Eitem ar yr agenda
YMDDIRIEDOLAETH GWASANAETH AMBIWLANS CYMRU A GWASANAETH MEDDYG TEULU TU ALLAN I ORIAU
Derbyn cyflwyniad
ar y cyd gan gynrychiolwyr Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a
Gwasanaeth Meddyg Teulu Tu allan i Oriau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
ar eu perfformiad a’r gwaith sy’n cael ei wneud ar y cyd er mwyn gwella llwybr
gofal ar gyfer cleifion.
10.10am – 11.10am
Cofnodion:
Croesawodd y
Cadeirydd gynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST) a
Gwasanaeth Meddyg Teulu Tu Allan i Oriau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
i'r cyfarfod, i roi cyflwyniad ar sut mae'r ddau wasanaeth yn cydweithio i
wella canlyniadau i gleifion drwy ddarparu ymateb sy'n addas yn glinigol, yn
hytrach na chanolbwyntio ar dargedau amser diystyr.
Drwy gyfrwng
cyflwyniad PowerPoint, eglurodd cynrychiolwyr WAST y rhaglen trawsnewid sydd
wedi digwydd yn y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru dros y blynyddoedd diweddar.
Fe wnaethant dynnu sylw at nifer o
ddatblygiadau cadarnhaol a oedd wedi digwydd fel rhan o’r rhaglen trawsnewid
hon, ac fe wnaethant rannu eu profiad o weithredu’r Model Ymateb Clinigol (a
benderfynodd ar yr ymateb mwyaf addas i ddefnyddio galwad argyfwng). Fe
wnaethant sôn am y gwersi a ddysgwyd fel rhan o’r broses weithredu a’u dyheadau
am y dyfodol i wella'r llwybr gofal i gleifion.
Rhoddwyd trosolwg
hefyd i Aelodau am sefyllfa’r Model Ymateb Clinigol yng nghyd-destun y newid
sefydliadol a system ehangach o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Comisiynwyd WAST gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru i roi gwasanaeth
ambiwlans i gludo cleifion i’w sefydliadau ac i ddarparu gwasanaethau ymyrraeth
iechyd addas ar y ffordd i’r sefydliadau hynny. Ar draws Cymru, roedd y Gwasanaeth yn delio gydag
oddeutu 1,300 o alwadau brys bob dydd. Roedd y Gwasanaeth – a ariannwyd gan y Llywodraeth
– am ddim yn y pwynt o angen.
Yn debyg i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eraill, ac yn rhannol
oherwydd newidiadau demograffig, roedd o dan bwysau cynyddol, wrth i’r galw am
ei wasanaethau barhau i gynyddu. Roedd y cynnydd hwnnw mewn galw wedi tynnu sylw’r Gwasanaeth Ambiwlans at
yr angen i newid yr amgylchedd gweithredu roeddent yn gweithio o’i fewn.
Tynnwyd y ffocws oddi wrth fodloni targedau amser diystyr, i wella’r profiad
i’r claf pan roeddent yn cyrraedd, i’w trin gyda’r bwriad o wella’r canlyniadau
iddynt yn y tymor hir.
Roedd y Model Ymateb Clinigol newydd wrth wraidd y rhaglen trawsnewid.
WAST oedd y Gwasanaeth Ambiwlans
cyntaf i fabwysiadu’r model hwn, fodd bynnag, roedd gwasanaethau yn Lloegr a’r
Alban bellach yn dilyn arweiniad WAST. Yn ystod y cyflwyniad, fe wnaeth cynrychiolwyr
WAST:
·
ddisgrifio’r broses
‘dylunio ambiwlans i ofal heb ei drefnu’ a’r weithdrefn flaenoriaethau Coch,
Oren, Gwyrdd (COG) y cytunwyd arni - a oedd wedi'i dylunio i fod â ffocws
clinigol, ac yn ddoeth a diogel i bob claf;
·
rhoi gwybod mai'r unig
darged roeddent yn cael eu mesur yn ei erbyn ar sail genedlaethol gan y
Llywodraeth oedd y targed 8 munud a osodwyd ar gyfer ymateb i alwad gyda statws
'Coch' - yr argyfwng â'r lefel uchaf, er eu bod fel Gwasanaeth â thargedau
amrywiol wedi'u gosod ar gyfer tasgau penodol neu feysydd gwaith;
·
rhoi gwybod bod lleihau’r
galw am y Gwasanaeth yn anodd iawn. Roedd data’n dangos
cynnydd mewn galw o’r naill flwyddyn i’r llall, gyda rhagamcaniadau'r dyfodol
hefyd yn amcangyfrif cynnydd o'r naill flwyddyn i'r llall mewn galw ar y
Gwasanaeth ar gyfer y dyfodol rhagweladwy. O ganlyniad, roedd
angen cynllun i geisio rheoli’r galw’n well;
·
egluro bod y Model Ymateb
Clinigol a dreialwyd ac a fabwysiadwyd yng Nghymru’n cynnwys gweithio gyda
phartneriaid - h.y. Byrddau Iechyd, Meddygon Teulu, Gwasanaethau Cymdeithasol,
Heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub ac ati - i gefnogi pobl yn effeithiol ac yn
addas a oedd yn galw’r Gwasanaeth Ambiwlans yn rheolaidd (Galwyr Rheolaidd).
Er enghraifft, roedd clinigwyr nawr wedi’u lleoli
yng Nghanolfannau Rheoli'r Heddlu a'r Gwasanaethau Tân ac Achub, gyda'r bwriad
o flaenoriaethu ymateb y Gwasanaeth Ambiwlans i'r galwadau hynny'n addas. Roedd y dull ‘Gwrando a
Thrin', lle'r oedd parafeddygon a chlinigwyr nyrs yn cynnal asesiadau ffôn ac
yn penderfynu ar y dull mwyaf addas o drin y claf, yn profi i fod yn
llwyddiannus.
Roedd yr ystadegau ar nifer y galwadau a ddaeth i’r
Gwasanaeth yn ystod y cyfnod rhwng Ionawr a Mawrth 2017 a 2018, a nifer y
teithiau o'r ambiwlans i'r ysbyty'n dangos llwyddiant y Model Ymateb Clinigol
newydd. Er gwaethaf nifer y galwadau a gafodd y Gwasanaeth yn cynyddu, roedd
nifer y teithiau i’r ysbyty mewn ambiwlans wedi lleihau, gan ryddhau’r
ambiwlansys brys i fod ar gael i ymateb i argyfyngau critigol;
·
rhoi gwybod i aelodau bod
gan WAST darged o 65% wedi’i osod ar gyfer nifer y galwadau ymateb categori
COCH i’w cyrraedd o fewn 8 munud yn Sir Ddinbych. Roedd
y targed o 65% yn ystyried natur wledig y sir. Rhwng
Ionawr a Mai 2018, roedd y Gwasanaeth wedi rhagori ar y targed hwn ac yn ymateb
i alwadau yn y categori hwn o fewn y cyfnod amser o 8 munud mewn 80% o
achosion, gyda pherfformiad yn amrywio rhwng 72.7% ac 85.4%; a
·
rhoi ystadegau ar nifer yr
‘oriau ambiwlans a gollwyd’ oherwydd yr amser a gymerwyd y tu allan i Adrannau
Damweiniau ac Achosion Brys i ‘drosglwyddo’ cleifion i ofal y Bwrdd Iechyd. Roedd nifer yr 'oriau a gollwyd’ yn ardal BIPBC yr uchaf yng Nghymru yn
gyson.
Fodd bynnag, roedd llawer o waith wedi’i wneud yn Ysbyty
Glan Clwyd gyda’r bwriad o wella perfformiad yn yr ardal hon. Roedd y dull hwn wedi bod yn llwyddiannus a bellach yn cael ei gyflwyno i
Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys eraill ledled Gogledd Cymru;
Rhoddodd
Arweinydd Clinigol Rhanbarthol (Parafeddyg Ymgynghorol) WAST ar gyfer Gogledd
Cymru drosolwg o’r prosiect peilot a wnaed, gyda’r nod o brofi a allai model
cylchdroadol o weithio gan alluogi defnydd effeithiol o Uwch Ymarferwyr
Parafeddygol, leihau derbyniadau ysbyty diangen.
Roedd y cynllun
peilot, a ddigwyddodd rhwng Hydref 2017 a Mawrth 2018 yn cynnwys 10 Uwch
Ymarferydd Parafeddygol, gydag un wedi’i leoli yn y Ganolfan Galwadau Clinigol.
Fel rhan o’r prawf, roedd yr Uwch
Ymarferwyr Parafeddygol yn defnyddio'r dull 'gwrando a thrin' i benderfynu ar y
llwybr gofal gorau i'r claf.
Yn ystod y cyfnod
prawf 4 mis, heb unrhyw effaith andwyol yn codi:
·
Cafodd 1045 o
ddigwyddiadau ‘cod 3 uchaf’ eu trin.
·
Cafodd 30% o achosion eu
datrys a’u cau gan yr Uwch Ymarferwyr Parafeddygol.
·
Dim ond 30% o’r galwadau a
oedd angen ambiwlans brys i’w cludo i ysbyty,
·
Nid oedd 70% o’r galwadau
angen mynd i Adran Achosion Brys ysbyty.
O ganlyniad, roedd 307 o deithiau cludo mewn ambiwlans wedi’u hosgoi, sy’n
cyfateb i 732 awr ambiwlans (neu 61 sifft 12 awr) wedi’u cadw i’w rhoi yn ôl yn
y system. Roedd 95% o
gysylltiadau wedi’u datrys gydag un episod o ofal, gyda lefel boddhad cleifion
yn cael eu cofnodi’n 98%.
Gan fod mwyafrif yr Uwch Ymarferwyr Parafeddygol naill ai yn Ysbyty
Gwynedd, Bangor ar hyn o bryd, neu Ysbyty Maelor, Wrecsam, roedd achos busnes
yn cael ei baratoi ar hyn o bryd i ehangu’r gwasanaeth ar draws Gogledd Cymru.
Roedd gwaith hefyd yn mynd rhagddo
gyda’r bwriad i hyfforddi Uwch Ymarferwyr Parafeddygol i lefel hyd yn oed yn
uwch – byddai hynny’n eu caniatáu i roi meddyginiaethau ar bresgripsiwn
uwchlaw’r hyn y mae’r Cyfarwyddiadau Grŵp Cleifion yn eu caniatáu i’w rhoi
ar bresgripsiwn ar hyn o bryd.
Roedd y potensial o leoli Uwch Ymarferwyr
Parafeddygol mewn sefyllfaoedd gofal sylfaenol ar sail gylchdroadol hefyd yn
cael ei archwilio i roi cefnogaeth i wasanaethau gofal sylfaenol. Yn wahanol i broffesiynau meddygol a
nyrsio eraill, roedd parafeddygon ar hyn o bryd yn cael eu cyflogi ar sail
gradd sengl. Roedd
archwiliad o’r potensial i ddatblygu llwybr i gamu ymlaen mewn gyrfa, gyda’r
posibilrwydd o gyflwyno graddau cyflog a fyddai’n adlewyrchu profiad, sgiliau
arbenigol ac ati’n mynd rhagddo.
Yn ddiweddar, roedd y prosiect peilot wedi’i ddyfarnu â gwobr Rhagoriaeth
mewn AD Academi Cymru a Healthcare People Management Association, ac wedi
cyrraedd y rhestr fer yn y wobr Categori Gwella Diogelwch Cleifion yng Ngwobrau
GIG Cymru.
Fe wnaeth
Cyfarwyddwr Gweithredol Diogelwch o Ansawdd Uchel a Phrofiad Cleifion (Nyrsio)
WAST, a Chyfarwyddwr Nyrsys Gweithredol BIPBC a'r Uwch-nyrs ar gyfer Gwasanaeth
Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych, amlinellu’r
peilot Llwybrau Gofal Amgen, a lansiwyd yn Hydref 2017, a gwaith y Gwasanaeth
Meddyg Teulu Tu Allan i Oriau i liniaru pwysau ar Adrannau Achosion Brys a
gwasanaethau cleifion mewnol ysbyty.
Roedd
Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ledled y DU yn profi’r galw uchaf
erioed am eu gwasanaethau yn ystod gaeaf 2017/18. Roedd y broses Llwybr Gofal
Amgen yn lliniaru pwysau ar Adrannau Achosion Brys drwy gyfarwyddo neu gludo
cleifion lle bo’n briodol i Unedau Mân Anafiadau, a oedd yn gyffredinol yn
agosach at gartref y claf.
Yn yr Uned Mân
Anafiadau, gallent gael y driniaeth addas gan ymarferydd nyrsio neu uwch
ymarferydd nyrsio, a/neu gael eu hasesu am atgyfeiriad i wasanaethau mwy
arbenigol – h.y. gofal y galon, Rheoli Diabetes, Gwasanaethau Alcohol a
Chyffuriau, Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac ati. Roedd gan yr Uned Mân
Anafiadau amgylchedd llawer gwell i’r claf nag Adran Achosion Brys brysur, yn
enwedig os oeddent ag anghenion cymhleth.
Roedd y Bwrdd
Iechyd yn gweithio’n agos gyda Meddygon Teulu a’r Gwasanaeth Meddyg Teulu Tu
Allan i Oriau, o ran atgyfeirio cleifion at Feddygon Teulu, ar gyfer rheolaeth
gofal iechyd parhaus. Tra bod y Gwasanaeth hwn yn gweithio’n agos gyda'r Bwrdd
Iechyd i ddelio â’r cleifion hynny a ddaeth i’r Adran Achosion Brys pan fo
meddygfeydd Meddyg Teulu wedi cau ac ati.
Roedd y
Gwasanaeth Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau, llinell broffesiynol ymroddedig ar
gael i WAST, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill - Galw Iechyd Cymru,
Nyrsys Ardal, Gwasanaethau Marie Curie ac ati – a’r cyhoedd am gyngor Meddyg
Teulu ar gael rhwng 6.30pm bob nos a thros nos tan 8am o ddydd Llun i ddydd
Gwener, a rhwng 6.30pm ddydd Gwener ac 8am ddydd Llun am wasanaeth penwythnos.
Roedd pob galwad
ffôn a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth, yn cynnwys y rhai hynny gan barafeddygon,
lle cafwyd tua 80 i 100 yr wythnos, yn cael eu hadolygu drwy ddefnyddio'r
wybodaeth/hanes a roddwyd gan y galwr, cyn y penderfynwyd ar y llwybr clinigol
mwyaf addas. Roedd
ystyriaeth yn cael ei rhoi ar hyn o bryd i ddatblygu’r Gwasanaeth ymhellach
drwy gael presenoldeb Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau o fewn Gwasanaeth Un
Pwynt Mynediad Sir Ddinbych. Byddai hyn o fudd i’r Gwasanaeth Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau – drwy
gael ei gydleoli gyda gwasanaethau ac asiantaethau iechyd a gofal cymdeithasol
– a byddai hefyd yn cynorthwyo’r Cyngor i fodloni’r gofyniad o gael isafswm o
ddau unigolyn ar gael yn y Gwasanaeth yn ystod penwythnosau ac ati.
Gyda newidiadau
yn nemograffeg y boblogaeth a nifer gynyddol y bobl hŷn yn byw yn y
gymuned, roedd breguster yn dod yn fwy cyffredin. Roedd hyn yn ei dro yn cynyddu’r galw ar
wasanaethau, felly er mwyn rheoli’r galw hwnnw, roedd yn hanfodol bod yr holl
wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r sector gwirfoddol yn cydweithio’n
agos, i fodloni a rheoli’r galw cynyddol, drwy ddyfeisio llwybrau gofal amgen i
gefnogi unigolion.
Gan ymateb i gwestiynau aelodau, fe wnaeth cynrychiolwyr WAST a BIPBC,
ynghyd ag Aelod Arweiniol Sir Ddinbych dros Annibyniaeth a Lles, a Phennaeth y
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol:
·
roi gwybod bod cyfeiriad y
daith a amlinellwyd gan WAST a BIPBC yn eu cyflwyniadau’n mynd yn dda gyda’r
hyn yr oedd y Cyngor am ei gyflawni, yn enwedig o ran rheoli’r Gwasanaeth Un
Pwynt Mynediad;
·
rhoi gwybod mai’r prif
fater i wasanaethau gofal cymdeithasol oedd amseroedd aros i’r ambiwlans gludo
unigolion a aseswyd bod angen eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl;
·
rhoi gwybod bod WAST ar
hyn o bryd yn edrych ar ei Gynllun Iechyd Cyhoeddus i sicrhau ei fod yn ategu
at ei holl gynlluniau gweithredol a’i Gynllun Lles;
·
cytuno bod angen a
dyletswydd i addysgu a chyfathrebu gyda phreswylwyr ynghylch pryd i gysylltu
â’r Gwasanaeth Ambiwlans a pha wasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol eraill y
dylid eu hystyried cyn ffonio 999;
·
cadarnhau bod pob Uned Mân
Anafiadau yn Sir Ddinbych, ac ar draws Gogledd Cymru, wedi bod ynghlwm wrth y
peilot Llwybrau Gofal Amgen;
·
cadarnhau bod WAST yn
gweithio’n agos gyda'r Gwasanaeth Tân ac Achub ar nifer o fentrau. Roedd uchelgais o hyd i gyflwyno cyd-ymateb ar draws
Gogledd Cymru, lle byddai staff y Gwasanaeth Tân ac Achub a phersonél y
Gwasanaethau Ambiwlans yn ymateb gyda’i gilydd i ddigwyddiad, gyda’r bwriad o
ddechrau’r driniaeth addas i’r claf yn syth wedi i’r cerbyd argyfwng cyntaf
gyrraedd digwyddiad.
Roedd gan y ddau wasanaeth drefniadau rhannu data hefyd. Fe wnaeth staff y Gwasanaeth Tân ac Achub a oedd yn cynnal Gwiriadau
Diogelwch Tân yn y Cartref hefyd nodi peryglon baglu neu lithro posibl mewn cartref
unigolyn, unrhyw arwyddion o afiechyd, camdriniaeth neu esgeulustod, materion ffordd allan a
pharatoi cynlluniau gadael mewn achos o argyfwng, y gallai pob un ohonynt fod
yn wybodaeth werthfawr i wasanaethau eraill, fel y Gwasanaeth Ambiwlans os oeddent
yn cael eu hanfon i'r cyfeiriad penodol hwnnw yn y dyfodol. Roedd WAST hefyd yn gweithio gyda’r Gwasanaethau Tân ac Achub a’r Heddlu
mewn perthynas â phryderon diogelu a/neu arwyddion o ddementia. Po fwyaf oedd yr wybodaeth y gallai asiantaethau ei rhannu am unigolion yr
oeddent yn ymgysylltu â nhw, y gorau fyddai'r lefel o ofal y gallai
gwasanaethau eraill eu rhoi i'r unigolion hynny pan fyddai'r angen yn codi;
·
cydnabod nad oedd Uwch
Ymarferwyr Parafeddygol wedi'u hyfforddi gan Feddyg Teulu, nid oedd disgwyl
iddynt fod â'r wybodaeth a chyfres sgiliau Meddygon Teulu. Roedd eu sgiliau’n fwy helaeth na pharafeddygon, ac felly roeddent yn
adnodd ategol a allai roi ymyrraeth gynnar a gofal i glaf, ac o bosibl, atal yr
angen am ragor o ymyrraeth feddygol mwy cymhleth yn hwyrach ymlaen. Roeddent hefyd â’r wybodaeth a’r profiad i benderfynu ar y llwybr gofal cam
nesaf mwyaf addas i'r claf, os oedd angen un;
·
cytuno gydag aelodau
Pwyllgor bod yr Ymatebwyr Cyntaf gwirfoddol yn allweddol i ardaloedd gwledig
gan fod ganddynt y sgiliau i nodi ataliad y galon, mynediad at ddiffibrilwyr
a’r sgiliau i’w defnyddio, yn ogystal â'r wybodaeth i ddelio ag achosion o
faglu a chwympo;
·
rhoi gwybod bod nifer y
gwelyau ar gael ym mhob Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn benderfyniad y
Bwrdd Iechyd.
Fodd bynnag, roedd y galw am welyau yn yr adrannau hyn yn
amrywio bob dydd ac yn anodd iawn i’w ragweld h.y. roedd Adran Damweiniau ac
Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd wedi rhagweld 60 ambiwlans i gludo cleifion i’r
Adran y diwrnod blaenorol, y cyfanswm gwirioneddol ar ddiwedd y dydd oedd 68
ambiwlans yn cludo cleifion i’r Adran. Er iddynt gael mwy
o ambiwlansys na’r disgwyl, roedd yr Adran wedi gallu delio’n ddiogel â’r
cleifion;
·
rhoi gwybod i aelodau bod
yr oedi a gafwyd wrth drosglwyddo cleifion i ysbytai rhanbarth cyffredinol yn
deillio o’r Bwrdd Iechyd yn methu â rhyddhau cleifion i lefydd diogel eraill
h.y. eu cyfeiriad cartref, ysbyty cymunedol ac ati. Yn gyffredinol, o ran
rhyddhau pobl i'w cyfeiriad cartref, cafwyd problem gydag oedi wrth drefnu
pecynnau gofal i'r unigolion dan sylw;
·
cadarnhau, gyda’r bwriad o
gynorthwyo preswylwyr i gael y gwasanaethau cywir gyda’u galwad ffôn cyntaf,
bod WAST yn archwilio’r dichonoldeb o sefydlu ‘Canolbwynt Clinigol’ yng
Ngogledd Cymru.
Y bwriad oedd y byddai pobl sy’n deialu 999 neu 111 yn
cael eu cyfeirio at y gwasanaeth cywir. Roedd gwasanaeth
tebyg eisoes yn gweithredu yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg. Gobeithiwyd y byddai cam cyntaf y gwasanaeth hwn ar gael yn ardal BIPBC mewn
pryd ar gyfer y gaeaf sydd i ddod, gyda’r bwriad o adeiladu ar y gwasanaeth
sydd ar gael drwy’r Canolbwynt yn y dyfodol;
·
rhoi gwybod bod
Ambiwlansys sy'n aros er mwyn ymateb i alwadau brys wedi'u lleoli mewn
Gorsafoedd Ambiwlans ac mewn cilfannau ger ochr y ffordd. Roedd penderfyniadau o ran eu lleoliadau wedi’i seilio ar gyflawni'r cwmpas
gorau y gallai cerbyd argyfwng ei roi i’r ardal honno ar yr adeg benodol honno;
·
egluro bod y cyfleuster
Gwiriwr Symptomau ar wefan Galw Iechyd Cymru’n nodwedd eithriadol o ddefnyddiol
i’r cyhoedd.
Yn y dyfodol, gydag esblygiadau technolegol, gall
gwasanaethau defnyddiol eraill fod ar gael i ddyfeisiau symudol;
·
cadarnhau bod WAST a’r
Bwrdd Iechyd yn cydweithio'n agos gyda phob un o'r 6 gwasanaeth Un Pwynt
Mynediad yng Ngogledd Cymru ac yn atgyfeirio achosion atynt. Disgwyliwyd unwaith y byddai ar ei draed, y byddai'r gwasanaeth Canolbwynt
Clinigol newydd hefyd yn cyfeirio pobl at yr Un Pwynt Mynediad ar gyfer eu
hardal.
Fodd bynnag, byddai’n ddefnyddiol i WAST, BIPBC a
gwasanaethau rhanbarthol ac isranbarthol eraill gael un rhif ffôn penodol a
fyddai’n eu cysylltu at yr Un Pwynt Mynediad, yn hytrach na chael chwe rhif
ffôn gwahanol iddynt, fel a geir ar hyn o bryd. Fodd
bynnag, roeddent o’r farn y byddai gweithio’n agosach rhwng pob asiantaeth yn
hanfodol os oedd pwysau demograffig am gael eu rheoli’n effeithiol;
·
rhoi gwybod bod
cynrychiolwyr WAST yn cyfarfod yn rheolaidd gyda Llywodraeth Cymru (SG) a Phrif
Weithredwyr y saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru; a
·
chadarnhau bod y cynnig i
gyflwyno’r Gwasanaeth Uwch Ymarferwyr Parafeddygol ar draws Gogledd Cymru
bellach yn ffurfio rhan o gynllun busnes WAST am y flwyddyn i ddod. Roedd y Gwasanaeth a’r Bwrdd Iechyd hefyd yn archwilio’r hyfywedd o ehangu
ar oriau agor Uned Mân Anafiadau a fferyllfeydd a weithredir gan wasanaeth
iechyd.
Roedd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol am wneud ymholiadau ynghylch unrhyw ddata
y gallai’r Cyngor eu rhannu gyda WAST – gan ei fod yn ymwybodol bod y
Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd er enghraifft yn cadw gwybodaeth yn
dilyn ymweliadau Iechyd Amgylcheddol, neu ymweliadau gorfodi i Dai
Amlfeddiannaeth.
Dywedodd
cynrychiolwyr WAST a BIPBC os byddai aelodau Pwyllgor yn dymuno ymweld â'r
Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd, y byddent yn hwyluso
ymweliad.
Ar ddiwedd y
drafodaeth diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr WAST a BIPBC am fynychu, am
roi eu cyflwyniad ac ateb cwestiynau’r Aelodau. Fe'i llongyfarchodd am y gwelliannau i’r Gwasanaethau
Ambiwlans a Thu Allan i Oriau, a’u hannog i barhau i anelu at wella
gwasanaethau ar gyfer preswylwyr y sir, gan fod gwasanaethau iechyd yn cyffwrdd
bywyd pob preswylydd. Felly:
Penderfynwyd: - yn amodol ar yr arsylwadau uchod, i dderbyn y
cyflwyniadau gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r Gwasanaeth
Meddyg Teulu Tu Allan i Oriau.