Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003: ADOLYGU TRWYDDED EIDDO – THE GALLEY, 118 VALE ROAD, Y RHYL
- Meeting of Is-Bwyllgor Trwyddedu, Dydd Llun, 20 Awst 2018 10.00 am (Item 3.)
- Gweld y cefndir i eitem 3.
Ystyried cais gan
Heddlu Gogledd Cymru i adolygu Trwydded Eiddo a wnaed yn unol ag Adran 51 o
Ddeddf Trwyddedu 2003 o ran The Galley, 118 Vale Road, Y Rhyl (amlinelliad o'r
cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).
10.00 a.m.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD –
(a) diddymu
Goruchwyliwr Safle Dynodedig, a
(b) gwahardd
Trwydded Safle am gyfnod o dri mis neu gyfnod y mae Heddlu Gogledd Cymru yn
dynodi i’r awdurdod trwyddedu ei bod yn fodlon bod rheolaeth y safle yn glynu wrth
amcanion trwyddedu ac yn barod i gael cysylltiad ystyrlon gyda Heddlu Gogledd
Cymru.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a oedd wedi’i gylchredeg cyn hynny) am
–
(i)
cais a gafwyd gan Heddlu Gogledd Cymru am Adolygiad o
Drwydded Eiddo a oedd yn cael ei dal gan Mrs. Vanessa Michelle Steele mewn
perthynas â The Galley, 118 Vale Road, Y Rhyl (roedd copi o’r Drwydded Eiddo
bresennol a’r atodlen weithredu gyfredol wedi’u hatodi yn Atodiad A i’r
adroddiad);
(ii) y sail dros adolygu mewn
perthynas â’r Amcanion Trwyddedu ar gyfer Atal Troseddu ac Anhrefn a Diogelwch
y Cyhoedd sef –
o ganlyniad i’r pryderon sydd gan
Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â rheoli’r eiddo trwyddedig. Mae’r Deilydd Trwydded Eiddo (sydd hefyd yn
Oruchwylydd Eiddo Dynodedig) wedi methu ag ymgysylltu â’r Heddlu i drafod y
pryderon hyn, er bod tystiolaeth glir o ddiffyg dealltwriaeth o’r Amcanion
Trwyddedu sydd wedi’u diffinio o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.
manylion llawn y cais am
Adolygiad sydd wedi’u hatodi yn Atodiad B i’r adroddiad;
(iii) cyd-fenter a gychwynnwyd
gan Heddlu Gogledd Cymru a’r Cyngor i ymweld â safleoedd trwyddedig yn ardal y
Rhyl i dynnu sylw at y gofynion i safleoedd trwyddedig beidio â gwasanaethu
pobl a oedd yn feddw a hefyd i feithrin cefnogaeth i’r cynllun Gwarchod
Tafarndai lleol (roedd y cynllun Gwarchod Tafarndai yn gynllun gwirfoddol
cenedlaethol a sefydlwyd er mwyn sicrhau amgylchedd diogel o dan arweiniad
cyfrifol ar gyfer yfed cymdeithasol ar safleoedd trwyddedig);
(iv) ymweliad â The Galley a
gafwyd ar 27 Mai 2018 yn rhan o’r fenter honno pan oedd swyddogion wedi gorfod
dioddef iaith fras ac ymddygiad gwrthdrawiadol ac ymosodol gan aelod meddw o
blith rheolwyr y safle a barn swyddogion bod y tîm rheoli yn ddirmygus i ryw
raddau o’r cynllun Gwarchod Tafarndai ac y byddent yn gwasanaethu pwy bynnag a
ddymunent;
(v) llythyr a anfonwyd at y
Deilydd Trwydded Eiddo yn ei gwahodd i ddod i gyfarfod i drafod pryderon yr
Heddlu a chytuno ar ffordd gefnogol ymlaen a’i hymateb i’r perwyl y byddai’n
hysbysu’r Heddlu a’r Awdurdod Lleol pe byddai’n dymuno ymaelodi â’r cynllun
Gwarchod Tafarndai yn y dyfodol;
(vi) bod y Deilydd Trwydded
Eiddo hefyd wedi methu â dod i gyfarfod pellach a drefnwyd gan yr Heddlu i
drafod pryderon a chytuno ar gyd-ddealltwriaeth o’r gofyniad cyfreithiol i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ymhellach;
(vii)
bod y Deilydd Trwydded Eiddo
mewn ymateb i’r cais am Adolygiad wedi awgrymu ei bod yn barod i ddod i unrhyw
gyfarfodydd o’r cynllun Gwarchod Tafarndai lleol (mae copi o’r ymateb wedi’i atodi yn Atodiad C i’r
adroddiad);
(viii) lluniau a ddarparwyd gan
yr Heddlu a dynnwyd gan gamera corff yn ystod ymweliad trwyddedu dilynol ar 1
Mehefin 2018 a oedd wedi’u cyflwyno fel tystiolaeth ac wedi’u gwylio gan
aelodau cyn y gwrandawiad – roedd y lluniau’n dangos unigolyn ar y safle a oedd
wedi’i wahardd o dan y cynllun Gwarchod Tafarndai;
(ix) yr angen i ystyried y
cais am Adolygiad gan roi sylw dyladwy i’r Canllawiau a roddwyd gan yr
Ysgrifennydd Gwladol a Datganiad Polisi Trwyddedu y Cyngor;
(x) cyfeiriad at brotocol
gorfodi ar y cyd Heddlu Gogledd Cymru a’r Cyngor a’r broses gorfodi dri cham
gyda mecanwaith uwchgyfeirio – bod methiant y Deilydd Trwydded Eiddo i
ymgysylltu â’r Heddlu wedi arwain at uwchgyfeirio’r mater yn syth i gam tri,
(xi) opsiynau sydd ar gael i’r
pwyllgor wrth benderfynu ar y cais am Adolygiad.
Cyflwynodd y Swyddog
Gorfodi (HB) yr adroddiad ac amlinellu ffeithiau’r achos. Cafwyd bod rhywfaint o ddryswch ymhlith
rheolwyr y safle ynghylch pwy oedd y Goruchwylydd Eiddo Dynodedig ac eglurwyd
mai Mrs. Vanessa Steele oedd y Goruchwylydd Eiddo Dynodedig, nid Ms. Kayleigh
Mannion. Roedd Mrs. Steele wedi rhoi
gwybod am y bwriad i Ms. Mannion ymgeisio i gyflawni’r rôl honno yn y
dyfodol. Fodd bynnag, ni chafwyd cais
hyd yma.
CYFLWYNIAD
YR YMGEISYDD (HEDDLU GOGLEDD CYMRU)
Roedd
y Prif Arolygydd Andrew Williams a Rheolwr Trwyddedu yr Heddlu Aaron Haggas yn
bresennol i gefnogi’r Cais am Adolygiad ar ran Heddlu Gogledd Cymru.
Eglurodd
Rheolwr Trwyddedu yr Heddlu ei rôl a’i waith gyda’r Heddlu yn ymgysylltu’n
rhagweithiol ac yn meithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol â phartneriaid a
safleoedd trwyddedig a thynnodd sylw at fanteision y dull hwnnw o weithredu i’r
holl bartïon. Tynnodd sylw hefyd at y
pwysigrwydd o fynd ati i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu a sicrhau bod safleoedd
trwyddedig yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau yn hynny o beth. Er sylweddoli nad oedd angen i’r Goruchwylydd
Eiddo Dynodedig fod yn bresennol ar y safle bob amser, roedd yn bwysig bod yr
unigolyn hwnnw’n trefnu iddo fod ar gael i drafod pryderon a’i fod yn cymryd
rhan.
Darparodd
y Prif Arolygydd Andrew Williams rywfaint o wybodaeth am y cyd-destun i’r Cais
am Adolygiad yng nghyswllt y gymuned ehangach a buddsoddi i adfywio’r Rhyl
ynghyd â mater troseddu cysylltiedig ag alcohol. Adroddodd ar waith a oedd mewn llaw yn ardal
y Rhyl i beri i bobl deimlo’n ddiogel gan dynnu sylw at y rôl bwysig sydd gan
drwyddedeion yn hynny o beth ac at y cydweithio â nhw i hyrwyddo’r amcanion
trwyddedu. Cyfeiriodd y Prif Arolygydd
at ei gyflwyniadau ac at dystiolaeth a ddarparwyd yn y Cais am Adolygiad a
thynnodd sylw at y canlynol –
·
tystiolaeth bod staff yn
ystyried mai Mr. Steele oedd y trwyddedai, ei ymddygiad tuag at yr Heddlu, a’r
elyniaeth a brofwyd gan swyddogion
·
yr anwybodaeth lwyr am y
Ddeddf Trwyddedu a chyfrifoldeb trwyddedeion yn y cyswllt hwnnw pan holwyd
·
y rhaglen o ymweliadau
rheolaidd ar y cyd â safleoedd trwyddedig sy’n cael ei gweithredu gan y Cyngor
a’r Heddlu i helpu i ymyrryd yn gynnar ac atal problemau a oedd yn cael ei
chroesawu gan y rhan fwyaf o safleoedd trwyddedig, ond y farn yn yr achos hwn
nad oedd eisiau nac angen sylw gan yr Heddlu gan gyfleu’r awgrym y byddai
problemau’n cael eu trafod gan reolwyr y safle yn hytrach na gweithio gyda’r
Heddlu i ddatrys anawsterau
·
yn ystod yr ymweliad ar 27 Mai
2018, roedd y Deilydd Trwydded Eiddo/Goruchwylydd Eiddo Dynodedig yn eistedd yn
y bar ond nid oedd wedi dweud pwy oedd hi na’i chyflwyno ei hun ar unrhyw adeg yn
ystod yr holi ac ateb
·
roedd dirmyg llwyr tuag at y
cynllun Gwarchod Tafarndai; roedd yr Heddlu yn credu bod y cynllun Gwarchod
Tafarndai yn fuddiol iawn i atal troseddu ac anhrefn ac, er bod aelodaeth o’r
cynllun yn ddewisol, nid felly’r gofyniad i atal troseddu ac anhrefn ac roedd
rhwymedigaeth gadarnhaol yn hynny o beth – dadleuwyd bod cau llygad yn fwriadol
ar elfennau mewn cymdeithas a’u gwasanaethu’n ddibryder yn anghydnaws â’r
gofyniad hwnnw. Nid oedd modd profi dadl
rheolwyr y safle nad oedd angen iddynt ymaelodi â’r cynllun Gwarchod Tafarndai
ac mai anaml a cafwyd trafferth ar y safle am nad oeddent yn galw’r Heddlu a’u
bod yn delio â phroblemau eu hunain
·
disgrifiodd yr ymdrechion
niferus gan yr Heddlu i ymwneud â’r safle ac adroddodd ar y dirmyg a’r
ymatebion a gafwyd mewn perthynas â hynny – er bod cynnig wedi’i wneud i Ms.
Mannion ddod i gyfarfod, roedd angen cwrdd yn uniongyrchol â’r Goruchwylydd
Eiddo Dynodedig i drafod pryderon a disgwyliadau – gan ddyfynnu’n uniongyrchol
o neges e-bost a gafwyd gan Mrs. Vanessa Steele lle rhoddodd wybod “unfortunately
I do not have time for the role” nad oedd yn ennyn
ymddiriedaeth yn rheolwyr y safle. Er
bod bwriad i Ms. Mannion ymgymryd â rôl y Goruchwylydd Eiddo Dynodedig, nid
honno oedd y sefyllfa bresennol
·
ailddatganodd fod pryderon
oherwydd y math o droseddwyr treisgar a oedd yn cael eu gwasanaethu ar y safle
ac adroddodd ar gudd-wybodaeth a gafwyd am ddefnyddio cyffuriau ac yfed a gyrru
a fyddai’n destun ymchwilio pellach.
Wrth
gloi, cyfeiriodd y Prif Arolygydd at ei awydd i weithio gyda’r safle a sicrhau
amgylchedd diogel i gwsmeriaid. Fodd
bynnag, oherwydd y difaterwch llwyr ynghylch yr amcan atal troseddu ac anhrefn
a’r dirmyg a ddangoswyd mewn perthynas â hynny, teimlai’r Heddlu na ellid bod
yn sicr bod person cyfrifol â rheolaeth ar y safle. Felly gofynnodd y Prif Arolygydd am atal y
Drwydded Eiddo nes penodi Goruchwylydd Eiddo Dynodedig newydd a darparu
sicrwydd ynghylch yr amcanion trwyddedu.
Mewn
ymateb i gwestiynau, rhoddodd y Prif Arolygydd wybod –
·
nad oedd tystiolaeth o
droseddu ac anhrefn ar y safle am nad oeddent yn ymwneud â’r Heddlu o gwbl –
roedd atal troseddu ac anhrefn yn ofyniad o dan Ddeddf Trwyddedu 2005 ac roedd
tystiolaeth bod rheolwyr yr eiddo yn methu â chyflawni’r amcan trwyddedu hwnnw
·
ar wahân i’r gudd-wybodaeth a
gafwyd am ddefnyddio cyffuriau ac yfed a gyrru a ddangoswyd yn y cyflwyniad
ysgrifenedig, ni chafwyd unrhyw gwynion eraill ond roedd pobl yn amharod ar y
cyfan i siarad yn swyddogol â’r Heddlu mewn perthynas â hynny.
CYNRYCHIOLAETH Y DEILYDD TRWYDDED EIDDO
Nid
oedd Mrs. Vanessa Steele, y Deilydd Trwydded Eiddo a’r Goruchwylydd Eiddo
Dynodedig yn bresennol ac roedd wedi penodi Ms. Kayleigh Mannion i’w
chynrychioli yn y gwrandawiad. Roedd Ms.
Mannion yn aelod o staff y bar a chyda hi roedd Ms. Patricia Wilson a oedd yn
gwneud gwaith gweinyddol ar y safle a Ms. Carys Rainford sef y landlord
trwyddedig a pherchennog yr eiddo.
Mewn
ymateb i’r cyflwyniadau gan yr Heddlu –
·
dywedodd Ms. Mannion nad oedd yn
bresennol yn ystod ymweliad yr Heddlu ar 27 Mai 2018 ond pan roddodd Mr. Steele
wybod nad oedd ef yn gweithio’r noson honno, dylai’r Heddlu fod wedi ymatal
rhag trafod ymhellach a siarad yn lle hynny â staff y bar gan y byddai hynny
wedi gallu atal ei ymateb. Eglurodd fod
Mr. Steele yn gwsmer ar adeg yr ymweliad, nad oedd yn un o’r rheolwyr, a’i fod
wedi cynhyrfu. Nododd Ms. Carys Rainford
ei bod yn bresennol yn ystod yr ymweliad ac nad oedd wedi profi unrhyw
elyniaeth ac nad oedd yn negyddol tuag at yr heddlu. Ailadroddodd y Prif Arolygydd fod yr Heddlu
wedi gofyn am siarad â staff y bar ac mai Mr. Steele a oedd wedi dod at yr
Heddlu i siarad â nhw yn lle’r bar.
Eglurodd Ms. Mannion fod aelod o staff y bar wedi dweud yn anghywir pan
holwyd ef gan yr Heddlu mai Mr. Steele, am mai ef oedd perchennog y busnes,
oedd y trwyddedai. Ychwanegodd nad oedd
Mr. Steele wedi mentro y tu ôl i’r bar fel y cyfryw yn ystod yr ymweliad hwnnw
am nad oedd diodydd yn cael eu gweini o’r man hwnnw a oedd wedi’i ddynodi’n fan
clirio/sinc
·
derbyniwyd bod unigolion a
waharddwyd o dan y cynllun Gwarchod Tafarndai wedi cael eu gwasanaethu ar y
safle ond ni fu unrhyw drafferth ar y safle yn ystod y deng mlynedd diwethaf –
pe buasai unrhyw drafferth, byddai’r Heddlu wedi cael eu hysbysu ond roedd
staff yn gallu rheoli’r cwsmeriaid. Gan
nad oedd y safle’n rhan o’r cynllun Gwarchod Tafarndai, roedd y rheini a
waharddwyd yn ymwybodol y byddent yn cael eu gwasanaethu ac, ar ôl yfed, byddai
tacsis yn cael eu trefnu drwy gwmni tacsis Ms. Rainford i fynd â chwsmeriaid
adref fel na fyddent ar y strydoedd yn achosi trafferth
·
cadarnhawyd bod Mrs. Steele yn
gweithio yn ystod y dydd ac nad oedd ar gael ar y safle heblaw yn ystod y
nosweithiau neu ar benwythnosau
·
hyd yr oeddent yn gwybod, nid
oedd yr Heddlu wedi bod ar y safle i ganfod a oedd cyffuriau’n cael eu
defnyddio neu i ymchwilio i unrhyw honiadau am yfed a gyrru
·
darparodd Ms. Rainford
fanylion am y defnydd helaeth o deledu cylch cyfyng yng nghyffiniau’r safle i
ddiogelu ei heiddo gan roi gwybod ei bod yn cydweithredu’n llawn â’r Heddlu os
gofynnid am luniau a bod atal troseddu ac anhrefn yn cael ei gymryd o ddifrif –
roedd hi’n cwrdd â Mrs. Steele yn rheolaidd ac nid oedd yn gwybod am unrhyw
broblemau o ran troseddu ac anhrefn, yn enwedig yng nghyswllt diogelwch eiddo –
yn ei barn hi roedd y safle’n cael ei redeg mewn ffordd broffesiynol a phriodol
·
rhoddodd Ms. Wilson wybod, yng
nghyswllt troseddu ac anhrefn, fod yr ardal yn arfer bod yn un brysur ond ar
hyn o bryd The Galley oedd yr unig dafarn a oedd yn agored – roedd ganddynt
gwsmeriaid hirsefydlog a fu’n yfed ar y safle ers cenedlaethau, yn cynnwys yr
henoed, a oedd yn dangos nad oedd ofn troseddu; ar benwythnosau byddai
teuluoedd yn mynychu’r safle ac roedd hi’n ystyried bod y safle’n gyfeillgar â
theuluoedd. Nid oedd tystiolaeth o
droseddu ac er bod ambell anghytundeb nid oedd byth unrhyw dwrw difrifol neu
faterion a oedd yn peri pryder ar y safle.
Mewn
ymateb i gwestiynau, hysbyswyd aelodau –
·
bod cwsmeriaid a waharddwyd o
dan y cynllun Gwarchod Tafarndai wedi bod yn gwsmeriaid ers cenedlaethau – nid
penderfyniad busnes yn unig oedd eu gwasanaethu
·
roedd wedi bod yn anodd i Mrs.
Steele gwrdd â’r Heddlu oherwydd ymrwymiadau gwaith ond derbyniwyd y dylai fod
wedi gwneud trefniadau i gwrdd â’r Heddlu pan oedd ar gael y tu allan i oriau
gwaith
·
mai eu barn nhw oedd, am nad
oedd troseddu ac anhrefn ar y safle, nad oedd angen ymgysylltu â’r Heddlu
·
na chafwyd mewnbwn gan yr
Heddlu ers 2010 a bod y safle’n cael ei reoli a’i redeg yn effeithiol.
DATGANIAD
TERFYNOL YR YMGEISYDD (HEDDLU GOGLEDD CYMRU)
Yn ei ddatganiad terfynol, ailddatganodd y Prif Arolygydd Andrew Williams y
byddai’n falch o gael sgwrs â Mrs. Steele – roedd wedi cynnig cwrdd ar nifer
mawr o achlysuron gan nodi hefyd ei fod yn barod i gwrdd ar yr amser mwyaf
cyfleus iddi hi. Roedd Mrs. Steele wedi
rhoi gwybod nad oedd ganddi amser i redeg y safle ac nad oedd neb cyfrifol â
rheolaeth arno ar hyn o bryd. Roedd y
rheolwyr yn rheoli’r safle eu hunain heb gynnwys yr Heddlu, gan wasanaethu’r
rheini a waharddwyd o dan y cynllun Gwarchod Tafarndai fel bod nifer o
unigolion treisgar yn dod at ei gilydd.
Ymatebodd y Prif Arolygydd ymhellach i sylwadau blaenorol a wnaed i’r
perwyl na ddylai fod wedi parhau â’i sgwrs â Mr. Steele ar 27 Mai 2018 drwy roi
gwybod iddo ddweud wrth Mr. Steele nad oedd mewn cyflwr addas i siarad ag ef
ond ei fod ef wedi mynnu parhau â’r sgwrs.
Ymatebodd hefyd drwy ddweud, os nad penderfyniad busnes oedd gwasanaethu
cwsmeriaid a waharddwyd o dan y cynllun Gwarchod Tafarndai – na fyddai rheswm
arall i barhau i wneud hynny – byddai gyrru allan yr elfennau drwg yn cynyddu
gwerthiant y bar ac yn rhoi enw gwell i’r safle.
YMNEILLTUO I YSTYRIED Y CAIS
Yn y fan hon (11.40 a.m.)
ymneilltuodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried y cais.
Y
PENDERFYNIAD A’R RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD –
(a) diswyddo’r Goruchwylydd
Eiddo Dynodedig, a
(b) atal y Drwydded Eiddo am
gyfnod o dri mis neu am gyfnod byrrach y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn ei nodi
i’r awdurdod trwyddedu pan fydd wedi’i fodloni bod rheolwyr y safle yn
cydymffurfio â’r amcanion trwyddedu a’u bod yn barod i ymgysylltu mewn ffordd
ystyrlon â Heddlu Gogledd Cymru.
Cyfleodd y Cadeirydd benderfyniad
yr Is-bwyllgor i’r partïon a oedd yn bresennol ac adroddodd y Cyfreithiwr ar y
rhesymau dros y penderfyniad fel a ganlyn –
Clywodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu
yr holl gyflwyniadau mewn perthynas â’r cais am Adolygiad o’r Drwydded Eiddo i
The Galley a gyflwynwyd gan Heddlu Gogledd Cymru.
Roedd y Prif Arolygydd wedi rhoi
disgrifiad hir a manwl o ymdrechion a gafwyd i ymgysylltu â’r safle a’i
fethiant i gwrdd â Mrs. Vanessa Steele (y Deilydd Trwydded Eiddo a’r
Goruchwylydd Eiddo Dynodedig), er gwaethaf yr ymdrechion hynny. Roedd Mrs. Steele wedi cyfaddef ei hun nad
oedd ganddi amser i ymwneud â rhedeg y busnes.
Roedd Mrs. Steele wedi methu â
dod i wrandawiad y cais am Adolygiad ac yn lle hynny wedi penodi Ms. Kayleigh
Mannion i’w chynrychioli. Roedd yna gred
mai Ms. Mannion oedd y Goruchwylydd Eiddo Dynodedig ar y safle. Roedd hwn yn gamsyniad a oedd wedi’i ddal am
gryn amser. Nid oedd cais wedi’i wneud
ar ran y busnes i newid y Goruchwylydd Eiddo Dynodedig ar yr adeg hon ac nid
oedd yn hysbys a fyddai Ms. Kayleigh Mannion yn Oruchwylydd Eiddo Dynodedig
addas. Nid oedd gohebiaeth rhwng Mrs.
Steele ac unrhyw un arall ar y safle mewn perthynas â’i hymddiswyddo fel
Goruchwylydd Eiddo Dynodedig a phenodi rhywun arall yn ei lle.
Roedd y cyflwyniadau gan Heddlu
Gogledd Cymru yn dangos bod amharodrwydd llwyr ar ran y tîm rheoli i ymgysylltu
â’r Heddlu. Er derbyn nad oedd cofnod
manwl am droseddu ac anhrefn ar y safle, roedd yn ymddangos mai prif ethos y
busnes, yn ôl y cyflwyniadau gan Ms. Kayleigh Mannion a Ms. Carys Rainford,
oedd y byddent yn parhau i ddelio â phroblemau eu hunain yn hytrach na thrafod
sut y gallent atal troseddu ac anhrefn ar eu safle. Roedd hefyd yn ymddangos bod yr amharodrwydd
i ymgysylltu â’r Heddlu, hyd yn oed mewn sefyllfa ataliol, yn mynd ymhellach na
Mrs. Steele a’i fod yn cynnwys pobl eraill a oedd yn ymwneud i ryw raddau neu’i
gilydd â rhedeg y safle. Roedd rhyw
elyniaeth tuag at ymgysylltu o’r fath am resymau nad oeddent yn eglur o’r
gwrandawiad ei hun.
Ychydig o hyder a oedd gan yr
Is-bwyllgor Trwyddedu yn rheolwyr presennol y safle. Oherwydd hynny, ni allai fod yn hyderus bod
pwy bynnag a oedd yn rhedeg y safle mewn gwirionedd yn cefnogi’r amcanion
trwyddedu. O ganlyniad i hynny,
penderfynodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu ddiswyddo Mrs. Vanessa Steele fel
Goruchwylydd Eiddo Dynodedig. Yn ogystal
â hynny, penderfynodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu atal y Drwydded Eiddo am gyfnod
o dri mis neu am gyfnod byrrach y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn ei nodi i’r
awdurdod trwyddedu pan fydd wedi’i fodloni bod rheolwyr y safle yn cydymffurfio
â’r amcanion trwyddedu a’u bod yn barod i ymgysylltu mewn ffordd ystyrlon â
Heddlu Gogledd Cymru.
Hysbyswyd yr holl bartïon am yr
hawl i apelio yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor Trwyddedu i’r Llys Ynadon o
fewn un diwrnod ar hunain.
Dogfennau ategol: