Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DARPARIAETH GOFAL SEIBIANT AR DRAWS SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Comisiynu – Gwasanaethau Gofalwyr (copi ynghlwm) yn darparu gwybodaeth am ddarpariaeth ac argaeledd seibiant i drigolion Sir Ddinbych sydd ag anghenion gofal a chymorth, sydd yn eu tro yn darparu seibiant i’w teulu sy’n Ofalwyr.

 

11:05 a.m. – 11:50 a.m.

Cofnodion:

Yn absenoldeb yr Aelod Arweiniol cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol adroddiad y Swyddog Comisiynu: Gwasanaethau Gofalwyr (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yr adroddiad, a ddarparwyd mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor, yn amlinellu darpariaeth ac argaeledd gwasanaethau seibiant i ddinasyddion Sir Ddinbych a oedd ag anghenion gofal a chymorth i alluogi eu gofalwyr i dderbyn cyfnodau o seibiant. Fel rhan o’u cyflwyniad bu i’r Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a'r Swyddog Comisiynu: Gwasanaethau Gofalwyr:

 

·         egluro’r diffiniad o 'seibiant' yng nghyd-destun gofal cymdeithasol oedolion;

·         rhoi trosolwg o'r ddarpariaeth seibiant sydd ar gael i oedolion 18 oed a throsodd, a oedd yn cynnwys pobl hŷn a phobl ag anghenion corfforol a / neu ddysgu cymhleth;

·         amlygu'r pwyslais a roddir ar ofalwyr ac anghenion gofalwyr yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 (Deddf GCLl (Cymru)) a'r cyfrifoldebau a roddir ar unigolion ac awdurdodau lleol o dan y Ddeddf i ddiwallu anghenion gofalwyr;

·         amlinellu dull Sir Ddinbych tuag at fodloni gofynion y Ddeddf a chadw at ei ethos mewn perthynas â gwasanaethau gofalwyr; a

·         rhoi trosolwg o'r heriau demograffig a chomisiynu a wynebir gan y Cyngor mewn ymgais i gydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol, ynghyd â gwybodaeth am y gwaith sydd ar y gweill yn rhanbarthol mewn ymgais i ateb yr anghenion hynny trwy wasanaethau integredig cynaliadwy ledled Gogledd Cymru.

 

Roedd Sir Ddinbych wedi ymrwymo'n llwyr tuag at gynorthwyo gofalwyr yn y sir hyd eithaf ei allu. Atgyfnerthwyd yr ymrwymiad hwn trwy ei gynnwys yn y Cynllun Corfforaethol, o dan y flaenoriaeth Cymunedau Gwydn, o uchelgais i "sicrhau bod pob gofalwr yn Sir Ddinbych yn cael cefnogaeth dda". Gyda’r bwriad o gyflawni'r nod hwn, lluniwyd Strategaeth Gofalwyr a chynllun gweithredu traws-wasanaeth i sicrhau bod yr holl wasanaethau yn gallu adnabod gofalwyr a chefnogi eu hanghenion fel rhan o'u busnes bob dydd. 

 

Gan ymateb i gwestiynau’r swyddogion:

·         cynghorodd y swyddogion yr amcangyfrifwyd bod tua 11,600 o ofalwyr (o bob oed) ar draws y sir;

·         cynghorodd y swyddogion nad oedd pob 'gofalwr' yn ystyried eu bod yn 'ofalwr', a bod nifer sylweddol o'r farn ei fod yn 'ddyletswydd' i ofalu am aelod o'r teulu. Nid oedd rhai o'r unigolion hyn am gael 'asesiad gofalwr' wedi'i wneud, ac roedd y Ddeddf yn glir na ddylai neb gael ei orfodi i gael asesiad gofalwr. Dyletswydd y Cyngor oedd gwneud darpariaeth ar gyfer asesiadau o'r fath ar gyfer y rhai a oedd am eu cael ac i hyrwyddo eu hargaeledd, argaeledd gwasanaethau gofalwyr ac ethos y Ddeddf i breswylwyr;

·         cydnabuwyd gan y swyddogion nad oedd pob gofalwr yn fodlon ar y gwasanaethau sydd ar gael iddynt, er gwaethaf hyn roedd nifer yn hynod o amharod i hysbysu'r Cyngor ynghylch y mathau o wasanaethau y byddent yn ddefnyddiol iddynt;

·         pwysleisiodd y swyddogion nad oedd 'asesiadau gofalwyr' yn ymarferion llenwi ffurflenni mwyach, maent bellach yn canolbwyntio ar sgwrs 'Beth sy'n Bwysig' gyda'r gofalwr gyda'r bwriad o archwilio pa ganlyniadau a ddymunir ganddynt a'r ffordd orau o gyflawni'r canlyniadau hynny;

·         cynghorodd y swyddogion nad oedd darpariaeth seibiant wedi'i gyfyngu i'r person 'sy'n derbyn gofal' yn gorfod mynd i gartref preswyl neu nyrsio am gyfnod penodol o amser, y gellid gofalu amdanynt mewn nifer o leoliadau gwahanol, gan gynnwys yn eu cartrefi eu hunain, darpariaeth gofal ychwanegol, gwasanaethau eistedd, gwasanaethau dydd. Rhestrodd Atodiad 3 yr adroddiad y modelau cyfredol o wasanaethau gofal seibiant sydd ar gael ledled Sir Ddinbych. Mae'r mathau o ddarpariaeth a'r gwasanaethau sydd ar gael, gan gynnwys gwasanaethau hyblyg, wedi newid yn rheolaidd er mwyn bodloni dewisiadau a gofynion unigol;

·         Cadarnhaodd y swyddogion bod grŵp rhanbarthol o swyddogion a rhanddeiliaid yn edrych ar hyn o bryd ar y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau seibiant ar gyfer pobl sy'n 'derbyn gofal' ag anghenion cymhleth, anghenion iechyd cymhleth yn bennaf. Yn gyffredinol, byddai'r Gwasanaeth Iechyd yn ariannu'r math hwn o wasanaethau seibiant o dan eu dyletswydd gofal o dan y Ddeddf;

·         Sicrhaodd y swyddogion y Pwyllgor fod holl staff gofal cymdeithasol a gyflogwyd gan y Cyngor wedi cael hyfforddiant ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 a'i gofynion mewn perthynas â gwasanaethau gofal cymdeithasol. Dylai'r Bwrdd Iechyd hefyd fod wedi darparu hyfforddiant tebyg i'w staff mewn perthynas â'r Ddeddf;

·         cynghorodd y swyddogion y byddai Aseswyr Gofalwyr yn defnyddio'r dull sgwrsio 'Beth sy'n Bwysig' ar gyfer asesu anghenion gofalwyr. Fodd bynnag, pe canfyddwyd bod anghenion y gofalwr yn fwy nag y gellid ei bennu'n effeithiol trwy ddefnyddio'r ymagwedd 'Beth sy'n Bwysig', gyda chaniatâd y gofalwr byddai Asesiad Cynllun Cymorth Gofalwyr manylach yn cael ei wneud;

·         cynghorodd y swyddogion fod yr Asesiad Anghenion Gofal Cymdeithasol a Lles diweddaraf yng Ngogledd Cymru wedi amcangyfrif bod tua 10% o blant ysgol yn 'ofalwyr ifanc'. Fodd bynnag, roedd swyddogion o'r farn bod y gwir nifer o ofalwyr oedran ysgol yn uwch. Roedd gan Wasanaethau Addysg a Phlant y Cyngor brosesau ar waith i geisio nodi 'gofalwyr ifanc' drwy'r ysgolion gyda'r bwriad o sicrhau bod cefnogaeth ddigonol ar gael iddynt i sicrhau bod eu canlyniadau addysgol a chymdeithasol yn cael eu cyflawni. Byddai adroddiad gwybodaeth yn benodol ar 'Ofalwyr Ifanc' yn cael ei lunio a'i ddosbarthu i'r Pwyllgor;

·         cadarnhaodd y swyddogion fod y Cyngor, fel rhan o'i ymrwymiad Cynllun Corfforaethol, wrthi'n archwilio ffyrdd arloesol o gwrdd â'r galw cynyddol am wasanaethau cymorth gofalwyr er gwaethaf cyfyngiadau cyllidebol. Roedd y Gronfa Gofal Integredig (ICF) yn cynnwys elfen benodol o gyllid ar gyfer gwasanaethau gofalwyr ac roedd Grant Gofalwyr ar wahân ar gael gan y Llywodraeth y gallai'r Cyngor ei ddefnyddio. Rhan o'r ymagwedd newydd at Wasanaethau Gofalwyr oedd y cysyniad teulu cyfan, a oedd yn golygu bod teulu’r un sy’n derbyn gofal a theulu agos y gofalwr yn rhan o'r asesiad gyda'r bwriad o sicrhau bod y ddarpariaeth yn cwrdd ag anghenion pawb ac yn cefnogi'r uned deuluol;

·         cadarnhaodd y swyddogion bod deddfwriaeth yn gorfodi awdurdodau lleol i adnabod anghenion gofalwyr ac i gefnogi diwallu'r anghenion a nodwyd;

·         cynghorodd y swyddogion, er bod y Cyngor wedi cytuno i ddiogelu'r gyllideb gofal cymdeithasol yn erbyn unrhyw doriadau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20, byddai'r Gwasanaeth yn dal i fod yn gorfod cwrdd â chostau chwyddiant a chynnydd cyflog staff o fewn y gyllideb a ddyrannwyd;

·         cynghorwyd fod nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn gyson iawn â gweledigaeth y Cyngor ar gyfer gofal cymdeithasol yn y dyfodol, sef cefnogi a galluogi unigolion i gyflawni canlyniadau gwell a byw'n annibynnol gyhyd â phosibl. Roedd y modelau seibiant a restrir yn Atodiad 3 yr adroddiad yn adlewyrchu anghenion amrywiol gofalwyr a'r rhai y gofalwyd amdanynt. Roedd y mathau o ddarpariaeth seibiant a oedd ar gael ac a gomisiynwyd yn newid yn rheolaidd wrth i'r sgwrs asesu ganolbwyntio ar anghenion y gofalwyr, eu canlyniadau dymunol a sut y gellid bodloni'r canlyniadau hynny. Roedd rhan o'r sgwrs honno'n cynnwys archwilio pa adnoddau oedd ganddynt yn ariannol ac o fewn eu cymuned i wireddu'r canlyniadau dymunol;

·         cadarnhaodd y swyddogion fod nifer y llefydd gwag mewn cartrefi gofal yn y sir (Atodiad 5 yr adroddiad) yn amrywio'n rheolaidd;

·         cadarnhawyd bod 'gofal seibiant' yn y gorffennol wedi cynnwys y person 'sy'n derbyn gofal' yn mynd i ofal preswyl neu nyrsio am gyfnod penodol o amser. Nid hyn oedd yr achos mwyach, er y gallai'r 'un sy’n derbyn gofal' fynd i gartref preswyl neu nyrsio am gyfnod o seibiant os oeddent yn dymuno, roedd amrywiaeth o fathau eraill o wasanaethau seibiant ar gael yn y gymuned i gwrdd â'u hanghenion gofal nhw ac anghenion eu gofalwyr;

·         cynghorwyd bod argaeledd gwasanaethau cymunedol, megis yr un a weithredir gan wirfoddolwyr yng Nghapel y Waen ger Llanelwy, yn cael ei redeg yn dda gyda llawer yn ei fynychu. Er bod y Cyngor yn darparu taliad grant blynyddol i'r gweithredwyr, roedd yn sylweddol is na'r hyn y byddai'n costio i'r Cyngor weithredu gwasanaeth tebyg;

·         cynghorodd y swyddogion pe bai sefyllfa argyfwng yn codi mewn perthynas â gofalwr a / neu'r person yr oeddent yn gofalu amdanynt, byddai'r Cyngor yn ymateb ar unwaith. Er na allai warantu y gallai'r person sy’n derbyn gofal neu'r gofalwr dderbyn y gwasanaethau a ddymunir ar unwaith, byddai'r person 'sy'n derbyn gofal' yn cael eu hanghenion wedi’u diwallu fel mater o frys a byddai'r gwasanaethau a ddymunir yn cael eu darparu cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl;

·         cadarnhaodd y swyddogion, er bod gan ofalwyr yr hawl i dderbyn 'asesiad gofalwr' ac i anghenion a nodwyd gael eu diwallu, roedd yn rhaid i'r person sy’n derbyn gofal hefyd roi caniatâd i ofal arall gael ei ddarparu ar eu cyfer; a

·         rhoddwyd trosolwg o'r polisi codi tâl cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan gynghori na allai’r Cyngor godi tâl o fwy na £80 yr wythnos ar unigolyn nad oedd mewn gofal preswyl parhaol am y gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir iddynt. Gosodwyd y ffigwr £80 yr wythnos yn genedlaethol gan Lywodraeth Cymru. Dosbarthwyd dolen gyswllt i wefan ar gyfer holl aelodau'r Pwyllgor i weld polisi codi tâl gofal cymdeithasol y Cyngor.

 

Cyn cwblhau'r drafodaeth, llongyfarchodd y Cadeirydd y swyddogion ar y daflen wybodaeth 'Cyllidebau Cymorth' (Atodiad 2 i'r adroddiad) a oedd ym marn y Pwyllgor yn glir iawn ac yn hawdd ei ddefnyddio. Ar ran y Pwyllgor, diolchodd hefyd i'r Swyddog Comisiynu: Gwasanaethau Gofalwyr am ei hymroddiad i ofalwyr yn y sir ac am ei gwasanaeth i'r Cyngor a dymunodd y gorau iddi yn ei hymddeoliad. 

 

Penderfynodd y Pwyllgor yn amodol ar yr arsylwadau uchod i

 

(i)           gydnabod ystod ac argaeledd gwasanaethau seibiant a ddarperir yn Sir Ddinbych i gefnogi unigolion sydd ag anghenion gofal a chymorth, a'u Gofalwyr, yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol a newidiadau demograffig;

(ii)          parhau i gefnogi a hyrwyddo datblygu cefnogaeth i Ofalwyr er mwyn i Wasanaethau Cymorth Cymunedol Sir Ddinbych fodloni ei rwymedigaethau statudol mewn perthynas â Gofalwyr, ac i gefnogi'r Cyngor wrth gyflawni ei flaenoriaeth gorfforaethol o ddatblygu cymunedau gwydn; a

(iii)          gofyn am i Adroddiad Gwybodaeth gael ei baratoi a'i ddosbarthu i aelodau'r Pwyllgor sy'n manylu ar nifer y gofalwyr ifanc hysbys ledled y sir ac yn amlinellu'r gwasanaethau a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt trwy Addysg a Gwasanaethau Plant a gwasanaethau eraill y Cyngor, ynghyd â'r gwaith sy'n cael ei wneud yn gorfforaethol gyda'r bwriad o gefnogi gofalwyr ifanc yn unol â'r uchelgais a osodir yn y Cynllun Corfforaethol a chanfod gofalwyr ifanc 'cudd' i gynnig cefnogaeth briodol a digonol iddynt.

 

 

Dogfennau ategol: