Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Cofnodion:

Dim materion brys.

 

Ar y pwynt hwn, dywedwyd wrth aelodau y byddai tri chwestiwn yn cael eu cyflwyno fel a ganlyn:

 

(i)            Cododd y Cynghorydd Glenn Swingler y cwestiwn a ganlyn:

 

A fyddai’r Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol cystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyngor am waith a wnaed hyd yma ar y cynnig i ddarparu cynnyrch glanweithiol rhad ac am ddim i ferched ifanc yn ein hysgolion?

 

Ymateb gan yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts:

 

Mae gwaith wedi’i wneud a chysylltwyd â phob ysgol i ddeall anghenion y mater. Roedd yn eithaf clir gan yr ysgolion a’r penaethiaid nad oeddent o’r farn bod angen a diffyg ar hyn o bryd ac roedd yn cael ei reoli’n dda.  Fodd bynnag, yr hyn rydym wedi’i wneud yn ogystal â hyn, yw rydym yn buddsoddi £23,732 mewn offer glanweithiol mewn ysgolion, sy’n cael ei ddosbarthu gan ddefnyddio elfen ysgolion y fformiwla ariannu cyfalaf a hefyd mae £7,388 pellach sy’n cael ei ddosbarthu gan ddefnyddio’r fformiwla asesu gwariant llywodraeth leol safonol diweddaraf.  Mae hyn wedi’i basio drwy’r tîm digartrefedd sydd wedi trefnu bod Tŷ Golau yn caffael, storio a dosbarthu cynnyrch hylendid i ferched.  Caiff £1,000 ei gadw ar gyfer cynnyrch ad hoc.  Mae hyn yn nhermau’r llythyr a gafwyd gan y Gweinidog yng Nghaerdydd yn cefnogi hyn.  Hefyd, beth sydd wedi bod ar flaen yr ysgolion yw’r ymgyrch i roi terfyn ar dlodi mislif.  Mae hyn wedi’i ddefnyddio gan yr ysgolion i godi ymwybyddiaeth ac mae’r padiau ar gael i ysgolion gwladol y DU yn unig ac o leiaf 1% o ferched sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Rydym wedi gwneud gymaint ag a allwn o fewn cyfyngiadau’r gyllideb sydd gennym, a gwnaethom roi’r sicrwydd hwnnw y tro diwethaf yng nghyfarfod y Cyngor.”

 

Yna gofynnodd y Cynghorydd Glenn Swingler a fyddai’r mater yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn y cyfarfod nesaf.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd nad oedd yr eitem ar y rhaglen ar gyfer cyfarfod nesaf y Cabinet oherwydd nad oedd angen penderfyniad ffurfiol ar gyfer y camau gweithredu a gymerwyd ond, os nad oedd aelodau yn fodlon â hynny, gallent siarad â’r Aelod Arweiniol am unrhyw gynigion yn y dyfodol i’w gynnwys ar unrhyw raglen yn y dyfodol.

 

 

(ii)          Cododd y Cynghorydd Rhys Thomas y cwestiwn a ganlyn:

 

Yn ôl y Gymdeithas Llywodraeth Leol, mae pryder difrifol fod cyfyngiadau ariannol yn ei gwneud yn fwyfwy anodd i ddiogelu plant diamddiffyn rhag niwed.  Yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf, mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi gweld cynnydd o tua 10% o ran nifer y plant sy’n dod i ofal yr Awdurdod Lleol.

 

Mae’r Cyngor hwn wedi addo bod diogelu plant diamddiffyn rhag niwed yn brif flaenoriaeth. A all yr Aelod Arweiniol sicrhau’r Cyngor hwn na fydd unrhyw blant neu bobl ifanc yn Sir Ddinbych yn dod i niwed oherwydd cyfyngiadau ariannol ar yr adrannau dan sylw ac a all egluro wrth y Cyngor hwn sut caiff ein gallu i ddiogelu’r plant a phobl ifanc diamddiffyn hyn ei gynnal a’i estyn hyd yn oed, yn ôl yr angen?

 

Ymateb gan yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts:

 

I’r rhai a fynychodd y sesiwn friffio Gwasanaethau Plant yn gynharach yn y flwyddyn, roedd cyllideb yr aeth Karen I Evans a Julie Moss â ni drwyddi o ran proses plant sy’n derbyn gofal yma yn Sir Ddinbych.  Mae neges gref iawn a ddaeth o’r gweithdy hwnnw, sef y bydd Sir Ddinbych bob amser yn rhoi blaenoriaeth i blant sy’n derbyn gofal.  Ni fydd unrhyw gyfyngiad cyllidebol yn atal y gofal mae’r plant hynny’n ei haeddu.  Rydym eisoes wedi gweld yn y gyllideb lle mae gorwariant yn y maes, oherwydd os oes rhywun mewn angen yma yn Sir Ddinbych, a bod rhaid i ni ofalu amdanynt y tu allan i’r sir, rhaid i ni ganfod arian i wneud hynny a byddwn bob amser yn gwneud hynny.  Ffigurau plant sy’n derbyn gofal yn Sir Ddinbych:

 

2013/14 – 160

2015 – 160

2016 – 175

2017 – 165

 

Ni allaf roi’r ffigurau i chi heddiw oherwydd eu bod yn newid yn barhaus.  Mae dyletswyddau cyfreithiol penodol a roddir ar yr Awdurdod Lleol i ddiogelu’r lles sy’n diwallu anghenion y plant sy’n dod i’n gofal.  Nid yw’n fater o ddewis ond mae’n ddyletswydd y mae’n rhaid cydymffurfio â hi.  Mae’r gwasanaeth yn ymrwymedig i flaenoriaethu’r adnodd i ddiwallu anghenion y plant hynny sydd fwyaf diamddiffyn. Yn y pen draw, mae’r capasiti i ddiwallu anghenion y plant hyn yn fater i’r cyngor cyfan oherwydd bydd yn fater a blaenoriaeth o ran rheoli adnoddau fel rhan o’r broses o osod y gyllideb.  Ar hyn o bryd mae gennym orwariant a byddwn bob amser yn rhoi’r plant hyn fel blaenoriaeth.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas ei fod yn falch bod yr Aelod Arweiniol wedi cyfeirio at Her Gwasanaeth Addysg a Phlant ar 8 Chwefror 2018.  Fel aelod o’r Panel hwnnw, dywedodd fod tair her wedi’u rhoi i’r Gwasanaeth.  Y drydedd her oedd y dylai edrych ar ei strwythurau rheoli perfformiad er mwyn cryfhau ei allu i ragweld tueddiadau yn y dyfodol.  Dywedodd fod rhagweld tueddiadau yn y dyfodol yn golygu mewn gwirionedd ei fod yn god ar gyfer pryd fyddai’r gyllideb yn peidio cynyddu.  Gofynnodd bod eglurhad yn cael ei roi i’r Cyngor.  Rhoddwyd sicrwydd iddo gan beth ddywedodd yr Aelod Arweiniol, ond gofynnodd am eglurhad o ran sut byddai plant diamddiffyn yn brif flaenoriaeth bob amser pan oedd y gwasanaeth yn cael ei herio i sicrhau bod ei gostau dan reolaeth?

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fel a ganlyn:

 

Rydym wedi rhoi ymateb cadarnhaol i’r Her honno, oherwydd mae Estyn wedi adrodd yn ôl fod gwaith ailstrwythuro mawr ar gyfer y gwasanaeth a ddaeth â gwasanaethau addysg a phlant at ei gilydd wedi bod yn ffactor sylfaenol yn llwyddiant yr hyn rydym yn ei wneud.  Mae gennym sbectrwm nawr oherwydd mae’r ddwy adran gyda’i gilydd nawr ac rydym yn gwybod ar unrhyw adeg lle mae’r plentyn hwnnw yn ei gylch.  O’r blaen, roedd gwahanol adrannau yn gweithio ac nid oeddent yn siarad â’i gilydd.  Roedd hynny wedi’i gydnabod gan Estyn ein bod yn eithaf unigryw yn y ffordd rydym yn gwneud hynny, ac mae’n helpu i nodi plant yn gyflymach i gael y gwasanaethau cywir iddynt ac i sicrhau eu bod yn cael y gofal gorau posibl maen nhw’n ei haeddu.  Mae cyfyngiadau’r gyllideb yn dal i fod yno ond beth rydym yn ei ddweud yw hyd yma, byddwn yn dal i gynnal y gyllideb mewn gwasanaethau plant, nid yw dan y chwyddwydr ar gyfer toriad yn y rownd nesaf.  Rydym yn ymrwymedig iawn ein bod yn rhoi’r gorau i’n plant ac mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol lle mae’n rhaid i ni dderbyn y plant hyn, a byddwn yn gwneud hynny, ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw Gynghorydd yn yr ystafell hon yn cefnogi’r safbwynt na wnaethom hynny.

 

 

(iii)         Cododd y Cynghorydd Graham Timms y cwestiwn a ganlyn:

 

Yng nghyfarfod y Cyngor llawn ar 30 Ionawr eleni, gwnaeth pob aelod a oedd yn bresennol gytuno’n unfrydol i gynnig a oedd yn gofyn i’r swyddogion perthnasol gyflwyno adroddiad ar oblygiadau ariannol ac AD sy’n gysylltiedig â gweithredu’r Cyflog Byw Real erbyn diwedd 2018.

 

Yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a gytunwyd yng nghyfarfod y Cyngor llawn ar 3 Gorffennaf eleni, dywedwyd y byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn yng nghyfarfod mis Medi.  Fodd bynnag, pan ddosbarthwyd y papurau ar gyfer y cyfarfod, nid oedd yr adroddiad Cyflog Byw Real ar y rhaglen ac roedd yr adroddiad wedi’i ohirio tan fis Rhagfyr.

 

Edrychaf ymlaen at gael yr adroddiad yn ein cyfarfod ym mis Rhagfyr ac rwy’n sylweddoli bod yr amser wedi’i aildrefnu yn dal i fodloni terfyn amser diwedd 2018 a nodwyd yn y cynnig diwygiedig.  Fodd bynnag, a fyddai’n bosibl i’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol egluro pam roedd angen gohirio’r adroddiad ac a fyddai hefyd yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyngor am y cynnydd a wnaed hyd yma o ran y mater pwysig hwn?

 

Ymateb yr Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol, y Cynghorydd Mark Young (ar ran yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill):

 

Darllenodd y Cynghorydd Mark Young ymateb ysgrifenedig gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill nad oedd yn gallu mynychu’r cyfarfod yn anffodus.

 

(Cyfieithiad)

“Yn anffodus, ni fyddaf yn bresennol yng nghyfarfod y Cyngor fory, felly yn unol â’r cyfansoddiad, rwy’n ymateb i chi yn ysgrifenedig.

 

Fel rydych yn ei ddweud, roedd y cynnig diwygiedig a gytunwyd ar y testun hwn yn nodi y byddai’n cael ei adrodd yn ôl i’r Cyngor erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.  Rydych hefyd yn gywir fod hyn ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol y tro diwethaf ar gyfer mis Medi.  Roedd hyn wedi’i nodi fel bod yn anghywir ar ôl ei chyhoeddi pan ddylai fod wedi’i nodi ar gyfer diwedd y flwyddyn ond yn amlwg, nid oedd yn werth ailgyhoeddi’r ddogfen bryd hynny.  Felly, nid yw’r papur wedi’i ohirio.

 

Fel rwy’n siŵr eich bod hefyd yn ymwybodol, mae hwn yn fater cymhleth iawn.  Elfen allweddol wrth amcangyfrif effaith ariannol y Cyflog Byw Real yw deall yn llawn beth yw effaith y dyfarniad cyflog diweddaraf a’r amrywiaeth o effeithiau canlyniadol posibl ar strwythur graddio’r cyngor.  Mae’r dasg hon yn barhaus ar hyn o bryd ac mae gwaith modelu cyflogau manwl yn digwydd.  Mae’n broses gymhleth.  Pan fydd canlyniad gweithredu’r dyfarniad cyflog wedi’i gwblhau a phan fydd sefyllfa fwy pendant am y strwythur graddio yn y dyfodol wedi’i sefydlu, gellir asesu’r gost wahaniaethol rhwng graddfeydd cyflogau’r cyngor a’r Cyflog Byw Real.  Mae amcangyfrifon pellach ar sail yr effaith bosibl ar gontractau allanol allweddol hefyd yn cael eu hystyried.  Caiff yr adroddiad ei gyflwyno ym mis Rhagfyr, yn unol â’r cynnig a basiwyd yn y Cyngor Llawn.

 

Rwy’n ffyddiog y bydd hyn yn egluro faint o waith ac ystyriaeth sydd ei angen ar y cynnig hwn er mwyn darparu'r data angenrheidiol i aelodau er mwyn iddynt wneud penderfyniad cwbl ddeallus am pa waith mae'r tîm yn yr adran Gyllid ac AD yn bwrw ymlaen ag ef ar hyn o bryd.”

 

Ymatebodd y Cynghorydd Graham Timms nad oedd yn fodlon a byddai’n gofyn cwestiwn pellach:

Newidiwyd yr eitem o gyfarfod mis Medi a chafodd ei roi ar gyfarfod mis Rhagfyr.  Cefais drafodaethau helaeth gyda swyddogion y sir a grwpiau am amseriad ac un o’r ffactorau pwysig oedd ei wahanu oddi wrth y dyfarniad cyflog a gafodd ei setlo ar 9 Ebrill felly nid oedd yn gorgyffwrdd â’r gyllideb.  Mae’n beryglus cymysgu’r ddau.  Nid wyf yn cytuno nad yw’n werth rhoi gwybod i’r Cyngor ei fod wedi’i ohirio.  A fyddai’n bosibl ei symud ymlaen i’n cyfarfod nesaf er mwyn ei gyflwyno cyn i’r gyllideb fynd rhagddi?

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n cysylltu â’r tîm a gofyn iddynt ymateb yn uniongyrchol i’r Cynghorydd Timms yn ystod yr wythnos bresennol o ran y terfyn amser.