Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD O BENDERFYNIAD Y CABINET YNGLŶN Â DARPARU SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR
Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm). Mae'r adroddiad yn ymwneud ag adolygiad, ar gais y Cynghorydd Peter Scott a phedwar o gynghorwyr eraill sydd ddim ar y Cabinet o dan drefniadau Craffu’r Cyngor 'galw i mewn', o benderfyniad ynghylch darpariaeth safle sipsiwn a theithwyr a gymerwyd gan y Cabinet ar y 25ain Medi 2018.
Cofnodion:
Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod ac eglurodd y galwyd y cyfarfod i ystyried cais am
alw penderfyniad diweddar y Cabinet i mewn, sef cymeradwyo cynnal ymgynghoriad
cyn cynllunio, a cheisiadau cynllunio llawn dilynol, ar gyfer darparu safleoedd
Sipsiwn a Theithwyr preswyl a theithiol ar safle Green-gates Farm East, ar
gyrion Llanelwy.
Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad cyfrinachol ac atodiadau y Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw), oedd yn cyflwyno’r cais a wnaed gan
bum cynghorydd nad ydynt yn rhan o’r Cabinet, dan Reolau Gweithdrefn Galw i
Mewn y Cyngor, i’r Pwyllgor Craffu adolygu’r penderfyniad wnaeth y Cabinet ar
25 Medi mewn perthynas â safleoedd arfaethedig ar gyfer darpariaeth i sipsiwn a
theithwyr yn y sir yn y dyfodol. Hysbyswyd aelodau’r Pwyllgor y bodlonwyd y meini prawf o ran galw
penderfyniad y Cabinet i mewn, ac mai sail y cais am alw i mewn oedd “na
ystyriwyd gwell safle”. Roedd y cais am alw i mewn yn cynnwys enghraifft benodol o “well safle”.
Fel prif lofnodwr y cais am alw
penderfyniad y Cabinet i mewn, gwahoddwyd y Cynghorydd Peter Scott i annerch y
Pwyllgor er mwyn egluro’r sail ar gyfer galw’r penderfyniad i mewn ac i gynnig
gwybodaeth gefndir ychwanegol mewn perthynas â’r cais.
Yn ystod ei
gyflwyniad, hysbysodd y Cynghorydd Scott y Pwyllgor ei fod wedi mynychu
cyfarfod y Cabinet ar 25 Medi 2018 yn rhinwedd ei rôl fel aelod lleol ar gyfer
yr ardal lle bwriedir lleoli’r safleoedd arfaethedig. Eglurodd ei fod wedi mynegi ei farn yn y
cyfarfod gan nodi pam nad oedd safle Green-gates Farm East yn briodol i'w
ddatblygu fel safle preswyl na theithiol ar gyfer sipsiwn a theithwyr. Eglurodd hefyd pam ei fod yn credu na chafodd
safleoedd eraill, oedd yn ei farn ef yn well safleoedd, ystyriaeth ddyledus gan
y Cabinet cyn cyrraedd eu penderfyniad, a dyma ei reswm dros gychwyn cais galw
i mewn i gael y Pwyllgor Craffu i adolygu penderfyniad y Cabinet.
Wrth ymateb i
gyflwyniad y Cynghorydd Scott, nododd yr Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r
Amgylchedd fod y broses i benderfynu a oedd angen yn Sir Ddinbych am safle
preswyl, safle teithiol neu’r ddau, wedi bod yn mynd rhagddi ers nifer o
flynyddoedd. Roedd
gofyniad cyfreithiol ar Sir Ddinbych, fel pob awdurdod lleol arall, i gynnal
asesiad o anghenion i bennu a oedd yna angen o fewn y sir am safleoedd o’r
fath. Os byddai angen
yn cael ei ganfod, byddai rhwymedigaeth gyfreithiol ar yr awdurdod lleol i
ddarparu safleoedd o’r fath o fewn ei ffiniau daearyddol. Eglurodd bod cyllid grant ar gael gan
Lywodraeth Cymru (LlC) i ddatblygu safleoedd preswyl a theithiol, cyn belled â
bod yr awdurdodau lleol yn canfod safleoedd a ffefrir, yn cynnal ymgynghoriad
cyn cynllunio arnynt ac yn cael cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer
y datblygiadau mewn pryd i gyflwyno ceisiadau am y cyllid grant cyn y dyddiad
cau, sef 28 Chwefror 2019. Os byddai hyn i gyd yn cael ei gyflawni, y cynnig
fyddai datblygu'r safle preswyl yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20 a’r safle
teithiol yn ystod 2020-21. Roedd safle
Green-gates Farm East eisoes wedi’i nodi a’i gymeradwyo gan y Cabinet ym mis
Ebrill 2018 fel y safle a ffefrir ar gyfer datblygu safle preswyl.
Gan fod canllawiau LlC ar y ‘Grant
Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr’ yn nodi’n benodol na ddylai safleoedd
preswyl a theithiol fod wedi’i cyd-leoli, gwnaed cryn ymdrech i geisio canfod a
sicrhau safle ar wahân ar hyd coridor yr A55 i’w ddatblygu fel safle
‘teithiol’. Fodd
bynnag, oherwydd mai rhan fer o’r A55 sy’n teithio trwy Sir Ddinbych a’r ffaith
bod rhaid i’r safleoedd fod o fewn 3 milltir i ysgol gynradd, ychydig iawn o
ddarpar leoliadau addas oedd yna. Cafodd manylion y lleoliadau eraill a ystyriwyd eu cynnwys yn yr adroddiad
i’r Cabinet ar 25 Medi 2018, ac atodwyd hwy i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r
Pwyllgor yn y cyfarfod. Pan ddaeth yn amlwg y byddai’r Cyngor yn cael trafferth canfod lleoliad
addas ar wahân i leoliad Green-gates Farm East i'w ddatblygu fel safle
teithiol, ysgrifennodd yr Aelod Arweiniol at Weinidog LlC â chyfrifoldeb am
Gydraddoldeb a chydlynu materion sy’n ymwneud â Sipsiwn a Theithwyr, gan
egluro’r heriau yr oedd y Cyngor yn eu hwynebu ac yn gofyn i'r Llywodraeth
gymryd ymagwedd hyblyg yn yr achos hwn at gyd-leoli’r ddau safle, cyn belled â
bod sgrinio priodol yn cael ei ddarparu rhyngddynt a bod y ddau wedi’u lleoli
gryn bellter oddi wrth ei gilydd. Ymatebodd y Gweinidog yn ffafriol i'r cais hwn ar yr amod bod y Cyngor yn
darparu sgrinio rhesymol rhwng y ddau safle, yn rhannu’r cynlluniau â
swyddogion LlC ac yn caniatáu cyfnod o ddeuddeng mis i drigolion y safle
preswyl setlo cyn i’r safle teithiol gychwyn cael ei ddefnyddio. Ar ôl derbyn y sicrwydd hwn, roedd y
Cabinet felly wedi cymeradwyo datblygu’r safle teithiol hefyd ar ran o safle
Green-gates Farm East.
Archwiliwyd
cyfanswm o dros 40 o safleoedd i gychwyn. Ar ôl ystyriaeth fanwl, cyfyngwyd nifer y
safleoedd posib i 22, ac ar ôl ystyriaeth bellach, gostyngwyd y nifer hwn eto i
5. Diystyriwyd safleoedd am amryw o
resymau, e.e. pellter oddi wrth y rhwydwaith priffyrdd, perchenogaeth tir a’r
costau cysylltiedig â phrynu’r tir neu gostau ac amser prynu tir drwy bryniant
gorfodol, costau clirio/ adfer y safle, lefelau sŵn, perygl llifogydd,
agosrwydd at yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol leol ac ati. Cyflwynwyd rhestr fer o 5 o safleoedd posib
i’r Cabinet ym mis Ebrill 2018. Yn dilyn trafodaeth a thrafod telerau pellach
rhwng swyddogion a thrydydd parti, datganwyd nad oedd un o'r safleoedd hyn yn
hyfyw, a arweiniodd at gyflwyno 4 safle posib i’r Cabinet eu hystyried ar 25
Medi. Defnyddiwyd
sleidiau PowerPoint i roi trosolwg i’r Aelodau o’r safleoedd posib oedd ar y
rhestr fer ar gyfer darparu safle teithiol a gyflwynwyd i’r Cabinet.
Yn ystod y cyflwyniad, cafwyd
crynodeb gan yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion ar fanteision ac anfanteision
pob safle.
Wrth ymateb i
gwestiynau'r Aelodau, bu i’r Aelod Arweiniol, y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Economi a’r Parth Cyhoeddus,
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd a Swyddog Arweiniol Eiddo
Corfforaethol a Stoc Tai:
·
gadarnhau na
chyflwynwyd unrhyw safleoedd pan alwyd am dir i’w gyflwyno fel safleoedd posib
ar gyfer safle sipsiwn a theithwyr, ac mae’n debyg mai’r rheswm am hynny oedd
bod tirfeddianwyr yn amharod i awgrymu gwerthu eu tir er y diben hwn;
·
nodi, er bod
canllawiau LlC mewn perthynas â’r cyllid grant yn argymell peidio â
chyd-leoli’r safle preswyl a’r safle teithiol, bod LlC a’r teulu fyddai’n byw
ar y safle preswyl yn cydnabod bod lleoliadau addas ar hyd coridor yr A55 yn
hynod brin.
Felly, ar y sail
y byddai pellter digonol yn sicrhau bod y ddau safle wedi’u lleoli ar wahân ac
y byddai sgrinio priodol yn cael ei ddarparu, roedd y ddwy ochr yn fodlon
derbyn y cyfaddawd;
·
nodi manylion y sail gyfreithiol oedd yn peri bod rhaid i
awdurdodau lleol ddarparu safle preswyl a theithiol i sipsiwn a theithwyr, gan
nodi y byddai bodolaeth safle teithiol i sipsiwn a theithwyr yn helpu’r Cyngor
yn y dyfodol wrth ddelio â gwersylloedd anghyfreithlon;
·
darparu manylion y
deddfau deddfwriaethol sy’n rhoi pŵer i’r awdurdodau lleol a’r Heddlu
orfodi sipsiwn a theithwyr i symud ymlaen o wersylloedd anghyfreithlon;
·
cadarnhau bod y teulu y byddai datblygu’r safle preswyl
yn diwallu eu hanghenion yn drigolion Sir Ddinbych, a’u bod yn cadarnhau y
byddai’r safle’n diwallu eu hanghenion a’u bod yn fodlon symud yno ar ôl iddo
gael ei ddatblygu;
·
nodi y byddai
asesiadau’n cael eu cynnal, fel rhan o’r broses o wneud cais cynllunio, o
effaith y safleoedd arfaethedig ar rwydwaith priffyrdd, cymuned, parc busnes ac
ati yr ardal, yn ogystal ag ystyriaethau eraill sy’n gysylltiedig â chynllunio;
·
nodi y byddai
ystyriaeth yn cael ei roi wrth ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer y safleoedd,
i ddarparu mannau pasio priodol ar y lôn a ddefnyddir i fynd at y safle, er
mwyn galluogi cerbydau sy’n tynnu carafanau i basio traffig sy’n dod i’w
hwynebu;
·
rhoi arwydd o’r costau cysylltiedig â datblygu’r ddau
safle er diben darparu 6 llain breswyl a 5 llain deithiol.
Pennwyd nifer y
lleiniau preswyl yn ôl yr asesiad o anghenion a gynhaliwyd, ac arweiniwyd nifer
y lleiniau teithiol gan nifer cyfartalog y carafanau oedd yn rhan o wersylloedd
anghyfreithlon yn y sir yn y blynyddoedd diweddar. Gallai asesiad o
anghenion yn y dyfodol nodi angen am ddarpariaeth bellach, ond roedd y Cyngor
yn fodlon y byddai nifer y lleiniau ar y ddau safle’n bodloni’r anghenion
dynodedig ar sail yr asesiad o anghenion diweddaraf;
·
nodi y byddai’r safle’n cael ei reoli, gyda system
gofrestru ar waith, er ei bod yn annhebygol y byddai staff ar y safle 24 awr y
dydd;
·
cadarnhau nad yw safle Green-gates Farm East wedi’i
gynnwys ar hyn o bryd yn y Cynllun Datblygu Lleol er dibenion cymunedol na
phreswyl.
Fodd bynnag, byddai’r
Pwyllgor Cynllunio yn ystyried y cais ar sail yr angen dynodedig, yn debyg i
gais a wneir am annedd amaethyddol y tu allan i ardal anheddiad preswyl;
·
cadarnhau yr ymgynghorwyd ag awdurdodau lleol cyfagos
mewn perthynas â threfniadau rheoli’r safle, ac yr ymgynghorwyd â Heddlu
Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn perthynas â’r
lleoliadau arfaethedig.
Ni chodwyd unrhyw
broblemau na phryderon gan unrhyw un o’r awdurdodau cyhoeddus yr ymgynghorwyd â
hwy;
·
nodi, os canfuwyd angen o fewn y sir, y byddai gofyniad
cyfreithiol ar Sir Ddinbych i wneud darpariaeth ar gyfer safleoedd o fewn ei
ffiniau daearyddol, hyd yn oed os byddai gan awdurdodau cyfagos ddarpariaeth
safle sipsiwn a theithwyr o fewn pellter teithio rhesymol i Sir Ddinbych;
·
cadarnhau mai’r safle preswyl fyddai’r cyntaf i gael ei
ddatblygu, ar sail yr asesiad o anghenion a gynhaliwyd, yn amodol ar gael
caniatâd cynllunio.
Byddai trigolion
y safle hwnnw’n cael deuddeng mis i setlo cyn datblygu’r safle teithiol;
·
hysbysu’r Pwyllgor bod rhaid i bob awdurdod lleol, dan
ddarpariaethau Deddf Tai (Cymru) 2014, gynnal 'Asesiad o Anghenion Llety' mewn
perthynas â Sipsiwn a Theithwyr o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o bum mlynedd;
·
cadarnhau bod LlC wedi cymeradwyo proses Asesiad o Anghenion
Sir Ddinbych, a gynhaliwyd yn 2015, ac wedi cydnabod ei gasgliadau yn Ebrill
2017;
·
nodi bod yr asesiad o anghenion yn amlwg wedi canfod fod
‘anghenion’ preswyl y sir yn gorwedd yng nghyffiniau’r A55, yn hytrach nag mewn
ardaloedd agos i lwybrau cefnffyrdd eraill sy’n teithio trwy’r sir, h.y. yr A5
a’r A494. Yn ogystal, roedd mwyafrif y
gwersylloedd anghyfreithlon yn y sir yn y blynyddoedd diweddar hefyd wedi bod
yng ngogledd y sir, a dyma’r rheswm dros benderfynu y dylid lleoli’r safle
teithiol hefyd yn agos i’r A55;
·
cadarnhau, gan y canfuwyd angen am safleoedd sipsiwn a
theithwyr, y gallai LlC neu’r gymuned sipsiwn a theithwyr geisio her
gyfreithiol drwy’r Uchel Lys os byddai’r Cyngor yn methu yn ei ddyletswydd i
ddarparu safleoedd.
Gallai trigolion
lleol ddod â her gyfreithiol yn erbyn rhoi caniatâd cynllunio maes o law, os
ydynt o’r farn ei fod wedi’i roi ar sail annibynadwy. Byddai angen gwneud her gyfreithiol o’r fath
o fewn tri mis i ganiatáu’r cais cynllunio;
·
rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor a’r Cabinet eu bod wedi cael
gwybodaeth fanwl ddiduedd mewn perthynas â phob safle oedd ar y rhestr fer pan
wnaethant benderfynu ar yr opsiynau yr oeddent yn eu ffafrio, ac yr
ymgynghorwyd â'r Aelod Arweiniol ar yr argymhelliad arfaethedig a gyflwynwyd
i’r Cabinet;
·
nodi y byddai effaith datblygiad y safle ar eiddo cyfagos
yn cael ei asesu er dibenion cais cynllunio dan yr un meini prawf ag unrhyw
ddatblygiadau preswyl eraill;
·
cadarnhau y cynhaliwyd astudiaeth ecolegol ar safle’r
datblygiad arfaethedig ac y casglwyd nad oedd unrhyw resymau ecolegol fyddai’n
rhwystro datblygiad y safle.
Sicrhaodd yr
Aelod Arweiniol y cynghorwyr ei fod wedi cael crynodeb bob mis gan swyddogion
oedd yn rhan o'r prosiect ers cael ei benodi’n ddeilydd y portffolio, a’i fod
felly’n hyderus y rhoddwyd diwydrwydd dyladwy i bob agwedd ar y broses i ganfod
safleoedd addas.
Cyn i’r Pwyllgor
drafod ei gasgliadau a’i argymhellion, rhoddwyd cyfle i’r Cynghorydd Scott
grynhoi pam ei fod ef a’i gyd-lofnodwyr o’r farn y dylai’r Pwyllgor argymell i’r
Cabinet adolygu ei benderfyniad i ddynodi safle Green-gates Farm East fel safle
a ffefrir er diben bodloni rhwymedigaethau’r Cyngor mewn perthynas â darparu
safle sipsiwn a theithwyr. Pwysleisiodd eu bod o'r farn gadarn bod y Cyngor wedi rhuthro i ddynodi
safleoedd er mwyn ei alluogi i sicrhau cyllid LlC tuag at y costau sy’n
gysylltiedig â bodloni’r angen a nodwyd. Er mwyn cyflwyno cais cyn y dyddiad cau oedd yn
agosáu, roeddent o’r farn bod yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 25 Medi
yn tueddu o blaid safle Green-gates Farm East, ac nad oedd digon o wybodaeth ar
gael yn rhwydd i bob cynghorwr sir drwy gydol y broses ddemocrataidd i’w
galluogi i fod yn ymwybodol o ba safleoedd oedd yn cael eu hystyried, na’r
rhesymau pam y barnwyd hwy’n addas neu’n anaddas. Wrth ymateb i hyn, nododd Swyddog Monitro’r Cyngor
bod yr adroddiadau i’r Cabinet drwy gydol y broses wedi’i heithrio rhag cael eu
cyhoeddi ar sail cyfrinachedd masnachol ac ariannol, ond eu bod wedi bod ar
gael i aelodau etholedig eu darllen.
Wrth grynhoi, bu
i’r Cadeirydd gydnabod bod y Pwyllgor Craffu wedi deall yn llawn bod
rhwymedigaeth gyfreithiol ar y Cyngor i ddarparu safleoedd preswyl a theithiol
ar gyfer sipsiwn a theithwyr os canfuwyd angen. Roedd hefyd yn fodlon bod angen o'r fath wedi cael
ei ganfod. Fodd bynnag,
roedd pryderon yr aelodau’n ymwneud â phroses oedd wedi arwain at benderfyniad
ar y safleoedd a ffefrir. Ym marn y Pwyllgor Craffu, oherwydd natur ddadleuol y penderfyniad a’r
perygl cysylltiedig i’w henw da, roedd angen i’r aelodau gael sicrwydd bod pob
safle posib wedi cael eu hystyried mewn digon o fanylder, a bod pob safle wedi
bod yn destun proses asesu unffurf cyn cael eu dileu o’r rhestr derfynol o
safleoedd posib a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 25 Medi.
Ar ôl adolygu’r
wybodaeth a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 25 Medi, teimlai aelodau’r Pwyllgor
Craffu na chyflwynwyd gwybodaeth gymaradwy ddigonol i’r Cabinet ar ‘fanteision
ac anfanteision’ pob safle i’w alluogi i ddod i benderfyniad cytbwys, e.e.
effaith sŵn, effaith ar drigolion/ ardaloedd gwaith, dibrisio eiddo
cyfagos, gwybodaeth am berygl o lifogydd, gwybodaeth ariannol gyson am waith
adfer ac ati. Ar y sail hon, dylid gofyn
i’r Cabinet ailystyried y penderfyniad a wnaeth ar 25 Medi, ac wrth adolygu ei
benderfyniad, dylai’r Cabinet feddu ar y wybodaeth ychwanegol gymaradwy gytbwys
a ddarparwyd i aelodau'r Pwyllgor Craffu yn y cyfarfod presennol, er mwyn
iddynt allu asesu'r cynigion a gyflwynir iddynt yn rhwydd ac yn wrthrychol.
Gofynnodd y
Pwyllgor hefyd am gael codi ei bryderon cyffredinol gyda’r Cabinet am ba
wybodaeth sydd ar gael am benderfyniadau posib y Cabinet i gynghorwyr nad ydynt
yn rhan o’r Cabinet. Gan nad oedd y
cynghorwyr nad oeddent yn rhan o'r Cabinet yn gallu cael gafael ar bapurau
cyfarfodydd briffio’r Cabinet, roedd hyn yn ei gwneud yn anodd iddynt ddilyn y
broses o wneud penderfyniad. Roedd yr Aelodau o'r farn y dylai pob penderfyniad allai fod yn ddadleuol,
tebyg i’r mater hwn, gael eu cyflwyno yn y dyfodol yn sesiwn friffio’r Cyngor
er mwyn sicrhau bod pob cynghorydd yn cael y wybodaeth lawn amdanynt ymlaen
llaw. Os byddai angen,
gellid cyflwyno cynigion i sesiwn friffio’r Cyngor drwy gydol y broses o wneud
penderfyniad, er mwyn sicrhau bod pob cynghorydd yn gwbl gyfarwydd â hwy.
Diolchodd y
Cadeirydd i’r llofnodwyr am alw’r penderfyniad i mewn, i’r Aelod Arweiniol a’r
swyddogion am fynychu ac ateb cwestiynau’r aelodau, a bu i’r Pwyllgor:
BENDERFYNU, yn amodol ar y sylwadau uchod, argymell i'r Cabinet:
(i)
gydnabod casgliadau ac
argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn sgil ei adolygiad o
benderfyniadau’r Cabinet ar 25 Medi;
(ii)
ailystyried y penderfyniad a
wnaeth ar 25 Medi 2018 ynglŷn â lleoliad arfaethedig y safleoedd preswyl a
theithiol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Ddinbych, gan ystyried y
wybodaeth ychwanegol y gofynnodd y Pwyllgor Craffu amdani; ac
(iii)
yn y dyfodol, drwy ddarparu
gwybodaeth yn sesiynau Briffio'r Cyngor, sicrhau y rhoddir gwybodaeth drylwyr
i’r holl gynghorwyr sir ynglŷn â phenderfyniadau a allai fod yn ddadleuol
y disgwylir i’r Cyngor neu’r Cabinet eu gwneud.
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 3./1 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 3./2 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 3./3 yn gyfyngedig