Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 23/2017/1218 – GWESTY BRYN MORFYDD, LLANRHAEADR
- Meeting of Pwyllgor Cynllunio, Dydd Mercher, 20 Mehefin 2018 9.30 am (Item 8.)
- View the declarations of interest for item 8.
Ystyried cais i
ddymchwel adeiladau gwesty presennol a chodi gwesty newydd 39 ystafell wely;
diwygiadau i gynllun parc cabanau gwyliau 42 uned y cychwynnwyd arno, i gynnwys
cyfanswm o 58 caban, ymestyn y parc cabanau gwyliau gan ddefnyddio 3 parsel o
dir i leoli 31 caban ychwanegol (sy’n gwneud cyfanswm o 89 caban); a gwaith
cysylltiedig gan gynnwys mynediadau newydd ac wedi’u haddasu i gerbydau, gwaith
priffyrdd, mannau pasio, systemau draenio, strwythurau cynnal, lliniaru'r
effaith ar ystlumod, darparu mannau hamdden a thirlunio yng Ngwesty Bryn
Morfydd, Llanrhaeadr YC, Dinbych (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Datganodd y Cynghorydd Joe Welch gysylltiad personol gan ei fod yn aelod o’r un clwb rhedeg â pherchennog Bryn Morfydd.
Cymerodd y Cynghorydd Alan James, Is-Gadeirydd, y gadair ar gyfer yr eitem ganlynol.
Cyflwynwyd cais i ddymchwel adeiladau gwesty presennol a chodi gwesty newydd 39 ystafell wely; diwygiadau i gynllun parc cabanau gwyliau 42 uned y cychwynnwyd arno, i gynnwys cyfanswm o 58 caban, ymestyn y parc cabanau gwyliau gan ddefnyddio 3 parsel o dir i leoli 31 caban ychwanegol (sy’n gwneud cyfanswm o 89 caban); a gwaith cysylltiedig gan gynnwys mynediadau newydd ac wedi’u haddasu i gerbydau, gwaith priffyrdd, mannau pasio, systemau draenio, strwythurau cynnal, lliniaru'r effaith ar ystlumod, darparu mannau hamdden a thirlunio yng Ngwesty Bryn Morfydd, Llanrhaeadr YC, Dinbych.
Siaradwr Cyhoeddus -
Dywedodd Mr John Paul Williams (Yn Erbyn) fod pryderon wedi’u mynegi ynghylch graddfa, effaith ar y gymuned, diogelwch ffyrdd, llygredd sŵn, llygredd aer a phroblemau cŵn posibl oherwydd pa mor agos oedd Bryn Morfydd at dir pori/ amaethyddol. Byddai graddfa’r datblygiad yn ormodol ac yn cael effaith niweidiol ar gymeriad y safle ac yn creu golygfa negyddol o’r pentref a’r ardaloedd cyfagos.
Dywedodd Ms Georgia Crawley (Asiant) (O Blaid) bod cynigion wedi cael eu dylunio i sicrhau ailddatblygiad hyfyw o’r safle. Byddai’r ailddatblygiad yn diogelu 20 o swyddi llawn amser ar gyfer pobl leol. Mae’r adain Adfywio Busnes a’r Economi wedi cadarnhau y byddai’r datblygiad yn cydymffurfio â’r Cynllun Twf Twristiaeth. Byddai adeiladu’r gwesty ynghyd â'r 89 caban yn golygu byddai’r ailddatblygiad yn fusnes hyfyw. Cadarnhawyd na fyddai unrhyw ddatblygiad yn digwydd yn y coetir hynafol.
Trafodaeth Gyffredinol – Cadarnhaodd y Cadeirydd y cynhaliwyd ymweliad safle ddydd Mercher 13 Mehefin er mwyn asesu effaith weledol y datblygiad a hefyd a hefyd edrych ar gynaliadwyedd y rhwydwaith priffyrdd.
I gychwyn, diolchodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Joe Welch i’r Prif Swyddog Cynllunio am ei waith yn llunio’r 45 amod ynghlwm i’r cais.
Yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:
· Cadarnhawyd y cynhaliwyd trafodaethau yn ystod y broses asesu er mwyn sicrhau bod coed yn cael eu plannu i guddio’r cabanau a gwella'r ardal.
· Byddai'r datblygiad yn un dibreswyl ac felly roedd angen sicrhau nad oedd pobl yn preswylio llawn amser yn y cabanau. Roedd Amod Rhif 19 yn yr adroddiad yn ymdrin â'r defnydd o'r cabanau at ddibenion gwyliau yn unig.
· Hyfywedd ariannol - roedd gwybodaeth hyfywedd gwreiddiol yr ymgeisydd wedi'i adolygu gan Reolwr Datblygu Masnachol y Cyngor. Byddai datblygiad y gwesty yn dibynnu'n rhannol ar lefel traws-gymhorthdal o rannau proffidiol y cynllun a bod y cynnig o 89 caban bellach yn darparu cyfradd o elw i'r datblygwr a chyfranddalwyr, a oedd yn adlewyrchu risg y cynllun tra'n ariannu'r gwaith o ddarparu'r gwesty a chwrdd â'r costau a amcangyfrifir.
· Roedd Dŵr Cymru yn fodlon bod y system ddraenio ar y safle yn ddigonol ac y gellid cynnwys amod bod yr ymgeisydd yn darparu Dŵr Cymru gyda manylion am y system draenio dŵr wyneb a fyddai yn ei lle.
· Cadarnhawyd gan yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd y byddai mannau pasio yn cael eu creu ar y briffordd a byddai'r gyffordd yn cael ei ehangu. O fewn y nodiadau ychwanegol ar y daflen las a ddarparwyd yn y cyfarfod, byddai Amod 21 mewn perthynas â gwaith Priffyrdd yn cael ei ail-werthuso a byddai mwy o fanylion yn cael eu hychwanegu.
Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Peter Evans ganiatáu’r cais ynghyd â’r newid i Amod 21 fel y nodwyd gan yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Brian Jones.
PLEIDLAIS:
CYMERADWYO - 15
YMATAL - 0
GWRTHOD - 2
PENDERFYNWYD y
dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Ar y pwynt hwn, diolchodd yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Alan James, i'r Prif Swyddog Cynllunio, yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd a'r swyddogion yn eu Hadrannau am yr holl waith yn gysylltiedig â'r cais.
Dogfennau ategol: