Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2017-18

Ystyried Adroddiad gan y Prif Reolwr: Gwasanaethau Cynnal (copi ynghlwm) i alluogi'r Aelodau i graffu ar yr adroddiad blynyddol drafft cyn iddo gael ei gyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru.

11.40 a.m. – 12.15 p.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Cymunedau'r adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) a gyflwynodd Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Pwyllgor ar gyfer 2017-18. Eglurwyd ei fod yn ofyniad statudol i bob Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru gynhyrchu adroddiad blynyddol yn crynhoi eu hasesiad o effeithiolrwydd y Gwasanaeth i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn ystod y flwyddyn, ac amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer gwelliant a nodwyd yn ystod y flwyddyn, a fyddai angen canolbwyntio arnynt yn y dyfodol.

 

Yn ystod ei chyflwyniad, talodd y Cyfarwyddwr deyrnged i ymrwymiad y gweithlu, y gwirfoddolwyr di–dâl a’r rhai a dalwyd, yr oedd eu hymroddiad wedi arwain at Adroddiad Blynyddol cadarnhaol yn gyffredinol.  Tynnodd sylw aelodau at lwyddiannau allweddol y Gwasanaethau yn ystod y flwyddyn, a thynnwyd sylw at y meysydd a oedd angen rhagor o waith.  Fe nododd y canllawiau ar gyfer cyflwyno Adroddiadau Blynyddol na ddylent ragori ar nifer benodol o eiriau, o ganlyniad, nid oedd wedi bod yn bosibl cynnwys pob agwedd ar waith gofal cymdeithasol i oedolion a gwasanaethau plant yn yr adroddiad.  Er hynny, ar ôl adolygu’r holl dystiolaeth, roedd y Cyfarwyddwr yn hyderus bod Sir Ddinbych yn parhau i roi gwasanaethau cymdeithasol o ansawdd da i blant, oedolion a gofalwyr o’r crud i’r bedd, ac wrth wneud hynny, wedi cyflawni perfformiad rhagorol mewn meysydd a oedd yn bwysig i breswylwyr a chymunedau.  Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod, tra bod deddfwriaeth yn ymwneud â gofal cymdeithasol wedi newid yn sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf, roedd egwyddorion y ddeddfwriaeth yr hyn yr oedd gwasanaethau gofal cymdeithasol Sir Ddinbych yn ceisio eu cyflawni mewn gwirionedd, gan ddarparu canlyniadau cadarnhaol i unigolion yn seiliedig ar beth oedd yn bwysig iddyn nhw, a rhoi ymyrraeth ac ataliaeth gynnar ar yr adeg gywir i liniaru yn erbyn risg yr anghenion yn dwysáu a gofyn am wasanaethau mwy dwys.  Er gwaethaf y pwysau sylweddol a wynebwyd gan wasanaethau gofal cymdeithasol plant ac oedolion yn ystod y flwyddyn, roedd y Gwasanaeth wedi perfformio’n dda, ond fel bob amser, roedd mwy i’w wneud, yn enwedig yn sgil y demograffig cynyddol, yr heriau ariannol a’r pwysau a oedd o’u blaenau.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr adroddiad rhagorol gan Estyn a ddaeth i law yn gynharach eleni, ar Wasanaethau Addysg a Phlant y sir.  Cyfeiriodd hefyd at y ffaith y byddai adroddiad ar ‘Ddarparu Gofal Seibiant ar draws Sir Ddinbych’, sy’n canolbwyntio'n bennaf ar argaeledd y cyfleusterau seibiant i ysgafnhau'r baich ar ofalwyr, yn unol ag amcanion Strategaeth Gofalwyr y Cyngor, yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau ym Medi 2018.

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, fe wnaeth y Cyfarwyddwr a’r Pen Reolwr:  Gwasanaethau Cymorth:

·         roi gwybod bod cefnogaeth i ofalwyr yn cael ei rhoi mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol yn dibynnu ar eu hanghenion h.y. pan fyddant gartref, mewn cartref preswyl/nyrsio, mewn gwesty neu mewn lleoliad arall oddi wrth eu hamgylchedd arferol.  Roedd gofalwyr â’r hawl i gael asesiad anghenion gofalwyr, ond nid yn gorfod cael un.  Roedd yr Awdurdod yn gweithio’n agos iawn gyda Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCIS), mewn ymgais i ddeall pryderon gofalwyr, y mathau o wasanaethau sy’n ofynnol ganddynt a sut y gellid gwella gwasanaethau i ofalwyr;

·         rhoddwyd gwybod bod gwybodaeth am amcanion a goblygiadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi’i chyflwyno i ofalwyr drwy amrywiaeth o sianeli gwahanol e.e. hyfforddiant/gweithdai, digwyddiadau rhannu gwybodaeth a chyfathrebu grwpiau gwirfoddol a chymunedol, gan fod y Cyngor wedi sylweddoli nad oedd pob gofalwr yn gallu dod i ddigwyddiadau oherwydd eu dyletswyddau gofalu;

·         cadarnhawyd bod y Cyngor yn gweithio’n agos gydag asiantaethau gofal cartref i archwilio’r canlyniadau unigol i’w cyflawni wrth gomisiynu pecynnau gofal cartref.  Roedd y fframwaith rhanbarthol dros gomisiynu gofal cartref wedi’i adnewyddu’n ddiweddar, ac roedd gan y Cyngor restr nawr o ba asiantaethau gofal cartref a oedd eisiau darparu gwasanaethau, yn cynnwys gwasanaethau gofal gyda chymorth, yn Sir Ddinbych;

·         rhoddwyd gwybod y byddai gweithiwr meddygol proffesiynol gyda chymwysterau addas yn gorfod ardystio bod claf yn feddygol addas i gael ei ryddhau o’r ysbyty.  Nid oedd asesiadau pecyn gofal rhyddhau cleifion o’r ysbyty bob amser yn cael eu gwneud gan weithwyr cymdeithasol, roeddent yn cael eu perfformio gan y gweithiwr proffesiynol gyda’r cymwysterau mwyaf addas, yn dibynnu ar anghenion a gofynion y claf unigol.  Unwaith y cytunwyd ar becyn gofal, byddai angen cymryd camau i gomisiynu’r gwasanaeth(au) a oedd yn ofynnol i’r unigolyn.  Lle bynnag y bo’n bosibl, roedd pecynnau gofal yn cael eu hanelu at gefnogi’r unigolyn i ailennill gymaint o annibyniaeth â phosibl er mwyn gwella eu hansawdd o fywyd;

·         cytunwyd bod diogelu’n gyfrifoldeb ar bawb, yn aelodau a swyddogion ar draws pob gwasanaeth fel ei gilydd.  Mewn ymgais i dynnu sylw at gyfrifoldebau unigol holl staff y Cyngor mewn perthynas â Diogelu, roedd rhaglen hyfforddi orfodol wedi’i chyflwyno ar draws yr awdurdod yn ystod 2017-18; a

·         chadarnhawyd os oedd nam ar alluedd meddyliol defnyddwyr gwasanaeth i wneud penderfyniadau gwybodus am wasanaethau, gallai’r Cyngor/aelodau teulu/gofalwyr ymgeisio am orchmynion Llys Gwarchod

 

Yn ystod y drafodaeth, cyfeiriodd aelodau at y pwysau a wynebwyd gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol oherwydd bod pobl yn byw yn hirach, a’r lefelau cynyddol o broblemau’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a oedd yn cael eu cofnodi, hyd yn oed gyda disgyblion oedran ysgol gynradd.  Fe wnaethant hefyd nodi llwyddiant y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad.

 

Roedd y Swyddogion am wneud ymholiadau o ran yr oedi a brofwyd wrth roi cardiau hamdden am ddim i ofalwyr ifanc, ac i gadarnhau bod Meddygon Teulu ledled y sir yn atgyfeirio cleifion at Wasanaethau Hamdden y Sir, yn sgil y pryderon a godwyd, na chyfeiriwyd at Lanelwy neu Langollen yn yr adroddiad. 

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

PENDERFYNWYD:

 

(i)            yn amodol ar y sylwadau uchod a darparu’r wybodaeth ofynnol, i gadarnhau bod yr adroddiad wedi rhoi cyfrif clir o berfformiad yn ystod 2017-18; a

(ii)           chadarnhau bod y meysydd hynny a oedd naill ai’n tanberfformio neu o bryder, eisoes wedi’u rhestru ar raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor craff am ragor o archwiliad

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: