Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a

 

(b)       chymeradwyo diddymu dyled hanesyddol o £26,481.43.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllid y cytunwyd arni.  Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa ariannol y Cyngor –

 

·        cyllideb refeniw net y Cyngor ar gyfer 2018/19 yw £194.418m (£189.252m yn 2017/18)

·        Rhagwelir y bydd gorwariant o £0.811m ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol

·        nododd arbedion ac effeithiolrwydd a gytunwyd o £4.6m gan gynnwys y rhai a gyflawnwyd eisoes gan dybio y byddai'r holl effeithiolrwydd/ arbedion gwasanaeth yn cael eu darparu - byddai unrhyw eithriadau yn cael eu hadrodd i'r Cabinet os oes angen

·        amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r gwahaniaethau mewn perthynas â meysydd gwasanaeth unigol, a

·        darparwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol).

 

Gofynnwyd hefyd i’r Cabinet gymeradwyo dileu dyled hanesyddol sydd werth £26k yn  ymwneud â grant a                        or-haliwyd a gwaith ar eiddo sy’n dyddio'n ôl i 2011. 

 

Codwyd y materion canlynol wrth drafod –

 

·         Safle Glasdir – fel arfer y contractwr sy’n gyfrifol am gost mân waith atgyweirio (fel rhan o'r contract gwreiddiol) ac roedd y rhan fwyaf o'r gwaith y tynnwyd sylw ato wedi ei gwblhau dros fisoedd yr haf gyda rhywfaint o fan waith yn weddill a cheisiadau am rywfaint o waith ychwanegol wedi’u gwneud – cafwyd eglurhad ar y materion y byddai angen i’r ysgol eu noddi.

·           Mae cynlluniau i wella llwybrau cerdded a beicio i’r ysgol wedi eu hadnabod a bydd y rhain yn cael eu hariannu drwy Leoliadau y Tu Allan i’r Sir Llywodraeth Cymru - roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar y pwysau parhaus ar draws y rhanbarth a chadarnhawyd fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp i ystyried y materion hyn ymhellach.  Cynhyrchwyd adroddiad gan ADSS Cymru a CLlLC a oedd yn amlygu’r goblygiadau o ran costau a chynaladwyedd Gwasanaethau Plant yn y dyfodol, gan gynnwys costau lleoliadau.   Ystyriodd yr aelodau’r heriau sy’n wynebu’r awdurdod o ran diwallu anghenion cymhleth unigolion yn unol â’i ddyletswyddau statudol, a nodwyd na fyddai modd diwallu rhai anghenion penodol heblaw drwy ddarpariaeth arbenigol ar gost uchel dros ben y tu allan i’r sir.   Yr awdurdod fydd yn gyfrifol am y costau hyn ac nid yw’n hawdd darogan niferoedd.

·         Balansau Ysgolion – mae’r sefyllfa wedi sefydlogi fel y rhagwelwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf a rhagwelir cynnydd ym malans y diffyg yn gyffredinol.   Cafodd y sefyllfa ei monitro'n ofalus a gweithiodd swyddogion gyda’r ysgolion er mwyn sicrhau bod cynlluniau adfer cadarn yn eu lle; amlygwyd hefyd gyfrifoldebau rheolaeth ariannol Cyrff Llywodraethu ysgolion,

·         Bu gostyngiad yn y Grant Gwella Addysg gan Lywodraeth Cymru a rhagwelwyd gostau ymadael o £15k – mewn achosion lle daeth arian grant i ben daeth maes gwaith y grant hwnnw hefyd i ben, ond roedd yn rhaid i’r Cyngor dalu rhai costau a gododd yn sgil hynny, er enghraifft diswyddiadau.

·         Priffyrdd - amlygwyd effaith y gostyngiad yn y gwaith a’r ad-daliadau sy’n dod gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru a dywedodd y Cynghorydd Brian Jones y byddai’r swm yn cael ei addasu yn unol â hynny.

·         Arbedion cytunedig – o ran arbedion effeithlonrwydd a gytunwyd ar gyfer 2018/19, tra byddai rhai o’r arbedion hyn o bosibl yn cael effaith ar wasanaethau, ystyriwyd na fyddai effaith arwyddocaol ar ddarpariaeth gwasanaethau - byddai modd gwireddu'r holl arbedion gwyrdd a melyn heb gael effaith niweidiol ar wasanaethau rheng flaen – cytunodd y pennaeth Cyllid y byddai’n edrych a oedd dileu swydd Rheolwr Gwasanaeth (Cyf CSS E001) wedi’i gynnwys yn y gost ar gyfer ailstrwythuro’r Tîm Rheoli Gwasanaethau Darparu (Cyf CSS E002). 

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllid gytunedig, a

 

(b)       cymeradwyo diddymu dyled hanesyddol gwerth £26,481.43.

 

 

Dogfennau ategol: