Eitem ar yr agenda
DANGOSFWRDD YMDRECH CWSMERIAID
Monitro’r cynnydd a wnaed mewn perthynas â datblygu’r Dangosfwrdd Ymdrech
Cwsmeriaid a’r ymateb i’r system teleffoni newydd.
11.00am – 11.45am
Cofnodion:
Yn absenoldeb yr Aelod Arweiniol dros Isadeiledd Cymunedol, fe
gyflwynodd Pennaeth Cwsmeriaid,
Cyfathrebu a Marchnata adroddiad y Rheolwr Gwella Gwasanaethau (wedi’i ddosbarthu’n
flaenorol) wnaeth ddarparu golwg cyffredinol i'r Pwyllgor o ganlyniadau Ymdrech
a Boddhad Cwsmeriaid.
Mae’r adroddiad yn cynnwys enghreifftiau gair-am-air ac awgrymiadau i wella
gwasanaeth yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd. Fe atgoffodd y Pennaeth
Gwasanaeth yr aelodau mai cynllun peilot oedd y Dangosfwrdd Ymdrech a Boddhad
Cwsmeriaid yn y lle cyntaf, ond yn sgil ei lwyddiant cyflwynwyd system fel rhan
gyfannol o Ganolfan Gwasanaethau i Gwsmeriaid y Cyngor.
Yn dilyn trafodaeth gydag Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Cyngor cyflawnwyd
gwaith i ehangu’r gwasanaeth i gwsmeriaid eraill yn defnyddio gwasanaethau’r
Cyngor, dyma wasanaethau gyda chyfran uchel o alwadau gan y cyhoedd a
rhanddeiliaid eraill - yn ystod y
deuddeg mis hyd at Medi 2018 mae’r arolwg wedi cael ei ymestyn i bedwar
gwasanaeth y cyngor a hyd at 13 o adrannau gwahanol.
Yn ôl y Rheolwr Gwella Gwasanaethau mae gan y system y gallu i lunio
adroddiadau ar faint o ymdrech sydd ei angen ar ran y cwsmer i ateb eu
hymholiad ynghyd â chyfradd boddhad cwsmeriaid ar ddiwedd y broses.
Dros gyfnod o 12 mis, roedd 3 thema amlwg yn sgil y dadansoddiad o ran pam
nad oedd cwsmeriaid yn fodlon wedi’u cyswllt â’r Cyngor.
·
y galwr yn cael ei
drosglwyddo, neu’n cael rhif uniongyrchol i’w alw, a bod eu galwad ddim yn cael
ei ateb;
·
mae’r galwr wedi gadael
neges ar y peiriant ateb ond neb wedi ei ffonio'n ôl; ac
·
ar ôl i’r ymholiad gael ei
nodi ar y system, yn gofyn i wasanaeth penodol gysylltu â hwy’n uniongyrchol,
ni chafodd y cwsmer alwad yn ôl.
Fe
arweiniodd hynny at y Prosiect Gwell Gwasanaeth Ffôn - gan gynyddu gallu cwsmeriaid ‘i gyrraedd y
lle iawn y tro cyntaf’ wrth ddeialu prif rif ffôn y Cyngor ar 01824 706000.
Yn ymateb i gwestiynau’r aelodau dyma Bennaeth y Gwasanaeth a’r Rheolwr Gwella
Gwasanaeth yn:
·
cytuno i gynnwys ffigyrau
gwirioneddol yn ogystal â chanrannau yn adroddiadau’r dyfodol;
·
cadarnhau fod y nifer o
arolygon ffôn symudol wedi’u llenwi a’u dychwelyd yn foddhaol ac yn uwch na'r ffigur
dychwelyd ar gyfartaledd ar gyfer arolygon yn gyffredinol;
·
cynghori fod y Cyngor ddim
yn bwriadu cyflwyno App ffôn symudol/tabled ar gyfer dibenion cymryd rhan yn y
math hwn o arolygon gan fod awdurdodau lleol sydd wedi eu cyflwyno bellach yn
trio rhoi gorau iddyn nhw oherwydd gofynion cymhleth TGCh a phrosesau ‘cefn
swyddfa’ sydd eu hangen i’w cefnogi. Mae gwefan Cyngor
Sir Ddinbych yn cael ei defnyddio’n aml iawn gan breswylwyr a chwsmeriaid ar
gyfer rhyngweithio â’r awdurdod a byddai datblygu'r wefan ymhellach ar gyfer y
diben hynny yn syniad llawer mwy effeithiol na chyflwyno App:
·
cynghori bod y System
Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid newydd a oedd ar fin cael ei gyflwyno ddiwedd
Hydref neu ddechrau Tachwedd 2018 yn gweithio'n effeithiol gyda ffonau symudol
ac yn gwella prosesau o'r dechrau i'w diwedd ac o ganlyniad yn cefnogi
rhyngweithiad preswylydd/cwsmer gyda'r Cyngor;
·
cadarnhau fod y data a
dderbyniwyd o’r arolygon yn cael ei ddefnyddio i wella gwasanaethau gyda’r
bwriad o sicrhau fod yr holl Wasanaethau yn cydymffurfio â Safon Corfforaethol
ar gyfer darparu gwasanaeth - Dull Sir Ddinbych. Er
hynny byddai yna wastad le am welliant yn fewnol yn y Cyngor ac yn allanol gyda
rhanddeiliaid;
·
cynghori bod y data a
dderbyniwyd o’r arolygon wedi’i ddadansoddi gan weithgor o swyddogion o’r prif
wasanaethau sy’n delio â chwsmeriaid.
Cynrychiolwyr gwasanaeth yn gallu cael gafael ar
ddata is i lawr ac adnabod pa gynghorydd unigol o fewn eu Gwasanaeth oedd wedi
delio â’r ymholiad ac wedi mynd i'r afael ag unrhyw achosion neu broblemau a
godwyd gyda'r bwriad o wella'r gwasanaeth a gynigir yn y dyfodol.
Yn yr un modd gellir defnyddio'r adborth i adnabod
arfer orau ac i gyfleu canmoliaeth a gwerthfawrogiad personol i gynghorwyr
unigol;
·
ymgymryd i ymchwilio pam
fod ymholiadau rhai aelodau etholedig yn dal i fod wedi cofrestru fel 'pinc' ar
y system olrhain ymholiadau aelodau (EMMA)
·
cynghori er bod EMMA yn
ffordd effeithiol o wirio cynnydd wrth ddelio ag ymholiadau, roedd yn bwysig
fod swyddogion yn ymateb i ymholiadau trwy EMMA. Byddai’r
system RhCC newydd yn cymryd lle EMMA ar gyfer ymholiadau aelodau;
·
cadarnhau fod yr holl
ymholiadau sydd heb eu hateb eto ar EMMA yn cael eu hadrodd i UDA y Cyngor yn
wythnosol;
·
mwy hyderus er mai'r nod
yn yr hirdymor oedd cynyddu'r nifer o ryngweithiadau electronig gyda'r Cyngor
oedd trwy'r wefan, nid oedd hynny’n golygu na fyddai preswylwyr ac ati yn gallu
cysylltu â’r Cyngor dros y ffôn neu wyneb i wyneb os mai dyna yw eu dull o
ddewis ar gyfer cyfathrebu. Trwy gynyddu cyfleoedd i
breswylwyr ac eraill i gysylltu â’r Awdurdod yn electronig ar amser sydd yn
gyfleus iddyn nhw byddai’r Cyngor yn gwneud defnydd mwy effeithiol o’i adnoddau
h.y. rhyddhau cymhwysedd o fewn yr amgylcheddau ffôn a chysylltiad â chwsmeriaid
i helpu'r rhai mwy diamddiffyn, a'r rheiny sydd angen cymorth i drafod â'r
cyngor;
·
cynghori bod Adran
Gwasanaethau i Gwsmeriaid y Cyngor yn cydymffurfio â holl Safonau'r Iaith
Gymraeg a oedd yn berthnasol i'w wasanaethau;
·
cadarnhau bod Cymdeithas
dros Reolwyr TG yn y sector gyhoeddus (SOCITIM) yn archwilio gwefan y Cyngor yn
flynyddol ac o dan ei safonau mae wedi derbyn gradd sêr o 3 allan o 4 yn
rheolaidd – Cyngor Dinas Caerdydd yw’r unig un yng Nghymru i gael gradd 4*.
Rheolwyd a gweinyddwyd gwefan Cyngor Sir Ddinbych
gan dîm mewnol o swyddogion a heb brynu i mewn, ac felly roedd ffocws y Tîm yn
barhaol ar wefan y Cyngor a gwasanaethau ar safleoedd micro y Cyngor;
·
cadarnhau bod preswylwyr,
swyddogion a chynghorwyr yr un fath i gyd yn cael eu hadnabod fel cwsmeriaid
wrth iddyn nhw wneud ymholiadau gyda’r Adran Gwasanaethau i Gwsmeriaid. Bydd y system RhCC newydd yn cyfeirio'r holl ymholiadau yn uniongyrchol i’r
gwasanaethau perthnasol;
·
cydnabod bod preswylwyr yn
aml yn mynd at aelodau etholedig gydag ymholiadau o ddydd i ddydd ac y byddai’n
haws mynd i’r afael â nhw pe baent yn cysylltu â’r Cyngor yn uniongyrchol.
Mae gan yr Awdurdod bresenoldeb ar nifer o
blatfformau cyfryngau cymdeithasol ac er na fyddai swyddogion yn chwilio am
ymholiadau unigol wedi'u gadael ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol, byddai
aelodau etholedig yn gallu cyfeirio preswylwyr i’r platfformau hynny ar gyfer
gwybodaeth gyffredinol, rhifau ffôn neu ddiweddariadau ar achosion ac ati; a
·
cynghorwyd fod
trafodaethau yn cael eu cynnal ar hyn o bryd gyda TGCh a’r cwmni sydd yn gyfrifol am gyflenwi'r
derfynellfa cofrestru ymwelwyr o'r enw 'Entrysign’ mewn derbynfeydd yn
swyddfeydd y Cyngor er mwyn sicrhau fod y wybodaeth sy’n cael ei arddangos ar y
terfynellfeydd yn gwbl ddwyieithog.
Wedi trafodaeth manwl dyma’r Pwyllgor yn:
Penderfynu: -
(i)
yn ddarostyngedig
i’r arsylwadau uchod a’r gweithredoedd â nodwyd uchod yn cael eu datblygu i
dderbyn yr adroddiad; ac
(ii)
i ofyn bod
adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor mewn deuddeg i bymtheg mis yn
adolygu'r broses o weithredu'r System Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid newydd a’i
berfformiad mewn darparu gwasanaethau yn canolbwyntio ar gwsmeriaid sy’n
effeithiol ac effeithlon yn unol â manyleb y cynnyrch a disgwyliadau'r Cyngor
Dogfennau ategol:
- Customer Effort Dashboard Report 270918, Eitem 6. PDF 285 KB
- Customer Effort Dashboard Report 270918 - Apps, Eitem 6. PDF 384 KB