Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION YN SIR DDINBYCH 1 EBRILL 2017 - 31 MAWRTH 2018

Ystyried adroddiad gan Rheolwr Tîm Diogelu Oedolion Diamddiffyn (copi ynghlwm) i roi trosolwg o effaith trefniadau ac arferion Diogelu Lleol ac adolygu’r cynnydd yn y maes gwaith allweddol hwn dros y deuddeg mis diwethaf.

 

10:05 a.m. – 10:50 a.m.

 

Cofnodion:

Yn absenoldeb yr Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol Adroddiad Blynyddol y Rheolwr Tîm: Diogelu ar Ddiogelu Oedolion yn Sir Ddinbych am y cyfnod 1 Ebrill 2017 hyd at 31 Mawrth 2018, yr oedd copïau ohono wedi’i gyhoeddi a’i ddosbarthu cyn cyfarfod y Pwyllgor. 

 

Yn ystod ei gyflwyniad hysbysodd y Pennaeth Gwasanaeth yr aelodau fod yr adroddiad, ei fformat wedi'i ddiwygio yn unol ag awgrymiadau blaenorol a wnaed gan y Pwyllgor, yn amlinellu'r gofynion deddfwriaethol yn ymwneud â diogelu, y gwelliannau a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn mewn perthynas â chysondeb ac ansawdd y gwaith diogelu a'r prosesau sydd ar waith i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon diogelu a ddygwyd i sylw'r Cyngor, ynghyd â manylion nifer yr atgyfeiriadau a dderbyniwyd yn y sir yn ystod 2017-18. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, ac yn unol â'r duedd genedlaethol, roedd nifer yr atgyfeiriadau amddiffyn oedolion wedi cynyddu yn ystod 2017-18. Serch hynny, roedd y cynnydd o 8% yn 2017-18 o'i gymharu â 2016-17 yn sylweddol is na'r cynnydd o 48% a gofnodwyd yn 2016-17 o'i gymharu â 2015-16. Manylodd y Pennaeth Gwasanaeth ar y 'penawdau diogelu ar gyfer 2017-18' a restrwyd yn yr adroddiad yn cynghori aelodau, mewn ymateb i bryderon a godwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) ar ansawdd cofnodion cyfarfodydd strategaeth a'u potensial i ddarparu llwybr archwilio digonol, bod gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud mewn perthynas â'r agwedd hon o'r gwaith, gyda chofnodion nawr yn cynnwys tystiolaeth o ganlyniadau ffurfiol a chynlluniau gweithredu gyda'r amserlenni cytunedig ar gyfer eu cwblhau.

 

Sicrhaodd y Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgor nad oedd perfformiad y Cyngor yn erbyn yr unig ddangosydd perfformiad cenedlaethol (DP) yn ymwneud â diogelu oedolion - y nifer o ymholiadau a gwblhawyd o fewn 7 diwrnod gwaith - a oedd yn 67% oedd y perfformiad 'gorau' na 'gwaethaf' yng Nghymru. Pwysleisiodd fod y dangosydd hwn yn cwmpasu pob agwedd ar ddelio â'r ymholiad, gan gynnwys casgliad yr holl dasgau gweinyddol a oedd yn dibynnu i raddau ar sefydliadau partner yn cwblhau eu gwaith papur a'u cyflwyno i'r Cyngor ar amser. Roedd yn bwysig deall hynny, er nad oedd perfformiad y Cyngor mewn perthynas â'r DP yn ymddangos yn dda, blaenoriaeth y Cyngor oedd sicrhau diogelwch yr unigolyn diamddiffyn. Pe bai tystiolaeth i awgrymu bod unigolyn mewn perygl o unrhyw fath o niwed, byddai camau'n cael eu cymryd ar y diwrnod y daeth y dystiolaeth i'r amlwg. Cyn ymateb i gwestiynau'r aelodau, eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth y gofynion o ran y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) a goblygiadau posib y diwygiad a gynigiwyd ym Mesur newydd Galluedd Meddyliol y DU (Diwygiad) (MCA Bill) ar DoLS, a fydd yn eu gweld yn cael eu disodli gan gynllun o’r enw Trefniadau Diogelu Rhyddid. Roedd perfformiad Sir Ddinbych mewn perthynas â gweithgarwch DoLS yn ystod 2017-18 yn unol ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Ymhelaethodd hefyd ar amcanion allweddol y Cyngor mewn perthynas â diogelu oedolion ar gyfer y flwyddyn adrodd gyfredol.

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r Pwyllgor, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth a'r Rheolwr Tîm: Diogelu y canlynol:

·         cadarnhawyd bod cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 a'i phrosesau cysylltiedig mewn perthynas â diogelu wedi cyfrannu at y cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau diogelu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Derbyniwyd yn eang hefyd fod gwybodaeth gyhoeddus a chanfyddiad o'r hyn a oedd yn ymyrru ar fywyd person diamddiffyn a'u hawliau wedi arwain at gynnydd mewn atgyfeiriadau hefyd;

·         cynghorwyd y gallai 'ansawdd' atgyfeiriad diogelu oedolion i'r Cyngor hefyd effeithio ar allu'r Awdurdod i gwrdd â'r dyddiad cau ar gyfer 7 diwrnod gwaith ar gyfer cwblhau ymchwiliad, oherwydd os darperir gwybodaeth annigonol, mae angen gwneud ymholiadau ychwanegol cyn i'r ymchwiliad ddechrau. Byddai unrhyw awgrym y bu gweithred droseddol wedi ei gwneud yn golygu bod yn rhaid i'r Heddlu gwblhau ei ymchwiliad cyn y gallai'r Cyngor orffen ei ymchwiliad. O ganlyniad, ni fyddai'r targed 7 diwrnod yn cael ei fodloni, yn enwedig mewn achosion cymhleth a'r rheiny a oedd yn cynnwys sefydliadau partner. Serch hynny, byddai camau diogelu wedi cael eu cychwyn i symud y person diamddiffyn allan o niwed pe bai unrhyw dystiolaeth gychwynnol yn awgrymu eu bod yn destun unrhyw fath o gamdriniaeth, er enghraifft, corfforol, meddyliol, emosiynol, ariannol ac ati;  

·        hysbyswyd yr aelodau fod y Cyngor wedi ymrwymo i wella perfformiad yn erbyn DP Llywodraeth Cymru (LlC) ac roedd yn awyddus i gwblhau 85% o ymholiadau a dderbyniwyd o fewn y targed 7 diwrnod gwaith, o'i gymharu â'r 67% presennol, a lle nad oedd hynny'n bosibl byddai’r mecanwaith cofnodi cadarn a sefydlwyd yn casglu’r rhesymau dros beidio â chydymffurfio â'r DP. Roedd pob awdurdod yn cydnabod na fyddai modd cydymffurfio fyth â 100% o fewn y targed 7 diwrnod gwaith oherwydd cymhlethdodau a natur y gwaith dan sylw. Serch hynny, roedd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru, gyda’i aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o'r holl asiantaethau sy'n delio â materion diogelu, yn ymrwymedig i wella perfformiad a hwyluso perthnasoedd gwaith gwell a chyflymach rhwng asiantaethau. Gyda’r amcan o wireddu'r uchelgais hon, roedd wedi cyhoeddi canllawiau i asiantaethau ar sut y gallent weithio gyda'i gilydd i wella perfformiad a sicrhau canlyniadau gwell i unigolion diamddiffyn sydd mewn perygl;   

·         cadarnhawyd, er bod un o'r astudiaethau achos a gynhwyswyd yn yr adroddiad yn canolbwyntio ar honiad o gam-drin ariannol mewn perthynas ag 'Atwrneiaeth Arhosol', nad oedd y math yma o gam-drin yn fwy cyffredin yn y blynyddoedd diwethaf nag y bu rhai blynyddoedd yn ôl;

·         sicrhawyd yr aelodau nad oedd y ffaith bod 'gweithwyr cyflogedig' yn cyfrif am 69% o'r unigolion a gafodd honiadau o gam-drin oedolion diamddiffyn wedi’u gwneud yn eu herbyn yn frawychus, gan fodgweithwyr cyflogedig' yn gweithio mewn gwasanaeth a reolir yn fanwl ac sydd â gweithdrefnau llym i'w dilyn os gwnaed honiad. Roedd y gweithwyr hyn ar adegau yn cefnogi eu cleientiaid mewn sefyllfaoedd agos felly roeddent mewn perygl o gael honiadau yn eu herbyn. Cafodd pob honiad ei ymchwilio'n drylwyr. Pe nodwyd patrymau o honiadau neu bryderon byddai Staff Comisiynu'r Cyngor yn rhoi statws pryderon cynyddol i’r darparwyr ac yn eu monitro'n agos. Hyd nes bod unrhyw ddiffygion wedi'u cywiro ni fyddai'r Cyngor yn rhoi preswylwyr newydd yn y sefydliadau hynny nac yn comisiynu unrhyw wasanaethau pellach gan y darparwr hwnnw; 

·         cadarnhawyd pe bai honiad o gam-drin yn erbyn gofalwr neu aelod o staff y darparwr gofal iechyd wedi cael ei brofi, byddai’r gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn eu gwahardd rhag cael eu cyflogi yn y sector gofal a gwasanaethau iechyd yn y dyfodol. Disgwylir i system gofrestru genedlaethol ar gyfer pob gweithiwr gofal gael ei lansio cyn bo hir. O dan y system hon, byddai unrhyw weithiwr gofal a oedd wedi cael honiadau o gam-drin wedi’u profi yn eu herbyn yn colli eu cofrestriad ac felly ni fyddent yn gallu cael eu cyflogi yn y sector yn ystod eu gwaharddiad cofrestru;

·         cynghorwyd er na fyddai digon o arian ar gael er mwyn galluogi'r Gwasanaeth i gyflawni'r cyfan yr oedd am ei gyflawni, roedd mwy o adnoddau staff rŵan yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cyflogwyd mwy o staff monitro ar gontractau ac roedd timau'n gweithio gyda'i gilydd yn well mewn ymgais i ddiogelu preswylwyr diamddiffyn; a

·         chadarnhawyd fod holl gartrefi preswyl neu nyrsio preifat ac awdurdod lleol yn cael eu harolygu'n rheolaidd ac yn drylwyr gan Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) a fyddai fel rhan o'r broses arolygu yn nodi unrhyw ddiffygion neu afreoleidd-dra, gan gynnwys y rheiny sy'n gysylltiedig â'u prosesau recriwtio.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

Penderfynodd y Pwyllgor:

 

(i)        yn amodol ar yr arsylwadau uchod i gydnabod natur bwysig ymagwedd gorfforaethol tuag at ddiogelu oedolion sydd mewn perygl, a chyfrifoldeb y Cyngor i ystyried hyn fel maes blaenoriaeth allweddol a'i osod ochr yn ochr â'r ymrwymiad a'r arwyddocâd a roddir gan Sir Ddinbych i ddiogelu plant sydd mewn perygl;

(ii)       bod adroddiadau blynyddol yn y dyfodol hefyd yn cynnwys astudiaethau achos lle na chafwyd canlyniadau boddhaol yn ychwanegol at y rhai y gwireddwyd canlyniadau boddhaol ar eu cyfer;

(iii)     maes o law, bod Adroddiad Gwybodaeth, yn cael ei baratoi a'i ddosbarthu i aelodau'r Pwyllgor ar gynnwys y Mesur Galluedd Meddyliol (Diwygiad) a'i oblygiadau i'r Cyngor a phreswylwyr.

 

Dogfennau ategol: