Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED EIDDO NEWYDD – CO-OP (SAFLE ADEILAD NEWYDD YN GYFAGOS I LYS YR YNADON, PRESTATYN), VICTORIA ROAD, PRESTATYN
Ystyried cais am
Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003
(amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).
Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor
(sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais fel y gwnaed cais amdano.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r
canlynol –
(i)
cais wedi dod i law gan Co-op Food Limited mewn perthynas
â Co-op, Victoria Road, Prestatyn (Atodiad A i’r adroddiad);
(ii)
y bwriad i weithredu'r eiddo fel siop gyfleus a fydd ar
agor bob dydd o’r wythnos ac yn gwerthu nwyddau, eitemau amrywiol ac alcohol
i’w yfed oddi ar y safle yn unig;
(iii)
mae’r ymgeisydd wedi gofyn am awdurdod i ddarparu alcohol
fel a ganlyn -
GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG |
DYDDIAU PERTHNASOL |
AMSEROEDD |
Darparu Alcohol (i’w
yfed oddi ar y safle) |
Dydd Llun – dydd Sul |
06.00 – 23:00 |
Oriau y bydd yr eiddo
yn agored i’r cyhoedd |
Dydd Llun – dydd Sul |
06.00 – 23:00 |
(iv)
mae un sylw ysgrifenedig (Atodiad B i’r adroddiad) wedi
dod i law gan barti â diddordeb mewn ymateb i'r hysbysiad cyhoeddus, yn ymwneud
ag aflonyddwch posibl o sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol;
(v)
mae’r ymgeisydd wedi nodi parodrwydd i gyfryngu gyda’r
parti sydd â diddordeb, fodd bynnag, mae’r gwrthwynebydd wedi nodi bod gwell
ganddynt i'r mater ddod ger bron aelodau;
(vi)
yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyladwy i
Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr
Ysgrifennydd Gwladol; deddfwriaeth arall berthnasol ac i sylwadau perthnasol a
dderbyniwyd, a’r
(vii)
opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar y
cais.
Cyflwynodd y Swyddog
Trwyddedu’r adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.
CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD
Roedd Mr. R. Arnot,
Cyfreithwyr Ward Hadaway a Mr. O. Jones, Rheolwr Siop Co-op yn bresennol ar ran
yr Ymgeisydd (Co-operative Food Limited).
Wrth gyflwyno achos ei
gleient, rhoddodd Mr. Arnot -
·
ychydig o wybodaeth gefndir i Co-operative Food Limited,
gan roi gwybod ei fod yn fanwerthwr mawr, adnabyddus, hir-sefydledig gydag enw
da, gyda chynlluniau am ragor o fuddsoddiad ac ehangiad i Gymru; eglurodd
werthoedd craidd Co-op hefyd a'u bod yn cefnogi cymunedau lleol ac elusennau
·
rhoddwyd gwybod bod y cais yn ymwneud ag adeilad newydd
Siop Co-op ym Mhrestatyn, a oedd i fod i agor yn Ebrill 2019 gydag oriau agor
safonol (6.00 am - 11.00 p.m.) er mwyn gwasanaethu i
anghenion cwsmeriaid ac adlewyrchu arferion siopa modern
·
dangoswyd bod gwerthiant alcohol yn ymwneud â thua 15%
o’r trosiant, gydag 85% o’r trosiant yn ymwneud â bwyd ac eitemau amrywiol, gan
ddangos bod gwerthiant alcohol yn ategol at amrediad eang o gynhyrchion
domestig y Siop
·
ymhelaethwyd ar bolisïau a gweithdrefnau cynhwysfawr
Co-op, gan gynnwys pob mater yn ymwneud ag oedran, gyda chyfeiriad penodol at
hyfforddiant a systemau ar gyfer sicrhau y cedwir yn llym at y polisi Her 25
(roedd manylion ynghylch Llawlyfr Hyfforddiant Craidd Co-op a gwybodaeth Oedran
yn Bwysig wedi'u cylchredeg yn flaenorol i aelodau, ynghyd â chynllun bloc o'r
eiddo)
·
cynllun manwl o’r eiddo a lleoli alcohol yn strategol
oddi wrth y fynedfa, er mwyn atal mynediad uniongyrchol at gwsmeriaid, ynghyd â
nifer a lleoliad y camerâu TCC mewnol ac allanol
·
cynghorwyd, yn unol â'r arfer, y cysylltwyd â’r Heddlu yn
ystod y cam cynnar yn y broses a'u bod wedi cadarnhau eu bod yn fodlon o ran
cynigion ar gyfer y Siop; tynnwyd sylw hefyd at y ffaith nad oedd unrhyw
wrthwynebiadau i’r cais wedi dod i law gan awdurdodau cyfrifol
·
dyfynnwyd Canllaw a gyflwynwyd o dan Adran 182 o Ddeddf Trwyddedu
10.15 yn ymwneud ag oriau masnachu: “Dylai siopau ac archfarchnadoedd fod yn
rhydd i werthu alcohol i'w yfed oddi ar y safle ar unrhyw adeg pan fydd y siop
yn agored, oni bai bod rhesymau da, yn seiliedig ar amcanion trwyddedu, ar
gyfer cyfyngu ar yr oriau hynny” a gafodd ei adlewyrchu hefyd yn Natganiad
Polisi Trwyddedu’r Cyngor, Adran 8.5: “Caiff siopau ac archfarchnadoedd
ganiatâd yn gyffredinol i werthu alcohol yn ystod oriau arferol maent yn
bwriadu agor, ond gall eiddo unigol, y mae ardal yn canolbwyntio arnynt ar
gyfer anhrefn ac aflonyddwch, yn amodol ar sylwadau, fod yn destun y
cyfyngiadau hyn”.
Ar ôl darparu mesurau
manwl ynghylch sut roedd y Co-op yn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu, ymatebodd
Mr. Arnot yn uniongyrchol i’r sylw ysgrifenedig a ddaeth i law ac atgoffodd
aelodau fod y cyfrifoldeb ar y gwrthwynebydd i roi tystiolaeth o fethiant
tebygol i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu.
Roedd caniatâd cynllunio wedi’i roi yn yr achos hwn yn unol â’r oriau
agor, ac roedd y mater ar gyfer y gwrandawiad yn ymwneud â’r cais i werthu
alcohol yn unig. Dadleuwyd bod y safle’n
lleoliad perffaith ar gyfer siop gyfleus i wasanaethu cwsmeriaid sy’n cyrraedd
ar droed ac ar y ffordd, ac o ystyried fod yr eiddo ar lwybr bws, nid oedd yn
ardal breswyl yn unig. O ran ofnau
preswylwyr o niwsans cyhoeddus, fe gyflwynwyd eu bod yn ddi-sail - byddai'r
Siop a'r maes parcio'n cael eu goleuo'n dda gyda chamerâu TCC yn cael eu
gweithredu, ac nid oedd unrhyw beth i ddenu pobl ifanc i gasglu yn yr ardal
honno. Roedd profiad yn y gorffennol o
wrandawiadau trwyddedu, gyda phryderon tebyg gan breswylwyr wedi dangos nad
oedd y problemau a ragwelwyd wedi digwydd ac roedd y preswylwyr hynny bellach
yn gwsmeriaid rheolaidd.
Mewn ymateb i gwestiwn
aelod, rhoddodd Reolwr Siop y Co-op, Mr. Jones, wybod fod y siop roedd yn ei
rheoli'n rhannu maes parcio gyda thafarn ac nid oedd unrhyw faterion o niwsans
cyhoeddus neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Roedd gan y siop berthynas ragorol gyda’r gymuned, ac yn unol â’u cais,
roeddent wedi codi arian yn ddiweddar ar gyfer diffibriliwr. Nid oedd unrhyw faterion hysbys o aflonyddwch
neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig ag unrhyw un o’r siopau Co-op
hyn.
CYFLWYNIAD Y PARTI Â DIDDORDEB
Roedd un sylw
ysgrifenedig wedi dod i law (Atodiad B i’r adroddiad) gan y Cynghorydd Tony
Flynn ar ran ei breswylwyr yn Ward Gogledd Prestatyn, yn gwrthwynebu’r
gwerthiant o alcohol yn yr eiddo o 6.00 am tan 11.00 pm ar sail niwsans
cyhoeddus ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Diolchodd y Cynghorydd Flynn
i’r Co-op am eu buddsoddiad yng Ngogledd Cymru a'u croesawu i ardal ei
ward. Fe wnaeth gydnabod a chroesawu'r
mesurau hefyd er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu, a rhoddodd wybod bod y
gwrthwynebiad hwn yn ymwneud â gwerthu alcohol yn ystod oriau hwyrach yn
unig. Wrth gyfeirio at ei sylw
ysgrifenedig, eglurodd bryderon preswylwyr ynghylch niwsans sŵn ac
aflonyddwch gan gwsmeriaid yn hwyr yn y nos, o ystyried pa mor agos yw mynediad
y siop at eiddo ar Windermere Drive.
Wrth gydnabod llwyddiant Siopau’r Co-op ym Mhrestatyn a Rhuddlan,
dywedodd nad oedd y siopau hynny wedi'u lleoli mewn ardal breswyl ddistaw fel
yn yr achos hwn, lle'r oedd plant ifanc a phobl hŷn yn mynd i'r gwely am
9.00 pm. O ganlyniad, roedd y
gwrthwynebiad yn seiliedig ar werthu alcohol ar ôl 9.00 pm, a allai arwain at
amharu ar breswylwyr cyfagos wrth geisio cysgu, yn enwedig o ystyried bod
sŵn yn swnio’n uwch ac yn teithio ymhellach yn ystod yr oriau hwyrach
hynny. Cyfeiriodd y Cynghorydd Flynn
hefyd at eiddo eraill yn gwerthu alcohol yn hwyr yn y nos yn yr ardal, ond nid
yn yr ardal breswyl honno’n uniongyrchol.
Wrth gloi, rhoddodd wybod y byddai preswylwyr yn cefnogi’r Co-op ond
roeddent yn gwrthwynebu’r oriau trwyddedu hwyrach, a gofynnodd yn barchus a
oedd modd cyfyngu ar y rhain.
Edrychodd yr Aelodau ar
gynllun o'r eiddo gan ystyried lleoliad y siop yn yr ardal a'i hagosatrwydd at
eiddo preswyl. Nodwyd bod Gorsaf Heddlu
yn arfer bod ar y safle a fyddai yn ei hun wedi arwain at lefel benodol o
sŵn ac aflonyddwch. Mewn ymateb i
gwestiynau, ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth o ran niwsans/aflonyddwch
cyhoeddus neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, mewn perthynas ag eiddo eraill y
cyfeiriwyd atynt yn yr ardal yn gwerthu alcohol yn hwyr yn y nos. Awgrymodd Mr. Jones y gallai gwrthod gwerthu
alcohol ar ôl 9.00 pm tra bod y siop yn agored i gwsmeriaid, greu problemau yn
ei hun.
DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD
Wrth wneud datganiad
terfynol, ail-adroddodd Mr. Arnot y rhinweddau o fyw ger Siop y Co-op a pha mor
gyfleus ydyw i siopwyr, yn enwedig i'r rhai hynny ag oriau gweithio
anghonfensiynol, ac roedd yr oriau agor yn gwasanaethu ar gyfer galw siopa
modern. Gofynnodd i aelodau ystyried yr
effaith debygol o werthu alcohol yn y siop ar ôl 9.00 pm, gan gadw mewn cof bod
gwerthiannau alcohol ddim ond yn cyfrif am oddeutu 15% o’r trosiant.
GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS
Ar y pwynt hwn (2.30
p.m.) gohiriwyd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried y cais.
PENDERFYNIAD A RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD rhoi’r Drwydded Eiddo fel yr ymgeisiwyd amdani, ac yn
unol â’r amodau fel y nodwyd o fewn yr Atodlen Weithredu, ar gyfer y canlynol -
GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG |
DYDDIAU PERTHNASOL |
AMSEROEDD |
Darparu Alcohol (i’w yfed oddi ar y safle) |
Dydd Llun – dydd Sul |
06.00
– 23:00 |
Oriau y bydd yr eiddo yn agored i’r cyhoedd |
Dydd Llun – dydd Sul |
06.00
– 23:00 |
Cyfleodd y Cadeirydd benderfyniad
yr Is-bwyllgor i bawb yn y cyfarfod a rhoddodd y Cyfreithiwr y rhesymau dros y
penderfyniad fel a ganlyn -
Roedd yr Aelodau wedi ystyried y cais a’r sylwadau a gyflwynwyd yn yr achos
hwn yn ofalus.
Roedd y Co-op wedi rhoi cyfrif cynhwysfawr a manwl ynghylch sut roedd yn
gweithredu fel Cwmni, a sut roedd yn cydymffurfio â’r Amcanion Trwyddedu. Rhoddwyd llawer iawn o fanylder yn y ffurflen
gais ei hun, ond roedd y manylion a roddwyd gan gynrychiolydd y Co-op yn dangos
dull hyderus a chynhwysfawr o ran sut roedd y Cwmni'n cydymffurfio â Deddf
Trwyddedu 2003. Fe wnaeth yr Is-bwyllgor ganfod fod eu dull yn bodloni'r
Amcanion Trwyddedu yn llawn.
Tra bod sylwadau wedi dod i law yn codi pryderon ynghylch beth allai
ddigwydd unwaith y byddai Siop y Co-op yn gweithredu, nid oedd gan y cwynion
unrhyw sylwedd fel tystiolaeth. Byddai
Siop y Co-op yn parhau yn agored o 6.00 am tan 11.00 pm boed a werthir alcohol
ai peidio. Roedd yn siop gyfleus yn ôl
ei natur ac yn gwasanaethu’r cyhoedd ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw. Nid oedd unrhyw dystiolaeth wedi’i chyflwyno
neu ei chynnig o ran materion ymddygiad neu niwsans gwrthgymdeithasol gan eiddo
eraill yn gwerthu alcohol yn hwyr yn y nos, a oedd yn yr un ardal.
Nid oedd yr Is-bwyllgor wedi canfod unrhyw dystiolaeth y byddai unrhyw
drosedd ac anhrefn neu niwsans cyhoeddus yn codi o’r eiddo, pe bai’r drwydded
yn cael ei rhoi. Mewn achos annhebygol y
byddai unrhyw faterion, roedd gan y Co-op a’i reolwr bolisïau a gweithdrefnau
cadarn ac wedi’u profi ar gyfer delio ag unrhyw faterion, drwy TCC, goleuadau,
polisïau Her 25 a hyfforddi staff yn gynhwysfawr. O ganlyniad, ystyriodd yr Is-bwyllgor
Trwyddedu nad oedd achos i wrthod neu addasu’r cais wedi’i wneud, a
phenderfynwyd rhoi’r cais fel yr ymgeisiwyd amdano.
Daeth y cyfarfod i ben am 2.50pm.
Dogfennau ategol: