Eitem ar yr agenda
CYLLIDEBAU CYFUN (IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL)
I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid (copi
ynghlwm) sydd yn diweddaru’r Pwyllgor am gynnydd hyd yn hyn wrth ddatblygu a
sefydlu cyllidebau cyfun ar draws gogledd Cymru yn unol â gofynion Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
10.10am – 10.45am
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Annibyniaeth a llesiant adroddiad y
Pennaeth Cyllid (a gylchredwyd eisoes) oedd yn diweddaru’r Pwyllgor ar y gwaith
yr ymgymerwyd ag o hyd yn hyn i ddatblygu a sefydlu cyllidebau cyfun rhwng y
Gwasanaeth Iechyd ac Awdurdodau Lleol ar gyfer darpariaeth rhai swyddogaethau
penodol yn unol â gofynion Adran 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) 2014, ar draws Gogledd Cymru. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys sefydlu cyllideb gyfun ar
gyfer 'arfer swyddogaethau llety cartref gofal’.
Er bod y cysyniad o gyllidebau cyfun at swyddogaethau iechyd a gofal
cymdeithasol yn gymeradwy am mai eu nod oedd i gryfhau darpariaeth gwasanaeth
trwy integreiddio gwasanaethau, cyngor yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion oedd
fod y gwaith fyddai’n ofynnol i’w sefydlu yn unol â gofynion y Ddeddf yn
gymhleth ac yn gofyn am gymryd lefel sylweddol o risg oherwydd y meintiau
ariannol ynghlwm â’r broses.
Yn
unol â gofynion y Ddeddf, roedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol neu Fwrdd Adran
9 wedi ei sefydlu i sicrhau cynnydd yn y maes gwaith yma. Roedd peth amheuaeth yn
dal i fod gan aelodau Bwrdd o’r Gwasanaeth Iechyd a’r Awdurdodau Lleol fel ei
gilydd a fyddai gorfodaeth i sefydlu cyllidebau cyfun ar gyfer swyddogaethau
penodol yn cyflenwi gwasanaethau di-dor gwell ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth,
gan mai tystiolaeth gyfyngedig oedd i gefnogi’r ddamcaniaeth hon yn bresennol. Tra nad oedd y Ddeddf
yn benodol am faint y ‘gronfa’, roedd Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal
Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn gynnar yn 2018 wedi cyfeirio at y ffaith y
dylai pob ‘cronfa’ fod ar lefel ranbarthol yn hytrach nac is-ranbarthol h.y. i
gydweddu â’r ardal Bwrdd Iechyd leol gyfan yn hytrach na’r ardaloedd a
wasanaethir gan is-ranbarthau’r Bwrdd Iechyd, neu ‘gronfa’ rhwng pob Awdurdod
Lleol unigol a’r Bwrdd Iechyd.
O
ganlyniad, roedd Awdurdodau Lleol a byrddau iechyd ar draws holl ranbarthau
Cymru wedi cytuno i ddatblygu cronfa 'rhannu heb risg’. Roedd y dull hwn yn
ddibynnol ar weithgaredd i gydgrynhoi gwybodaeth berthnasol ar wariant ar
wasanaethau i hwyluso dadansoddiad manwl o wariant pob partner, a chynhyrchu
adroddiadau i brofi ymarferoldeb sefydlu ‘cyllidebau cyfun’ ffurfiol yn y
dyfodol. Dylai’r
gweithgaredd hwn helpu i adnabod gor/tanwariant posib pob partner yn y meysydd
‘cyllideb gyfun’ arfaethedig, fyddai’n galluogi mynd i’r afael â unrhyw
risgiau’n deillio o’r rhain cyn sefydlu ‘cyllidebau cyfun’ ffurfiol. Roedd manylder a
fformat y data a oedd yn ofynnol gan bob partner yng Ngogledd Cymru wedi ei gytuno
arno, ac roedd yn y broses o gael ei gasglu a’i ddadansoddi gan Gyngor Sir
Ddinbych fel yr Awdurdod Arweiniol penodedig.
Gan ymateb i gwestiynau aelodau, hysbysodd yr Aelod Arweiniol, y
Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Cymunedau,
y Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol – Cydweithredfa Gwella
Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru:
·
tra bod yna ddisgwyliad
gan Lywodraeth Cymru y dylai ‘cyllidebau cyfun’ fod yn eu lle cyn Ebrill 2019,
fod holl bartneriaid Gogledd Cymru – a rhanbarthau eraill yng Nghymru – o’r
farn ei bod yn fuddiol ymgymryd â gweithgaredd i ychwanegu gwerth i wasanaethau
presennol ar draws y rhanbarth trwy gynnal peilot ar rai prosiectau er mwyn
asesu’r manteision, lleihau unrhyw risgiau, a bod yn fwy hyddysg wrth sefydlu
cyllidebau cyfun i’r gwasanaethau hynny yn y dyfodol.
·
Er nad oedd hyn yn
cyrraedd y targed o sefydlu cyllidebau cyfun ffurfiol, roedd yn ymddangos fod
Llywodraeth Cymru yn derbyn y dull yma;
·
fod yr amcangyfrif
diweddaraf fel y’i cafwyd ar ddiwedd 2017/18 ar gyfer ‘cyllideb gyfun’ i
swyddogaethau llety cartref gofal oddeutu £115m. Roedd
y ffigwr yma yn amlygu graddfa bosib unrhyw ‘gyllideb gyfun’ ranbarthol ac yn
atgyfnerthu barn yr holl bartneriaid ei bod yn well cymryd amser digonol i
gynllunio’n effeithiol at eu sefydlu, ac i brofi'r holl ddata oherwydd y risg
ariannol ynghlwm â methiant;
·
fod yr holl bartneriaid yn
cytuno ag ysbryd a nodau’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
2014, gan gynnwys Adran 9 y Ddeddf oedd yn cyfeirio at drefniadau partneriaethau
a sefydliad trefniadau ‘cyllidebau cyfun’. Tra bod pob partner yn dymuno
cyflenwi gwasanaethau di-dor gwell i breswylwyr Gogledd Cymru, roedd maint,
daearyddiaeth a dwysedd poblogaeth yr ardal yn her ychwanegol wrth geisio
darparu gwasanaethau lleol iawn, a sicrhau arbedion maint.
·
fod strwythurau ariannol y
Bwrdd Iechyd yn wahanol iawn i rai’r Awdurdodau Lleol;
·
fod angen hefyd am
ddiffinio’n glir pa wasanaethau a ystyrid yn wasanaethau gofal cymdeithasol a
pha rai oedd yn wasanaethau gofal iechyd, yn ogystal ag angen am benderfynu ar
ddosbarthiad y gwasanaethau hynny a ystyrid yn gymysgedd o wasanaethau iechyd a
gofal cymdeithasol ar hyn o bryd;
·
nad oedd modd gwneud
unrhyw drefniadau ‘cyllideb gyfun’ ffurfiol heb gefnogaeth Gweithrediaeth pob
un o’r chwech Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ar hyn o bryd, yr oll yr oedd pob sefydliad wedi cytuno iddo oedd cychwyn
ar ‘gytundeb integreiddio’ oedd yn eu hymrwymo i gydweithio ar integreiddio
gwasanaethau lle bo hynny’n briodol. Dyma’r rheswm dros y weithgaredd cyfuno
data.
·
nad oedd cytundeb ffurfiol
ar Adran 33 Deddf Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 wedi ei lofnodi gan
yr un o’r partneriaid hyd yn hyn. Roedd y gwaith
presennol yn ymwneud â chronfa ‘rhannu heb risg’ oedd yn cynnwys adnabod
gwasanaethau ‘cyllideb gyfun’ posib a gwariant pob partner ar y gwasanaethau
hynny.
Byddai hyn o gymorth i siapio cynigion ‘cyllideb gyfun’ y
dyfodol a lleihau unrhyw risgiau ynghlwm â nhw. Unwaith
y byddai pob parti yn ymrwymo i gytundeb Adran 33 ffurfiol, byddent wedi eu
rhwymo gan y gyfraith i dderbyn yr holl ymrwymiadau – ariannol ac fel arall – o
fewn y cytundeb.
O ganlyniad, byddai atebolrwydd cyfreithiol dros unrhyw
rwymedigaethau heb eu bodloni;
·
fod staff Sir Ddinbych ar
hyn o bryd yn cymryd y prif rôl yn y gwaith o ddatblygu gwaith o gwmpas
trefniadau ‘cyllideb gyfun’ yn unol â’r ‘cytundeb integreiddio’. Fodd bynnag, pe bai Sir Ddinbych am fod yn Awdurdod Cynnal fyddai’n
gyfrifol am weinyddu a rheoli gofynion Adran 9 y Ddeddf yn y dyfodol, byddai
angen sicrhau seilwaith drefniadol ddigonol i gefnogi’r gwaith hwnnw;
·
y byddai cyfraniad pob
partner at unrhyw ‘gyllideb gyfun’ yn y dyfodol yn seiliedig ar eu gwariant
presennol ar y gwasanaethau a gynhwysid yn y ‘gyllideb gyfun’ ac nid ar sail
maint poblogaeth; ac
·
fod y Bwrdd Partneriaeth
Adran 9, erbyn Ebrill 2019, yn anelu at fod wedi cwblhau’r gweithgaredd cyfuno
gwybodaeth a bod cronfa ‘rhannu heb risg’ wedi ei sefydlu, nid cyllideb gyfun
ffurfiol Adran 33.
Byddai’r gwaith ar ddatblygu cytundeb ffurfiol Adran 33
yn cychwyn pan fyddai’r data wedi ei ddadansoddi yn ddibynadwy, a'r risgiau
wedi eu hasesu yn ddigonol i sicrhau y gellid llunio trefniadau cyllideb gyfun
posib.
Ar ddiwedd y drafodaeth:
Penderfynwyd: - yng ngolau’r sylwadau
uchod i -
(i)
gadarnhau ei fod
wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad Effaith Llesiant (Atodiad 1) fel
rhan o’i ystyriaeth;
(ii)
dderbyn y wybodaeth
ddiweddaraf, a nodi’r gwaith sy’n cael ei ddatblygu i gynhyrchu gwybodaeth
ariannol ranbarthol (cronfa rhannu heb risg); ac
(iii)
i wneud cais am
gyflwyno adroddiad cynnydd pellach i’r Pwyllgor ymhen deuddeng mis oni bai fod
datblygiadau sylweddol neu newidiadau yn golygu fod angen cyflwyno adroddiad
i’r Pwyllgor ar adeg cynharach.
Dogfennau ategol:
- Partnerships Scrutiny PB Update 06.18, Eitem 6. PDF 286 KB
- Pooled Budgets Report 280618 - Appendix 1, Eitem 6. PDF 84 KB