Eitem ar yr agenda
BARGEN DWF AR GYFER ECONOMI GOGLEDD CYMRU: DOGFEN GYNNIG
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Economi a
Llywodraethu Corfforaethol yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y Ddogfen
Gynnig ar gyfer argymhelliad i’r Cyngor ei mabwysiadu a rhoi awdurdod i’r
Arweinydd ymrwymo’r Cyngor, ynghyd â’i bartneriaid i fod yn rhan o gytundeb
Penawdau'r Telerau gyda Llywodraethau Cymru a’r DU.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD –
(a)
Bod y Cabinet yn
cymeradwyo’r Ddogfen Gynnig ac yn argymell bod y Cyngor yn ei mabwysiadu fel
(1) y sail ar gyfer strategaeth ranbarthol fwy hirdymor ar gyfer twf economaidd
a (2) y cais rhanbarthol ar gyfer rhaglenni a phrosiectau â blaenoriaeth, a
fydd yn sail ar gyfer cynnwys y Fargen Twf a lunnir wrth gytuno ar Benawdau
Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth. Nid yw mabwysiadu’r
ddogfen yn rhwymo’r Cyngor i wneud unrhyw fuddsoddiad ariannol ei hun am y tro,
ac mae’n amodol ar bennu risgiau a manteision y Fargen Twf derfynol yn fanwl
a’u hystyried yn llawn cyn cyflwyno’r Fargen derfynol er cymeradwyaeth faes o
law; ac
(b) awdurdodi’r
Arweinydd i ymrwymo’r Cyngor i gytuno ar Benawdau Telerau â’r ddwy Lywodraeth,
ar y cyd ag arweinwyr gwleidyddol a phroffesiynol y naw partner statudol arall
sydd â chynrychiolaeth ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a Chyngor
Busnes Gogledd Cymru, Mersi a Dyfrdwy, o fewn y ffiniau hynny a bennir yn y
Ddogfen Gynnig.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer
y Ddogfen Gynnig ar gyfer argymhelliad i’r Cyngor ei mabwysiadu a rhoi awdurdod
i’r Arweinydd ymrwymo’r Cyngor, ynghyd â’i bartneriaid, i fod yn rhan o
gytundeb penawdau'r telerau gyda Llywodraethau Cymru a’r DU. Eglurodd yr angen i ystyried
yr adroddiad ar gam cynharach er mwyn i’r Canghellor allu cynnwys cyfeiriad at
y Fargen Dwf yn Natganiad Yr Hydref ar 29 Hydref 2018.
Darparwyd
rhywfaint o wybodaeth gefndir ynglŷn â chymeradwyaeth cydweithrediadau yn
flaenorol er mwyn mabwysiadu’r Weledigaeth Dwf a datblygu Cynnig Bargen Twf ar
gyfer y rhanbarth. Roedd
y Ddogfen Gynnig yn nodi’r rhaglenni blaenoriaeth gweithgaredd a phrosiectau
i’w hystyried ar gyfer eu cynnwys yn y Fargen Dwf yng ngham Penawdau'r Telerau
ac roedd gofyn am gymeradwyaeth gan y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru
fel y cam nesaf yn y broses. Pwysleisiwyd
nad oedd mabwysiadu yn rhwymo’r Cyngor i wneud unrhyw fuddsoddiad ariannol ei
hun am y tro, ac roedd yn amodol ar
risgiau a manteision ariannol y Fargen Dwf derfynol yn cael eu nodi yn fanwl
a’u hystyried yn llawn pan fo’r Fargen derfynol yn cael ei chyflwyno er cymeradwyaeth
yn y dyfodol.
Dadleuodd
yr Arweinydd mai'r Ddogfen Gynnig oedd y cyfle gorau i ehangu economi Gogledd
Cymru a chystadlu â rhanbarthau
eraill gan dynnu sylw at yr effaith bosibl ar Sir Ddinbych yn benodol. Tynnwyd sylw hefyd at ba
mor bwysig yw i Sir Ddinbych gyd-fynd â chynlluniau a strategaethau economaidd
eraill drwy’r Fargen Dwf a nodwyd bod y Ddogfen Gynnig yn ddibynnol ar gyflawni
strategaethau buddsoddi mewn ffyrdd a rheilffyrdd eraill megis Growth Track 360
a Rhaglen Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru. Tynnodd yr Arweinydd sylw at
ymrwymiad Llywodraethau Cymru a’r DU i fuddsoddi yn y fargen dwf ac fe dynnodd
sylw at y berthynas ardderchog rhwng Arweinwyr y Cynghorau mewn partneriaeth ag
addysg uwch ac addysg bellach a’r sector preifat a oedd wedi dangos hyder yn
hynny o beth. Unwaith
y bydd maint posibl a chynnwys y Fargen Dwf yn hysbys, yn dilyn cytundeb
Penawdau'r Telerau, gellir cynnal asesiad risg a dadansoddiad cost a budd
llawn. Byddai
hyn ar gael ar gyfer gwneud penderfyniad cyn i’r rhanbarth ymrwymo yn ystod cam
terfynol cytundeb Bargen Dwf yn hwyrach yn 2019. Mae dadansoddi risg wedi’i gynnwys yn y
modelu achos busnes ar gyfer y rhaglenni a phrosiectau sy’n rhan o’r Cynnig
datblygu. Roedd
gan bob prosiect a restrwyd yn y Ddogfen Gynnig achos busnes amlinellol i
ddangos eu gwerth. Roedd
materion pwysig eraill i’w nodi yn cynnwys -
·
bod yr achosion busnes
amlinellol yn cael eu hadolygu gan weision sifil yng Nghaerdydd ac Abertawe ar
hyn o bryd.
·
bod grŵp rhan-ddeiliaid
ar gyfer y sector preifat wedi'i sefydlu a bod sesiynau herio wedi'u cynnal o
fewn y rhanbarth.
·
bod amserlen risg yn cael ei
datblygu fel rhan o’r cam nesaf – byddai ymrwymiadau ariannol y Cyngor yn dod
yn amlycach dros y misoedd nesaf pan fo maint ymrwymiad ariannol y ddwy
Lywodraeth yn hysbys.
·
pe bai
Sir Ddinbych yn cymryd rhan yn y Fargen
Dwf byddai cyfleoedd pellach yn Brexit i ymgysylltu’r rhanbarth â’r Gronfa Ffyniant.
Eglurodd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi
a Parth Cyhoeddus bwrpas y Ddogfen Gynnig i osod pecyn o fesurau ac ymyriadau
mentrus er mwyn darparu twf economaidd cynaliadwy yng Ngogledd Cymru. Yna, fe arweiniodd aelodau'r
Cabinet drwy’r Ddogfen Gynnig a phwyntiau perthnasol o ran gosod yr achos ar
gyfer buddsoddi; cyd-destun strategol a chyd- fynd â pholisi llywodraeth;
gwerthusiad dewisiadau a’r ffordd ymlaen a ffefrir; Gweledigaeth Twf, rhestr
amserlen prosiect; achos economaidd, cyllid a chyllido, grymuso’r rhanbarth a’r
strwythur darparu a llywodraethu. Dywedodd y Prif Weithredwr bod
y Bargeinion Twf o fewn ardaloedd eraill yn y DU wedi arwain at fuddsoddiad
sylweddol ac roedd gan Sir Ddinbych gyfle gwych, drwy’r Cynnig Twf, i sicrhau
buddsoddiad yn y meysydd a nodwyd yn y Cynllun Corfforaethol gan gynnwys
cludiant, digidol, datblygu busnes a dysgu a sgiliau.
Roedd
y Cabinet yn cydnabod y manteision o symud ymlaen â’r Cynnig Twf ac wrth ystyried
yr adroddiad, trafodwyd y materion canlynol –
·
o ran ymrwymiad ariannol,
cafwyd sicrwydd nad oedd y Cyngor yn ymrwymo adnoddau cyllid ychwanegol yn
ystod y cam hwn o’r broses.
·
pe bai’r Cynnig yn
llwyddiannus, byddai manylion yr ymrwymiadau ariannol sy’n ofynnol gan awdurdodau
lleol unigol er mwyn bod yn rhan o’r Fargen Dwf, yn hysbys ym mis Chwefror/
Mawrth 2019 a byddai’n dibynnu ar swm a sicrhawyd drwy fuddsoddiad y
Llywodraeth.
·
os, wrth ystyried yr
ymrwymiadau ariannol, oedd y Cyngor o’r farn bod y risgiau yn rhy uchel ac nad
oedd y buddion ar gyfer Sir Ddinbych neu’r buddion lleol i’r economi ehangach
yn cyfiawnhau’r lefel o fuddsoddiad gan lywodraeth leol, yna byddai modd gwneud
penderfyniad i beidio ag ymrwymo’r arian hwnnw ac i beidio â chymryd rhan yn y Fargen Dwf.
·
cyfeiriwyd at Safle Strategol
Allweddol Bodelwyddan a’r goblygiadau pe bai statws y safle’n newid yn dilyn
adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol- eglurwyd bod y safle’n cael ei adnabod
fel Safle Strategol Allweddol yn rhanbarthol a byddai modd ei ariannu yn
ddibynnol ar broses o flaenoriaethu. Pe bai cyllid yn dod ar gael
ond nid yw’r safle bellach wedi’i ddyrannu o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ni
fyddai’r cyllid yn cael ei ddefnyddio.
·
cydnabuwyd bod angen amlygu’r
effaith ar ardaloedd gwledig ac roedd trafodaethau yn mynd rhagddynt yn hynny o
beth. Fodd
bynnag, roedd prosiectau penodol a fyddai’n cael effaith uniongyrchol yn
cynnwys digidol, ynni a sgiliau ac roedd buddion ehangach i gymunedau yn sgil y
Fargen Dwf yn cynnwys effeithiau cadarnhaol o ran materion diweithdra, gofal
iechyd, gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl.
·
tynnwyd sylw at bwysigrwydd a
graddfa cyfranogiad a buddsoddiad y sector preifat yn y Fargen Dwf a nodwyd bod
trafodaethau â’r sector preifat yn parhau yn hynny o beth - roedd cynrychiolydd
o’r sector preifat ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a sefydlwyd
Grŵp Rhanddeiliaid yn cynnwys y sector preifat er mwyn symud ymlaen â
disgwyliadau.
·
eglurwyd bod y prosiectau a
flaenoriaethwyd yn y Ddogfen Gynnig yn cael eu hasesu ar hyn o bryd a byddent
yn amodol ar drafodaethau pellach â
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU – er y byddai’n rhy hwyr i gyflwyno
prosiectau newydd fel rhan o’r Fargen Dwf byddai posibilrwydd i’w hystyried fel
rhan o’r Weledigaeth Dwf.
Atebodd
yr Arweinydd a’r swyddogion gwestiynau pellach gan aelodau nad ydynt yn
aelodau o’r Cabinet fel a ganlyn –
·
cyfeiriwyd at yr anawsterau o
ran rhagweld y goblygiadau ariannol o ystyried nad yw nifer na chost y
prosiectau wedi’u cymeradwyo, cyfraniadau partneriaid eraill a rhagdybiaethau y
bydd rhai prosiectau yn creu refeniw yn y dyfodol - o ganlyniad darparwyd ystod
o amcangyfrifon gyda chafeatau trwm a chost rhwng £130k £320k ar gyfer Sir
Ddinbych yn dibynnu ar ystod o amrywiaethau a dros gyfod o £1m mlynedd gallai
hyn amrywio o ddim costau i dros o gostau - o ystyried yr ansicrwydd hwn dylid
nodi’r goblygiadau ariannol ar y cam hwn.
·
cyfeiriwyd at sesiynau
Briffio’r Cyngor ar y Cynnig Twf ac adroddiadau blaenorol i’r Cabinet yn hynny
o beth ac fe gadarnhawyd bod adroddiad tebyg wedi’i gyflwyno i bob un o
awdurdodau lleol Gogledd Cymru er cysondeb ar draws y rhanbarth.
·
eglurwyd cyd-destun y Cynllun
Datblygu Lleol o ran Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan gan gadarnhau bod y
pwerau cynllunio yn parhau i fod â’r
awdurdod lleol ac nad oedd cynnig o fewn y Ddogfen Gynnig am awdurdod cynllunio
rhanbarthol - byddai prosiectau o fewn y
Cynnig Twf yn seiliedig ar y Cynllun Datblygu Lleol presennol a byddai’n rhaid
ystyried unrhyw newid i hynny ar yr adeg briodol.
·
darparwyd sicrwydd y byddai’r
risg a’r effaith ar yr iaith Gymraeg yn cael eu hystyried a disgwyliwyd y
byddai’r elfen hon hefyd yn cael ei hystyried fel rhan o ddyraniadau cyllid
Llywodraeth Cymru.
·
eglurwyd y trefniadau craffu
lleol ar gyfer cam cyntaf y Cytundeb Llywodraethu ynghyd ag opsiynau craffu
posibl os bydd ail gam i’r Cytundeb Llywodraethu a allai gynnwys craffu ar y
cyd, gweithgaredd craffu wedi’i gydlynu ar draws y chwe’ chyngor a’u trefniadau
unigol eu hunain, neu groesiad o hynny.
·
mynegwyd peth pryder o ran prosiectau’n ymwneud â thechnoleg niwclear ac
eglurwyd nad oedd Prosiect Wylfa yn rhan o’r Fargen Dwf ac roedd y Rhaglen
Mynediad at Ynni SMART, yn cynnwys pecyn o brosiectau a oedd yn derbyn y byddai
technoleg niwclear yn rhan o gynhyrchiant ynni’r DU ond roedd hefyd yn cydnabod
y prosiectau carbon isel a oedd yn cael eu dwyn ymlaen. Roedd y ddau brosiect niwclear yn ymwneud â
Gorsaf Bŵer a Chanolfan Ragoriaeth Niwclear Trawsfynydd yn dod i gyfanswm
o oddeutu £38.6m o’r £335m o fuddsoddiad cyfalaf a geisiwyd gan y ddwy
Lywodraeth, ac felly nid oeddent yn cael eu hystyried yn rhagfarnllyd tuag at
ynni niwclear. O
ran y cyd-destun gwleidyddol bu peth cefnogaeth trawsbleidiol ar gyfer y
Prosiect Wylfa yn lleol ac yn genedlaethol.
PENDERFYNWYD –
(a) bod y Cabinet yn
cymeradwyo’r Ddogfen Gynnig ac yn argymell bod y Cyngor yn ei mabwysiadu fel
(1) y sail ar gyfer strategaeth ranbarthol fwy hirdymor ar gyfer twf economaidd
a (2) y cais rhanbarthol ar gyfer rhaglenni a phrosiectau â blaenoriaeth, a
fydd yn sail ar gyfer cynnwys y Fargen Twf a lunnir wrth gytuno ar Benawdau
Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth. Nid yw
mabwysiadu’r ddogfen yn rhwymo’r Cyngor i wneud unrhyw fuddsoddiad ariannol ei
hun am y tro, ac mae’n amodol ar bennu risgiau a manteision y Fargen Dwf
derfynol yn fanwl a’u hystyried yn llawn cyn cyflwyno’r Fargen derfynol er
cymeradwyaeth faes o law; ac
(b) awdurdodi’r
Arweinydd i ymrwymo’r Cyngor i gytuno ar Benawdau Telerau â’r ddwy Lywodraeth,
ar y cyd ag arweinwyr gwleidyddol a phroffesiynol y naw partner statudol arall
sydd â chynrychiolaeth ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a Chyngor
Busnes Gogledd Cymru, Mersi a Dyfrdwy, o fewn y ffiniau hynny a bennir yn y
Ddogfen Gynnig.
Dogfennau ategol:
- 15.10.18 Growth Bid Cabinet Report Welsh, Eitem 4. PDF 200 KB
- GROWTH DEAL REPORT - APP 1, Eitem 4. PDF 425 KB
- GROWTH DEAL REPORT - APP 2, Eitem 4. PDF 2 MB
- GROWTH DEAL REPORT - APP 3, Eitem 4. PDF 463 KB