Eitem ar yr agenda
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD
Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Cofnodion:
Dim materion
brys.
Yn y man hwn,
rhoddwyd gwybod i’r Aelodau y byddai dau gwestiwn yn cael eu rhoi gerbron fel a
ganlyn:
(i)
Anfonodd
Miss Talulah Thomas o Langollen y cwestiwn canlynol i mewn ond nid oedd hi’n
gallu mynychu mewn person. Aeth Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau
Dynol a Democrataidd ymlaen i ddarllen y cwestiwn ar ran Miss Thomas yn ei
habsenoldeb:
“A wnaiff
deilydd perthnasol y portffolio esbonio pa gamau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i
sicrhau bod y disgyblion yn ysgolion y sir yn derbyn y gofal iechyd meddwl
angenrheidiol, a pha gamau sy’n cael eu cymryd i ddynodi unrhyw anhwylderau
iechyd meddwl yn ddigon cynnar?”
Ymateb
yr Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts:
“Saif
cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol ar iechyd meddwl gyda CAMHS (Gwasanaeth Iechyd
Meddwl Plant a’r Glasoed). Fodd bynnag, fel Awdurdod, rydym yn cefnogi’r gwaith
hwn, gan weithio ochr yn ochr â nhw gyda’n pobl ifanc mewn ysgolion.
Sut
ydym yn gwneud hyn? Rydym yn defnyddio PASS (agwedd disgyblion tuag at eu
hunain a’r ysgol) i werthuso hunan-barch ac iechyd emosiynol y disgyblion yn yr
ysgol a pha gyfleoedd sydd i’r ysgol ymyrryd os oes unrhyw faterion ar y cam
hwnnw. Yn ogystal, fel awdurdod, rydym yn darparu hyfforddiant ELSA
(Cynorthwyydd Cymorth Emosiynol a Llythrennedd) i gynorthwywyr addysgu mewn
ysgolion i gyflawni ymyriadau iechyd emosiynol ar ddisgyblion unigol a grwpiau
o ddisgyblion y dynodwyd bod angen y cymorth hwn arnynt.
Gweithia’r
Awdurdod gyda CAMHS i hwyluso hyfforddiant i ysgolion, cynnal ymyriadau ar
gyfer pethau fel profedigaeth a cholled a “meddwl yn dda, teimlo’n dda” sy’n
ymyriad ymddygiadol ar lefel ysgol.
Mae’r
Awdurdod yn darparu mynediad i’r gwasanaeth seicoleg addysg. Yn ogystal,
cynigia’r Awdurdod gwnsela yn yr ysgol yn ein hysgolion uwchradd ac i oedran
blwyddyn 6. Mae’r Awdurdod yn darparu gwasanaeth therapiwtig i
ddisgyblion.
Gweithia’r
Awdurdod yn helaeth gyda CAMHS ar y llwybr atal hunan-anafu a hunanladdiad i hyfforddi grwpiau a staff ym
mhob lleoliad uwchradd. Mae’r hyfforddiant yn darparu protocol clir ar gyfer y
staff ysgol hyfforddedig i gysylltu â CAMHS i bob disgybl unigol y dynodir eu
bod yn hunan-anafu neu’n hunanleiddiol i risg penodol ac i greu cynlluniau
diogelwch a phenderfynu ar y dull o ymyrryd gyda CAMHS.
Mae
swm aruthrol o waith yn cael ei wneud yn hyn o beth ac rydym yn cydnabod pa mor
bwysig yw hi ac rydym yn sicrhau ein bod ni’n rhoi’r plentyn flaenaf bob amser.
Os hoffai Ms Thomas ragor o wybodaeth, byddai’r swyddogion a minnau’n hapus i
gyfarfod â hi.”
(ii)
Cododd y Cynghorydd Graham Timms y cwestiwn canlynol:
“Allwch chi ddiweddaru’r aelodau
ynghylch bwriadau’r Cyngor ar gyfer Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif y mae
disgwyl iddo ddechrau ym mis Ebrill 2019 o ran ei amserlen a’i gwmpas?”
Ymateb yr Aelod
Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts:
“Bydd Band B - rhaglen Ysgolion yr
21ain Ganrif yn rhedeg am 7 mlynedd o 2019. Yn 2017, cymeradwyodd y Cabinet
gyflwyniad Band B i Lywodraeth Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddynt ym mis
Tachwedd 2017. Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg yn Llywodraeth
Cymru ym mis Tachwedd, ddiwygiadau i’r gyfundrefn gyllido sy’n cynyddu canran y
cyfraniad gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag, bydd y cyfraniad yn parhau’r un
fath. Golyga hyn fod rhaglen Sir Ddinbych yn debygol o gael gwerth cyffredinol
is na’r rhaglen yn ôl yn 2017. Gofynnwyd i swyddogion ailastudio lle gallai’r
gwaith cwmpas gwreiddiol a wnaed gennym gael ei adolygu.
Gwaith dichonoldeb sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd ar astudio adeiladau
ysgolion yn ardal Dinbych a’r sector cynradd yn y Rhyl.
Yn ogystal, mae’r ddarpariaeth i’r dyfodol ar gyfer plant gydag anghenion
ychwanegol wrthi’n cael ei hadolygu gyda rhagor o waith yn edrych ar
ddarpariaethau yn Llangollen. Bydd y rhaglen ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno i
aelodau etholedig ym mis Medi 2019 i nodi’r rhaglen waith sy’n symud ymlaen.
Mae Band A bellach wedi gweld rhai buddsoddiadau gwirioneddol dda o ogledd
i dde Sir Ddinbych. Cafwyd rhai prosiectau gwirioneddol dda y mae’r Cynghorydd
Eryl Williams wedi’u harwain yn llwyddiannus iawn ac mae ein plant yn gweld
maintais hynny yn ein hardal nawr.”
Diolchodd y Cynghorydd Graham Timms yr Aelod Arweiniol am ei ymateb ond
aeth ati i ychwanegu:
“Rydw i wedi cael cyfle i ymweld ag Ysgol Uwchradd y Rhyl, Ysgol Glan Clwyd
ac adeilad yr ysgol newydd yn Rhuthun. Rydw i’n falch iawn o weld yr hyn sydd
wedi digwydd yn Sir Ddinbych dan Fand A lle mae Llywodraeth Lafur Cymru a Sir
Ddinbych wedi bod yn cydweithio i ariannu adeiladau anhygoel ac mae’n dda gweld
â’m llygaid fy hunan y gwelliannau yn amgylchedd yr ysgol a sut mae hynny’n
arwain at welliant mewn ymddygiad a gwelliant mewn cyflawniad yn yr ysgolion.
Mae ein tair ysgol yn Llangollen yn mynd trwy drafferthion gwirioneddol
gyda’r adeiladau, a godwyd gan mwyaf yn ystod y ganrif ddiwethaf ac un ohonynt
yn y ganrif cyn hynny. Allwch chi ein sicrhau ni y byddwch yn gweithio gyda
Llywodraeth Lafur Cymru i sicrhau bod ein plant yn Llangollen ac mewn ardaloedd
eraill mewn ysgolion sy’n addas i’r ganrif hon?
Hoffwn estyn gwahoddiad i’r Aelod Arweiniol ddod gyda fi i ymweld ag
ysgolion Llangollen.”
At hynny, ymatebodd yr Aelod Arweiniol fel a ganlyn:
“Rydym yn ymroi i’r prosiectau hyn ac rydym yn ymroi i bob plentyn yn Sir
Ddinbych ac yn sicr, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein grym, gyda’r cyllid
sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i gyflawni hyd eithaf ein gallu.
Mae gennych ymrwymiad llawn gennyf y byddaf yn gwneud popeth o fewn fy
ngallu i gefnogi’ch prosiect wrth symud ymlaen ond, wrth reswm, mae hynny’n ddibynnol
ar y cyllid a’r gwaith dichonoldeb rydym yn ei wneud ar hyn o bryd.
Derbyniaf eich gwahoddiad i gwrdd â chi yn Llangollen ac i ymweld â’r
ysgolion.”