Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED EIDDO NEWYDD – 39 STRYD Y FFYNNON, RHUTHUN
Ystyried cais am
Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003
o ran 39 Stryd y Ffynnon, Rhuthun (mae amlinelliad o'r cais a phapurau
cysylltiedig ynghlwm).
11.30 a.m.
Nodwch y drefn
i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais yn destun amodau.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a oedd wedi’i gylchredeg cyn hynny) am
–
(i)
cais a gafwyd gan Richard John
Green am Drwydded Eiddo newydd mewn perthynas â 39 Stryd y Ffynnon, Rhuthun yn cynnig
ei weithredu fel micro-dafarn a fydd yn gwerthu alcohol i’w yfed ar y safle ac
oddi ar y safle;
(ii) cais gan yr ymgeisydd am awdurdodiad i ddarparu’r gweithgareddau
trwyddedadwy canlynol –
GWEITHGARWCH TRWYDDEDADWY |
DYDDIAU CYMWYS |
AMSER: O |
AMSER: I |
Cyflenwi Alcohol (i’w yfed
ar y safle ac oddi ar y safle) |
Dydd Llun – Dydd Sul |
12:00 |
22:00 |
Oriau y byddai’r safle yn
agored i’r cyhoedd |
Dydd Llun – Dydd Sul |
12.00 |
22.00 |
(iii) pedwar sylw ysgrifenedig (Atodiad B i’r adroddiad) a gafwyd mewn ymateb i’r
hysbysiad cyhoeddus mewn perthynas ag aflonyddu posibl gan sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol;
(iv) sylwadau a gyflwynwyd gan Adain Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor (Atodiad C
i’r adroddiad) sy’n ymwneud â’r ffaith bod y safle yn agos iawn i eiddo preswyl
ac yn cynnig nifer o amodau (y mae’r Ceisydd wedi cytuno arnynt) i’w gosod os
rhoddir y drwydded i helpu i atal niwsans cyhoeddus;
(v) sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Gogledd Cymru am y cais a nifer o amodau a
gynigiwyd ganddo (y mae’r Ceisydd wedi cytuno arnynt) i’w gosod os rhoddir y
drwydded er mwyn hyrwyddo’r amcan trwyddedu ar gyfer atal troseddu ac anhrefn
(Atodiad D i’r adroddiad);
(vi) ymateb ysgrifenedig a ddarparwyd hefyd gan yr ymgeisydd i bryderon preswylwyr
(Atodiad E i’r adroddiad) a’r ffaith ei fod wedi nodi ei fod yn barod i
gyfryngu â’r Partïon Cysylltiedig – er hynny, roedd rhai gwrthwynebwyr wedi
nodi ei bod yn well ganddynt i’r mater gael ei ddwyn gerbron yr Is-bwyllgor
Trwyddedu;
(vii) yr angen i ystyried y cais gan roi sylw dyladwy i Ddatganiad Polisi
Trwyddedu y Cyngor; Canllawiau a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol;
deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a gafwyd;
(viii) yr opsiynau sydd ar gael i’r pwyllgor wrth benderfynu ar y cais.
Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi (HB) yr adroddiad ac amlinellu ffeithiau’r
achos.
CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD
Roedd yr ymgeisydd, Mr. Richard Green yn bresennol i gefnogi ei gais ynghyd
â’i wraig, Mrs. S. Green a’i bartner busnes Mr. D. McPherson. Rhoddodd Mrs. Green grynodeb o’r cais am
ficro-dafarn gan ofyn am oriau a ganiateir rhwng 12 hanner dydd a 10.00 p.m.
ond rhoddodd wybod mai’r oriau agor arferol fyddai rhwng 3.00 p.m. a 10.00 p.m.
ar wahân i ddydd Sadwrn. Ni fyddai’r
busnes yn agored ar ddydd Llun fel arfer oni bai ei fod yn ŵyl banc.
Mewn ymateb i gwestiynau aelodau –
·
darparodd Mr. Green wybodaeth
gefndir am y cynnig busnes gan gynnwys ei brofiad yn y diwydiant bragu a
micro-dafarnau a agorwyd yn ddiweddar yn y Rhyl a Phrestatyn a oedd yn gweithredu
o dan amodau trwyddedu tebyg; rhoddodd sicrwydd hefyd ynghylch cydymffurfio â’r
amodau arfaethedig
·
rhoddodd Mr. McPherson
wybodaeth gefndir hefyd am y rhan y bydd yn ei chwarae a’i brofiad yn y
diwydiant bragu ac ymhelaethodd ar gynlluniau partneriaeth â Mr. Green ar gyfer
y ficro-dafarn arfaethedig yn Rhuthun
·
rhoddwyd sicrwydd nad oedd
unrhyw ddigwyddiadau mewn bod mewn unrhyw un o’r micro-dafarnau a weithredir
gan yr ymgeisydd lle mae’r Heddlu wedi’u galw ac roedd cofnodion yn cael eu
cadw am wrthod gwasanaethu; roedd teledu cylch cyfyng ar waith hefyd
·
darparwyd manylion am
hyfforddiant staff, yn cynnwys gofynion o ran ymsefydlu a pholisi, ynghyd â
chyfleoedd hyfforddi yng nghyswllt trwyddedu a rheoli fel y bo’n briodol; roedd
y rhanddeiliaid yn ymwneud â hyn yn uniongyrchol
·
cyfeiriwyd at y farchnad
arfaethedig gyda nodweddion demograffig a oedd yn cynnwys y ddau ryw ac ystod
oedran rhwng 30 a 65; roedd cynhyrchion o ansawdd da yn cael eu gwerthu am
brisiau uwch na’r cystadleuwyr am fod y cynhyrchion wedi’u gwneud gan
grefftwyr; byddai amgylchedd diogel a chroesawgar yn cael ei greu i alluogi
unigolion i gymdeithasu, a byddai nifer mawr o bobl wedi ymddeol yn galw heibio
rhwng 6.00 p.m. a 8.00 p.m. i’r diben hwnnw.
Ni fyddai bwyd yn cael ei weini ar y safle ond byddai byrbrydau fel
creision ar gael yn y bar
·
cadarnhawyd bod y
micro-dafarnau yn y Rhyl a Phrestatyn yn agos i eiddo preswyl. Roedd y safle yn y Rhyl mewn rhes o siopau
gyda fflatiau preswyl uwch eu pen ac ystad o dai preswyl yn agos, ac roedd y
safle ym Mhrestatyn gyferbyn â chyfadeilad i bobl wedi ymddeol.
CYFLWYNIAD GAN ADAIN IECHYD YR
AMGYLCHEDD
Cyfeiriodd Mr. Sean Awbery o Adain Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor at ei
sylwadau ysgrifenedig (Atodiad C i’r adroddiad) yn cynnig gosod nifer o amodau
ar y drwydded, os rhoddir hi, er mwyn atal niwsans cyhoeddus. Roedd yr amodau wedi’u cytuno â’r Ceisydd.
CYFLWYNIAD GAN HEDDLU GOGLEDD
CYMRU
Nid oedd cynrychiolydd o Heddlu Gogledd Cymru yn bresennol. Nododd aelodau ei sylwadau ysgrifenedig a
nifer o amodau a oedd wedi’u cytuno rhwng yr ymgeisydd a Heddlu Gogledd Cymru
er mwyn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ymhellach (wedi’u hatgynhyrchu yn Atodiad
D i’r adroddiad). Roedd yr Heddlu wedi
gofyn os oedd aelodau o blaid caniatáu’r cais eu bod yn ystyried cynnwys yr
amodau hynny yn yr Atodlen Gweithredu.
CYFLWYNIADAU GAN BARTÏON
CYSYLLTIEDIG
Roedd pedwar sylw ysgrifenedig wedi dod i law (Atodiad B i’r adroddiad)
oddi wrth bartïon cysylltiedig a oedd yn disgrifio pryderon sy’n ymwneud â’r
amcanion trwyddedu. Roedd y partïon
cysylltiedig hynny a oedd yn y gwrandawiad yn cynnwys (1) Mr. G. Price a Mrs.
S. Price, a (2) Mr. J. Brimble a Mrs. C. Brimble – pob un ohonynt yn breswylydd
yn Stryd y Ffynnon, Rhuthun. Etholwyd
Mrs. S. Price yn llefarydd ar ran y rheini a oedd yn bresennol.
Cyfeiriodd Mrs. S. Price at y sylwadau ysgrifenedig a phryderon preswylwyr
a oedd yn ymwneud yn bennaf â niwsans sŵn, y risg o fwg ail-law,
llygredd golau ac arogleuon afiach. Mewn
ymateb tynnodd Mrs. Green sylw at yr ymateb ysgrifenedig cynhwysfawr i bryderon
preswylwyr (Atodiad E i’r adroddiad) a oedd yn nodi sut byddai’r materion
hynny’n cael eu trafod a’u lliniaru.
Mewn ymateb i gwestiynau pellach a godwyd gan Mrs. Price roedd yr ymgeisydd
a’i gynrychiolwyr –
·
wedi cydnabod pryderon
ynghylch y posibilrwydd y byddai cwsmeriaid yn ysmygu y tu allan i’r safle yn
union o dan ffenestri preswylwyr ond wedi rhoi gwybod bod profiad blaenorol
wedi dangos mai ychydig o ysmygwyr a oedd yn cael eu denu i’r ficro-dafarn ac y
byddai unrhyw fwg yn teneuo wrth iddo godi
– ni fyddai cwsmeriaid yn cael eu hannog i ysmygu y tu allan i’r safle
nac yn cael caniatâd i fynd â diodydd allan i’r diben hwnnw; byddai arwyddion
hefyd yn cael eu gosod ger y drws i anghymell yr arfer honno ac roedd yr
ymgeisydd yn barod i ganfod a oedd yn ymarferol gosod ffan/echdynnwr wrth y
drws ffrynt i ymateb ymhellach i bryderon
·
wedi rhoi gwybod y byddai modd
defnyddio rhan o’r lle y tu mewn i gefn y safle i storio gwastraff ac mai dim
ond ar ôl hanner dydd y byddai llwytho a dadlwytho yn cael eu caniatáu pan
fyddai’r safle’n cael ei agor i ganiatáu mynediad
·
wedi rhoi sicrwydd ynghylch sŵn gan gadarnhau bod trefniadau’n cael eu gwneud i gymryd peiriannydd sŵn ymlaen i gynnal arolwg o’r safle er mwyn gweithredu unrhyw argymhellion,
fel un i osod rhwystr sŵn acwstig, i ymateb i bryderon ynghylch sŵn; o ran sŵn cyffredinol gan gwsmeriaid y tu allan i’r safle,
byddai hysbysiadau clir yn cael eu dangos yn gofyn i gwsmeriaid barchu preswylwyr
lleol ac ymadael yn ddistaw
·
wedi ailddatgan y byddai oriau
agor y safle yn gyfyngedig, fel arfer rhwng 3.00 p.m. neu 4.00 p.m. a hyd at
10.00 p.m. gyda phymtheg munud i orffen yfed.
Gyda chydsyniad y Cadeirydd, anerchodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr
Is-bwyllgor ac adrodd ar nifer o negeseuon yr oedd wedi’u cael gan breswylwyr
yn codi pryderon tebyg mewn perthynas â’r cais a oedd yn cynnwys y posibilrwydd
o sŵn/aflonyddu; anawsterau parcio (yn cynnwys dadlwytho cyflenwadau);
ymddygiad afreolus yn gysylltiedig ag yfed; ysmygu goddefol, a’r posibilrwydd o
gerddoriaeth fyw. Er bod cymysgedd
cyfeillgar o fusnesau a phreswylwyr ar hyn o bryd, roedd pryderon am golli
cydbwysedd pe byddai trwydded yn cael ei rhoi.
Er gwerthfawrogi’r amodau lliniaru a awgrymwyd i ymateb i bryderon
(Atodiadau C a D i’r adroddiad) ac ymateb manwl yr ymgeisydd i’r pryderon a
godwyd (Atodiad E i’r adroddiad), roedd preswylwyr yn pryderu o hyd na
chydymffurfir â’r amodau hynny neu na fyddant yn ymateb yn llawn i’r holl
bryderon a godwyd. Yn gyffredinol roedd
micro-dafarn yn cael ei hystyried yn fenter ragorol ond holwyd a oedd y
lleoliad yn briodol i gychwyn menter o’r fath o ystyried y pryderon a godwyd. Ychwanegodd Mr. J. Brimble fod lleoliadau mwy
addas yn yr ardal ar gyfer micro-dafarn, gan ailddatgan ei bryderon, yn cynnwys
ysmygu goddefol, a holodd a oedd polisi ysmygu wedi’i fabwysiadu. Atebodd Mr. Sean Awbery nad oedd polisi ar
ysmygu mewn mannau cyhoeddus hyd yr oedd yn gwybod. Roedd Mr. G. Price hefyd wedi ailddatgan ei
bryderon ynghylch effaith sŵn ac ar ei fod yn
gwerthfawrogi bod tafarn a siop cebabau yn bellach ar hyd y ffordd, nid oedd y
busnesau hynny yn union o dan ei annedd.
Holodd y Cadeirydd Mr. Sean Awbery o Adain Iechyd yr Amgylchedd am fater
niwsans sŵn. Cafwyd cadarnhad ganddo fod cais
wedi’i wneud am asesiad sŵn yn rhan o broses y cais
cynllunio i roi prawf ar allu’r adeiladwaith i atal sŵn rhag
dianc a bod yr ymgeisydd wedi cytuno i ddarparu unrhyw welliannau yn ôl yr
angen a all fod yn rhan o unrhyw amod cynllunio yn y dyfodol. Eglurodd Mrs. Green, mewn perthynas â
cherddoriaeth, fod y micro-dafarnau yn y Rhyl a Phrestatyn yn cynnal noson o
gerddoriaeth acwstig ar ddydd Mercher neu ddydd Sul a oedd yn para tua 1 – 1.5
awr rhwng 7.00 p.m. ac 8.30 p.m. – nid oedd cerddoriaeth electronig yn cael ei
chwarae. Ychwanegodd Mr. McPherson fod y
mudiad micro-dafarnau yn ymwneud yn fwy â chrefft sgwrsio.
DATGANIAD TERFYNOL YR
YMGEISYDD
Wrth wneud datganiad terfynol, ailddatganodd Mrs. Green eu bod yn rhedeg
busnes cyfrifol a rhoddodd sicrwydd y byddai pob pryder yn cael ei ystyried a
bod croeso i ymgynghori llawn. Estynnodd
wahoddiad hefyd i breswylwyr i weld sut roedd eu micro-dafarnau eraill yn cael
eu rhedeg er mwyn rhoi mwy o dawelwch meddwl a lliniaru pryderon a godwyd. Eglurwyd y rhesymu ynghylch dewis y lleoliad
i’r busnes yn Stryd y Ffynnon yng nghyswllt demograffeg a’r dewis da o fannau
manwerthu a mannau cyffelyb. Roedd yr
amodau a gynigiwyd gan yr Heddlu ac Adain Iechyd yr Amgylchedd wedi’u derbyn a
byddai unrhyw argymhellion a oedd yn codi o’r asesiad sŵn (a
gynhelir yn rhan o broses y cais cynllunio) yn cael eu gweithredu os oeddent yn
ddichonol yn ariannol.
YMNEILLTUO I YSTYRIED Y CAIS
Yn y fan hon (1.00 p.m.)
ymneilltuodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried y cais.
Y
PENDERFYNIAD A’R RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD rhoi Trwydded Eiddo (fel y ceisiwyd amdani), yn ddarostyngedig i’r amodau
sydd wedi’u dangos isod ar gyfer y canlynol –
GWEITHGARWCH
TRWYDDEDADWY |
DIWRNODAU CYMWYS |
ORIAU |
Cyflenwi alcohol (i’w yfed ar y safle ac oddi ar y
safle) |
Dydd Llun – Dydd Sul |
12.00 – 22:00 |
Oriau agor y safle i’r cyhoedd |
Dydd Llun – Dydd Sul |
12.00 – 22:00 |
AMODAU
Fel
y’u cynigiwyd gan Heddlu Gogledd Cymru –
Atal Troseddu ac
Anhrefn
1) Teledu Cylch Cyfyng
a) Gosodir system teledu cylch cyfyng ar y safle a
bydd ar waith bob amser pan fydd y safle yn agored.
b) Bydd camerâu’r system teledu cylch cyfyng yn
monitro tu mewn a thu allan y safle. Ar gyfer
tu mewn y safle, gosodir digon o gamerâu i fonitro’r holl fannau y bydd y
cyhoedd yn cael mynediad iddynt, ac eithrio’r toiledau. Rhaid monitro’r holl
fynedfeydd ac allanfeydd a rhaid darparu llun clir o’r pen a’r ysgwyddau.
c) Bydd y system teledu cylch cyfyng o safon sydd â’r
gallu i ddarparu lluniau o ansawdd tystiolaeth ac i adnabod wynebau ym mhob
math o olau.
d) Bydd cyfleuster yn y system teledu cylch cyfyng i
recordio’r lluniau o bob un o’r camerâu a chedwir y lluniau hyn am 28 o
ddiwrnodau o leiaf.
e) Bydd cyfleuster yn y system teledu cylch cyfyng i
gynnwys y dyddiad ac amser cywir yn y lluniau a recordir.
f) Bydd cyfleuster yn y system teledu cylch cyfyng i
lawrlwytho lluniau i ryw fath o ddyfais symudol. Cyfrifoldeb deilydd y drwydded
eiddo yw darparu’r ddyfais symudol ac os atafaelir dyfais symudol, yna
cyfrifoldeb deilydd y drwydded eiddo fydd sicrhau bod dyfais symudol ychwanegol
ar gael.
g) Trefnir i luniau fod ar gael o’r system teledu
cylch cyfyng i swyddogion yr Heddlu neu’r Awdurdod Lleol ar eu cais.
h) Bydd o leiaf un aelod staff a hyfforddwyd i
ddefnyddio’r system teledu cylch cyfyng ac sy’n gallu darparu lluniau a
recordiwyd o’r system teledu cylch cyfyng ar ddyletswydd bob amser pan yw’r
safle yn agored.
i) Rhaid i’r Goruchwylydd Eiddo Dynodedig sicrhau bod
y system teledu cylch cyfyng yn cael ei gwirio ar ddechrau busnes bob diwrnod i
sicrhau ei bod yn gweithio – rhoddir sylw ar unwaith i unrhyw ddiffygion yn y
system. Wrth wneud y gwiriad hwn, rhaid
cynnwys gweithrediad y camerâu, y cyfleusterau recordio, cyfleusterau ar gyfer
darparu lluniau a chywirdeb yr amser a’r dyddiad. Rhaid cadw cofnod ysgrifenedig o’r gwiriadau
hyn, yn cynnwys llofnod y person sy’n cyflawni’r gwiriad. Rhaid cadw’r cofnod ysgrifenedig hwn ar y
safle bob amser a’i ddarparu i gynrychiolydd unrhyw awdurdod cyfrifol ar ei
gais.
2) CYN
iddynt gael caniatâd i werthu alcohol, bydd yr holl staff sydd heb drwydded
bersonol, yn cynnwys unrhyw aelodau staff di-dâl, aelodau o’r teulu a phersonau
a all ymwneud yn achlysurol â gwerthu alcohol ar y safle, yn cael eu hyfforddi
ar eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ac unrhyw ddiwygiadau i’r
Ddeddf honno a wneir wedyn – yn benodol, byddant yn cael eu hyfforddi mewn
perthynas â gweini alcohol i bersonau sy’n feddw.
3) Bydd cofnodion o’r hyfforddiant cychwynnol a
dderbynnir a hyfforddiant diweddaru dilynol yn cael eu cadw a’u dangos i
swyddogion yr Heddlu neu’r Awdurdod Lleol ar eu cais.
4) Llyfr Digwyddiadau a Gwrthodiadau – rhaid cadw
llyfr digwyddiadau a gwrthodiadau (a’r tudalennau wedi’u rhifo’n olynol) ar y
safle a threfnu iddo fod ar gael i’w archwilio gan awdurdodau cyfrifol. Rhaid
cofnodi’r canlynol yn y llyfr digwyddiadau a gwrthodiadau:
a)
Unrhyw
ddigwyddiad o drais neu anhrefn ar y safle neu’n union y tu allan iddo.
b)
Unrhyw
ddigwyddiad sy’n ymwneud â chyffuriau (cyflenwi/meddu arnynt/dylanwadu) ar y
safle.
c)
Unrhyw drosedd
neu weithgarwch troseddol arall ar y safle.
d)
Unrhyw
wrthodiad i weini alcohol i bersonau sy’n feddw.
e)
Unrhyw
wrthodiad i weini alcohol i rai dan 18 oed neu unrhyw un sy’n ymddangos ei fod
o dan 18 oed.
f)
Unrhyw alwad
i’r heddlu neu’r gwasanaeth ambiwlans neu wasanaeth tân am gymorth ar y safle.
g)
Unrhyw droi
allan o’r safle.
h)
Unrhyw gymorth
cyntaf/math arall o ofal a roddwyd i gwsmer.
5) Rhaid cofnodi’r manylion canlynol yn y llyfr
digwyddiadau a gwrthodiadau:
a)
Amser, diwrnod
a dyddiad y digwyddiad neu wrthodiad
b)
Y person sy’n
cofnodi
c)
Enw tyst ar y
staff
d)
Enw a
chyfeiriad y cwsmer (os rhoddwyd)
e)
Disgrifiad o’r
cwsmer
f)
Y rheswm am
wrthod neu natur y digwyddiad
g)
A alwyd yr
heddlu neu’r gwasanaeth ambiwlans neu wasanaeth tân
6) Rhaid trefnu i’r llyfr digwyddiadau a gwrthodiadau
fod ar gael i’w archwilio gan awdurdodau cyfrifol ar eu cais. Gellir cofnodi’r wybodaeth yn electronig
hefyd ar system seiliedig ar dil neu system debyg.
Amddiffyn Plant rhag
Niwed
1)
Y polisi gwirio
oed a ddefnyddir ar y safle fydd Challenge
25
2) Bydd yr holl staff, yn cynnwys unrhyw aelodau staff
di-dâl, aelodau o’r teulu a phersonau sy’n ymwneud â gwerthu alcohol yn
achlysurol yn cael eu hyfforddi ar y polisi Challenge 25 CYN cael caniatâd i werthu alcohol a
byddant yn dilyn hyfforddiant diweddaru bob chwe mis o leiaf.
3) Cedwir cofnodion o’r hyfforddiant Challenge 25 a
threfnir iddynt fod ar gael i’w harchwilio gan swyddogion Heddlu Gogledd Cymru
neu’r Awdurdod Lleol ar eu cais.
4) Ni chaniateir i blant (dan 18 mlwydd oed) fod ar y
safle oni bai fod oedolyn gyda nhw bob amser.
5) Ni chaniateir i blant (dan 18 mlwydd oed) fod ar y
safle ar ôl 19.00 awr.
Fel
y’u cynigiwyd gan Adain Rheoli Llygredd y Cyngor –
1) Ni chaniateir chwarae cerddoriaeth fyw/wedi’i
recordio y tu allan
2) Ni chaniateir gosod cynwysyddion o unrhyw fath y tu
allan i’r safle rhwng 09.00 awr a 21.00 awr er mwyn lleihau aflonyddu ar eiddo
gerllaw
3) Rhaid dangos hysbysiadau amlwg, clir a darllenadwy
ym mhob allanfa yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion preswylwyr lleol ac
ymadael â’r safle a’r ardal yn ddistaw
4) Ni fydd unrhyw oleuadau fflachio neu oleuadau
llachar yn cael eu gosod ar y safle neu y tu allan iddo a rhaid i unrhyw
oleuadau diogelwch neu fynediad gael eu gosod a’u gweithredu fel na fyddant yn
achosi niwsans i eiddo gerllaw
Cyfleodd y Cadeirydd benderfyniad
yr Is-bwyllgor i’r partïon a oedd yn bresennol ac adroddodd y Cyfreithiwr ar y
rhesymau dros y penderfyniad fel a ganlyn –
Roedd aelodau wedi ystyried y cais a’r sylwadau a gyflwynwyd yn yr achos
hwn yn ofalus.
Roedd y Ceiswyr wedi cydnabod y pryderon a godwyd gan breswylwyr ac wedi
nodi eu bod yn barod i weithio gyda phreswylwyr i leddfu’r pryderon hynny
ymhellach a’u bod yn croesawu’r cyfle hwnnw.
Cafwyd rhywfaint o sicrwydd bod modd delio â’r pryderon am sŵn a byddai arolwg yn
cael ei gynnal i ganfod pa fesurau y gellir eu rhoi ar waith i atal niwsans sŵn. Nid oedd yr Is-bwyllgor wedi’i argyhoeddi y
byddai lefelau gormodol o aflonyddwch sŵn yn dod o’r safle gan mai ethos y busnes oedd ceisio apelio at gwsmeriaid
mwy aeddfed a oedd yn cael eu denu gan y cwrwau crefft a’r sgwrs yn hytrach na
gweithgareddau mwy nodweddiadol o dafarndai.
Byddai’r Ceiswyr hefyd yn cymryd mesurau i leihau effaith unrhyw niwsans
mwg ar y preswylwyr yn yr ardal. Ni
fyddai’n cael ei hybu fel gweithgarwch a oedd yn rhan o’r busnes gan mai nifer
bach o ysmygwyr a oedd yn cael eu denu fel arfer. Roedd y Ceiswyr hefyd wedi rhoi gwybod y
byddent yn ystyried cymryd mesurau atal pellach ac roeddent yn barod i gymryd
cyngor ynghylch sut i leihau niwsans yn y cyswllt hwnnw.
Roedd yr Is-bwyllgor yn cefnogi’r awgrym i breswylwyr ymweld â safleoedd
tebyg eraill sy’n cael eu rhedeg gan y Ceiswyr i leddfu unrhyw ofnau sydd
ganddynt am y busnes a’i weithrediad.
Roedd aelodau hefyd yn croesawu’r ffordd agored a thryloyw yr oedd y
Ceiswyr wedi ymateb i bryderon y preswylwyr a’u parodrwydd i gydweithio, ac
roeddent yn annog y preswylwyr i barhau â deialog o’r math hwn â’r Ceiswyr.
Hysbyswyd y
Partïon Cysylltiedig am yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor
Trwyddedu i’r Llys Ynadon o fewn un diwrnod ar hunain. Sicrhawyd y preswylwyr hefyd y byddent yn
gallu dod â’r mater yn ôl ar gyfer Adolygiad wedi i’r safle ddechrau gweithredu
os nad oedd y busnes yn cydymffurfio ag amodau’r drwydded neu’r amcanion
trwyddedu.
Daeth y cyfarfod i ben
am 1.30 p.m.
Dogfennau ategol: