Eitem ar yr agenda
DATBLYGU STRATEGAETH CYNNAL A CHADW PRIFFYRDD
Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Ased a Risg Priffyrdd (copi ynghlwm) yn dilyn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ar 7 Rhagfyr 2017 a thrafod materion cyllid cyfalaf rhwydwaith priffyrdd gyda chynrychiolwr o Lywodraeth Cymru.
10.15 a.m. – 11.00 a.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Briffyrdd, Cynllunio a Chludiant Cynaliadwy adroddiad y
Rheolwr Priffyrdd, Asedau a Risg (a gylchredwyd yn flaenorol). Roedd hwn yn adroddiad dilynol i’r un a
gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn Rhagfyr 2017 am Strategaeth Cynnal a Chadw Priffyrdd
y Sir.
Ar ddiwedd y
drafodaeth am y Strategaeth yng nghyfarfod Rhagfyr 2017, rhoddodd y Pwyllgor
wahoddiad i Ysgrifennydd Cabinet Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, i
ddod i gyfarfod yn y dyfodol o’r Pwyllgor, i drafod cyllid cyfalaf ar gyfer
prosiectau priffyrdd. Yn
anffodus, nid oedd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu derbyn y gwahoddiad, ond fe
roddodd gynnig bod un o'i swyddogion yn cael gwahoddiad i drafod y mater gyda'r
pwyllgor. Roedd Mr Dewi
Rowlands, Pennaeth Cynllunio Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru wedi derbyn
gwahoddiad y Pwyllgor, a chroesawyd ef i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.
Mynegodd yr Aelod Arweiniol ei
ddiolch i adran Mr Rowlands a Llywodraeth Cymru am ddyfarnu'r Grant Ailwampio
Ffyrdd gwerth £1.2m i Sir Ddinbych, yn ogystal â £100K ychwanegol i helpu i roi
sylw i rai o'r gwaith cynnal a chadw ychwanegol sy'n ofynnol ar ffyrdd y sir yn
dilyn tywydd garw difrifol.
Atgoffodd
Pennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol y Pwyllgor, bod priffyrdd
wedi bod yn un o flaenoriaethau corfforaethol Cynllun Corfforaethol 2012-17.
Roedd hyn wedi arwain at swm mawr o
fuddsoddiad yn cael ei wneud yn rhwydwaith ffyrdd y sir, a oedd wedi gweld
cyflwr y ffyrdd yn gwella’n fawr. Yr her yn ystod tymor cyfredol y Cyngor fyddai buddsoddi adnoddau ariannol
sy’n parhau i leihau, a hynny’n ddoeth, yn y rhwydwaith priffyrdd, mewn ymgais
i sicrhau na chollwyd buddion y buddsoddiad blaenorol, ac nad oedd ffyrdd
eraill yn dirywio i bwynt lle nad oedd modd eu defnyddio mwyach. Cadarnhaodd bod derbyn y £1.2m ychwanegol
o’r Grant Ailwampio Ffyrdd wedi’i werthfawrogi’n fawr, ac wedi'i glustnodi ar
gyfer y pedwar prosiect a nodwyd yn yr adroddiad. Fodd bynnag, oherwydd y costau sy’n gysylltiedig â
phrosiectau cynnal a chadw ffyrdd tra byddai’r pedwar cynllun a restrir yn yr
adroddiad yn cael eu gwireddu, roedd nifer o gynlluniau eraill na fyddai’n elwa
o’r grant untro hwn.
Diolchodd
Pennaeth Cynllunio Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru y Pwyllgor am y gwahoddiad i
ddod i’r cyfarfod i drafod materion cyllid cyfalaf priffyrdd, ac fe fynegodd
ymddiheuriadau Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd yn gallu bod yn bresennol.
Yn ystod ei gyflwyniad, amlinellodd
weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhwydwaith priffyrdd yng Nghymru, gan
bwysleisio ei fod yn bwysig myfyrio ynghylch beth oedd wedi digwydd yn y
gorffennol i ddeall y cyd-destun o beth a argymhellwyd ar gyfer y dyfodol.
Roedd arolwg diweddar Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru wedi dangos yn gadarnhaol bod graddfa rhwydwaith
priffyrdd Cymru mewn cyflwr gwael wedi bod yn lleihau flwyddyn ar flwyddyn
rhwng 2011/12 a 2016/17, sef y data mwyaf diweddar a oedd ar gael.
Roedd cydnabyddiaeth o fewn
tystiolaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod yr hwb ariannol i awdurdodau
lleol gan Lywodraeth Cymru wedi cyfrannu at wella ansawdd y rhwydwaith
priffyrdd yn genedlaethol. Eglurodd fod Menter Benthyca Llywodraeth Leol, a oedd yn gweithredu am y
tair blynedd ariannol rhwng 2012/13 a 2014/15 yn cynrychioli dyraniad
ychwanegol o fewn Grant Cynnal Refeniw pob awdurdod lleol, a oedd yn cynyddu
potensial y cynghorau i fenthyca arian i ariannu prosiectau cyfalaf.
Pwysleisiwyd nad oedd y fenter hon
wedi dod i ben, ond bu newid mewn dull gyda Llywodraeth Cymru nawr yn
gwasanaethu costau benthyca awdurdodau lleol, a byddai’n parhau i wneud hynny
tan y flwyddyn ariannol 2034/35, yn amodol ar gynghorau'n rhoi ymrwymiad i
wella eu hasedau priffyrdd.
O ran y Grant
Ailwampio Ffyrdd o £1.2m, a’r arian ychwanegol a ddyrannwyd i roi sylw i waith
cynnal a chadw ychwanegol, yn dilyn y tywydd garw difrifol, roedd Llywodraeth
Cymru’n disgwyl i awdurdodau lleol adrodd iddi ym Mawrth 2019, ynghylch effaith
yr arian a wariwyd yn eu hardal. Wedi
hynny, roedd awdurdodau lleol yn adrodd i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn ar
reoli eu rhwydwaith priffyrdd ac effaith eu buddsoddiad yn y rhwydwaith.
Nid Sir Ddinbych yn unig oedd ag
ôl-groniad o fuddsoddiad a oedd yn ofynnol yn ei rhwydwaith priffyrdd, gan fod
pob awdurdod lleol yng Nghymru ag ôl-groniad, ynghyd â Llywodraeth Cymru ei
hun. Roedd Llywodraeth
Cymru wedi adrodd gerbron Pwyllgor Economi, Isadeiledd a Sgiliau'r Cynulliad yn
ddiweddar, ei bod ag ôl-groniad o waith cynnal a chadw yn dod i swm o £83m ar
ei rhwydwaith priffyrdd, traffyrdd a chefnffyrdd, gyda gwerth £39m o
fuddsoddiad ychwanegol yn ofynnol ar ei strwythurau rhwydwaith. Yr her i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau
lleol fel ei gilydd oedd sut i reoli’r risg o ddirywiad er mwyn peidio â cholli
buddion y buddsoddiad a wnaed eisoes yn y rhwydwaith. Gyda’r bwriad o roi sylw i’r heriau hyn,
roedd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a
Chymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru wedi cytuno’n ddiweddar i gydweithio, gyda’r
bwriad o gyrchu’r dystiolaeth gywir i ddangos yr angen am fuddsoddiad mewn
prosiectau rhwydwaith penodol. Byddai cynhyrchu tystiolaeth gadarn a chyson yn allweddol i awdurdodau
priffyrdd sy’n cyflwyno cynigion am arian gan Lywodraeth Cymru, i atgyfnerthu
eu ceisiadau wrth gystadlu am gyllid cyhoeddus prin yn erbyn cyrff cyhoeddus
eraill, gyda blaenoriaethau sydd yr un mor bwysig. Byddai angen datblygu mesurau perfformiad cyson a
realistig er mwyn cefnogi’r ddarpariaeth o rwydwaith cyflwr sefydlog, a
fyddai’n cynnal gwerth ei ased wrth alinio ag amcanion a gwerthoedd tymor hir
Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Rhoddodd
cynrychiolydd Llywodraeth Cymru wybod i’r Pwyllgor ei fod wedi cael argraff dda
o’r hyn a welodd hyd yn hyn o Gynllun Rheoli Asedau Priffyrdd Sir Ddinbych.
Roedd o’r farn bod y ddogfen bwysig
hon yn cynnwys pob ased yn ymwneud â rhwydwaith priffyrdd y sir, yn cynnwys
cerbytffyrdd, pontydd, draeniau, llwybrau troed, arwyddion ac ati, ac wedi
mabwysiadu dull cyfannol tuag at eu gwaith cynnal a chadw, er budd y rhwydwaith
cyfan. Byddai’r Cynllun
hwn yn ddogfen amhrisiadwy ar gyfer y grŵp ledled Cymru, sy’n edrych ar
ddatblygu sail dystiolaeth i gefnogi cynigion ariannu rhwydwaith priffyrdd y
dyfodol. Byddai’r
manylion yn y Cynllun ac unrhyw rwystrau a nodwyd fel rhan o weithrediad y
cynllun yn cynorthwyo’r grŵp Cymru gyfan gyda’i waith o ddatblygu pecyn
gwaith i gynorthwyo rhanddeiliaid i lunio cynigion cadarn yn seiliedig ar
dystiolaeth. Byddai
rhannu arferion gorau ar draws Cymru o fudd i bawb. Roedd hefyd yn hapus gydag
Adroddiad Statws ac Opsiynau Blynyddol y Cyngor, ac i weld bod gwariant cyfalaf
a refeniw yn unol ag elfen cynnal a chadw priffyrdd cenedlaethol yr Asesiad
Gwario Safonol. Roedd
perfformiad Sir Ddinbych i gynnal ei ffyrdd ‘A’ yn mynd rhagddo’n dda, tra bod
ffyrdd ‘B’ a heb eu dosbarthu’n foddhaol. Fodd bynnag, nid oedd perfformiad mewn perthynas â
ffyrdd ‘C’ yn dda. Roedd
y darlun cyffredinol hefyd yn gadarnhaol h.y. roedd hyd y rhwydwaith mewn
cyflwr gwael cyffredinol yn lleihau. Fodd bynnag, roedd yna ffyrdd nawr a nodwyd ar hyn
o bryd fel ‘ambr’, a oedd mewn perygl o symud i statws ‘coch’ heb fuddsoddiad
yn y dyfodol agos. Byddai
penderfyniad i fuddsoddi yn y ffyrdd hyn yn ystod cam cynnar yn ddull ‘gwario i
arbed’, gan y byddai’n lliniaru yn erbyn rhagor o ddirywiad, a’r posibilrwydd o
'golli' rhannau o’r rhwydwaith am byth, a’i effaith o ganlyniad ar yr economi
ac ar gymunedau. Ni
allai unrhyw awdurdod priffyrdd yng Nghymru fforddio i ganiatáu gwerth ei
asedau i leihau. Roedd
sefydlogrwydd mewn gwerth asedau’n allweddol os oedd yr economi am ffynnu er
budd pawb, a dyna’r rheswm dros bwysigrwydd yr holl awdurdodau’n gweithio gyda
Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Syrfewyr
Sirol Cymru, i wireddu’r ffordd fwyaf effeithiol o ddefnyddio arian y cyhoedd i
reoli’r rhwydwaith priffyrdd ar gyfer y dyfodol.
Gan ymateb i
gwestiynau aelodau, fe wnaeth cynrychiolydd Llywodraeth Cymru, yr Aelod
Arweiniol dros Briffyrdd, Cynllunio a Thrafnidiaeth Cynaliadwy, Pennaeth y
Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol, a’r Rheolwr Priffyrdd, Asedau a Risg:
·
roi gwybod mai cyfrifoldeb
y Cyngor oedd blaenoriaethu gwariant refeniw ar ei rwydwaith, penderfynwyd ar
hyn yn seiliedig ar broses blaenoriaethau asesiad risg. Fodd bynnag, tra bod
cyllid cludiant wedi gostwng yn sylweddol mewn blynyddoedd diweddar, roedd
rhywfaint o arian grant ar gael h.y. ar draws Cymru, roedd £4m ar gyfer cefnogi
cludiant cyhoeddus dros bedair blynedd a £60m ar gyfer gwella cerdded a beicio
ar lwybrau dynodedig dros gyfnod o dair blynedd, yn ddibynnol ar y meini prawf
penodol yn cael eu bodloni. Fe wnaeth y cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru
drafod gyda’r Aelod Arweiniol a swyddogion a fyddai prosiect A547 Abergele
Straights yn bodloni unrhyw rai o’r meini prawf penodol;
·
rhoddwyd
gwybod i aelodau bod gan y Cyngor strategaeth gyda phalmentydd is ar draws y
sir.
Roedd gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i lunio rhestr
o leoliadau ar draws y sir, lle’r oedd angen gosod palmentydd is. Roedd rhestr debyg o gynlluniau draenio bach ar draws y sir hefyd yn cael
ei llunio.
Byddai’r ddwy restr yn cael eu rhoi i’r contractwr
penodol yn y dyfodol agos iddynt ddechrau gweithio ar y ddau brosiect;
·
cadarnhawyd, er nad oedd
unrhyw gyfeiriad wedi’i gynnwys yn Atodiad A i’r adroddiad ‘Adolygiad o gyflwr
ffyrdd Sir Ddinbych ers 2011/12’ i ffyrdd ‘B’ yn y sir, roeddent yn sicr yn
cael eu cynnwys yn rhaglen cynnal a chadw priffyrdd y Sir ar gyfer 2018/19;
·
cadarnhawyd bod arolwg
cyflwr ffyrdd ‘A’ a ‘B’ yn arolwg annibynnol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru,
a oedd yn cynnwys archwiliad techneg nad oedd yn fewnwthiol, o’r enw Scanner, a
wnaed yn ystod yr haf i benderfynu ar gyfran y rhwydwaith a ystyriwyd mewn
cyflwr gwael;
·
rhoddwyd gwybod bod
Llywodraeth Cymru wedi gwario £155m yn 2016/17 ar gynnal a chadw’r rhwydwaith
priffyrdd;
·
cadarnhawyd bod
Llywodraeth Cymru’n archwilio deunyddiau gwahanol, yn cynnwys cynnyrch wedi’u
hailgylchu, wrth gomisiynu gwaith cynnal a chadw priffyrdd, ac wedi cymryd rhan
mewn nifer o gynlluniau peilot i brofi cynnyrch o’r fath. Fodd bynnag, roedd priffyrdd dim ond yn un rhan o’r trefniadau isadeiledd a
chludiant, a dyma’r rheswm dros yr angen i archwilio ffyrdd gwell o weithio a
theithio.
Gyda’r bwriad o gyfrannu at y rhaglen dad-garboneiddio,
gan wneud defnydd effeithiol o dechnoleg a dyfeisio atebion teithio cynaliadwy,
roedd Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agos gyda swyddfa Comisiynydd
Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i ddatblygu strategaeth teithio cynaliadwy. Roedd data eisoes ar gael ar werth economaidd cysylltiadau cludiant
effeithiol, a rhwydwaith priffyrdd wedi’i gynnal yn dda. Roedd gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar y cyd â Phrifysgol Bangor i
ddeall yn well y gwerth cymdeithasol a diwylliannol o gael cysylltiadau
cludiant o ansawdd da mewn perthynas â chymunedau cysylltiedig. Roedd Swyddfa Cabinet y DU wedi cyhoeddi dogfen o’r enw ‘Canllawiau ar Elw
Cymdeithasol ar Fuddsoddiad' ar y pwnc penodol hwn;
·
rhoddwyd gwybod, mewn
perthynas â gwireddu’r gwerth gorau o ran benthyca ar gyfer buddsoddiad cyfalaf
priffyrdd, roedd y Cyngor yn cael ei arwain gan arbenigedd y Swyddogion Cyllid. O ran benthyca ychwanegol i ariannu’r gwariant refeniw ar waith cynnal a
chadw priffyrdd, roedd y Cyngor yn cael ei lywodraethu gan reolau benthyca
darbodus ac yn benthyca unrhyw arian ychwanegol sy’n ofynnol gan Fwrdd Benthyca
Gwaith Cyhoeddus;
·
cadarnhawyd bod
Llywodraeth Cymru, o dan y cynllun LGBI blaenorol, a weithredodd am dair
blynedd, yn rhoi arian i awdurdodau lleol gefnogi benthyca cyfalaf ar gyfer
gwaith priffyrdd.
Dros dair blynedd, roedd cyfanswm o £172m wedi’i fenthyca
ar draws Cymru ar gyfer gwaith cynnal a chadw priffyrdd. Byddai’r taliad terfynol i awdurdodau lleol drwy’r RSG i wasanaethu'r
costau benthyca'n cael ei wneud yn 2034/35;
·
rhoddwyd gwybod bod y
Cyngor ar hyn o bryd yn y broses o ddatblygu arolwg cyflwr llwybrau troed, yn
debyg i’r Strategaeth Rheoli Asedau Priffyrdd, a fyddai’n cyd-fynd yn dda â
gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau rheoli asedau priffyrdd i
gynnwys pob cerbytffordd;
·
cadarnhawyd bod y Cyngor
wedi cael ychydig iawn o gwynion neu hawliau iawndal mewn perthynas â
damweiniau oherwydd cyflwr y llwybrau troed. Byddai ystadegau’n ymwneud â
nifer yr hawliadau a wnaed yn erbyn yswiriant y Cyngor oherwydd damweiniau o
ganlyniad i gyflwr llwybrau troed yn cael eu rhoi i aelodau;
·
rhoddwyd gwybod y gallai
cwmnïau cyfleustodau adfer wynebau i lwybrau neu gerbytffyrdd yn amodol ar adferiad
llawn yn digwydd o fewn chwe mis. Rhoddwyd gwybod i
Aelodau y dylent gysylltu â’r Cyngor os oeddent yn dod yn ymwybodol o unrhyw
ddamweiniau’n digwydd oherwydd adferiadau dros dro, neu os oeddent yn pryderu
dros ansawdd unrhyw adferiadau. Fe wnaeth Swyddogion
fonitro ansawdd y gwaith adfer yn rheolaidd, ac os nad oedd y gwaith yn
cyrraedd y safon ofynnol, byddai'r Cyngor yn dirwyo'r cwmni cyfleustodau dan
sylw;
·
cadarnhawyd bod canllaw yn
cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn yn yr hydref i helpu
awdurdodau lleol gyflwyno ceisiadau am arian ar gyfer prosiectau priffyrdd. Roedd y canllaw hwn yn cynnwys y meini prawf am geisiadau fel y
cymeradwywyd gan Ysgrifennydd y Cabinet. Pe byddai
ceisiadau’n bodloni’r meini prawf penodol, byddai Llywodraeth Cymru yna’n
penderfynu ar lefel y cyllid y gallai ei rhoi i’r cynlluniau a gyflwynwyd. Nid oedd ffigur canran ‘penodol’ wedi’i ddyrannu ar gyfer pob awdurdod ar
gyfer cyllid priffyrdd, penderfynwyd ar bob cais yn ôl ei rinweddau ei hun, tra
bod dyraniadau untro eraill, fel y Grant Ailwampio Ffyrdd diweddar, yn cael eu
rhannu'n defnyddio fformiwla y penderfynwyd arno ymlaen llaw;
·
cadarnhawyd nad oedd y
rhestr o ffyrdd yn Atodiad ‘A’ yn cynnwys ffyrdd ‘A’;
·
disgrifiwyd gwahanol
fathau o ddeunyddiau ailgylchu a ddefnyddiwyd gan y Cyngor yn ystod y
blynyddoedd diweddar ar gyfer gwaith cynnal a chadw ffyrdd. Roedd y gwaith hwn yn arbrofol yn rhannol, i alluogi’r awdurdod i werthuso
a fyddai’r deunyddiau hyn yn para yn y tymor hir ac yn cynhyrchu buddion
ariannol i’r Cyngor drwy beidio â thalu am gost gwaredu gwastraff halogedig ac
ati. Roedd rhai cynlluniau peilot wedi bod yn fwy llwyddiannus nag eraill,
tra'r oedd yn rhy fuan i ddod i gasgliadau ar fuddion a gwydnwch tymor hir
prosiectau mwy diweddar;
·
cadarnhawyd y byddai Prif
Swyddog Ariannol y Cyngor yn gallu cynghori aelodau ar derfynau benthyca’r
Cyngor;
·
rhoddwyd gwybod bod
hawliau cyfreithiol i gau neu ddatgomisiynu ffyrdd neu hawliau tramwy yn dod o
fewn pwerau’r awdurdod lleol; a
·
rhoddwyd gwybod os oedd yr
Awdurdod yn dymuno ymgeisio am gyllid wedi’i ddyrannu ar gyfer gwelliannau
llwybr beicio, byddai'r ffyrdd dan sylw eisoes wedi’u dynodi ar y map
rhwydwaith gan fod llwybrau beicio a’r gwelliannau arfaethedig angen bodloni’r
meini prawf penodol ar gyfer llwybrau o’r fath.
Yn ystod y
drafodaeth, pwysleisiodd yr aelodau’r angen i gwmnïau cyfleustodau ymgysylltu a
chyfathrebu'n fwy effeithiol gyda busnesau lleol a phreswylwyr wrth gynllunio i
wneud y gwaith cynnal a chadw hanfodol, i’w galluogi i gynllunio ar gyfer
unrhyw amhariad y gellir ei achosi ar eu busnes neu eu bywydau bob dydd.
O ran ffordd y B4401 yn ardal
Cynwyd, dangosodd y cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru ei barodrwydd i drafod
gyda'r aelod lleol a swyddogion os oedd modd cyrchu cyllid ar gyfer gwelliannau
i’r ffordd benodol honno o amrywiaeth o ffrydiau ariannu sy'n ymwneud yn
benodol â chludiant Llywodraeth Cymru, nawr fod cyllid cyfalaf ar gyfer
cynlluniau gwelliant o'r fath wedi lleihau'n sylweddol.
Fe wnaeth y
Cadeirydd, wrth ddiolch i Mr Dewi Rowlands a Swyddogion y Cyngor am ddod ac
ateb cwestiynau aelodau, bwysleisio pwysigrwydd rhwydwaith priffyrdd y sir i’r
sir gyfan, gan ddefnyddio’r gyfatebiaeth fod ffyrdd y sir yn cynrychioli’r
rhydwelïau a’r gwythiennau sy’n cludo gwaed i bob rhan o’r corff, i’w gadw’n
iach ac yn weithredol. Felly roedd yn bwysig bod buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud ym mhob
rhan o’r rhwydwaith i sicrhau bod y sir yn ffynnu ar bob lefel, boed yn
economaidd, yn ddiwylliannol neu’n gymdeithasol. Er mwyn gwireddu hyn, roedd angen i
strategaethau’r awdurdod lleol a chludiant Llywodraeth Cymru ategu at ei gilydd
a chysylltu â’i gilydd.
Yn dilyn
trafodaeth fanwl, fe wnaeth y Pwyllgor y canlynol:
PENDERFYNWYD
yn amodol ar y sylwadau uchod -
(i)
derbyn
yr adroddiad a’r atodiad; a
(ii)
chefnogi gwaith sy’n mynd rhagddo’n genedlaethol
i ddatblygu cynlluniau rheoli asedau priffyrdd holl gynhwysol, a fyddai’n
cynorthwyo pob rhanddeiliad i flaenoriaethu cyllid ar gyfer prosiectau priffyrdd
a gwaith cynnal a chadw yn effeithiol, gyda’r bwriad o wireddu’r gwerth gorau
am arian, yn ogystal â gwireddu nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
(Cymru) 2015
Dogfennau ategol:
- Highways Report 19th July 2018 W, Eitem 5. PDF 208 KB
- Highways Report 19th July 2018 - Appendix A, Eitem 5. PDF 1 MB