Eitem ar yr agenda
GWASANAETH GWIRFODDOL - CONWY A SIR DDINBYCH – CEFNOGI YMRYMUSO'R GYMUNED
Derbyn cyflwyniad gan Wendy Jones, Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy a
Helen Wilkinson, Cyngor y Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych.
2.40-3.10 p.m.
Cofnodion:
Rhoddodd Wendy
Jones o Gefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy, gyflwyniad power point ar
gefnogi ymrymuso’r gymuned.
Cynghorwyd
aelodau ar rôl Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy a’r gwasanaethau a
ddarparwyd. Rhoddwyd manylion hefyd yn ymwneud â’r cyllid a gâi'r elusen
gofrestredig gan Lywodraeth Cymru a chyllid oedd yn cynnwys cefnogaeth gan
wasanaethau trydydd sector. Roedd anogaeth ac arweiniad yn allweddol i’r gwaith
a wnaed gan y gwasanaeth.
O’r cyflwyniad
sefydlwyd fod rhaglen hyfforddi wedi ei llunio i annog datblygiad unigolion a
rhannu profiad a gwybodaeth. Roedd cefnogaeth wedi’i rhoi i ddysgwyr i roi’r
grym iddynt i ymgymryd â dysgu a chefnogi unigolion eraill. Roedd cydweithio
wedi digwydd gyda Llandrillo gyda chyfradd basio ragorol.
Roedd gwybodaeth
a chyngor wedi ei roi yn ymwneud â chyllid gyda chymorthfeydd wedi eu cynnal i
annog prosiectau a ffynonellau posib o gyllid i gwrdd a darparu adborth. Roedd
nifer fawr o gynigion prosiect wedi bod yn llwyddiannus yn derbyn cyllid. Roedd
y cymorthfeydd wedi eu croesawu gan wirfoddolwyr a sefydliadau. Hefyd
cadarnhawyd y bydd porth canfod grant newydd yn cael ei lansio'n ddiweddarach
eleni.
Rhannwyd gydag
aelodau fod cynrychiolwyr o Gefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy yn eistedd
ar dros 70 o fyrddau a grwpiau gwahanol i rannu eu harferion a chynnig
cefnogaeth. Ar adegau roedd hyn wedi creu problemau gan fod cyfarfodydd wedi
cyd-daro. Yn gyffredinol roedd y gwaith a gwblhawyd gan Gefnogaeth Gymunedol a
Gwirfoddol Conwy wedi bod yn gadarnhaol.
Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolydd o Gefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy am ei
chyflwyniad manwl i aelodau. Mynegodd bryder am y nifer o gyfarfodydd mae’n
rhaid iddynt fynychu, gan ofyn a oedd yna unrhyw gefnogaeth y gallai'r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus ei gynnig. Wrth ymateb i’r Cadeirydd, cadarnhaodd Wendy
Jones mai’r prif fater oedd cefnogi a rhoi adnoddau i waith partneriaeth. I
leddfu’r pwysau, adnoddau a chyllid ychwanegol ar gyfer mwy o amser swyddog
fyddai'r gefnogaeth fwyaf cadarnhaol. O ganlyniad i'r cyfanswm o wahoddiadau
cyfarfod a dderbyniwyd roedd rhaid i gynrychiolwyr wrthod presenoldeb er mwyn
blaenoriaethu gwaith.
Cyflwynodd Helen
Wilkinson, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, y gwaith a wnaed gan y
sefydliad. Hysbyswyd aelodau o’r newidiadau diweddar i Gyngor Gwasanaethau
Gwirfoddol Sir Ddinbych gan gynnwys strwythur tîm newydd, logo newydd a gwefan
wedi'i diweddaru a lansiwyd yn 2018. Y flaenoriaeth i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol
Sir Ddinbych oedd i ddarparu cefnogaeth ragorol a gwybodaeth i wirfoddolwyr. Y
gobaith oedd y byddai gwell sylw yn y cyfryngau cymdeithasol yn arwain at
ymgysylltu gyda'r cyhoedd. Eglurwyd fod Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir
Ddinbych fel Conwy yn wasanaeth cefnogi 3ydd sector a oedd yn derbyn cyllid gan
Lywodraeth Cymru a threfniadau partneriaeth.
Sylwyd fod nifer
o newidiadau wedi digwydd o fewn Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych,
gyda'r tîm, yn dysgu a datblygu'r gwasanaeth yn barhaus i ddarparu gwasanaeth
cadarnhaol i sefydliadau a gwirfoddolwyr. Roedd ymgysylltu wedi ei sefydlu a
hyrwyddo'r gwasanaeth.
Diolchodd y Cadeirydd i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych am y
cyflwyniad ac roedd yn falch o weld fod gwaith wedi datblygu mewn dull
cadarnhaol. Roedd angen gwaith agos gyda chynghorau Gwirfoddol Conwy a Sir
Ddinbych a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gefnogi a hyrwyddo’r gwasanaeth
drwy sefydliadau eraill. Byddai o fudd archwilio strwythur y broses wirfoddol a
sut y gallai'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gefnogi.
Gofynnodd y
Cadeirydd i’r cynrychiolwyr sut y teimlent y gallai'r Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus gynorthwyo a chefnogi'r gwasanaeth gwirfoddol. Pe baent yn gallu
trafod gyda’i gilydd a dod ag adroddiad i'r cyfarfod nesaf er mwyn i'r aelodau
ei drafod ac ymdrin â materion a phryderon.
PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r cyflwyniadau a’r wybodaeth. Cyflwyno adroddiad diweddaru fel y gofynnir amdano uchod i gyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Medi.