Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYD-BWYLLGOR CRAFFU AR GYFER Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) sydd yn diweddaru’r aelodau am gynnydd tuag at sefydlu cydbwyllgor craffu ar gyfer Cynghorau Conwy a Sir Ddinbych er mwyn craffu ar y cyd-fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.    Gofynnir i’r Pwyllgor hefyd ystyried y cylch gorchwyl drafft a'r rheolau gweithredu ar gyfer y cydbwyllgor craffu.

 

11am – 11.30am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ei adroddiad gydag atodiadau (a gylchredwyd eisoes) oedd yn amlinellu’r cynnydd a wnaed mewn perthynas â chynnig i sefydlu Cydbwyllgor Craffu rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer craffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych. 

 

Yn ystod ei gyflwyniad, amlinellodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd gefndir y cynnig a’r cyfrifoldebau statudol a roddir ar Awdurdodau Lleol i graffu ar Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer eu hardal. Roedd gwybodaeth fanwl ar y rhain oll yn yr adroddiad.  Amlinellodd hefyd y siwrnai ddemocrataidd a gymerwyd hyd yn hyn o fewn Cynghorau Conwy a Sir Ddinbych a Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus ei hun, ynghyd â chasgliadau’r trafodaethau ar y trefniadau arfaethedig o’r fforymau unigol.  Pe bai Pwyllgor Craffu Partneriaethau Sir Ddinbych yn y cyfarfod presennol, a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau Conwy yn eu cyfarfod ar 2 Gorffennaf yn gefnogol ill dau o'r trefniadau newydd arfaethedig, byddent yn cael eu cyflwyno i Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pob Awdurdod er ystyriaeth cyn cael eu cyflwyno i Gyngor llawn y ddau Awdurdod ym mis Hydref i’w cymeradwyo er mwyn dechrau ar y gwaith o sefydlu Cydbwyllgor Craffu at bwrpas craffu ar Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Gan ymateb i gwestiynau aelodau, gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd

 

·         gadarnhau fod maint y Cydbwyllgor Craffu arfaethedig eto i’w bennu.  Roedd y cylch gorchwyl drafft yn cynnig y dylid cael pwyllgor o 12 aelod – chwech aelod yr un o’r cynghorau cyfansoddol.  Cynigiwyd cydbwyllgor 12 aelod gan y teimlid y byddai fforwm o’r maint yma yn gymorth i sicrhau dadlau a herio adeiladol ac effeithiol.  Gellid cael fod pwyllgor llawer mwy o ran maint yn anhwylus ac felly heb y gallu i gyflawni ei swyddogaeth wreiddiol.  Fodd bynnag, byddai’n bosib newid maint y Pwyllgor ar unrhyw adeg – gan gynnwys wedi ei sefydlu – pe bai'r ddau Gyngor yn cytuno i’r newid hwnnw;

·         hysbysu fod y Rheoliadau sy’n llywodraethu dros sefydliad pwyllgor ar y cyd yn nodi fod yn rhaid i unrhyw gydbwyllgor craffu gynnwys nifer hafal o gynrychiolwyr o bob Awdurdod Lleol sy’n rhan o’r cydbwyllgor.  Wrth benodi aelodau i’r cydbwyllgor, byddai’n ofynnol i bob Cyngor wneud hynny yn seiliedig ar gydbwysedd gwleidyddol yr Awdurdod;

·         esbonio fod y cynnig yn cael ei gyflwyno i nifer o bwyllgorau gwahanol o fewn y ddau Awdurdod cyn ceisio caniatâd y Cyngor Sir i sefydlu cydbwyllgor craffu. Roedd hyn am ei bod yn bwysig sicrhau cefnogaeth ehangach aelodau’r Cyngor i’r cynnig cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Sir i’w gymeradwyo;

·         hysbysu i’r awgrym gael ei wneud y dylid penodi cadeirydd am dymor o ddwy flynedd gan na fyddai’r cydbwyllgor – os sefydlid – yn debygol o gyfarfod yn amlach nac oddeutu dwywaith y flwyddyn yn ystod y blynyddoedd cyntaf.  Dim ond cynnig oedd hyn, ac roedd felly yn agored i’w drafod; ac

·         hysbysodd nad oedd penderfyniad wedi ei wneud hyd yma ar bwy fyddai’r Awdurdod Cynnal a fyddai’n gweinyddu'r Cydbwyllgor Craffu arfaethedig, neu a fyddai'r gwaith yn digwydd am yn ail rhwng y ddau gyngor.  Byddai trafodaethau o’r fath yn cychwyn wedi gofyn barn swyddogaethau craffu y ddau Gyngor.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth roedd aelodau’r Pwyllgor yn gadarn o’r farn mai cael Cydbwyllgor Craffu yn cynnwys 12 aelod – 6 o bob Cyngor – oedd y dewis ffafriedig i bwrpas craffu yn effeithiol ar Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus, ac y byddai’r Cydbwyllgor Craffu o bosib yn dymuno penderfynu ar dymor swydd y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd wedi ei sefydlu.  O ganlyniad:

 

Penderfynwyd: - yng ngolau’r sylwadau uchod i -

 

(i)           gefnogi sefydliad Cydbwyllgor Craffu ffurfiol i graffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych; ac i

(ii)          gymeradwyo cylch gorchwyl a rheolau gweithredu drafft y Cydbwyllgor Craffu

 

 

Dogfennau ategol: