Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Cofnodion:

Dim eitemau brys.

 

Ar y pwynt hwn cafodd aelodau wybod y byddai dau gwestiwn yn cael eu rhoi gerbron fel a ganlyn:

 

(i)            Cododd y Cynghorydd Rhys Thomas y cwestiwn canlynol:

 

“Ysgrifennodd y Cyngor hwn yn ddoeth at yr Adran Waith a Phensiynau yn gofyn am ohirio cyflwyno Credyd Cynhwysol o ganlyniad i'r anawsterau technegol niferus a oedd eisoes wedi eu tanlinellu. Yr wythnos hon, mae’r Llywodraeth yn gorfod gohirio cyflwyno Credyd Cynhwysol i’r rhai sydd eisoes ar fudd-daliadau am yr union resymau y rhoesom ni fel Cyngor.

 

Oes gan y Cyngor unrhyw dystiolaeth fod caledi wedi ei achosi i unrhyw rai o’n dinasyddion o ganlyniad i gyflwyno Credyd Cynhwysol yn Sir Ddinbych?"

 

Ymateb gan yr Aelod Arweiniol dros Safonau Corfforaethol, Y Cynghorydd Mark Young:

 

“Mae pwnc Credyd Cynhwysol wedi ymddangos yn helaeth yn y wasg genedlaethol ond fe fyddaf yn ymateb gyda chipolwg o’r broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol ar draws ein hawdurdod. Rydym ni nid yn unig yn gofalu am bobl sydd wedi eu heffeithio gan hyn ond drwy sefydlu Sir Ddinbych yn Gweithio rydym yn helpu pobl i gael gwaith a gwella eu sgiliau er mwyn cael gwell swyddi. Rydym yn mabwysiadu ymagwedd wydn o ran cefnogi pobl. Diolchwyd i Mel Evans (Prif Reolwr, Cyflogaeth Strategol) a’i thîm.

 

Fel y gwyddoch, cyflwynwyd y cynllun i gyflwyno Credyd Cynhwysol i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 17 Mai 2018. Roedd yn canolbwyntio ar effeithiau tebygol cyflwyno Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol ar wasanaethau’r Cyngor, preswylwyr y Sir a’r gwaith cynllunio a pharatoi a wnaed hyd yma.  Trafododd Aelodau'r pwnc gyda nifer o Aelodau'n gwneud sylwadau ar werth yr adroddiad. Gofynnodd Aelodau am gyfleu eu diolchgarwch a’u llongyfarchiadau i'r holl bartneriaid fu'n ymwneud â'r ymagwedd ragweithiol a gymrwyd i reoli effaith cyflwyno Credyd Cynhwysol yn Sir Ddinbych.

 

Roedd Craffu wedi gofyn am:

·         Barhau i gefnogi gwaith parhaus y Bwrdd Credyd Cynhwysol i ddeall a rheoli’r effeithiau ar wasanaethau’r Cyngor a phreswylwyr Sir Ddinbych o ganlyniad i gyflwyno Credyd Cynhwysol ac

·         Oni bai fod pryderon yn haeddu ystyriaeth gynharach i ofyn fod adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ymhen 12 mis ar effaith cyflwyno Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol ar breswylwyr a Gwasanaethau’r Cyngor. Hefyd bod yr adroddiad yn cynnwys manylion unrhyw wersi a ddysgwyd o’r cyflwyno cychwynnol a bod trosolwg o’r gwaith ar y gweill i liniaru'r effaith ar y Cyngor a’r preswylwyr yn sgil symud y rhai sy’n derbyn budd-dal ar hyn o bryd i drefn Credyd Cynhwysol maes o law.

Mae Tîm Prosiect Credyd Cynhwysol wedi bod yn gweithio gyda Phartneriaid a Gwasanaethau i fonitro effaith Credyd Cynhwysol a dyma rai ffeithiau allweddol:

·            Mae dros 2,500 o gwsmeriaid Sir Ddinbych nawr wedi symud i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol ers Ebrill 2018.

·            Mae Cyngor ar Bopeth a’r gwasanaethau Llyfrgell wedi gweld cynnydd yn niferoedd y cwsmeriaid y maent yn eu cefnogi (ond o fewn ein hadnoddau, ac mae’r galw yn cael ei ddiwallu).

·            Roedd uno staff CSDd a staff CAB sy’n gweithio mewn Canolfannau Gwaith yn gweithio’n hynod effeithiol (gyda dros 500+ o gwsmeriaid wedi cael cymorth i gael mynediad i wasanaethau'r cyngor a chefnogaeth).

·            Mae’r Bwrdd Credyd Cynhwysol yn parhau i gyfarfod gan fonitro unrhyw effaith weithredol (roedd y cam rhagweithiol o sefydlu’r Bwrdd hwn naw mis cyn i Gredyd Cynhwysol gael ei gyflwyno yn Sir Ddinbych o gymorth mawr).

·            Gweithio’n agos gyda CLlLC ac Awdurdodau eraill Cymru i rannu’r arfer gorau.

 

Ychydig o wybodaeth allweddol ar Gredyd Cynhwysol mewn perthynas â Thai Sir Ddinbych:

·         Mae 181 o denantiaethau wedi symud i Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd.  

Daeth Tai hefyd yn bartner dibynadwy gyda'r Adran Waith a Phensiynau ganol Awst 2018 (mae hyn wedi gwella'r broses o ymgeisio am daliadau uniongyrchol i amddiffyn tenantiaid diamddiffyn).

·         Cysylltir â'r holl denantiaid unwaith y mae costau tai wedi eu cadarnhau gyda’r Adran Waith a Phensiynau i asesu a oes angen unrhyw gymorth ychwanegol (cyllidebu ayb.)

·         Roedd y nifer o achosion y mis ar ben uchaf ein rhagamcanion cychwynnol.

·         Yn hollbwysig nid oedd Gorfodaeth Llys wedi cynyddu o fewn Tai CSDd ers gweithredu Credyd Cynhwysol felly mae Swyddogion a Phartneriaid CSDd i’w canmol yn fawr.

 

Felly i grynhoi roedd CSDd wedi rhagweld yr heriau ac wedi rheoli unrhyw faterion yn sgil y cyflwyno. Yn yr achos hwn mae dull CSDd wedi gweithio ond os oes gan breswylwyr unrhyw broblemau, cyfeiriwch nhw at CAB os gwelwch yn dda gan eu bod yn gallu helpu."

 

(ii)          Cododd y Cynghorydd Arwel Roberts y cwestiwn canlynol:

 

“Yn dilyn cyhoeddi ffigyrau Treth Stamp Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi sy'n dangos fod chwarter y tai a brynwyd yn Sir Ddinbych y llynedd wedi eu prynu fel ail gartrefi neu dai haf, a allwn gael y diweddaraf ar y polisi yn ymwneud â chynyddu treth ar dai sy’n wag yn yr hirdymor a thai gwyliau?”.

 

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Dai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Tony Thomas:

 

“Fel Aelod Arweiniol sy'n gyfrifol am dai gwag, gallaf gadarnhau fod Achos Busnes wedi’i gyflwyno yn y Bwrdd Pobl Ifanc a Thai fis Hydref 2018. Byddai’r Cynllun Cyflawni Tai Gwag bron â’i gwblhau erbyn diwedd y mis ac o hynny mae Grŵp Prosiect wedi ei sefydlu.  

 

Gallaf gadarnhau hefyd fod cais am Swyddog Tai Gwag wedi'i gyflwyno.”