyliadau.

·         roedd prosiectau o flaenoriaeth yn y Ddogfen Gynnig ar hyn o bryd yn cael eu hasesu a byddent yn ddibynnol ar drafodaethau pellach gyda Llywodraethau Cymru a'r DU.  Er y byddai'n rhy hwyr i gyflwyno unrhyw brosiectau newydd fel rhan o'r Fargen Dwf, fe allent o bosib gael eu hystyried fel rhan o'r Cynnig Twf.

·         mynegwyd pryderon o ran technoleg niwclear a chadarnhawyd nad oedd Prosiect Wylfa yn rhan o’r Fargen Dwf a bod y Rhaglen Mynediad at Ynni SMART yn cynnwys pecyn o brosiectau a oedd yn derbyn y byddai technoleg niwclear yn rhan o gynhyrchiant ynni’r DU ond a oedd hefyd yn cydnabod y prosiectau carbon isel a oedd yn cael eu dwyn ymlaen. Roedd y ddau brosiect niwclear yn ymwneud â Gorsaf Bŵer a Chanolfan Ragoriaeth Niwclear Trawsfynydd yn cyfrif am oddeutu £38.6m o’r £335m o fuddsoddiad cyfalaf a geisiwyd gan y ddwy Lywodraeth, ac felly ni ystyriwyd fod tuedd gormodol tuag at ynni niwclear.

·         roedd adroddiadau tebyg wedi eu cyflwyno i sesiynau Briffio’r Cyngor a’r Cyngor ymhob un o’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru i sicrhau cysondeb ar draws y rhanbarth.

·         mae yna Strategaeth Ddigidol Gogledd Cymru mewn grym – byddai un rhan yn cael ei chynnwys o fewn y Cynnig Twf, ond mae prosiectau eraill ar y gweill ac fel rhanbarth y Rhwydweithiau Ffibr Llawn Lleol fyddai’n dod o dan gyllid Llywodraeth y DU. 

 

PENDERFYNWYD:

(i)            bod y cyngor yn mabwysiadu’r Ddogfen Gynnig fel (1) y sail ar gyfer strategaeth ranbarthol fwy hirdymor ar gyfer twf economaidd a (2) y cynnig rhanbarthol ar gyfer rhaglenni a phrosiectau â blaenoriaeth, a fydd yn sail ar gyfer cynnwys y Fargen Dwf a lunnir wrth gytuno ar Benawdau Telerau gyda’r Llywodraethau. 

Nid yw mabwysiadu’r ddogfen yn ymrwymo’r cyngor i wneud unrhyw fuddsoddiad ariannol ei hun ar y cam hwn, ac mae’n amodol ar nodi risgiau ariannol a manteision y Fargen Dwf derfynol yn fanwl i’w hystyried yn llawn cyn cyflwyno’r Fargen derfynol i’w chymeradwyo yn ddiweddarach.

(ii)          Awdurdodi’r Arweinydd i ymrwymo’r Cyngor i gytuno ar Benawdau Telerau â’r  Llywodraethau, ar y cyd ag arweinwyr gwleidyddol a phroffesiynol y naw partner statudol arall sydd â chynrychiolaeth ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a Chyngor Busnes Gogledd Cymru, Mersi a Dyfrdwy, gyda’r Ddogfen Gynnig yn gosod y ffiniau ar gyfer y Cytundeb Penawdau Telerau.

 

 

 

Dogfennau ategol: