Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

MYNWENTYDD CYNGOR SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad ar y cyd rhwng Rheolwr Uned Gwaith a Strydwedd a Rheolwr Strydwedd (Gogledd) (copi ynghlwm) sy’n hysbysu aelodau o gymhwysedd gweddilliol o fewn mynwentydd y cyngor, ac yn amlinellu ardaloedd sydd mewn perygl o ran capasati claddu yn y dyfodol.   Mae’r adroddiad hefyd yn gofyn am farn yr aelodau am gynyddu cost mynwentydd, ac yn amlinellu trefn cynnal a chadw presennol (a pholisïau rheoli) ar gyfer holl fynwentydd a reolir gan y cyngor.

 

11:20 am - 12:00pm

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Dai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd yr adroddiad ar y cyd (a gylchredwyd yn flaenorol) gan yr Uned Waith a’r Rheolwr Strydwedd a’r Rheolwr Strydwedd (Gogledd), a ddiweddarodd aelodau ar faterion rheoli'n ymwneud â mynwentydd ym mherchnogaeth y Cyngor Sir, yn cynnwys capasiti gweddilliol mynwentydd ar draws y sir, a'r ardaloedd risg posibl o ran capasiti claddedigaethau yn y dyfodol.  Eglurodd ymhellach fod yr adroddiad a’r atodiadau cysylltiedig yn ceisio safbwyntiau’r Pwyllgor ar y cynnydd arfaethedig mewn ffioedd claddu a mynwentydd ym mherchnogaeth y sir, a ddylai grŵp tasg a gorffen gael ei sefydlu i ystyried capasiti’r dyfodol mewn mynwentydd, ac fe amlinellodd hefyd y weithdrefn cynnal a chadw cyfredol a pholisïau rheoli ar gyfer y mynwentydd.  Rhoddodd yr Aelod Arweiniol wybod bod Sir Ddinbych ar hyn o bryd yn codi’r ffioedd claddedigaethau isaf yng Ngogledd Cymru, a dyma’r rheswm dros gynnig y cynnydd o 5% mewn ffioedd.  Hyd yn oed pe bai’r cynnydd o 5% yn cael ei gymeradwyo, byddai Sir Ddinbych yn dal yn un o’r awdurdodau a fyddai’n codi’r ffioedd claddedigaethau isaf yn y rhanbarth.

 

Tynnodd Bennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol sylw’r aelodau at Atodiad 5 yr adroddiad, a oedd yn cynnwys canlyniadau’r astudiaeth ddichonoldeb a gynhaliwyd yn 2004 gan y Grŵp Tasg a Gorffen Craffu ar gynnig i ddatblygu mynwent newydd i’r Rhyl.  Roedd yr astudiaeth ddichonoldeb wedi’i gwneud ar yr adeg honno oherwydd y nifer gyfyngedig o leiniau newydd ar gael ym mynwent y dref.  Fodd bynnag, oherwydd y costau sy’n gysylltiedig â datblygu mynwent newydd, yr argymhelliad oedd peidio â bwrw ymlaen â’r cynnig.  Ers hynny, roedd mynwent y dref wedi cau i gladdedigaethau newydd.  Roedd gweddill y mynwentydd ym mherchnogaeth y Cyngor ar draws y sir â chapasiti ar hyn o bryd i gynnwys claddedigaethau newydd.  Roedd capasiti claddedigaethau’n amrywio rhwng mwy na 1,000 llain yng Nghoed Bell, Prestatyn i 55 yn Llanrhydd, Rhuthun

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth Gwasanaeth a’r swyddogion:

·         fod y ffioedd claddedigaethau a amlinellir yn Atodiad 2 yr adroddiad yn ffioedd a godir ar breswylwyr Sir Ddinbych.  Caniatawyd claddu preswylwyr nad oeddent o Sir Ddinbych ym mynwentydd y sir, fodd bynnag, roedd ffioedd yn cael eu dyblu ar gyfer y preswylwyr hynny.  Fodd bynnag, roedd unigolion a theuluoedd yn fodlon talu’r gost ychwanegol;

·         cadarnhau nad oedd gan y Cyngor ddigon o gapasiti i gynnal gwaith cynnal a chadw tiroedd ym mynwentydd lawnt y sir, a dyma’r rheswm y cafodd ei gontractio'n allanol i gontractwr allanol.  Ar hyn o bryd roedd contract tymor byr gyda chontractwr allanol ar gyfer cynnal a chadw tiroedd y mynwentydd yn ei le am y flwyddyn gyfredol.  Roedd Swyddogion ar hyn o bryd yn archwilio’r posibilrwydd o ymgorffori’r contract cynnal a chadw tiroedd mynwentydd gyda’r contract torri ymylon gwair priffyrdd o Fawrth 2019;

·         cydnabod dyheadau rhai aelodau i gael y gwaith cynnal a chadw tiroedd wedi'i wneud yn fewnol.  Fodd bynnag, nid oedd y Cyngor ar hyn o bryd â’r gallu i wneud y gwaith hwn, ac yn yr hinsawdd ariannol gwasanaethau cyhoeddus cyfredol, roedd yn annhebygol o fod mewn sefyllfa i wneud y gwaith hwn yn fewnol ar gyfer y dyfodol rhagweladwy, oni bai bod arian refeniw'n cael ei ddargyfeirio i'r Gwasanaeth o wasanaethau 'rheng flaen';

·         cadarnhau bod y manylion contract cynnal a chadw tiroedd cyfredol yn nodi’r safon o dorri sy’n ofynnol, yr angen i glirio’r toriadau dros ben, atebolrwydd am ddifrod i gerrig beddi ac ati. Roedd pob agwedd a gynhwysir yn y manylion contract yn cael eu monitro’n rheolaidd fel rhan o broses monitro contractau’r Cyngor;

·         rhoi gwybod bod Rheoliadau Mynwentydd y Cyngor yn cynnwys manylion y rheoliadau a’r manylion mewn perthynas â chofebion a ganiateir mewn mynwentydd ym mherchnogaeth y Cyngor.  Roedd hwn yn nodi nad oedd teyrngedau neu addurniadau’n cael eu caniatáu yn is i lawr ar y bedd na gwaelod y garreg fedd, ac na chaniatawyd golau solar mewn mynwentydd.  Roedd teuluoedd yn cael gwybod am y rheolau hyn wrth brynu llain gladdu a phe bai addurniadau ac ati’n cael eu gosod ar fedd, y byddai’r Cyngor yn mynd â nhw oddi yno ac yn eu cadw i’r teuluoedd drefnu i’w casglu.  Fodd bynnag, roedd cyfnod addas o alaru’n cael ei ganiatáu yn dilyn y gladdedigaeth cyn tynnu unrhyw deyrngedau neu addurniadau oddi yno.  Roedd Swyddogion yn cael eu cyfarwyddo’n gyson i orfodi’r polisi ar draws y sir, gan fod defnyddio disgresiwn â’r potensial i danseilio’r polisi hwn;

·         cadarnhau bod placiau coffa ar feinciau ac ati ym mynwentydd y Sir bellach yn gorfod cydymffurfio â manylebau safonol;

·         ail-gadarnhau, oherwydd cyfrifoldebau iechyd a diogelwch, na allai’r Cyngor ganiatáu contractwyr allanol neu drefnwyr angladdau i agor beddi newydd neu ail-agor rhai presennol.  Roedd y Cyngor yn caniatáu claddedigaethau ar ddydd Sadwrn os oedd staff ar gael ac yn fodlon gweithio goramser ar gyfer hyn.  Roedd y costau staffio ychwanegol yna’n cael eu hadlewyrchu yn y ffioedd a godwyd am y gladdedigaeth.  Fodd bynnag, roedd y cais am gladdedigaethau ar ddydd Sadwrn yn isel, yn llai na 10 y flwyddyn, felly nid oedd yn hyfyw newid telerau ac amodau cyflogaeth staff i gynnwys gweithio ar ddyddiau Sadwrn i fodloni’r galw;

·         cadarnhau, oherwydd y costau sydd ynghlwm wrth unrhyw gynllun o’r fath, nad oedd unrhyw waith pellach wedi’i wneud yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb 2004 ar ddatblygu mynwentydd newydd yn y sir;

·         rhoi gwybod bod arolygon diweddar ledled y DU wedi dangos bod tua 58% o bobl yn dangos bod yn well ganddynt amlosgiad yn hytrach na chladdedigaeth;

·         cadarnhau y byddai Sir Ddinbych yn dal ag un o’r ffioedd isaf am gladdedigaethau yng Ngogledd Cymru, er bod cynnydd o 5% mewn ffioedd claddedigaethau’n edrych yn uchel.  Os cefnogir y cynnydd hwn, byddai yna'n ddoeth cynyddu'r ffioedd o gyfradd canran llawer is ar sail flynyddol, er mwyn bod ar yr un lefel ag awdurdodau eraill; a

·         chadarnhau nad oedd unrhyw hawliau arbennig o weithredoedd claddedigaethau ar gyfer lleiniau ym mynwentydd y Cyngor yn gallu cael eu prynu ymlaen llaw, ac unwaith bod hawliau arbennig gweithred claddedigaeth wedi’u prynu, nad oedd unrhyw ffioedd cynnal a chadw pellach ac ati’n cael eu codi ar gyfer y llain honno

 

Cyfeiriwyd gan aelod at bolisi Dinas Llundain o ganiatáu ail-brydlesu beddi, lle’r oedd prydles gyfredol wedi'i dileu, ar gyfer claddedigaethau newydd, ar yr amod bod unrhyw gofebion ar y bedd yn cael eu hailwampio'n llwyr gyda'r garreg fedd wreiddiol yn cael ei throi i adael yr arysgrif wreiddiol ar y cefn, a'r arysgrif newydd wedi'i hysgythru ar y blaen.  Holodd Aelodau a fyddai hyn yn ateb tymor hir i’r diffyg capasiti yn rhai o fynwentydd Sir Ddinbych.  Roedd Swyddogion am wneud ymholiadau ynghylch yr awgrym hwn, ac ar faint o amser y caniatawyd hawliau arbennig claddedigaethau ar feddi Sir Ddinbych.  Roeddent hefyd am gadarnhau a oedd arwydd yn un o fynwentydd y sir yn datgan 'ni chaniateir golau solar' yn ansensitif ac i roi gwybodaeth ynghylch a oedd cost hawl claddedigaethau arbennig a ffioedd claddedigaethau eraill yn cwmpasu costau rhedeg a chynnal a chadw mynwentydd y sir yn y tymor hir.

 

Roedd y Pwyllgor yn gadarn o’r safbwynt, yn seiliedig ar y capasiti ar gael mewn mynwentydd a redir gan y cyngor, a oedd yn bellter teithio rhesymol i berthnasau, a'r costau ynghlwm wrth sefydlu mynwentydd newydd, nad oedd angen sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen Craffu i ystyried y mater o gapasiti mynwentydd y dyfodol yn y sir.  Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol y byddai swyddogion yn mynd i Grŵp Ardal Aelodau Elwy a Grŵp Ardal Aelodau y Rhyl i drafod yr heriau ac atebion posibl. 

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod

 

(i)           nad oedd angen sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen Craffu i ystyried y mater o gapasiti’r dyfodol ym mynwentydd y Cyngor;

(ii)          cefnogi'r polisïau presennol yn ymwneud â rheoli mynwentydd y cyngor; a

(iii)         chefnogi'r cynigion i gynyddu ffioedd claddedigaethau, i ddod â ffioedd Sir Ddinbych yn unol ag awdurdodau cyfagos

 

Gofynnodd y Cynghorydd Glenn Swingler a oedd modd cofnodi ei fod wedi pleidleisio yn erbyn yr argymhelliad uchod.

 

Dogfennau ategol: