Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

EITEMAU O’R PWYLLGORAU CRAFFU

Ystyried unrhyw faterion a godwyd gan y Pwyllgor Craffu at sylw’r Cabinet.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn cydnabod casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn sgil ei adolygiad o benderfyniadau’r Cabinet ar 25 Medi;

 

 (b)      ar ôl ystyried argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd yn y cyfarfod, yn cadarnhau’r penderfyniadau a wnaethpwyd ar 25 Medi 2018, sef –

 

(i)    cymeradwyo cynnal ymgynghoriad cyn cynllunio a cheisiadau cynllunio llawn dilynol (gan ystyried canlyniadau’r ymarfer cyn cynllunio) ar gyfer safleoedd preswyl a theithiol Sipsiwn a Theithwyr ar y safle 'Green-gates Farm East' yn y lleoliadau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad, a

 

(ii)  cymeradwyo cyflwyno ceisiadau cyllid i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chynigion ar gyfer safleoedd preswyl a/neu Sipsiwn a Theithwyr yn amodol ar roi caniatâd cynllunio yn unol â’r rhaglen a amlinellwyd ym mharagraff 4.11 o’r adroddiad.”

 

 (c)       bod yr Aelod Arweiniol yn meithrin cyswllt â’r Aelodau Lleol i gytuno ar y dull mwyaf priodol o ymgynghori â’r gymuned yn y cyfnod cyn cynllunio, ac

 

 (d)      o ran pob mater a ddaw gerbron y Cabinet er penderfyniad, bod yr Aelodau Arweiniol yn awr ac yn y dyfodol yn ystyried yr angen i friffio’r Aelodau eraill ac ymgysylltu â hwy, ac y gallai’r ffordd fwyaf priodol a chymesur o wneud hynny gynnwys Briffio’r Cyngor, Pwyllgor Craffu neu weithdai/sesiynau hyfforddiant.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Graham Timms, Is -Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad, yr adroddiad yn nodi casgliadau'r Pwyllgor Craffu yn dilyn ystyriaeth o alw i mewn penderfyniadau'r Cabinet ar 25 Medi 2018 mewn perthynas â darpariaeth Safle i Sipsiwn a Theithwyr.

 

Yn gryno, er y cydnabuwyd bod y Cabinet wedi derbyn a thrafod gwybodaeth bellach trwy sesiynau Briffio’r Cabinet, roedd y Pwyllgor Craffu o’r farn na ddarparwyd digon o wybodaeth er cymhariaeth yn yr adroddiad i’r Cabinet ar 25 Medi 2018 i alluogi’r Cabinet i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â’r safle fwyaf addas.  O ganlyniad, gofynnwyd i’r Cabinet ailymweld â’i benderfyniad gan ystyried yr wybodaeth ychwanegol yn cynnwys data cymharol ar gyfer bob safle a’r rhesymau pam fod lleoliadau, a oedd wedi’u cynnwys ar restr gynharach o safleoedd posibl, wedi’u diystyru.  Hefyd, roedd y Pwyllgor Craffu o’r farn y dylai’r Cabinet fod wedi cyfeirio'r mater at sesiwn Briffio’r Cyngor fel y gallasai mwy o aelodau gyfrannu cyn gwneud penderfyniad ffurfiol ac argymhellwyd bod yr arfer hwn yn cael ei ddilyn wrth ystyried penderfyniadau a allai fod yn ddadleuol yn y dyfodol.  Mynegodd y Cynghorydd Timms ei farn ar amseriad adolygiad y Cabinet o’r penderfyniad ac roedd yn credu’n gryf, oherwydd y byr rybudd ac argaeledd yr wybodaeth ychwanegol a geisiwyd gan y Pwyllgor Craffu yn yr achos hwn, nad oedd digon o amser i'r holl gynghorwyr brosesu’r wybodaeth a gwneud trefniadau i fynychu a gofyn cwestiynau yn ystod cyfarfod y Cabinet.  Felly, anogodd y Cabinet i ailystyried ei benderfyniad ar y mater hwn yn ystod ei gyfarfod nesaf ar 30 Hydref 2018 a fyddai’n dangos bod y Cabinet wedi llwyr ystyried argymhellion y Pwyllgor Craffu.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd sut yr oedd darpariaethau’r ddeddfwriaeth hysbysiad cyhoeddus o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 wedi’u cyflawni a nododd fanylion am reolau galw i mewn y Cyfansoddiad.  Yn dilyn ystyried argymhellion y Pwyllgor Craffu, efallai y bydd y Cabinet yn ystyried adolygu’r penderfyniad yn ystod y cyfarfod hwn neu gyfarfod yn y dyfodol.  Darparodd yr Aelod Arweiniol, Y Cynghorydd Tony Thomas, wybodaeth gefndirol bellach gan ddweud bod y prosiect wedi bod yn mynd rhagddo ers peth amser ac nid oedd erioed wedi’i alw i'r Pwyllgor Craffu er i aelodau’r Cabinet gadarnhau bod yn well ganddynt safle ym mis Ebrill 2018. Ar ôl ystyried y materion a godwyd gan y Pwyllgor Craffu ac o ystyried bod yr wybodaeth yr oeddent wedi’i cheisio wedi’i darparu, cynigodd y Cynghorydd Thomas bod y Cabinet yn adolygu ei benderfyniad heb oedi, eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill.  Ar sail hynny, ceisiodd yr Arweinydd gadarnhad bod y Cabinet yn fodlon bod modd iddo wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ac yn dilyn pleidlais PENDERFNWYD YN UNOL Â HYNNY.  Fe ymatalodd y Cynghorydd Richard Mainon rhag pleidleisio ar y cynnig hwnnw.

 

Cyn adolygu’r penderfyniad, cyfeiriodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts at argymhelliad 3.3 y Pwyllgor Craffu, sef i'r holl gynghorwyr gael eu briffio ar benderfyniadau a allai fod yn ddadleuol yn ystod sesiynau Briffio’r Cyngor, cefnogodd y Cabinet ei gynnig am ddiwygiad i gynnwys dulliau briffio eraill fel y bo’n briodol, yn cynnwys y Pwyllgor Craffu, Grwpiau Ardal Yr Aelodau neu weithdai/ digwyddiadau hyfforddiant.

 

         GW    GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

 

Er mwyn ailymweld â’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 25 Medi 2018 ac ystyried manylion yr atodiadau cyfrinachol -

 

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Atgoffodd y Swyddog Arweiniol - Eiddo Corfforaethol a Stoc Dai y Cabinet o gyfrifoldebau statudol y Cyngor i ddiwallu’r anghenion a nodwyd ar gyfer darparu Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a manylodd ar y broses hirfaith a chynhwysfawr i ddewis ac asesu safle gan arwain at y sefyllfa bresennol.  Tynnwyd sylw’r Cabinet at yr wybodaeth ychwanegol a geisiwyd gan y Pwyllgor Craffu a manylodd y Swyddog Arweiniol ar y manteision a’r anfanteision o bob safle a'r rhesymeg y tu ôl i’r cynnig ar gyfer y safle Greengates yn hytrach na’r safleoedd posib eraill a nodwyd i ddechrau a rhoddwyd y cyfle i aelodau ofyn cwestiynau wedi hynny.

                                                                                 

Diolchodd y Cynghorydd Peter Scott (Aelod Lleol Llanelwy) i’r Pwyllgor Craffu am eu gwaith ond roedd wedi’i siomi nad oedd yr ystyriaeth ar gyfer y penderfyniad wedi’i gohirio tan gyfarfod nesaf y Cabinet yn unol â chais y Cynghorydd Timms.  Roedd y Cynghorydd Scott hefyd o’r farn bod peth o’r wybodaeth o fewn y tabl manteision ac anfanteision yn oddrychol ac roedd hefyd yn pryderu nad oedd ymgynghoriad â’r cyhoedd a rhanddeiliaid wedi’i gynnal ymlaen llaw.  Ceisiodd sicrwydd y byddai unrhyw broses yn y dyfodol yn cynnwys proses ymgynghori helaeth a chadarn.  Ymatebodd y Swyddogion, o ystyried yr elfen o gyfrinachedd a’r broses i’w dilyn ni fyddai’n briodol ymgynghori ar ystod o safleoedd posibl yn ystod y broses ddethol.  Fodd bynnag, roedd y Cabinet o’r farn y byddai gwerth mewn ymestyn y gofynion ymgynghori cyn cynllunio statudol, o ystyried natur y cynnig ac fe gytunodd i gynnwys yr elfen hon yn ei benderfyniad.  Awgrymodd y Cynghorydd Richard Mainon y dylid cynnal prosesau tebyg yn fwy gwrthrychol yn y dyfodol, gyda meini prawf allweddol a mecanweithiau sgorio yn seiliedig ar ffaith er mwyn cael gwared ar yr elfen oddrychol a godwyd yn yr achos hwn.  Roedd y Cynghorydd Glenn Swingler yn bryderus, er bod gwybodaeth ychwanegol wedi’i darparu o ran y manteision a’r anfanteision ar gyfer bob safle, roedd sawl enghraifft lle nad oeddent wedi’u cymhwyso’n gyson i bob safle ar sail gymharol.

 

Nododd y Cabinet y broses faith a ddilynwyd i gyrraedd y cam hwn ac ystyriodd bod yr wybodaeth yn darparu rhesymau clir o ran pam yr oedd safleoedd wedi’u barnu’n anaddas a’u diystyru.  Ar ôl ystyried casgliadau’r Pwyllgor Craffu a’r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd, roedd y Cabinet yn fodlon bod modd gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ac felly -

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn cydnabod casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn sgil ei adolygiad o benderfyniadau’r Cabinet ar 25 Medi 2018;

 

 (b)      ar ôl ystyried argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd yn y cyfarfod, yn cadarnhau’r penderfyniadau a wnaethpwyd ar 25 Medi 2018, sef –

 

(i)    cymeradwyo cynnal ymgynghoriad cyn cynllunio a cheisiadau cynllunio llawn dilynol (gan ystyried canlyniadau’r ymarfer cyn cynllunio) ar gyfer safleoedd preswyl a theithiol Sipsiwn a Theithwyr ar y safle 'Green-gates Farm East' yn y lleoliadau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad, a

 

(ii)  cymeradwyo cyflwyno ceisiadau cyllid i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chynigion ar gyfer safleoedd preswyl a/neu Sipsiwn a Theithwyr yn amodol ar roi caniatâd cynllunio yn unol â’r rhaglen a amlinellwyd ym mharagraff 4.11 o’r adroddiad.”

 

 (c)       bod yr Aelod Arweiniol yn meithrin cyswllt â’r Aelodau Lleol i gytuno ar y dull mwyaf priodol o ymgynghori â’r gymuned yn y cyfnod cyn cynllunio, ac

 

 (d)      o ran pob mater a ddaw gerbron y Cabinet er penderfyniad, bod yr Aelodau Arweiniol yn awr ac yn y dyfodol yn ystyried yr angen i friffio’r Aelodau eraill ac ymgysylltu â hwy, ac y gallai’r ffordd fwyaf priodol a chymesur o wneud hynny gynnwys Briffio’r Cyngor, Pwyllgor Craffu neu weithdai/sesiynau hyfforddiant.

 

Pleidleisiodd y Cynghorydd Richard Mainon yn erbyn penderfyniad (b) uchod.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 6.10pm.

 

 

Dogfennau ategol: