Eitem ar yr agenda
TAWELFAN
I drafod gyda chynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ganfyddiadau archwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS) (ac ymchwiliadau cysylltiol eraill) i’r gofal a‘r driniaeth a ddarparwyd ar gyfer cleifion ar Ward Tawelfan yn Ysbyty Glan Clwyd, yn cynnwys y gwersi a ddysgwyd a chynlluniau’r Bwrdd o ran diogelu unigolion bregus a darparu gwasanaethau dementia yn y dyfodol.
Dolenni cyswllt at adroddiad HASCAS:
Crynodeb Gweithredol: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/opendoc/324119
Adroddiad llawn: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/opendoc/324118
Cofnodion:
Croesawodd y
Cadeirydd gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i’r
cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.
Fe atgoffwyd yr
aelodau o gasgliadau ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal
Cymdeithasol (HASCAS) ac ymchwiliadau cysylltiedig eraill mewn i'r gofal a
thriniaeth a roddwyd yn Ward Tawelfan yn Ysbyty Glan Clwyd, ac roedd dolenni ar
eu cyfer wedi cael eu cynnwys yn yr agenda ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o’r wyth prif gwestiwn roedd y
Pwyllgor wedi’u paratoi mewn cyfarfod cynharach wedi cael eu rhannu gyda
swyddogion y Bwrdd Iechyd ymlaen llaw i’w galluogi i roi ymatebion cynhwysfawr
iddynt yn y cyfarfod. Yn gynharach ar ddiwrnod y cyfarfod, roedd y Bwrdd Iechyd
wedi darparu dolenni i’r Pwyllgor i nifer o adroddiadau a drafodwyd yng
nghyfarfodydd y Bwrdd Iechyd oedd yn ymwneud â chasgliadau’r adolygiadau, roedd
y rhain yn ddogfennau cyhoeddus ers peth amser ac mae’n debyg y byddai’r
aelodau yn gyfarwydd â’u cynnwys.
Cadarnhaodd
swyddogion y Bwrdd Iechyd y byddant yn ateb cwestiynau’r aelodau mor
gynhwysfawr â phosibl yn ystod y cyfarfod ac fe wnaethant addo darparu atebion
ysgrifenedig i’r cwestiynau a holwyd.
Cyn ateb
cwestiynau’r Pwyllgor, rhoddodd gynrychiolwyr BCUHB ychydig o gefndir a
chyd-destun i’r ymchwiliadau a gomisiynwyd mewn cysylltiad â Thawelfan. Fe
wnaethant gadarnhau bod y broses wedi bod yn un faith oherwydd y nifer o
ymchwiliadau a gynhaliwyd. Bu dau ymchwiliad gan HASCAS, un ymchwiliad
cyffredinol ac un yn arbennig i deuluoedd oedd wedi cael eu heffeithio. Roedd
yr ymchwiliad diwethaf yn parhau. Yn rhan o’r adolygiad hwn, roedd adroddiadau
108 o gleifion unigol wedi cael eu paratoi a’u hadolygu. Roedd y gwaith yma’n
cynnwys gweithio gyda theuluoedd, os oedd aelodau’r teulu yn bodoli ac yn
fodlon gweithio gyda’r adolygwyr. Os daethpwyd o hyd o niwed i glaf, cafodd
gweithdrefnau cenedlaethol a osodwyd eu dilyn i ymchwilio i’r achosion hynny.
Os oedd angen, roedd yr adolygwyr wedi cwrdd ag aelodau’r teuluoedd ar sawl
achlysur fel rhan o’r broses adolygu. Roedd yr adolygiadau wedi cael eu cynnal ar gyflymder oedd yn addas i’r
teulu ac yn cynnwys agweddau roedd y teulu’n teimlo oedd yn bwysig iddynt. Mewn rhai achosion, roedd cynrychiolwyr o’r
Cyngor Iechyd Cymuned a/neu eiriolwyr o ddewis y teulu wedi bod yn bresennol.
Yn dilyn cyhoeddi
adroddiadau HASCAS ac Ockenden, dywedodd y swyddogion ei bod yn bwysig bod y
Bwrdd Iechyd yn ymateb yn briodol iddynt. Fel rhan o’r ymateb, roedd y bwrdd
wedi sefydlu dau fwrdd lefel uchel er mwyn bwrw ymlaen ac i wireddu’r
gwelliannau. Sef:
·
Y
Grŵp Gwella (gyda’r Cyfarwyddwr Nyrsio yn cadeirio); a
·
Y
Grŵp Budd-Ddeiliaid
roedd y Bwrdd
Iechyd yn goruchwylio’r ddau ohonynt, gan edrych ar faterion megis gwella
recriwtio staff, gwelliannau i adeiladau a chyfleusterau, a chodi ymwybyddiaeth
o ddementia ymysg staff ar draws y Bwrdd Iechyd.
Gan ymateb i
gwestiynau’r Pwyllgor, dyma oedd gan swyddogion y Bwrdd Iechyd i’w ddweud:
·
bod
costau oedd yn gysylltiedig â chau’r ward yn fach a bod yr adeilad yn cael ei
gynnal fel rhan o raglen cynnal a chadw’r ysbyty ei hun. Roedd y brif gost oedd
yn gysylltiedig â chau ward Tawelfan yn ymwneud â gwariant a gafwyd wrth leoli
rhai cleifion dros dro mewn lleoliadau gofal addas y tu allan i ardal y Bwrdd
Iechyd. Yn ogystal â bod yn
gostus, nid oedd lleoliadau o’r fath yn ddelfrydol ar gyfer y claf na’u
teuluoedd;
·
cafwyd
cadarnhad bod trafodaethau ar y gweill gyda Thîm Ystadau Llywodraeth Cymru
ynghylch ail-ddylunio hen ward Tawelfan yn rhan o’u cynlluniau ehangach i ail
ddylunio Uned Ablett. Nid oedd y cynlluniau hyn, oedd yn cynnwys darpariaeth ar
gyfer adeilad addas i’r diben cyfeillgar i ddementia, yn cynnig defnyddio Ward
Tawelfan at ddibenion clinigol yn y dyfodol. Dylai rhagor o fanylion am y
cynigion hyn fod ar gael erbyn Nadolig 2018, a gobeithio y bydd yr adeilad
wedi’i ail ddylunio fod yn barod o fewn tair blynedd;
·
dweud
bod pob awdurdod iechyd wrthi’n edrych ar y model gorau i ddarparu gwasanaethau
dementia, yn cynnwys gwasanaethau gofal nyrsio dementia, gwasanaethau therapiwtig a gwasanaethau gofal gwell. Hyd
yn hyn, mae BIPBC wedi buddsoddi mewn staff wedi’u hyfforddi mewn dementia ac
mae ganddynt dros 30 o weithwyr cefnogi dementia.
·
cadarnhawyd
bod lleoliadau y tu allan i’r ardal i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl wedi
cyrraedd uchafbwynt yn ystod 2016/17, ar gost o oddeutu £3m i’r Bwrdd Iechyd.
Roedd y swm o £3m yn swm nad oedd yng nghyllideb y Bwrdd Iechyd ac felly fe
arweiniodd at bwysau mewn rhannau eraill o BIPBC. Roeddent yn falch o
allu dweud bod lleoliadau y tu allan i’r ardal wedi lleihau’n sylweddol ers
2016/17, a phan ddefnyddiwyd lleoliadau y tu allan i’r ardal, gwnaed pob
ymdrech i'w lleoli yn agosach at eu teuluoedd cyn gynted ag y bo'n ymarferol
bosibl. Wedi dweud hynny, yn
gyntaf ac yn bennaf y prif gymhelliant y tu ôl i leoliadau y tu allan i’r ardal
oedd lles gorau’r claf;
·
dweud
bod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud buddsoddiad cyfalaf sylweddol ar safleoedd
eraill ar draws y rhanbarth er mwyn derbyn cleifion gyda dementia a chyflyrau
meddygol tebyg e.e. y buddsoddiad yn Uned Bryn Hesketh yn Ysbyty Cymuned Bae
Colwyn er mwyn cyrraedd y safonau
staffio cenedlaethol a argymhellir ar gyfer y mathau yma o wardiau;
·
cadarnhawyd
er mwyn bodloni’r galw cynyddol am wasanaethau, roedd y Bwrdd Iechyd wedi
cynyddu’n barhaol faint roedd yn ei wario ar wasanaethau iechyd meddwl oedolion
yn y rhanbarth. Yn y cyfnod rhwng 2012/13 a 2016/17 roedd y swm a wariwyd ar y
gwasanaethau yma yn y bwrdd iechyd wedi cynyddu 22%. Yn gyson, roedd BIPBC wedi
gwario mwy na'r swm roedd LlC yn ei argymell i’w glustnodi (yr isafswm a
argymhellir) ar wasanaethau iechyd meddwl cynradd ac eilaidd yng ngogledd
Cymru. Roedd swyddogion yn addo darparu’r ffigurau gwirioneddol oedd yn ymwneud
â’r datganiadau yma i aelodau;
·
cydnabod
bod yr ymchwiliadau wedi cymryd peth amser o’r cychwyn i’r diwedd, a bod hyn
wedi golygu bod rhai aelodau staff wedi cael eu gwahardd am sawl blwyddyn.
Gwnaed pob ymdrech gan y bwrdd i geisio cefnogi’r aelodau staff yma trwy gydol
y broses gan fod gan y Bwrdd ddyletswydd gofal tuag atynt fel gweithwyr e.e.
bod rhai aelodau staff wedi cael cynnig cyfleoedd i ailhyfforddi ac ati. Roedd
y prosesau ymchwilio/disgyblu oedd yn ymwneud â’r olaf o’r gwaharddiadau yma
bellach yn dod at eu terfyn;
·
cadarnhawyd
bod adolygiadau o farwolaethau wedi cael eu cynnal mewn cysylltiad â chleifion
a fu farw ar y ward yn ystod y cyfnod dan sylw;
·
cadarnhawyd bod gan y Bwrdd Iechyd ‘llwybr gofal’ ar
waith er mwyn agor dialog gyda theuluoedd unwaith roedd unigolyn wedi cael
diagnosis o ddementia. Roedd
y llwybr yma’n seiliedig ar Ganllawiau Cymdeithas Alzheimer's ac fe sonnir
amdano mewn clinigau cof yn ogystal ag ym mhob gwasanaeth, yn benodol
gwasanaethau aciwt;
·
dweud
y gallai teuluoedd benodi eiriolwr annibynnol i weithredu ar ran y claf a’u
rhan nhw o dan y llwybr gofal petaent yn dymuno;
·
cydnabod
nad yw Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn awyrgylch delfrydol i drin claf
sydd â dementia. Ar hyn o bryd, roedd y Bwrdd wrthi’n ceisio datrys hyn trwy
sicrhau bod meddyg sydd â hyfforddiant dementia arbenigol ar gael i gael ei
g/alw petai angen er mwyn cynorthwyo i asesu anghenion meddygol y claf ac i'w
cydbwyso gyda'u hanghenion seicolegol i sicrhau bod triniaeth briodol yn cael
ei rhoi cyn gynted â phosibl;
·
cafwyd
cadarnhad petai claf dementia angen cael ei d/throsglwyddo i ward ysbyty aciwt,
yn seiliedig ar galluedd meddyliol y
claf a’r angen ar y gwasanaeth iechyd meddwl ar y pryd, byddai nyrs iechyd
meddwl yn mynd gyda’r claf. Roedd gan rai cleifion dementia ofal un-i-un
weithiau. Wrth drosglwyddo claf i leoliad brys neu ysbyty acíwt, gwnaed pob
ymdrech i hysbysu staff am gyflwr iechyd meddwl/dementia y claf er mwyn lleihau
gofid ac amhariad i’r claf;
·
dweud
bod y Bwrdd Iechyd wedi torri nifer o argymhellion HASCAS mewn i
‘is-argymhellion’ i’w galluogi i gael eu dyrannu i staff uchel iawn y Bwrdd
Iechyd er mwyn gweithredu a bwrw ymlaen â gwelliannau o fewn y gwasanaethau y
maent yn gyfrifol amdanynt;
·
cadarnhau
bod holl ddogfennaeth y cleifion angen bod yn ddiweddar ac yn gywir er mwyn
lliniaru'r risg bod eu llwybr gofal yn cael ei amharu. Y nod yn y pendraw
fyddai sicrhau bod yr holl ddogfennau yn cael eu cwblhau a’u storio'n
electroneg;
·
cadarnhawyd
bod tua 40% o welyau cymunedol yn llawn gyda chleifion dementia ar hyn o bryd.
Er mwyn cefnogi’r cleifion hyn roedd y Bwrdd Iechyd wedi recriwtio mwy o
weithwyr cefnogi dementia i weithio yn yr ysbytai cymunedol. Serch hynny, fe
gydnabuwyd o dan Strategaeth Dementia y Bwrdd bod unigolion sydd â dementia yn
cael eu rheoli’n well yn eu cartref eu hunain lle bynnag y bo’n bosibl;
·
dweud
bod y Bwrdd Iechyd wrthi’n gweithio i wella trosglwyddo cleifion, gan gynnwys
gweithdrefnau trosglwyddo cleifion mewn perthynas â chleifion sydd yn dioddef o
ddementia. Roeddynt yn edrych ar arferion defnyddiol eraill sy’n cael eu
defnyddio yn y diwydiant awyrennau a sut y gallant gael eu haddasu i’w
defnyddio mewn lleoliad gofal iechyd;
·
cadarnhawyd
na ddefnyddiodd y Bwrdd Iechyd ‘Llwybr Gofal Lerpwl ar gyfer y Cleifion sy’n
Marw’ ar ward Tawelfan. Tra’n cydnabod bod yna enghreifftiau da a drwg o ofal
diwedd oes yn Nhawelfan, a bod staff wedi gwneud eu gorau i gael pethau’n gywir
ar y pryd, nid oedd hyn wedi gweithio bob amser wrth edrych yn ôl. Ers hynny,
mae proses asesiad risg clinigol wedi cael ei llunio er mwyn adnabod pryd roedd
gofal diwedd oes yn briodol a sut orau i gyflwyno’r gofal hwnnw. Roedd hefyd yn
bwysig bod yr holl staff nyrsio, nid staff iechyd meddwl/dementia yn unig, yn
cael eu hyfforddi ar sut i gyflwyno gofal lliniarol a gofal diwedd oes
urddasol;
·
dweud
bod ‘dangosfwrdd canolog’ yn cael ei ddatblygu a fyddai’n gweithredu fel
'system rhybudd cynnar’ ar feysydd o risg a phryder i alluogi’r Bwrdd i ymyrryd
a chefnogi’r gwasanaethau hynny cyn gynted â phosibl, er mwyn mynd i’r afael â
phryderon ar draws pob un o wasanaethau’r Bwrdd Iechyd;
·
dweud
bod y swydd ‘Nyrs Ymgynghorol Dementia’ wedi cael ei chreu i gyfrannu ar lefel
strategol i lwybr gofal dementia. Roedd deiliad y swydd yn gyfrifol am
gyflwyno’r Strategaeth Dementia, cefnogi nyrsys arbenigol, trefnu hyfforddiant
sgiliau ac ymwybyddiaeth dementia i staff ar draws y Bwrdd Iechyd a chryfhau
arferion diogelu ar gyfer cleifion sydd yn dioddef o ddementia. Gan gydnabod y
llwyth gwaith oedd yn gysylltiedig â’r swydd roedd y Bwrdd Iechyd wrthi’n
recriwtio ail ‘Nyrs Ymgynghorol Dementia’;
·
addo
rhannu Strategaeth Dementia y Bwrdd gyda’r Pwyllgor;
·
cadarnhau
bod y Bwrdd Iechyd yn gweithio tuag at wneud hyfforddiant ymwybyddiaeth
dementia yn orfodol i’r holl staff;
·
cadarnhau
bod y Bwrdd yn hyderus bod ganddo ddigon o gyllid i gyflwyno gofal dementia
arbenigol, y broblem ar hyn o bryd oedd gallu recriwtio digon o staff
cymwysedig i ddarparu’r gofal angenrheidiol.
Er mwyn gwella’r gofal sy’n cael ei ddarparu a sicrhau dilyniant ar
gyfer y dyfodol, roedd y Bwrdd angen gallu penodi staff arbenigol parhaol a bod
yn llai dibynnol ar wasanaeth locwm drud a staff asiantaeth;
·
cydnabod
bod recriwtio a chadw staff gwasanaeth iechyd yn broblem genedlaethol, ac nid
problem yn ardal gogledd Cymru yn unig. Roedd unigolion oedd â llawer o
sgiliau’n cael eu denu i weithio fel locwm neu weithio dramor oherwydd y
cyflogau sy’n cael eu talu. Yn ychwanegol, nid oedd digon o bobl ifanc yn y system
addysg uwch yn hyfforddi ym maes meddygaeth neu broffesiynau cysylltiedig, ac
roedd y rhai oedd yn hyfforddi yn y disgyblaethau yma yn cael eu denu i aros yn
ardal eu hysgol feddygol ar ôl iddynt gymhwyso. Anaml iawn y mae ysbytai sydd
yn agos at ysgolion meddygol yn cael problemau recriwtio. Serch hynny, roedd
gan ardal BIPBC lawer i’w gynnig i ymarferwyr meddygol newydd gymhwyso ac roedd
amwynderau’r ardal yn denu rhai ymarferwyr iechyd. Roedd y Bwrdd Iechyd wrthi’n
gweithio gyda phrifysgolion Bangor a Glyndŵr er mwyn cael mwy o
hyfforddiant arbenigol yn yr ardal;
·
dweud
bod y Bwrdd Iechyd yn rhedeg rhaglen uwchsgilio a datblygu gyda’r bwriad o fynd
i’r afael â phrinder staff mewn meysydd sgil penodol. Roedd hyfforddiant yn
cael ei gyflwyno mewn nifer o fformatau gwahanol, e.e. mewn grwpiau, wyneb yn
wyneb, e-ddysgu ac ati, ac roedd y posibilrwydd o weithio gyda phartneriaid i
gyflwyno rhywfaint o hyfforddiant yn cael ei ystyried hefyd. Roedd y Bwrdd
hefyd yn anfon cynrychiolwyr i ffeiri swyddi ac ati, gyda’r bwriad o ddenu pobl
ifanc mewn i yrfaoedd gofal iechyd;
·
dweud
bod hyfforddiant sylweddol wedi cael ei gynnal yn ddiweddar mewn perthynas â
Deddf Iechyd Meddwl a Deddf Galluedd Meddyliol, gan gynnwys y gwahaniaethau rhwng
y ddwy ddeddf a’r gofynion ar gyfer y ddwy ddeddf;
·
cadarnhau
bod y Bwrdd Iechyd yn ariannu, yn cefnogi ac yn monitro rhai cleifion dementia
sydd yn byw mewn cartrefi nyrsio dementia arbenigol. Roedd yr arfer yma’n rhyddhau gwelyau mewn
ysbytai i gleifion oedd ag anghenion meddygol.
Serch hynny, roedd yna ddiffyg o gartrefi arbenigol ar gyfer gofal
nyrsio dementia yn yr ardal;
·
cafwyd
sicrwydd y gwnaed pob ymdrech i gau’r ‘bwlch rhwng y Bwrdd a’r ward’ ac fel
arall. Roedd arweinyddiaeth mewn gwasanaethau iechyd meddwl wedi cryfhau’n
sylweddol. Cynhelir cyfarfodydd ‘Gweithio i Wella' yn wythnosol, a thrafodir
unrhyw ddigwyddiadau sy’n digwydd yn y cyfarfodydd yma. Treuliodd y Cyfarwyddwr
Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu o leiaf hanner diwrnod yr wythnos ar ward
iechyd meddwl er mwyn uwchgyfeirio unrhyw bryderon a ddaw i’w sylw i lefel
uwch. Pan gaeodd Tawelfan, nid oedd unrhyw Gyfarwyddwr oedd â chyfrifoldeb am
wasanaethau iechyd meddwl yn gwasanaethau ar y Bwrdd. Mae hyn bellach wedi
newid ac mae’r Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu yn adrodd yn ôl
i’r Bwrdd yn wythnosol am faterion o fewn ei wasanaethau;
·
dweud
bod canlyniadau’r arolwg staff diweddaraf yn dangos bod staff y Gwasanaeth
Iechyd yn teimlo bod rhyngweithiad y bwrdd gyda staff wedi gwella’n sylweddol
yn y pedair blynedd diwethaf. Serch hynny, ni all y Bwrdd laesu dwylo yn hyn o
beth ac roedd yn anelu am welliant pellach yn y maes yma;
·
er
mwyn lleihau faint o waith papur sy'n rhan o ofal iechyd a mynd i'r afael â'r
canfyddiad bod uwch nyrsys yn eu swyddfeydd yn cwblhau prosesau gweinyddol a
ddim ar y wardiau, roedd y Bwrdd wrthi’n treialu dyfeisiau technegol er mwyn
rhyddhau nyrsys i ymgymryd â gwaith mwy gweithredol. Byddai’r polisïau a
gweithdrefnau diweddaraf ar gael ar y dyfeisiau yma ac felly rhagwelir y byddai
hyd at 20% o amser nyrsys yn gallu cael ei ryddhau er mwyn ymgymryd â mwy o
waith ar y wardiau. Roedd cyfnod treialu tebyg yn ardal Cilgwri
wedi bod yn arbennig o lwyddiannus; a
·
nid
oedd y cynlluniau ar gyfer y 'Cyfleuster Gofal Iechyd Cymunedol Gogledd Sir
Ddinbych' arfaethedig newydd yn y Rhyl, yn cynnwys gwelyau gofal dementia
arbenigol. Roedd y 28 gwely arfaethedig yn y cynlluniau ar gyfer llwybr gofal
henoed yn fwy eang. Fe fyddai clinig gofal iechyd meddwl pobl hŷn ar y
safle ynghyd â chlinigau eraill a byddai gan gleifion fynediad at wasanaethau
gofal iechyd meddwl cymunedol. Byddai’r cyfleuster ei hun yn cael ei ddylunio’n
benodol i fod yn gyfeillgar i ddementia. Roedd gwaith ar y gweill ar yr achos
busnes diwygiedig ar gyfer y prosiect ac ar dystiolaeth i brofi pam fod y model
arfaethedig yn addas i’r diben.
Cyn diwedd y
drafodaeth diolchodd y Pwyllgor i gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd am eu
gonestrwydd a’u diffuantrwydd wrth ateb cwestiynau’r aelodau. Gofynnodd yr
Aelodau a oedd y Bwrdd Iechyd yn fodlon gyda’r berthynas weithio gyda Chyngor
Sir Ddinbych mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a’r
rhyngweithio rhyngddynt. Cadarnhaodd Prif Weithredwr y Bwrdd bod perthynas waith
da yn bodoli rhwng y ddau sefydliad, safbwynt roedd yr Aelod Arweiniol Lles ac
Annibyniaeth a Phennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yn ei adleisio. Roedd y ddau sefydliad eisiau gwneud
pethau’n fwy effeithiol ac effeithlon ar gyfer eu cleifion a defnyddwyr
gwasanaeth er mwyn gwella eu lles a chefnogi eu teuluoedd.
Roedd aelodau’r
Pwyllgor yn cydnabod nad oedd unrhyw un mewn sefyllfa i newid yr hyn
ddigwyddodd yn y gorffennol, ond roeddynt yn wirioneddol obeithio y byddai
gwersi’n cael eu dysgu a fyddai’n diogelu rhag sefyllfa debyg yn y dyfodol.
Penderfynodd y
Pwyllgor:
Nodi’r - wybodaeth a ddarparwyd a diolch i
swyddogion y Bwrdd Iechyd am ddod i’r cyfarfod i drafod y materion a godwyd ac
am ateb cwestiynau’r aelodau.
Daeth y cyfarfod
i ben am 4.15pm