Eitem ar yr agenda
COFRESTR RISG GORFFORAETHOL
Ystyried y
fersiwn ddiweddaraf o Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor.
10.05am – 10.45am
Cofnodion:
Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau adroddiad y Swyddog
Cynllunio a Pherfformiad (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) a gyflwynodd copi i’r
Pwyllgor o Gofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor a naratif ar ddileu, ychwanegu
a diwygiadau arfaethedig i’r Gofrestr.
Yn ystod ei
gyflwyniad fe amlinellodd yr Aelod Arweiniol y broses adolygu ar gyfer y
Gofrestr a rhoi diffiniad o’r termau ‘Risg Hanfodol’ a ‘Risg Gweddilliol’.
Mae’r Cofrestr Risg Gorfforaethol yn
cynnwys y risgiau lefel uchel wedi'u hadnabod gan y Cyngor, a risgiau lefel is
wedi'u cynnwys yn y Cofrestrau Risg Gwasanaeth. Gallai’r Gofrestr Risg Corfforaethol gael ei
ddiweddaru ar unrhyw adeg ond yn cael ei adolygu’n ffurfiol bob chwe mis a
Chofrestrau Risg Gwasanaeth yn cael eu hadolygu bob chwarter.
Gallai risgiau eu huwchraddio o’r Gofrestr Risg Gwasanaeth i’r Gofrestr
Risg Corfforaethol os oes angen, ac i'r gwrthwyneb gallai Risgiau Corfforaethol
gael eu hisraddio i Risgiau Gwasanaeth a’u cofnodi yn y Gofrestr Risg
Gwasanaeth perthnasol.
Cynghorodd yr
Aelod Arweiniol hefyd fod Atodiad 1 o’r adroddiad wedi cael ei ailfformatio yn
ôl cais y Pwyllgor, i alluogi aelodau i adnabod yn hawdd pa 'risgiau' oedd yn
newydd, wedi newid, wedi'u dileu neu heb fod yn ddarostyngedig i unrhyw
newidiadau.
Dau ‘risg’ newydd
oedd wedi tynnu sylw’r aelodau ac wedi’u hychwanegu i’r Gofrestr fel rhan o
adolygiad diweddar oedd:
·
Risg rhif 00036: y risg
fod unrhyw effeithiau negyddol o adael yr Undeb Ewropeaidd ddim yn gallu cael
eu lliniaru gan y Cyngor – mae’r risg wedi cael ei ychwanegu fel effaith y
Deyrnas Unedig (DU) yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn dal i fod yn aneglur. O ganlyniad i’r ansicrwydd presennol ynghylch yr achos penodol hwn, mae’r
risgiau ‘hanfodol’ a ‘gweddilliol’ wedi cael eu dosbarthu fel B1 (coch).
·
Risg rhif 00037: y risg
lle nad oes gan y partneriaid adnoddau ar ei gyfer, blaenoriaethau ar y cyd neu
ymrwymiad i gefnogi cyflenwi cynlluniau a blaenoriaethau a rennir. Mae gan y
risg ddosbarthiad 'risg hanfodol' o B1 (coch) a dosbarthiad 'risg gweddilliol’
o C2 (oren) o ganlyniad i’r ffaith bod byrddau ar y cyd yn cael eu mynychu gan
reolwyr uwch a chynlluniau a blaenoriaethau ar y cyd (h.y. Cynllun Llesiant y
Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus) wedi cael eu datblygu i adlewyrchu blaenoriaethau
sector cyhoeddus ehangach (Cynllun Corfforaethol Cyngor Sir Ddinbych er
enghraifft).
Wrth ymateb i gwestiynau aelodau, dyma’r Aelod Arweiniol a'r Swyddog
Cynllunio a Pherfformiad:
·
yn cynghori fod y ddau
ddosbarthiad risg ‘hanfodol’ a gweddilliol’ ar gyfer 00035 yn berthnasol i'r
Fargen Twf Rhanbarthol yn cael dosbarthiad C1 (coch) ar hyn o bryd. Y rheswm dros hynny oedd bod y manylion yn dal i gael eu casglu ar gyfer y
Fargen.
Pan fydd mwy o fanylion penodol ar y Fargen ar gael
byddai'r sgoriau risg yn cael eu hadolygu yn seiliedig ar y wybodaeth newydd;
·
cadarnhau fod y gwaith
paratoi y mae’r Cyngor wedi'i wneud mewn perthynas â’r effaith posib o
gyflwyno’r Credyd Cynhwysol (CC) yn Sir Ddinbych ar breswylwyr a’r Cyngor (rhif
risg 00016) wedi bod yn llwyddiannus iawn. Felly mae’r dosbarthiad ‘Risg
Hanfodol’ B2 (coch) wedi lleihau i ddosbarthiad 'Risg Gweddilliol’ o D3
(melyn).
Mae’r Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi archwilio’r
gwaith mewn manylder gynharach yn yr haf. Mae’r ‘risg corfforaethol’ hwn yn gallu o bosib lleihau
ymhellach a’i drosglwyddo i'r Gofrestr Risg Gwasanaeth i gael ei reoli gan y
Gwasanaeth yn y dyfodol;
·
yn cynghori er bod
‘risgiau’ yn gallu newid o bosib ar unrhyw adeg a bod y Gofrestr yn cael ei
ddiwygio i adlewyrchu hyn ar y pryd, mae adolygiad ffurfiol o’r Gofrestr Risg
Corfforaethol yn ei gyfanrwydd wedi’i gymryd gan y Tîm Gweithredol
Corfforaethol (TGC) bob chwe mis.
Os oedd risg yn cael ei israddio i Risg Gwasanaeth
neu’n cael ei dynnu’n gyfan gwbl nid oedd yn golygu na ellir ei ail-ychwanegu
ar y Gofrestr Risg Corfforaethol nes ymlaen os byddai amgylchiadau yn golygu
bod angen ei gynnwys;
·
yn cynghori o ran risgiau
00033 a 00034 – y risg bod y gost o ofal yn mynd y tu hwnt i adnoddau’r Cyngor
a’i bod yn amhosib cwrdd â’r galw am ofal arbenigol yn lleol – rhagor o arian
wedi ei gadw i un ochr ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol, yn enwedig
gwasanaethau arbenigol.
Fodd bynnag mae’r galw am wasanaethau o’r fath yn anodd
ei rhagweld ac yn gallu amrywio.
Yn ogystal gall y Gwasanaethau Iechyd ar adegau fod
yn gyfrifol am ariannu gofal arbenigol. Gyda bwriad i liniaru yn erbyn y risgiau yn y maes
penodol hwn mae arian wrth gefn ar gael i helpu i gefnogi'r Cyngor yn ystod
cyfnodau lle mae galw mawr am wasanaethau arbenigol costus. Mae’n annhebygol iawn bod unrhyw un o’r risgiau hyn
am gael eu tynnu oddi ar y Gofrestr Risg Corfforaethol yn y dyfodol
rhagweladwy;
·
yn cynghori tra bod
Trysorlys y DU wedi sicrhau cyllid penodol i gymryd lle Cyllid yr UE a fyddai’n
cael ei golli, roedd y sicrwydd hwn wedi’i gyfyngu i amser ac nid oedd unrhyw
fanylion ar gael eto ar y cyllid hirdymor. Roedd LlC hefyd
wedi ymrwymo i gyfrannu pan fydd Cyllid yr UE yn cael ei golli, ond manylion
ddim ar gael eto ar:
o
pa fath o gyllid fyddai ar
gael;
o
p’un ai fyddai’n cymryd
lle'r arian UE gydag arian cyfatebol; neu
o
pe bai ar gael ar draws
Cymru neu'n gyfyngedig i ardaloedd daearyddol penodol.
Tra bod ymrwymiad wedi'i wneud bod cyllid wedi’i
sicrhau yn barod yn cael ei anrhydeddu i sicrhau fod yr holl brosiectau yn cael
eu cyflawni fel y cynlluniwyd yn wreiddiol, nid oedd unrhyw addewidion wedi’i
gwneud hyd yma ynghylch cyllid a fyddai efallai ar gael i brosiectau’r dyfodol;
·
yn hysbysu'r Pwyllgor fod
darn o waith wedi’i ddechrau yn ystod y flwyddyn ar gasglu cofrestr o risgiau
cymunedol h.y. newid hinsawdd, iaith Gymraeg ac ati. Mae’r wybodaeth a gafwyd o’r ymarfer hwn wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer
yr Asesiad o Anghenion Lles ac am asesu unrhyw effaith posib ar gymunedau yn
ymwneud â’r risgiau â nodwyd;
·
yn cynghori bod rhif risg
00011 yn berthnasol i allu’r Cyngor i ymateb i ddigwyddiad ‘unwaith ac am byth’
h.y. yn debyg i drychineb Tŵr Grenfell. Mae’r sgôr ‘risg
gweddilliol’ ar gyfer y risg yn E2 (melyn) oherwydd yr argaeledd o gymorth trwy
Wasanaeth Cynllunio mewn Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREP) a Fforwm
Atgyfnerthu Gogledd Cymru (NWRF).
Yn dibynnu ar natur yr achos byddai’r sefydliadau
hyn yn penodi ‘prif’ sefydliad i gydlynu ymateb h.y. Yr Heddlu, Gwasanaeth Tân
ac Achub ac ati. Mae’r Grŵp
Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi gofyn am adroddiad ar ymateb
asiantaethau i dân diweddar ar Fynydd Llantysilio; a
·
cadarnhau mewn perthynas â
risg rhif 00021 yn ymwneud â phartneriaethau effeithiol a rhyngwyneb rhwng y
Bwrdd Iechyd a’r Cyngor yn cael eu datblygu, tra bod y ddau sefydliad yn
cydweithio byddai yna wastad heriau yn yr ardal hon.
Cyn dod â’r drafodaeth i derfyn fe ofynnodd yr aelodau bod adroddiadau yn y
dyfodol yn cynnwys copi o’r ‘Matrics Risg’ er mwyn iddyn nhw allu dadansoddi'r
penderfyniadau risgiau ‘hanfodol’ a ‘gweddilliol’ a’u bod yn cael copi o’r ddogfen
‘Arweiniad i Reoli Risg’.
Pwysleisiodd
aelodau hefyd y pwysigrwydd o wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, yn
enwedig y rheiny ar gyfer staff mewn ysgolion, i fod yn gyfredol ac i gael eu
diweddaru.
Wedi trafodaeth fanwl dyma’r Pwyllgor yn:
Penderfynu: - yn amodol ar y sylwadau
uchod -
(i)
nodi’r dileadau, yr
ychwanegiadau a’r newidiadau i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol (atodiad 1): ac
(ii)
argymell bod y
Gofrestr Risg Gorfforaethol, ynghyd â sylwadau’r Pwyllgor Craffu Perfformiad yn
cael eu cyflwyno i sesiwn Briffio’r Cabinet yn ei gyfarfod ar 15 Hydref am
drafodaeth.
Dogfennau ategol:
- Corporate Risk Register Report 270918, Eitem 5. PDF 232 KB
- Corporate Risk Register Report - Appendix 1 270918, Eitem 5. PDF 497 KB
- Corporate Risk Register Report 270918 - Appendix 2, Eitem 5. PDF 4 MB