Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD BLYNYDDOL A CHYNLLUN BUSNES GOFAL IECHYD CEFNDY 2017/18
- Meeting of Pwyllgor Craffu Perfformiad, Dydd Iau, 19 Gorffennaf 2018 10.00 am (Item 10.)
- View the reasons why item 10. is restricted
Ystyried adroddiad cyfrinachol ar y cyd gan Reolwr Gwasanaethau Masnachol a Rheolwr Cynhyrchu (copi ynghlwm) o berfformiad Gofal Iechyd Cefndy yn 2017 – 18 a Chynllun Busnes 2018-22.
12.30 p.m – 1.00 p.m.
Cofnodion:
Nid oedd yr Aelod Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth wedi gallu dod i’r
cyfarfod, ond fe wnaeth yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol ddod yn ei lle.
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol
yr adroddiad cyfrinachol gan y Rheolwr Gwasanaeth Masnachol - Cefndy a'r
Rheolwr Gwasanaethau Gweithredol (a gylchredwyd yn flaenorol), a gyflwynodd y
Pwyllgor gyda gwybodaeth am berfformiad Gofal Iechyd Cefndy yn ystod 2017-18
a’i gynllun busnes ar gyfer 2018-22.
Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor er mwyn iddo archwilio perfformiad
Gofal Iechyd Cefndy, a'r cyfeiriad strategol yn y dyfodol, yn dilyn diddymiad y
Bwrdd Ymgynghorol a oedd wedi goruchwylio ei waith yn y gorffennol. Rhoddwyd gwybod i Aelodau mai pwrpas y busnes
oedd “darparu cyflogaeth ystyrlon a oedd yn talu’n dda, i aelodau dan anfantais
y gymuned”. Byddai colli cyllid Dewis Gwaith yr Adran Gwaith a
Phensiynau 31 Mawrth 2019, yn effeithio ar sefyllfa ariannol Cefndy yn y
dyfodol. Gyda’r bwriad o
leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â cholli cyllid yr Adran Gwaith a
Phensiynau, roedd Gwasanaethau Cymorth Cymunedol y Cyngor wedi ysgwyddo
rheolaeth o Wasanaethau Cyfarpar Cymunedol Integredig Ledled Gwent (GWICES0,
menter gymdeithasol a oedd yn cynnwys pum awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd
Prifysgol Aneurin Bevan yn ardal Casnewydd, a weithredodd ar sail debyg i Ofal
Iechyd Cefndy. Drwy
weithredu’r ddwy fenter, gallai’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol leihau costau
gweinyddu diangen wrth ehangu ei gynnyrch a photensial i gynhyrchu digon o
incwm i barhau i ddarparu cyflogaeth werthfawr, ystyrlon, sy’n talu’n dda i
unigolion dan anfantais ar sail niwtral o ran cost.
Gan ymateb i gwestiynau aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, Pennaeth y
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a Rheolwr Gwasanaethau Masnachol Cefndy:
·
ddisgrifio’r farchnad
gystadleuol y gweithredodd Cefndy o’i mewn, yn enwedig yr anawsterau a brofwyd
wrth gystadlu yn erbyn mewnforion rhatach o economïau sy’n datblygu ar draws y
byd;
·
cadarnhawyd bod costau
gweithredu Cefndy fymryn yn uwch na nifer o’i gystadleuwyr, gan mai ei
flaenoriaeth oedd cadw pobl dan anfantais mewn cyflogaeth gynhyrchiol yn
hytrach na hawlio budd-daliadau;
·
rhoddwyd gwybod bod Gofal
Iechyd Cefndy yn adran o fewn Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, o ganlyniad, ni
chaniatawyd iddo wneud elw sylweddol neu ymgeisio am gyllid/buddsoddiad menter
gymdeithasol;
·
rhoddwyd gwybod nad oedd
unrhyw weithiwr wedi'i wneud yn ddi-waith yn ystod 2017-18, roedd y gostyngiad
mewn niferoedd gweithwyr oherwydd ymddeoliad, gadael ar gyfer cyflogaeth arall
ac ati;
·
cadarnhawyd bod Gofal
Iechyd Cefndy’n tendro ar gyfer contractau newydd bob mis;
·
rhoddwyd gwybod bod nifer
o weithwyr Cefndy wedi bod gyda’r ‘cwmni’ am 30 mlynedd neu fwy, a oedd yn destament
i werth cymunedol y busnes. Yn debyg i bob gweithiwr y Cyngor, roedd y
rhai a weithiodd yng Nghefndy yn destun telerau ac amodau cyflogaeth staff
llywodraeth leol, ac felly, â’r hawl i gynllun pensiwn a salwch, sydd yn eu tro
yn rhoi diogelwch ariannol tymor hir iddynt;
·
rhoddwyd gwybod bod
cyfranogiad Cefndy gyda GWICES wedi agor cyfleoedd marchnata newydd a mynediad
at fforymau marchnata, a fyddai gobeithio o fudd i’r busnes yn y tymor hwy,
drwy ei alluogi i ehangu ac amrywio ei fusnes, gyda’r bwriad o ddiogelu ei
gynaliadwyedd tymor hwy;
·
cadarnhawyd bod y
buddsoddiad a wnaed bum mlynedd yn ôl mewn peirianneg plygu arbenigol wedi
gwella gallu gweithgynhyrchu’r busnes, a byddai o fudd i’r gwaith a gynhaliwyd
mewn partneriaeth â GWICES;
·
amlinellwyd aelodaeth y
bwrdd ymgynghorol blaenorol, gan roi gwybod bod y busnes wedi’i sefydlu'n
wreiddiol gan yr hen Gyngor Sir Clwyd, a’i drosglwyddo i Gyngor Sir Ddinbych
wrth adsefydlu llywodraeth leol, oherwydd bod lleoliad ei ffatri yn y Rhyl. Fe sefydlodd Cyngor Sir Ddinbych y bwrdd ymgynghori i fonitro perfformiad y
busnes ac ati, oherwydd ei fod yn rhoi cymhorthdal i'r busnes. Roedd y cymhorthdal hwnnw wedi dod i ben rai blynyddoedd yn ôl, felly
gwnaed penderfyniad gan y Pennaeth Gwasanaeth, o dan bwerau a ddirprwywyd iddo,
i ddiddymu’r Bwrdd a cheisio Craffu i fonitro perfformiad y busnes yn y
dyfodol;
·
cadarnhawyd
bod y Rheolwr Gwasanaeth Masnachol a’r Rheolwr Gwasanaethau Gweithredol yn
gyfrifol am redeg y busnes o ddydd i ddydd, ac unrhyw benderfyniadau
gweithredol a busnes a gymerwyd;
·
rhoddwyd gwybod y
rhagwelwyd y byddai buddion i Ofal Iechyd Cefndy gyda'r Gwasanaeth Cymorth
Cymunedol yn cymryd rheolaeth o GWICES yn cael eu gwireddu'n llawn yn 2019, pan
fyddai cyllid Dewis Gwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau’n dod i ben; a
·
rhoddwyd gwybod bod
cymhareb y gweithwyr dan anfantais i weithwyr eraill yng Nghefndy yn 70:30.
Roedd y gymhareb hon yn cynnwys staff rheoli a gweithgynhyrchu wrth i’r busnes
ddatblygu llwybrau gyrfa i’w staff, i’w galluogi i wireddu eu potensial llawn
Fe longyfarchwyd y Cyngor gan aelodau pwyllgor ar sicrhau bod y busnes yn
parhau i weithredu at y diben o ddiogelu canlyniadau bywyd cadarnhaol i’w
weithwyr. Awgrymodd Aelodau y dylai pob cynghorydd sir gael eu gwahodd i ddod i
Ofal Iechyd Cefndy i weld y gwaith a wneir yn y ffatri, a bod Tîm Cwsmeriaid,
Cyfathrebu a Marchnata'r Cyngor yn cael gwybod am yr ymweliad i alluogi bod
datganiad i'r wasg neu i'r cyfryngau'n cael ei gyhoeddi, gan dynnu sylw at y
busnes a'i ddiben. Felly:
PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod
(i)
derbyn
yr Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad Gofal Iechyd Cefndy yn ystod 2017-18
(Atodiad 1) a’i Gynllun Busnes ar gyfer 2018-2022 (Atodiad 2);
(ii)
cyflwyno
Adroddiad Perfformiad Blynyddol ac Adroddiad Blynyddol Cefndy i’r Pwyllgor bob
blwyddyn, gydag adroddiad perfformiad hanner blwyddyn cael ei roi i’r Grŵp
Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu er gwybodaeth, oni bai bod
amgylchiadau’n gofyn am adroddiad cynharach i’r Pwyllgor; a
(iii)
threfnu
ymweliad â Gofal Iechyd Cefndy i'r holl gynghorwyr sir, er mwyn iddynt
ymgyfarwyddo â'r busnes a'i amcanion