Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DEWISIADAU AR GYFER GORFODAETH TROSEDDAU AMGYLCHEDDOL

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a'r Amgylchedd (copi’n amgaeedig) ynglŷn â’r dewisiadau ar gyfer gorfodi amgylcheddol yn y sir.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi’r dewisiadau ar gyfer cyflawni camau gorfodi ar gyfer troseddau amgylcheddol yn yr adroddiad ac awdurdodi swyddogion i symud ymlaen â dewis 3 gyda chydweithwyr caffael i gaffael darparwr gwasanaeth allanol;

 

(b)       cytuno y dylai’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd gytuno ar gynnwys manyleb terfynol darpariaeth gwasanaeth gorfodaeth amgylcheddol ar ôl ystyried y fanyleb drafft gan y Pwyllgor Craffu, a

 

(c)        bydd swyddogion yn parhau i archwilio i’r cyfle i gydweithio yn rhanbarthol neu isranbarthol a rhoi gwybod i'r Pwyllgor Craffu am gynnydd y gwaith mewn chwe mis.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas adroddiad cyfrinachol yn rhoi manylion am opsiynau ar gyfer darparu gorfodaeth amgylcheddol yn y sir.

 

Rhoddwyd rhywfaint o gefndir am y gwasanaeth gorfodi blaenorol a ddarparwyd gan Kingdom Security Ltd a'r dull cydweithredol o daclo troseddau amgylcheddol drwy addysgu/codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a glanhau strydoedd effeithiol gan arwain at amgylchedd lleol glanach.  Yn dilyn terfynu contract Kingdom Security Ltd yn gynnar, cwblhawyd gwerthusiad o opsiynau ar gyfer darpariaeth y dyfodol fel y nodwyd yn yr adroddiad.   Argymhellwyd ail-dendro’r contract ar gyfer darparu gorfodaeth mewn perthynas â throseddau amgylcheddol gan barhau i archwilio’r opsiwn o ateb cydweithredol rhanbarthol neu isranbarthol.

 

Ystyriodd y Cabinet y gwerthusiad o’r opsiynau a manteision ac anfanteision opsiynau unigol.  Pwysleisiwyd ar angen am ateb niwtral o ran cost ac eglurder ar y fanyleb ar gyfer darparu'r gwasanaeth, ynghyd â'r angen am fesurau priodol yn y cyfamser.  Mynegwyd ffafriaeth dros weithio rhanbarthol ond o ystyried yr amserlen berthnasol ystyriwyd mai priodol fyddai cefnogi’r opsiwn i ail-dendro er mwyn sicrhau na fyddai oedi gormodol yn narpariaeth gorfodaeth tra byddai ymarferoldeb opsiwn rhanbarthol yn cael ei archwilio.   O ystyried pwysigrwydd y fanyleb ar gyfer darpariaeth y gwasanaeth ac er mwyn i aelodau allu cyfrannu at y broses, cefnogodd y Cabinet gynnig gan y Cynghorydd Richard Mainon bod y fanyleb ddrafft yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Craffu a chytunwyd hefyd y byddai'r Pwyllgor Craffu yn cael  adroddiad ar gynnydd o ran y cyfle i gydweithio’n rhanbarthol / isranbarthol.

 

 Wrth agor y drafodaeth i rai nad oeddent yn aelod o’r Cabinet mynegwyd pryderon y byddai ail-dendro i gwmni preifat yn achosi’r un problemau a brofwyd o dan y contract blaenorol a’r farn oedd y gellid arfer mwy o reolaeth dros ddarpariaeth y gwasanaeth drwy ddarpariaeth fewnol.   Cyfeiriwyd hefyd at y posibilrwydd o gyfuno'r holl wasanaethau gorfodi ar y stryd, gan gynnwys gorfodaeth parcio.  Soniodd yr Aelod Arweiniol a Phennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd unwaith eto am y goblygiadau sylweddol o ran cost a’r anawsterau recriwtio gyda darpariaeth fewnol  Eglurwyd y byddai manyleb ddiwygiedig ar ofynion y gwasanaeth yn cael ei llunio gan ystyried profiadau’r gorffennol ac adborth a gafwyd ac y byddai aelodau’n cael rhagor o fewnbwn i’r telerau hynny drwy’r broses graffu.  Eglurwyd mai pwrpas y contract fyddai mynd i’r afael â materion amgylcheddol ac nid gweithredu fel modd o gynhyrchu incwm.  Gellir ystyried cyfuno gwasanaethau gorfodi fel rhan o’r ailstrwythuro sydd ar ddod.  Roedd hefyd rywfaint o gefnogaeth dros gydweithio rhanbarthol, boed yn ddarpariaeth fewnol neu allanol, a dywedwyd wrth yr aelodau am y sefyllfa ddiweddaraf o safbwynt diddordeb a thrafodaethau gydag awdurdodau eraill Gogledd  Cymru.  Ni fyddai ymgynghoriad cyhoeddus ar yr opsiynau.   Trafododd yr aelodau hefyd ymgyrch addysgu a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd a’r posibilrwydd o ailgyflwyno’r arwyddion triongl mewn mannau lle mae baw cŵn yn broblem fawr, gyda chyfleoedd yn y dyfodol i weithio gyda gwasanaethau addysg mewn ysgolion.   Cytunodd yr aelodau i ystyried yr opsiynau hyn a hefyd i gysylltu â’r Heddlu o ran y posibilrwydd iddyn nhw gymryd camau gorfodi yn y cyfamser.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       Nodi’r opsiynau yn yr adroddiad ar gyfer camau gorfodi mewn perthynas â throseddau amgylcheddol ac awdurdodi swyddogion i symud ymlaen â dewis 3 gyda chydweithwyr yn yr adran gaffael er mwyn caffael darparwr gwasanaeth allanol;

 

(b)       Cytuno y dylai’r Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd gytuno ar gynnwys manyleb derfynol ar gyfer  darpariaeth gwasanaeth gorfodaeth amgylcheddol ar ôl ystyried y fanyleb ddrafft gan y Pwyllgor Craffu, a

 

(c)        swyddogion i barhau i archwilio’r cyfle i gydweithio yn rhanbarthol neu’n isranbarthol a rhoi gwybod i'r Pwyllgor Craffu am gynnydd y gwaith mewn chwe mis.

 

 

Dogfennau ategol: