Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 510126

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 510126.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nad oedd sail dros y gŵyn a wnaed yn erbyn Gyrrwr Rhif  510126 ac nad oedd unrhyw gamau i’w cymryd.

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Tony Thomas gysylltiad personol ac sy’n rhagfarnu, ac fe adawodd y cyfarfod yn ystod yr eitem hon.]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r materion a ganlyn –

 

(i)            addasrwydd Gyrrwr Rhif 510126 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat wedi cwyn am wahaniaethu ar sail anabledd a gwrthod teithiwr.

 

(ii)          manylion y gŵyn (roedd crynodeb o ffeithiau ynghyd â datganiadau tyst cysylltiedig a dogfennaeth ynghlwm wrth yr adroddiad); a

 

(iii)         gwahodd y Gyrrwr i ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei adolygiad o’i drwydded ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.  Roedd hi wedi cyflwyno dau eirda o ran ei chymeriad a oedd wedi cael eu cylchredeg i’r aelodau i’w hystyried fel rhan o'r broses adolygu.

 

Rhoddodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd grynodeb o’r adroddiad ac amlinellodd ffeithiau'r achos.

 

Eglurodd y Gyrrwr ei fersiwn hi o’r digwyddiadau fel ymateb i’r gŵyn, a rhoddodd wybod, o dan yr amgylchiadau, ei bod wedi gofyn am gyngor ei chyflogwyr am ba gamau i’w cymryd ac yn dilyn eu cyfarwyddiadau nhw, roedd wedi gwrthod y teithiwr.  Ymatebodd i gwestiynau’r aelodau mewn perthynas â datganiadau tyst a ddarparwyd a’i hymddygiad yn ystod y digwyddiad, ynghyd â materion yn ymwneud â hyfforddiant a chanllawiau a’i chynefindra gydag Amodau a Pholisi Trwyddedu Cerbydau Hacni a Hurio Preifat.  Yn ei datganiad terfynol, gwadodd y Gyrrwr unrhyw ymddygiad oedd yn gyfystyr â gwahaniaethu ar sail anabledd yn chwyrn.

 

Ar y pwynt hwn, gohiriodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PHENDERFYNWYD nad oedd yr honiadau a wnaed yn erbyn Gyrrwr Rhif  510126 wedi eu profi ac felly does dim angen camau gweithredu pellach.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr achos hwn yn ofalus, ynghyd â'r esboniad a roddwyd gan y Gyrrwr a’i ymateb i gwestiynau.  Roedd yr aelodau’n teimlo bod y Gyrrwr wedi bod yn agored ac yn onest wrth ymateb ac roedd tyst credadwy wedi derbyn ei fersiwn o ddigwyddiadau.  Roedd y Pwyllgor Trwyddedu yn teimlo bod y Gyrrwr wedi ymateb yn rhesymol dan yr amgylchiadau, gan geisio cyfarwyddyd gan ei chyflogwr a gweithredu yn unol ag o.  Yn dilyn hynny, cytunwyd i beidio â derbyn y gŵyn yn yr achos hwn ac nad oedd angen unrhyw gamau gweithredu pellach.

 

Cafodd y penderfyniad a'r rhesymau dros y penderfyniad eu cyfleu i'r Gyrrwr.

 

Oherwydd y diffyg hyfforddiant a chanllawiau a roddwyd i’r Gyrrwr yn yr achos hwn, awgrymwyd ei bod hi’n ceisio eglurder gan ei chyflogwyr presennol/yn y dyfodol am eu polisi a’u gweithdrefnau i sicrhau ei bod hi’n barod petai sefyllfa debyg yn codi.  Nododd yr aelodau hefyd bod y Gyrrwr bellach yn hollol gyfarwydd â’r Amodau a Pholisi Trwyddedu Cerbydau Hacni a Hurio Preifat a gofynnwyd iddi barhau i gydymffurfio â’r rheolau a’r rheoliadau hynny.

 

Amlygodd yr aelodau bwysigrwydd hyfforddiant a chanllawiau priodol ar gyfer gyrwyr trwyddedig a thrafodont a ellid gwneud mwy i sicrhau bod cyflogwyr yn darparu canllawiau clir er budd y gyrwyr a’r cwsmeriaid.  Roedd y swyddogion yn teimlo y byddai’n gyfle da i asesu’r ddarpariaeth fel rhan o waith parhaus i gyflwyno rhestr o gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn, a fyddai hefyd yn rhoi mwy o eglurder a rhoi rhwymedigaethau pellach ar yrwyr a pherchnogion y cerbydau hynny.  Felly, cytunwyd bod y swyddogion yn ymchwilio ymhellach i’r mater hwn gan adrodd yn ôl i gyfarfod y pwyllgor yn y dyfodol.

 

 

Dogfennau ategol: