Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS I ROI HYSBYSEBION AR GERBYD HACNI

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn ceisio penderfyniad gan yr aelodau ar gais gan Berchennog Cerbydau Hacni am ganiatâd i arddangos arwyddion ar ei gerbydau trwyddedig. 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

 

(a)       y dylid gwrthod y cais i arddangos arwyddlun

 

(b)       Y dylai’r frawddeg arfaethedig yn ymwneud â’r gofyniad polisi ar gyfer cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat perthnasol i’r peintwaith ddarllen: ‘Bydd y peintwaith o orffeniad proffesiynol ac yn un lliw cyson dros gorff y cerbyd cyfan’, a

 

(c)        gofyn i swyddogion adolygu’r polisi o ran arddangos arwyddion a hysbysiadau ar gerbydau hacni  notices on hackney carriage vehicles

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol

 

(i)            cais gan Berchennog Cerbyd Hacni i gael cymeradwyaeth i arddangos arwyddlun baner Cymru i orchuddio boned ei gerbydau trwyddedig (dangoswyd lluniau a gynhyrchwyd ar gyfrifiadur yn Atodiad A o’r adroddiad);

 

(ii)          polisi cyfredol y Cyngor a manyleb y cerbyd yn nodi’r gofynion derbyniol o ran gwaith paent, arwyddion, hysbysebu a chynllun lliwiau Cerbydau Hacni (Atodiad B yr adroddiad);

 

(iii)         yr angen i ystyried goblygiadau posib wrth ganiatáu i arddangos arwyddlun chwaraeon ac arwyddion gwladgarol a allai ddenu sylw digroeso neu gynyddu’r posibilrwydd am ymddygiad troseddol, ac

 

(iv)         amlygodd yr anghysondebau rhwng gofynion y polisi mewn perthynas â’r gwaith paent ar gyfer cerbydau hacni a hurio preifat a cheisio eglurder yn ymwneud â hynny.

 

Nid oedd yr Ymgeisydd yn medru mynychu’r cyfarfod ac roedd wedi cyflwyno ei ymddiheuriadau ond gofynnodd i’r cais am hysbysebu gael ei ystyried yn ei absenoldeb.

 

Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu grynodeb o’r adroddiad a’r rhesymeg tu ôl i’r cais oedd gerbron y pwyllgor o ystyried y goblygiadau posib wrth ganiatáu arwyddluniau o’r math yma a allai ddenu sylw digroeso.  Gofynnwyd i’r aelodau ystyried unioni’r anghysondebau rhwng y gofynion ar gyfer cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran gwaith paent.

 

Yn ystod eu trafodaeth, bu’r aelodau’n ystyried maint a graddfa’r dyluniad, ac nad oedd yn addas i'w roi ar gerbyd trwyddedig.  Roedden nhw’n gytûn hefyd y gallai arddangos arwyddluniau chwaraeon ac arwyddion gwladgarol fel hwn ddenu ymateb ymosodol ac roedd posibilrwydd o ymddygiad troseddol gwrth-gymdeithasol.  Cydnabuwyd bod y pwyllgor wedi cymeradwyo cais tebyg i arddangos arwyddlun llai yn eu cyfarfod ym mis Medi 2017 ac roeddent wedi cytuno i bennu bob cais yn ôl eu rhinweddau eu hunain.  Fodd bynnag, oherwydd pryder ymysg aelodau am arwyddion o’r natur hwn, teimlwyd y dylid adolygu’r polisi ymhellach.

 

Roedd rhai aelodau hefyd eisiau gweld unffurfiaeth rhwng pob cerbyd hacni ac roedden nhw’n pryderu y gallai cymeradwyo unrhyw arwydd neu hysbyseb yn groes i’r nod hwnnw.  Teimlwyd, er y gallai peth hysbysebu fod yn ddefnyddiol, fel hysbysebu dros dro ar gyfer digwyddiadau penodol neu at ddibenion elusennol, y dylid cyfyngu ar werthu lle hysbysebu ar gerbydau trwyddedig at ddibenion masnachol cyffredinol ac y dylid ystyried rhoi mwy o eglurder gyda hysbysebion sy’n cael eu caniatáu fel rhan o adolygiad o’r polisi yn y dyfodol.

 

Mewn perthynas â’r anghysondebau rhwng y gofynion polisi ar gyfer cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn ymwneud â phaent, cytunodd yr aelodau y dylai’r un polisi fod yn berthnasol i’r ddau fath, ac y dylid newid gofynion cerbydau hacni i gyfateb i ofynion cerbydau hurio preifat er mwyn sicrhau ymagwedd gyson.

 

PENDERFYNWYD

 

 (a)      gwrthod y cais i arddangos arwyddluniau;

 

 (b)      bod y frawddeg yn y polisi sy’n cyfeirio at baent cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn nodiBydd y gwaith paent wedi’i orffen yn broffesiynol ac yn unlliw cyson drwy gydol oes y cerbyd’, a

 

 (b)      gofyn i swyddogion adolygu’r polisi mewn perthynas ag arwyddion a hysbysebion ar gerbydau hacni.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad, a chais yr Ymgeisydd, roedd yr aelodau o’r farn nad oedd maint a graddfa’r dyluniad yn addas ar gyfer ei roi ar gerbyd trwyddedig.  Roedd yr aelodau’n teimlo hefyd y gallai’r arwyddlun ddenu sylw digroeso ac ymateb ymosodol gyda’r posibilrwydd o ymddygiad troseddol neu wrthgymdeithasol.  Oherwydd hynny, cytunwyd y byddai’r cais yn cael ei wrthod.

 

 

Dogfennau ategol: