Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHOI CYNNIG GOFAL PLANT AM DDIM LLYWODRAETH CYMRU AR WAITH YN SIR DDINBYCH

Ystyried Adroddiad gan y Prif Reolwr: Ymyrraeth, Ataliad, Iechyd a Lles (copi wedi’i atodi) i geisio barn y Pwyllgor Craffu ar weithrediad arfaethedig cynnig Gofal Plant am ddim Llywodraeth Cymru yn Sir Ddinbych o Ebrill 2019.

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod, cafwyd datganiad o fuddiant rhagfarnus a phersonol mewn rhoi Cynnig Gofal Plant am ddim Llywodraeth Cymru ar waith yn Sir Ddinbych gan y Cynghorydd Tina Jones, sydd yn berchennog meithrinfa ddydd ym Mhrestatyn.  Hi hefyd yw Ymddiriedolwr Cymru ar gyfer Cymdeithas Genedlaethol y Meithrinfeydd Dydd.   O ganlyniad, gadawodd y Cynghorydd Jones Siambr Y Cyngor ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg, Plant a Phobl Ifanc adroddiad y Prif Reolwr:  Ymyrraeth, Atal, Iechyd a Lles (a oedd eisoes wedi ei ddosbarthu).  Yn ystod ei gyflwyniad, pwysleisiodd yr Aelod arweiniol mai cynllun gan Lywodraeth Cymru oedd y cynnig gofal plant am ddim, a'i fod yn deillio o addewid maniffesto yn etholiad Cynulliad 2016 i gynnig 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi ei ariannu gan y Llywodraeth i rai cymwys sydd mewn gwaith ac yn rieni i blant tair a phedair mlwydd oed am 48 wythnos y flwyddyn erbyn 2020. Tra ei fod yn gynllun Llywodraeth Cymru, yr Awdurdodau Lleol fyddai’n gyfrifol am ei ddarparu.  Roedd saith ardal Awdurdod Lleol wedi eu dewis i roi cynllun peilot ar waith. Roedd tair o’r ardaloedd hyn yng Ngogledd Cymru ac yn yr ardaloedd hynny roedd y cynllun wedi ei roi ar waith ar draws yr holl sir.  Un o’r ardaloedd peilot – neu Awdurdodau Lleol sy’n Weithredwyr Cynnar (EILA) – oedd Cyngor Sir Y Fflint.  Roedd Sir y Fflint, trwy fod yn weithredwr cynnar, eisoes wedi datblygu’r systemau i weinyddu’r cynnig gofal plant am ddim, ac roeddent bellach yn brofiadol yn y gwaith o weinyddu’r cynllun.  Roedd Sir Ddinbych wedi cytuno i weithio mewn partneriaeth a Sir y Fflint, gyda Sir y Fflint yn darparu’r cynllun ar eu rhan pan fyddai’n cael ei roi ar waith yn Sir Ddinbych ym mis Ebrill 2019. Byddai Sir Ddinbych yn gweithredu fel Awdurdod Ymgysylltu, gyda chyfrifoldeb dros hyrwyddo’r cynnig i rieni, gwarcheidwaid, darparwyr gofal plant, a hyfforddi staff i ddelio ag ymholiadau ynglŷn a’r cynnig gofal plant am ddim. Byddai Sir Ddinbych yn darparu Sir y Fflint â’r wybodaeth berthnasol er mwyn prosesu’r ceisiadau a gweinyddu’r cynnig.  Roedd Sir Ddinbych, yn dilyn trafodaethau â Llywodraeth Cymru, wedi dewis rhoi’r cynllun gofal plant am ddim ar waith ar draws y sir gyfan o Ebrill 2019 ymlaen yn hytrach nac ymgymryd â gweithrediad graddol y cynnig mewn wardiau penodol o fewn y Cyngor.  Roedd yr Aelod Arweiniol a swyddogion o’r farn y byddai’r dull yma o fynd ati yn un llawer tecach i’r holl blant a theuluoedd cymwys ar draws y sir.  Tra y bu i’r ddau gyngor gytuno ar y trefniadau i’r bartneriaeth ddarparu’r Cynllun, roedd Sir Ddinbych yn disgwyl cadarnhad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru eu bod yn cytuno i’r Cynllun gael ei roi ar waith drwy’r sir gyfan o Ebrill 2019 yn hytrach nac Ebrill 2020. Serch hynny, roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd ar lafar eu bod yn cytuno iddo gael ei roi ar waith ar draws y sir yn Ebrill 2019.  

 

Nododd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant fod y cynllun gofal plant am ddim yn un cymhleth gan ei fod yn cynnwys 10 awr o addysg gynnar ynghyd â 20 awr o ofal plant am 48 wythnos o’r flwyddyn.  Pwysleisiodd fod Sir Ddinbych wedi ffafrio rhoi’r cynnig ar waith ar draws y sir ar yr un pryd yn hytrach na’i gyflwyno yn raddol fesul ward erioed, ac mai dyna’r rheswm dros beidio gwneud cais i fod yn Weithredwr Cynnar.

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, nododd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant, a’r Prif Reolwr: Ymyrraeth, Atal, Iechyd a Lles:

·         fod rhai amheuon o du’r Cyngor ynghylch darpariaeth y cynllun yn y sir gan ei fod yn ymwybodol nad oedd modd i’r holl gyflenwyr gofal plant cofrestredig ddarparu’r elfen addysg gynnar.  Roedd y Cyngor wedi lleisio’r pryderon hyn â Llywodraeth Cymru yn ystod y trafodaethau ynghylch gweithrediad arfaethedig y cynllun.  Ni fyddai graddau gwirioneddol unrhyw broblemau argaeledd o’r fath yn eglur hyd nes y byddai’r cynllun wedi ei roi ar waith, yn yr un modd â materion cysylltiedig yn ymwneud â theithio a gweinyddu;

·         fod canlyniadau cyffredinol y gwerthusiadau yr ymgymerwyd â hwy yn y saith ardal beilot EILA hyd yn hyn yn rai cadarnhaol.  Dim ond mewn ardaloedd lle’r oedd prinder darparwyr gofal plant yr oedd hi’n ymddangos fod problemau wedi codi.  Roedd gan Sir Ddinbych ormodedd o leoedd gofal plant ar hyn o bryd;

·         ei bod yn ofynnol i ddarparwyr gofal plant gofrestru a chydymffurfio â safonau Arolygiaeth Gofal Cymru er mwyn gweithredu fel darparwyr gofal plant, ond nad oedd pob darparwr gofal plant yn ddarparwr addysg y blynyddoedd cynnar.  Gyda’r bwriad o fod o gymorth i’r darparwyr gofal plant hynny a ddymunai ehangu eu gwasanaeth er mwyn cyflenwi’r cynnig gofal plant am ddim cyfan, roedd y Cyngor yn edrych ar gael mynediad at gyllid trwy  grant cyfalaf Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi menter y cynnig gofal plant am ddim.  Pwrpas hyn fyddai rhoi hyfforddiant ar addysg y blynyddoedd cynnar i ddarparwyr gofal plant;

·         Gan fod nifer y plant tair a phedair mlwydd oed yn Sir Ddinbych yn isel ar hyn o bryd, nad oedd swyddogion yn rhagweld y byddai nifer uchel o geisiadau am y cynnig gofal plant am ddim ar adeg ei roi ar waith yn Ebrill 2019;

·         fod Llywodraeth Cymru wedi darparu grant refeniw penodol er mwyn ariannu gweithrediad a chyflenwad y cynnig gofal plant am ddim yn Sir Ddinbych.  Roedd hefyd wedi ymgymryd â’r cyfrifoldeb o ariannu costau refeniw a fydd yn cael eu hysgwyddo gan y Cyngor mewn perthynas â dyletswyddau gweinyddu sy’n gysylltiedig â rhoi’r cynnig ar waith.  Ar sail y ffaith fod yr arian grant a refeniw wedi ei ddyfarnu i’r sir am gyflawni un o addewidion maniffesto Llywodraeth Cymru, roedd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion yn hyderus y byddai’n annhebygol iawn y cai’r arian ei dynnu yn ôl;

·         fod y ddau lythyr a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r Cynnig Gofal plant am ddim (yr oedd copïau ohonynt wedi eu hatodi i’r adroddiad) wedi eu derbyn yn Saesneg yn unig.  Gwnaeth yr Aelod Arweiniol addewid i gysylltu â Llywodraeth Cymru er mwyn mynegi ei siomedigaeth nad oedd fersiynau Cymraeg wedi eu anfon, ac i wneud cais am gopïau Cymraeg ohonynt;

·         fod yr arian grant wedi ei ddyfarnu yn unol â rheoliadau ariannol yr Undeb Ewropeaidd (UE), a oedd yn parhau i fod mewn grym ar y dyddiad dyfarnu ac a fyddai felly yn parhau yn berthnasol hyd nes y deuai rheoliadau newydd i rym yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE;

·         y byddai nifer y plant yn ceisio mynediad at y cynnig gofal plant am ddim yn amrywio’n barhaus oherwydd y meini prawf cymhwysedd. Dim ond i blant rhieni cymwys oedd mewn gwaith o’r tymor ysgol yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn dair oed hyd at yr adeg yr oeddent yn derbyn cynnig am le mewn addysg llawn amser (fel arfer ym mis Medi yn dilyn ei pen-blwydd yn bedair oed) yr oedd y cynnig ar gael.  Rhagwelwyd y byddai nifer y plant ychwanegol fyddai’n cymhwyso ar gyfer y cynnig yn amrywio rhwng 400 a 500 yn ystod y flwyddyn ac y byddai’r nifer fyddai’n hawlio’r cynnig yn amrywio o ardal i ardal o fewn y sir.

·         fod cynnig gofal plant am ddim Llywodraeth Cymru yn cynrychioli buddsoddiad gan y Llywodraeth yn y sector gofal plant a allai hybu’r farchnad a gwneud darpariaeth a ffioedd gwasanaethau o’r fath yn fwy cyfartal ar draws y sir.  Roedd ganddo’r potensial i roi’r cyfle i sefydliadau gofal plant weithio mewn partneriaeth ag ysgolion mewn ardaloedd gwledig er mwyn helpu i roi hwb i ddarpariaeth gofal plant mewn ardaloedd lle’r oedd llai o ddarparwyr ar gael.  Roedd swyddogion Addysg a Gwasanaethau Plant yn gweithio â darparwyr gofal plant ar draws y sir gyda’r bwriad o’u cefnogi yn y gwaith o gynnig y mathau priodol o wasanaethau i fodloni meini prawf y Cynnig Gofal Plant am ddim;

·         tra y byddai’r niferoedd a fyddai’n derbyn y Cynnig yn ddibynnol ar ddewis rhieni, fod y Cyngor yn hyrwyddo’r Cynnig trwy nifer o sianeli cyfathrebu gan gynnwys ysgolion, gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol.  Unwaith y byddai manylion terfynol y cynllun ar gael, byddai strategaeth gyfathrebu bellach yn cael ei rhoi ar waith er mwyn tynnu sylw preswylwyr ato;

·         mai un o fanteision peidio bod yn Weithredwr Cynnar oedd bod â digon o amser i gynllunio’n effeithiol at weithrediad y cynllun;

·         fod y 30 awr o gynnig gofal plant am ddim ar gael i bob plentyn o oedran cymwys ac o rieni cymwys oedd mewn gwaith, pa un ai os oedd ganddynt unrhyw anghenion dysgu ychwanegol neu arbennig ai peidio.  O fewn y cynnig gofal plant am ddim, roedd cronfa benodol wedi’i chlustnodi er mwyn darparu gofal i blant ag anghenion arbennig.  Roedd swyddogion hefyd yn archwilio a ellid cael mynediad at gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu dwy elfen o gefnogaeth ar gyfer gofal plant anghenion arbennig.  Byddai un edefyn yn ariannu gwaith gweinyddol gyda rhieni plant ag anghenion arbennig er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r ddarpariaeth ofal i blant, a’r ail elfen o gefnogaeth yn darparu cefnogaeth un i un ar gyfer y plentyn ag anghenion ychwanegol o fewn y lleoliad gofal plant;

·         fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ariannu’r Cynnig Gofal Plant am ddim a gweinyddiad y cynllun am gyfnod o dair blynedd;

·         fod graddfa hawlio’r Cynnig yn yr ardaloedd EILA wedi bod yn raddol;

·         fod holl ddarparwyr y sector addysg nas cynhelid yn derbyn cefnogaeth ac anogaeth y Cyngor i ymafael yn y cyfle i fanteisio o’r Cynllun newydd.  Roedd mwyafrif y darparwyr a fu’n rhan o’r fforymau gwybodaeth gofal plant â diddordeb cymryd rhan yn y Cynllun newydd.  Tra’r oedd rhai o ysgolion y sir yn cynnig darpariaeth ar ôl ysgol, dyletswydd yr Awdurdod oedd i ddarparu addysg statudol i ddisgyblion o oed ysgol statudol.  Fodd bynnag, gallai clybiau ar ôl ysgol fanteisio ar y cynnig gofal plant am ddim a byddent yn derbyn gwybodaeth berthnasol ynghylch hyn trwy’r fforymau perthnasol, a fyddai’n eu hannog i ymgysylltu â’r cynllun;

·         fod cynllun gofal plant am ddim tebyg yn Lloegr wedi wynebu problemau yn ddiweddar am fod rhai darparwyr yn codi ffioedd ar rieni am wasanaethau ‘ychwanegol’ nas darparwyr ar eu cyfer fel rhan o’r cynllun.  Yng Nghymru, roedd canllawiau’r cynllun yn nodi na ddylid codi mwy na £7.50 y dydd o ffioedd ychwanegol ar rieni.  Fel yr Awdurdod Gweithredu ar gyfer Sir Ddinbych, byddai disgwyl i Sir y Fflint fonitro cydymffurfiad darparwyr â chanllawiau’r Llywodraeth mewn cyswllt â’r Cynllun;

·         fod y cynnig gofal plant am ddim ar gael i rieni am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn.  Cyfrifoldeb rhieni fyddai dewis ym mha wythnosau yr oedd arnynt angen darpariaeth o ofal plant, a bod yn ymwybodol o’r adegau yr oedd modd i’r darparwr ddarparu gofal plant wrth ddod i gytundeb â hwy;

·         fod system weinyddu Sir y Fflint ar gyfer y cynnig gofal plant am ddim yn system yn seiliedig ar oriau;

·         fod hyblygrwydd o fewn y cynllun ar gyfer gweithio shifftiau, cytundebau dim oriau a gweithwyr tymhorol yn cael ei brofi’n barhaus mewn ardaloedd EILA gyda golwg at ganfod datrysiadau derbyniol i sicrhau nad oedd rhieni oedd yn gweithio ac yn ddarostyngedig i gytundebau o’r fath dan anfantais.  Roedd disgwyl y byddai Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cymryd y cyfrifoldeb dros weinyddu’r Cynnig Gofal Plant am ddim o 2020 ymlaen. Pe bai’r trefniadau hyn yn mynd rhagddynt, byddent yn hwyluso prosesau gwirio cyflymach ar gyfer rhieni oedd yn ddarostyngedig i’r mathau uchod o gytundebau cyflogaeth a’r sawl oedd yn hunan-gyflogedig ac a ddymunai gael mynediad at y Cynnig Gofal Plant am ddim.  Tra'r oedd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio ar fanylion yn ymwneud â hyn roedd cyfnod gras o 8 wythnos yn bodoli ar hyn o bryd i rieni ar gytundebau cyflogaeth ansafonol a ddymunai gael mynediad at y Cynnig;

·         y byddai hyfforddiant yn cael ei ddarparu i rieni a ddymunai gael mynediad at y Cynnig Gofal Plant am ddim.  Roedd rhai darparwyr gofal plant eisoes yn rhoi cymorth i rieni er mwyn eu paratoi at gyflwyno'r Cynllun, tra bod Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Cyngor a thimau eraill o fewn yr adran Addysg a Gwasanaethau Plant yn cynnig cefnogaeth ac hyfforddiant i rieni a darparwyr gofal plant i’w paratoi at gyflwyniad y Cynnig;

·         mai sail debygol y dewis o ardaloedd EILA oedd yr angen i brofi lefelau derbyn y cynnig ac effeithiolrwydd y gweithdrefnau i roi’r cynnig ar waith mewn ardaloedd o fathau gwahanol h.y. gwledig a trefol, lleoliad daearyddol, proffil demograffig ayyb.;

·         tra’r oedd disgwyl y byddai nifer o ddarparwyr gofal plant yn darparu ar gyfer cymysgedd o blant preifat a phlant ar y Cynnig Gofal Plant am ddim, y byddai’r holl blant yn derbyn yr un gofal a chyfleoedd addysgol. Ni fyddent yn cael eu gosod ar wahân yn seiliedig ar bwy fu’n gyfrifol am ariannu eu lle yn y lleoliad gofal plant.  Byddai gweithdrefnau archwilio Arolygiaeth Gofal Cymru yn sicrhau na fyddai darpariaeth/gwahanu dwy haen yn cael ei ganiatáu;

·         Fod y Cynnig Gofal Plant am ddim wedi ei gyfyngu o ran amser gan mai dim ond ar gyfer plant rhieni cymwys oedd mewn gwaith o’r tymor ysgol yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn dair oed nes iddynt dderbyn cynnig am le llawn amser mewn ysgol yr oedd ar gael.  Unwaith y byddent yn cychwyn mewn addysg llawn amser, byddai angen i unrhyw ofal ar ôl ysgol/yn ystod gwyliau gael ei ariannu gan y rhieni; ac

·         Nad oedd yr ardaloedd EILA wedi dod ar draws unrhyw broblemau difrifol o ran gallu rhieni i gael mynediad at ddarpariaeth addas o ofal plant yn ystod gwyliau’r haf.

 

Diolchodd y Pwyllgor i’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion am fynychu’r cyfarfod ac am ateb eu cwestiynau mewn perthynas â'r Cynnig Gofal Plant am ddim.  Cafwyd cais gan yr Aelodau i swyddogion archwilio’r posibiliadau o ran ffynonellau cyllid eraill a allai fod ar gael y gellid eu defnyddio i gefnogi gwaith â theuluoedd nad oeddent yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant am ddim i sicrhau nad oedd sefyllfa'n codi lle’r oedd eu plant yn gymdeithasol ar wahân neu’n ynysig.   Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

PENDERFYNWYD: - yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)            Cymeradwyo’r cynlluniau presennol ar gyfer cyflwyno'r Cynnig Gofal Plant yn Sir Ddinbych ar draws y sir gyfan, ar sail y cytundeb presennol â Llywodraeth Cymru.

(ii)          Cymeradwyo’r cynllun arfaethedig i ddarparu'n draws-sirol ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint.

(iii)         Cytuno i graffu ymhellach ar gynllun wrth gefn i gyflwyno'r Cynnig fesul ward yn nhrefn blaenoriaeth pe na byddai Llywodraeth Cymru, am ba bynnag reswm, yn cadarnhau cyllid ar gyfer ei gyflwyno ar draws y sir gyfan ar unwaith; a

(iv)         Pe byddai Llywodraeth Cymru yn cadarnhau rhoi’r cynllun ar waith ar draws y sir gyfan ar unwaith, y dylid cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor wedi Ebrill 2020 i asesu derbyniad ac effaith y cynnig gofal plant am ddim yn y sir ers ei gyflwyno yn Ebrill 2019 ac i werthuso a oedd cyflwyno’r cynnig wedi cefnogi darpariaeth blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor o ran pobl ifanc a chymunedau cryf a chefnogi’r economi leol; a’i fod ar y trywydd cywir i ddarparu canlyniadau gwell i blant a theuluoedd.

 

 

Dogfennau ategol: