Eitem ar yr agenda
GWELEDIGAETH A STRATEGAETH DWF AR GYFER ECONOMI GOGLEDD CYMRU: TREFNIADAU LLYWODRAETHU
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr
Economi a Llywodraethu Corfforaethol, (copi wedi’i amgáu) ynglŷn â’r
Cytundeb Llywodraethu sydd ei angen i ffurfioli trefniadau cyfansoddiadol Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a rhoi pwerau penderfynu i’r Bwrdd o fewn
terfynau penodol.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod -
(a) cynnydd ar
ddatblygiad Cynnig y Fargen Twf i’w nodi a’i groesawu;.
(b) bod y Cabinet yn
cymeradwyo Cytundeb Llywodraethu’r cam cyntaf yn amodol ar gymeradwyaeth y
Cyngor o’r trefniadau anweithredol h.y. y trefniadau ar gyfer Craffu;
(c) cyflwyno drafft
terfynol y Cynnig Bargen Twf i’r Cyngor ei adolygu a’i ganiatáu ym mis
Medi/Hydref, cyn cam cyrraedd Penawdau Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth.
(d) rhoi awdurdod
dirprwyedig i’r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth
Cyhoeddus a Phennaeth Cyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd,
mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd, i gwblhau telerau’r Cytundeb Llywodraethu’n
sylweddol yn unol â’r drafft sydd ynghlwm wrth yr adroddiad hwn, a
(e) bod y Cabinet yn
cymeradwyo’r trefniadau gweithredol sydd wedi’u cynnwys yn y Cytundeb
Llywodraethu a bod y Cyngor yn cymeradwyo eu cynnwys yn y Cyfansoddiad ynghyd
â’r trefniadau anweithredol yn ymwneud â Chraffu.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad ynglŷn â’r Cytundeb Llywodraethu sy’n
ofynnol er mwyn ffurfioli trefniadau cyfansoddiadol Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru, a rhoi pwerau gwneud penderfyniadau iddynt o fewn y terfynau
rhagnodedig.
Darparwyd
rhywfaint o wybodaeth gefndir ynglŷn â chymeradwyaeth cydweithrediadau
blaenorol er mwyn mabwysiadu’r Weledigaeth Twf a datblygu Cynnig Bargen Twf. Roedd y cam nesaf yn gofyn am
gymeradwyaeth ar gyfer cam cyntaf y Cytundeb Llywodraethu gan chwe awdurdod
lleol Gogledd Cymru- ceisiwyd cymeradwyaeth y Cabinet am ei fod yn ymwneud â
threfniadau gweithredol yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor Llawn ar gyfer y
trefniadau anweithredol. Roedd
y Cytundeb Llywodraethu cyntaf yn ymwneud â’r cam paratoadol a datblygiadol hyd
at ganol mis Gorffennaf 2019. Wedi hynny byddai angen cymeradwyo Cytundeb
Llywodraethu manylach i fynd i’r afael â cham gweithredu a darparu’r prosiect.
Croesawodd
y Cabinet y cynnydd o ran datblygu’r Cynnig Twf a phwysleisio bod angen
trefniadau llywodraethu cadarn, yn enwedig wrth symud ymlaen i’r ail gam o
flaenoriaethu prosiectau yn y rhanbarth a'r cyfraniadau ariannol. Mewn ymateb i gwestiynau
cafwyd yr ymatebion canlynol gan yr Arweinydd a Phennaeth Gwasanaethau'r
Gyfraith, AD a Democrataidd -
·
nodwyd aelodaeth y Bwrdd a oedd
yn cynnwys cynrychiolwyr o’r chwe awdurdod lleol, dwy brifysgol, dau goleg
addysg bellach a Chyngor Busnes Merswy Dyfrdwy Gogledd Cymru a chadarnhau'r
darpariaethau sydd ar waith ar gyfer eilydd enwebedig a chynrychiolwyr
ychwanegol i sicrhau parhad.
·
Cadarnhawyd mai model
cydbwyllgor yw'r mwyaf priodol o ran llywodraethu ar hyn o bryd ond gofynnwyd i
Lywodraeth Cymru greu model sy'n fwy priodol gan mai dim ond yr awdurdodau
lleol sydd â hawliau pleidleisio ac nid oes darpariaeth o'r fath ar gyfer y partneriaid.
·
Ymhelaethwyd ar y map
llywodraethu a oedd yn cynnwys fforwm budd-ddeiliaid gyda chynrychiolwyr o’r
sectorau perthnasol a monitro’r Bwrdd ac eglurwyd y byddai’r ail gam yn cynnwys
sefydlu nifer o is-grwpiau amrywiol.
·
eglurwyd y darpariaethau yn Atodiad
1 (Polisi Dirprwyaeth), pwynt 21 a oedd yn ymwneud â materion achlysurol gydag
unrhyw brif faterion yn cael eu cadw'n ôl fel y nodwyd yn y tabl.
·
cynghorwyd bod pob awdurdod
lleol yn cael eu cynrychioli ar y Bwrdd gan eu Harweinydd a byddai penderfyniadau’n
cael eu llunio’n unol â’r trefniadau llywodraethu a gytunwyd gydag atebolrwydd
clir.
·
Eglurwyd bod cyllid o £50,000
wedi’i ymrwymo i symud ymlaen â’r gwaith cychwynnol ond byddai angen ystyried
buddsoddiad pellach wrth i faterion symud ymlaen ac wrth i gostau prosiectau
posibl a chyfraniadau ariannol ddod yn fwy eglur
·
eglurwyd y trefniadau craffu a
fyddai’n golygu craffu lleol yng ngham cyntaf y Cytundeb Llywodraethu gyda’r
posibilrwydd o graffu’n rhanbarthol yn yr ail gam.
·
eglurwyd cyd-destun y Cynllun
Datblygu Lleol o ran prosiectau posibl yn y dyfodol gyda Bodelwyddan wedi’i
nodi fel blaenoriaeth ar gyfer yr ardal –nid oedd effaith ar y trefniadau
presennol o ganlyniad i’r Cytundeb Llywodraethu.
PENDERFYNWYD –
(a) Nodi a chroesawu’r cynnydd ar ddatblygiad y Cynnig Bargen Twf;
(b) Cymeradwyo cam cyntaf y Cytundeb Llywodraethu yn amodol ar gymeradwyaeth y
Cyngor o'r trefniadau anweithredol h.y. trefniadau ar gyfer Craffu;
(c) Cyflwyno drafft terfynol Cynnig Bargen Twf i’r Cyngor i’w adolygu a’i
gymeradwyo ym mis Medi / Hydref cyn y cam o lunio penawdau'r telerau gyda’r
ddau Lywodraeth;
(d) Y rhoddir yr awdurdod i’r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus a Phennaeth y
Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democrataidd, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, i
benderfynu ar delerau terfynol y Cytundeb Llywodraethu’n unol â'r drafft sydd
ynghlwm â'r adroddiad hwn, a
(e) Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r trefniadau gweithredol a nodwyd yn y Cytundeb
Llywodraethu ac yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo eu cynnwys yn y
Cyfansoddiad ynghyd â'r trefniadau anweithredol yn ymwneud â Chraffu.
Dogfennau ategol:
- GROWTH BID, Eitem 5. PDF 275 KB
- GROWTH BID - APP 1, Eitem 5. PDF 264 KB
- GROWTH BID - APP 1(1) E, Eitem 5. PDF 397 KB
- GROWTH BID - APP 2 E, Eitem 5. PDF 567 KB