Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL CHWARTER 4 - 2017/18

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) sy'n monitro cynnydd y Cyngor o ran cyflawni Cynllun Corfforaethol 2017-22.

11.00 a.m. – 11.30 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol adroddiad y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (a gylchredwyd yn flaenorol), a gyflwynodd yr adroddiad diweddaru cyntaf i Aelodau ar ddarparu Cynllun Corfforaethol 2017-22. 

 

Yn amgaeedig i’r adroddiad cafwyd Crynodeb Gweithredol a oedd yn manylu ynghylch y llwyddiannau hyd yn hyn, ynghyd ag eithriadau allweddol (Atodiad 1), a’r adroddiad perfformiad chwarterol llawn ar gyfer pedwerydd chwarter 2017-18 a gynhyrchwyd gan System Rheoli Perfformiad Verto (Atodiad 2). Yn ystod ei gyflwyniad, tynnodd yr Aelod Arweiniol sylw'r Pwyllgor at y prif wahaniaeth yn y dull a gymerwyd tuag at adrodd ar berfformiad wrth ddarparu'r Cynllun Corfforaethol newydd o’i gymharu â’i ragflaenydd, sef cynnwys dau ddarn o sylwebaeth:

 

·         Statws Perfformiad :  a roddodd naratif ac asesiad ynghylch beth roedd y dangosyddion perfformiad yn ei ddweud ar hyn o bryd am y cymunedau; a

·         Statws Cynnydd Rhaglen:  a amlinellodd sut yr oedd prosiectau’n cefnogi pob blaenoriaeth yn datblygu

 

Roedd y rhaglen o waith i ddarparu’r Cynllun Corfforaethol yn dal yn ei gamau cynnar, felly byddai’r ‘statws cynnydd rhaglen’ yn adlewyrchu hyn.   Wrth i brosiectau a sefydlwyd ddechrau gwireddu’r blaenoriaethau yn y Cynllun, byddai’r ‘statws cynnydd rhaglen’ yn yr adroddiad yn adlewyrchu hyn yn y pen draw, gyda lliw'r golofn yn troi'n 'wyrdd'.  Roedd y golofn ‘statws perfformiad’ yn dangos perfformiad y Cyngor hyd yn hyn yn erbyn targedau a osodwyd ar gyfer darparu bob blaenoriaeth.  Er ei bod yn bosibl cael statws perfformiad ‘gwael’, ond statws cynnydd rhaglen cryf yn ystod cyfnod y Cynllun Corfforaethol, fe ragwelwyd, wrth i dymor y Cyngor fynd rhagddo, y byddai’r ddau statws yn cyfateb yn gadarnhaol i ddangos y byddai’r Cynllun yn cael ei ddarparu’n llwyddiannus.  Byddai adroddiadau Crynodeb Gweithredol y dyfodol yn adroddiadau eithriadau, yn hytrach na naratif llawn ar berfformiad yn erbyn pob targed a dangosydd. 

 

Aeth yr Aelod Arweiniol ymlaen i egluro bod dau fwrdd rhaglen, yr oedd eu haelodaeth yn cynnwys Aelodau Arweiniol, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Phenaethiaid Gwasanaeth, wedi’u sefydlu at y diben o symud ymlaen â darparu’r pum blaenoriaeth gorfforaethol, a’r Cynllun ei hun yn y pen draw.  Cafodd y ddau Fwrdd, y Bwrdd Cymunedau a’r Amgylchedd, a’r Bwrdd Pobl Ifanc a Thai, eu cadeirio gan Gyfarwyddwr Corfforaethol gydag un Bwrdd yn gyfrifol am symud ymlaen â darparu dwy o'r blaenoriaethau corfforaethol, tra bod yr un arall yn symud ymlaen â darparu'r tair. O’r pum blaenoriaeth gorfforaethol, roedd gan y statws perfformiad ar gyfer dwy o’r blaenoriaethau statws ‘coch’ ar gyfer gwella ar hyn o bryd.  Dyma’r blaenoriaethau a oedd yn ymwneud â ‘Chymunedau Cryf' a ‘Phobl Ifanc’ a oedd yn cynnwys darparu amrediad eang o brosiectau, rhai mewn partneriaeth â sefydliadau allanol, os oeddent am gael eu gwireddu.  Felly nid oeddent yn gyfan gwbl o fewn rheolaeth y Cyngor i’w cyflawni.  Rhoddwyd trosolwg o’r prosiectau a oedd yn sail i bob blaenoriaeth gorfforaethol i’r Pwyllgor, gan yr Aelod Arweiniol.  Rhoddwyd gwybod i Aelodau gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol, yn ychwanegol at yr adroddiad a gynhyrchwyd gan Verto, bod y sylwebaeth Statws Perfformiad a'r Statws Cynnydd Rhaglen yn wybodaeth bwysig i Graffu ganolbwyntio arni wrth archwilio adroddiadau perfformiad Cynllun Corfforaethol y dyfodol, a phenderfynu ar ei raglen gwaith i'r dyfodol.  Cadarnhaodd hefyd, os nad oedd aelodau’n gyfarwydd â'r system Verto, y byddai'n fodlon dangos iddynt sut y gallent ei defnyddio ar gyfer eu gwaith craffu.

 

Fe wnaeth y Cadeirydd dynnu sylw aelodau at y ffaith bod nifer o bynciau a gynhwyswyd yn y Cynllun Corfforaethol eisoes ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor, roedd y rhain yn cynnwys y cynllun teithio cynaliadwy drafft a’r strategaeth rheoli fflyd drafft.

 

Gan ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol, y Cyfarwyddwr Corfforaethol a Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol:

·         fod y Cyngor a GwE yn gweithio’n agos gyda’r bwriad o wella ffigurau presenoldeb ysgol Yn ogystal, roedd prosiectau eraill yn cael eu datblygu i geisio rhoi sylw i absenoldebau ysgol, prosiectau fel y prosiect rhianta a’r prosiect cyrhaeddiad addysgol.  Byddai effeithiolrwydd y prosiectau hyn yn cael eu hadrodd i aelodau maes o law fel rhan o adroddiad perfformiad y Cynllun Corfforaethol.  Fodd bynnag, os oedd aelodau eisiau mwy o wybodaeth am y prosiectau, y gallent gysylltu â swyddogion yng Ngwasanaethau Addysg a Phlant;

·         roedd data ar sgôr gwasanaeth band eang cyflym iawn ar gael ar sail etholaeth Seneddol y DU yn unig, ac nid ar sail ffin sirol.  Gan fod nifer o etholaethau seneddol ar draws y sir, nid oedd un ffigur ar gael ar gyfer Sir Ddinbych.  Cyn belled ag yr oeddent yn ymwybodol, nid oedd data ar gael ar argaeledd band eang mewn ardaloedd gwledig o’i gymharu ag ardaloedd trefol, ond roedd yr Aelod Arweiniol am wneud ymholiadau ynghylch a oedd modd cyrchu data o’r math hwn;

·         roedd data ar sgôr gwasanaeth band eang cyflym iawn ar gael ar sail etholaeth Seneddol y DU yn unig, ac nid ar sail ffin sirol.  Gan fod nifer o etholaethau seneddol ar draws y sir, nid oedd un ffigur ar gael ar gyfer Sir Ddinbych fel uned gyfan.  Cyn belled ag yr oeddent yn ymwybodol, nid oedd data ar gael ar argaeledd band eang mewn ardaloedd gwledig o’i gymharu ag ardaloedd trefol, ond roedd yr Aelod Arweiniol am wneud ymholiadau ynghylch a oedd modd cyrchu data o’r math hwn;

·         roedd y Cyngor wedi cymeradwyo gweithdrefn rheoli coed yn ddiweddar, ac wedi cyhoeddi canllaw i’r cyhoedd, a oedd ar gael ar wefan y Cyngor;

·         anelwyd y prosiect yn y Cynllun Corfforaethol yn ymwneud â phlannu coed mewn ardaloedd trefol penodol at wella lles preswylwyr yn yr ardaloedd hynny.  Roedd yr Aelod Arweiniol am wirio gyda’r Gwasanaeth perthnasol a oedd cyllid wedi’i roi o’r neilltu o fewn y prosiect plannu coed ar gyfer costau cynnal a chadw’r coed yn y dyfodol;

·         fel rhan o’r Flaenoriaeth Pobl Ifanc o fewn y Cynllun, roedd gwaith yn digwydd i dyfu busnesau lleol a cheisio denu cyflogwyr i’r sir a fyddai’n darparu cyfleoedd cyflogaeth a oedd yn talu’n dda i bobl ifanc, gyda’r bwriad o gadw pobl ifanc yn yr ardal;

·         roedd ‘Prosiect Sir Ddinbych yn Gweithio’ wedi’i anelu at helpu pobl i gaffael y sgiliau hanfodol i’w helpu i gyflogaeth.  Byddai prosiectau eraill yn golygu cael mentoriaid yn mynd i mewn i ysgolion i helpu disgyblion gyda chyngor gyrfaoedd a datblygu sgiliau meddal, fel sgiliau rhyngbersonol;

·         roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata’r Cyngor i gynhyrchu bwletin penawdau dwyieithog chwarterol ar gynnydd wrth ddarparu'r Cynllun Corfforaethol.  Byddai’r neges dorfol hon yn cael ei hanelu at y cyhoedd.

 

Awgrymodd y Cydlynydd Craffu i aelodau y gall y Pwyllgor ddymuno gwahodd cynrychiolwyr Bwrdd y Rhaglen i gyfarfod y dyfodol i drafod gwaith eu Bwrdd, cylch gwaith a’r prosiectau roeddent yn gyfrifol am eu darparu fel ffordd o benderfynu ar y meysydd allweddol y mae’r Pwyllgor yn dymuno canolbwyntio arnynt yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd, ar gyfer dibenion eglurdeb, y dylai adroddiadau yn y dyfodol fod yn gyson yn eu cyfeiriadau at y Deyrnas Unedig neu Brydain Fawr, ac i beidio â chynnwys cymysgedd o'r ddau, a bod paragraffau naratif i gael eu hysgrifennu mewn dull clir a chyson er hwylustod.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y sylwadau uchod a darparu’r wybodaeth ofynnol, derbyn yr adroddiad ar berfformiad y Cyngor wrth gyflawni ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2017-2022, fel y mae ar ddiwedd Chwarter 4 o 2017-18.

 

 

Dogfennau ategol: