Eitem ar yr agenda
DEFNYDDIO KINGDOM SECURITY LTD AR GYFER GORFODAETH TROSEDDAU AMGYLCHEDDOL
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
amlinellu sut y mae’r Cyngor yn rheoli ei gontract gwaith gorfodaeth troseddau
amgylcheddol gyda Kingdom Security Limited a gofyn i’r Pwyllgor wneud argymhellion i'r Cabinet
mewn perthynas â darpariaeth y gwasanaethau hynny yn y dyfodol.
10:05am – 11:05am
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio ac Amgylchedd adroddiad y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi’r
wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am weithgareddau gorfodi troseddau a
gynhaliwyd gan Kingdom Security Limited ar ran y Cyngor. Cyflwynwyd yr adroddiad
i’r Pwyllgor mewn ymateb i gais gan aelodau a oedd eisiau gwybod sut y mae’r
contract gyda Kingdom yn cael ei reoli i wireddu gwerth am arian a pha
reolaethau sydd wedi’u sefydlu i osgoi niweidio enw da’r Cyngor tra’n gwneud
gweithgareddau gorfodi.
Yn ystod ei gyflwyniad, pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol bod y contract gyda
Kingdom yn Sir Ddinbych yn cael ei reoli yn effeithiol gan Uwch Swyddog
Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor (Diogelwch Cymunedol). Roedd cwynion yn
ymwneud â throseddau amgylcheddol yn Sir Ddinbych, yn enwedig baw ci, ymysg yr
uchaf yng Nghymru cyn i’r Cyngor ymrwymo i gontract gyda Kingdom i ddarparu
gwasanaethau gorfodi. Roedd arolygon
a gynhaliwyd gan Cadwch Gymru'n Daclus yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi
dangos gwelliant mawr mewn glendid ar y strydoedd, gyda'r nifer o hysbysiadau
cosb benodedig (FPN) a roddwyd ar gyfer troseddau baw ci yn Sir Ddinbych yn
gyson ymysg yr uchaf yng Nghymru.
Cyn
i Kingdom ddarparu gwasanaethau gorfodi troseddau amgylcheddol, ychydig iawn o
FPN roddodd Sir Ddinbych ar gyfer baw cŵn. Nododd y duedd gyfredol leihad yn y nifer o FPN a rodwyd
ar gyfer troseddau baw ci, ac roedd hyn wedi’i briodoli i effeithiolrwydd
perfformiad y gorffennol wrth weithredu i atal ac agwedd addysgol y gwaith a
wnaed gan Kingdom h.y. rhoi bagiau baw cŵn i’r cyhoedd a, lle mae'r
perchnogion yn caniatáu i’w cŵn redeg yn rhydd, i dynnu eu sylw at yr
arwyddion sy’n rhoi gwybod i’r cyhoedd bod yr ardal yn destun Gorchymyn Diogelu
Mannau Cyhoeddus (PSPO) sy’n ei wneud yn ofynnol i gŵn fod ar dennyn bob
amser.
Estynnwyd gwahoddiad i gynrychiolwyr o Kingdom Security Limited fynychu’r
cyfarfod i drafod gorfodaeth troseddau amgylcheddol gyda’r Pwyllgor. Er eu bod wedi derbyn y
gwahoddiad i ddechrau, oherwydd y pryderon am ddiogelwch a lles eu staff, yn
ystod y 24 awr ymlaen llaw, gwnaethant y penderfyniad i beidio mynychu. Ond, gwnaethant
gyhoeddi datganiad y gwnaeth y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ei
ddarllen yn y cyfarfod gan amlinellu’r rhesymau dros eu penderfyniad i beidio
mynychu’r cyfarfod. Mynegodd
aelodau’r pwyllgor eu siom bod Kingdom wedi tynnu’n ôl o anfon cynrychiolydd
i’r cyfarfod mor fyr rybudd.
Er
eu bod yn deall pryderon y cwmni, gwnaethant bwysleisio na ddylent fod ofn
mynychu cyfarfod pwyllgor â chyfansoddiad democrataidd.
Manylodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ar yr adroddiad a
chynnwys yr atodiadau cysylltiedig. Rhoddodd wybod i’r Pwyllgor, er bod Kingdom yn gweithio o
swyddfeydd y Cyngor yn Ninbych, eu bod yn gweithredu ar draws y sir ac yn cael
eu lleoli ar sail gwybodaeth a chwynion a gafwyd gan swyddogion y Cyngor a’r
cyhoedd. Adolygwyd a
diwygiwyd contract y Cyngor gyda Kingdom yn flynyddol, yn seiliedig ar y mathau
o ymholiadau a chwynion a gafwyd gan breswylwyr.
Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau bod y Cyngor wedi ymrwymo i gontract gyda
Kingdom yn dilyn etholiadau awdurdod lleol 2012 pan dynnodd preswylwyr sylw at
faw ci fel problem fawr ar draws y sir, a arweiniodd o ganlyniad at fabwysiadu’r
Strategaeth Baw Ci yn y Cyngor.
Roedd
y contract gyda’r cwmni ar gyfer gorfodaeth yn erbyn nifer o wahanol fathau o
droseddau amgylcheddol h.y. baw cŵn, taflu sbwriel, post sothach, ysmygu
mewn ardaloedd amgaeedig, graffiti, torri PSPO ayyb. Mae enghreifftiau o’r
gwahanol fathau o droseddau y rhoddwyd FPN ar eu cyfer, yn ogystal â’r nifer o
droseddau o’r fath a’u lleoliadau, wedi’u rhestru yn Atodiad A i’r adroddiad. Fel rhan o’r contract,
roedd disgwyl i Kingdom, yn ogystal â chymryd camau gorfodi, addysgu’r cyhoedd
am y peryglon a achoswyd gan droseddau amgylcheddol ac o ganlyniad gwireddu
strydoedd glanach, a thaclusach ledled Sir Ddinbych. Mae data ystadegol ar
lendid strydoedd a gweithgareddau gorfodi yn nodi bod yr agwedd hon yn talu ar
ei ganfed. Roedd yn amlwg
bod y cyhoedd rŵan yn fwy cyfrifol yn amgylcheddol, gyda Kingdom yn
cyflwyno 2,000 yn llai o rybuddion cosb benodedig yn y sir y llynedd o gymharu
â’r flwyddyn flaenorol. Roedd hefyd
tuedd at i lawr yn y nifer o achosion o faw ci y rhoddwyd gwybod amdanynt a
oedd hefyd yn dangos bod y contract gyda Kingdom yn gweithio yn dda, er y
cydnabuwyd y byddai bron yn amhosibl i gael gwared â baw cŵn yn gyfan
gwbl. Er bod y nifer
o FPN a roddwyd wedi lleihau yn ddiweddar, roedd yn dda gweld bod y cyfradd
dalu ar FPN a roddwyd cyn gweithredu achosion llys wedi cynyddu i 76%. Gwnaethpwyd pob ymdrech
i weithio gydag unigolion nad oeddent mewn sefyllfa i dalu FPN mewn un
cyfandaliad i’w galluogi i dalu mewn rhandaliadau fforddiadwy.
Pwysleisiwyd bod y contract gyda Kingdom yn niwtral o ran cost i’r Cyngor. Er bod y Cyngor yn rhoi
swyddfa i’r cwmni yn eu swyddfeydd yng Nghaledfryn, nid yw’n ‘talu’ i’r cwmni
am eu gwasanaethau. Telerau’r
contract yw bod gan y Cyngor drefniant ‘talu wrth fynd’ gyda Kingdom, bod y
cwmni yn cadw 60% o’r incwm o bob FPN a roddwyd gyda’r 40% sy’n weddill yn cael
ei dalu i’r Cyngor i dalu costau rheoli ayyb. I sicrhau nad oedd y cwmni yn mynd yn groes i unrhyw
weithdrefnau a phrotocolau wrth wneud gwaith gorfodi ar ran y Cyngor, mae Uwch
Swyddog Gwarchod y Cyhoedd y Sir (Diogelwch Cymunedol) yn adolygu lluniau
camerâu corff y swyddogion FPN yn rheolaidd. Archwiliwyd i unrhyw gwynion a gafwyd mewn perthynas â
gweithgareddau gorfodi’r cwmni yn unol â gweithdrefn gwyno ‘Eich Llais’ y
Cyngor, ac fel rhan o’r archwiliad hwnnw, bydd yr Uwch Swyddog Gwarchod y
Cyhoedd (Diogelwch Cymunedol) yn siarad gyda’r swyddog Kingdom dan sylw ac
archwilio’r lluniau o’r camera corff. Roedd y nifer o gwynion a gafwyd yn erbyn yr FPN a gyflwynwyd
yn llai na 1% o’r nifer a roddwyd. O’r cwynion a gafwyd, ychydig iawn a ategwyd, a lle
profwyd bod swyddog Kingdom wedi methu cydymffurfio â gweithdrefnau a
phrotocolau gweithredol roedd gan y Cyngor y pŵer i’w symud a gofyn am
swyddog gwahanol. Roedd yn braf
gallu rhoi gwybod bod y nifer o gwynion yn erbyn ymddygiad swyddogion Kingdom
hefyd wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cyn dechrau achosion
erlyn, adolygwyd yr holl luniau camerâu corff mewn manylder i sicrhau y byddent
yn gwrthsefyll craffu cyfreithiol. Er bod rhai aelodau’r cyhoedd wedi cwyno am ymddygiad
swyddogion Kingdom, roedd diffyg cydymffurfio gyda gweithdrefnau, protocolau a
pholisïau ymddygiad yn brin.
Ond,
roedd ymddygiad rhai aelodau’r cyhoedd tuag at swyddogion Kingdom sy’n ceisio
gwneud eu gwaith yn annymunol ar adegau.
Gwnaeth Kingdom gydnabod bod Sir Ddinbych yn rheoli ei gontract gyda'r
cwmni yn gaeth iawn, gan arwain at sicrhau eu bod yn gwybod yn union beth sydd
i'w ddisgwyl ohonynt.
Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, bu i'r Aelod Arweiniol, y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’r Uwch Swyddog Gwarchod y Cyhoedd (Diogelwch y
Cyhoedd):
·
gadarnhau bod y contract cyfredol gyda Kingdom yn dod i
ben ym mis Tachwedd 2018, ac felly y bydd y swyddogion yn dechrau adolygu’r
contract yn fuan;
·
rhoi gwybod bod Kingdom yn gweithio yn agos ac yn
effeithiol gyda swyddogion Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol y Cyngor i
fynd i’r afael â materion fel digwyddiadau tipio anghyfreithlon mewn 'mannau
problemus' ledled y sir. Roeddent hefyd
yn gweithio yn agos gyda’i gilydd mewn perthynas ag asesu lle i leoli biniau
sbwriel yn y sir, ynghyd â’r nifer sydd eu hangen mewn gwahanol leoliadau. Hefyd, yn seiliedig ar
wybodaeth a gasglwyd gan y Cyngor a Kingdom mae capasiti biniau gwastraff wedi
cynyddu mewn rhai ardaloedd ac mae staff ychwanegol yn cael eu dosbarthu ar
adegau prysur h.y. gwyliau banc i sicrhau bod biniau yn cael eu gwagio yn
rheolaidd;
·
• cadarnhau nad oedd gan y Cyngor ddewis arall ar
gyfer darparu gwasanaethau gorfodi troseddau amgylcheddol yn effeithiol.
Yn sicr, ni allai
ddarparu gwasanaeth o’r fath yn fewnol yn yr hinsawdd gwasanaethau cyhoeddus
sydd ohoni. I’r Cyngor ddarparu’r
gwasanaeth yn fewnol, byddai angen sefydlu arian sylweddol i ddechrau i brynu peiriannau
FPN sy’n costio tua £5 yr un, gwisgoedd, camerâu corff ayyb;
·
rhoi gwybod i’r Pwyllgor bod Tîm Cyfathrebu’r Cyngor
wrthi’n gweithio ar ymgyrch cyhoeddusrwydd i dynnu sylw at bwysigrwydd cael
gwared ar faw cŵn a sbwriel mewn modd cyfrifol a peidio creu perygl i
iechyd aelodau eraill y cyhoedd neu droi'r amgylchedd yn rhywle blêr. Byddai’r ymgyrch yn
cael ei hyrwyddo mewn sawl man, gan gynnwys ar bosteri, fideos electronig,
datganiadau i’r wasg, cyfryngau cymdeithasol ayyb;
·
cadarnhau bod nifer yr achosion baw ci fel arfer yn
cynyddu yn ystod misoedd y gaeaf, oherwydd nifer yr oriau mewn tywyllwch. I sicrhau erlyniad
llwyddiannus am drosedd amgylcheddol, mae’n rhaid i’r lluniau ar y camera corff
fod yn glir ac mae’n rhaid cael digon o olau dydd i fedru adnabod y troseddwr
yn glir;
·
rhoi gwybod pan fydd nifer fawr o gwynion yn cael eu
derbyn ynglŷn â baw ci mewn ardal benodol y byddai’n cael ei ddynodi yn
ardal broblemus a bydd swyddogion Kingdom yn cael eu hanfon i’r ardal yn syth. Hefyd, bydd y
Gwasanaethau Amgylcheddol yn ymweld â’r ardal i glirio unrhyw lanast, a bydd
baw ci yn cael ei flaenoriaethu yn rhaglen waith y gwasanaeth;
·
cadarnhau bod y Cyngor yn gwybod lle mae swyddogion
Kingdom drwy’r dydd gan fod dyfais lwybro ar bob cerbyd. Mae gan Kingdom a’r
Cyngor berthynas waith dda ac o ganlyniad mae lefel uchel o ymddiriedaeth
dwyffordd yn bodoli rhyngddynt o fewn y contract sy’n arwain at orfodaeth
effeithiol a lleihad yn nifer yr achosion o droseddau amgylcheddol;
·
rhoi gwybod oherwydd y lleihad yn nifer yr enghreifftiau
o droseddau amgylcheddol nad oes sail am achos i gynyddu nifer y swyddogion
Kingdom/swyddogion gorfodi troseddau amgylcheddol sy’n patrolio’r sir;
·
rhoi gwybod er bod y cyhoedd yn pryderu am faw ci, tipio
anghyfreithlon a throseddau amgylcheddol eraill mewn mannau cyhoeddus, fel
ardaloedd dan reolaeth y Gwasanaethau Cefn Gwlad, nad oeddent bob amser yn
fodlon rhoi datganiadau i gadarnhau’r achosion o droseddau amgylcheddol yr
oeddent wedi’u gweld. O ganlyniad, ni
allai Kingdom na’r Cyngor erlyn y troseddwyr a amheuwyd;
·
cadarnhau eu bod, fel rhan o’r gwaith paratoi ar gyfer y
contract newydd, wedi trafod gyda Gwasanaeth Caffael y Cyngor ynglŷn â
hyfywdra ymrwymo i gontract is-ranbarthol ledled Gogledd Ddwyrain Cymru i
gaffael gwasanaethau gorfodi troseddau amgylcheddol;
·
rhoi gwybod er bod Kingdom yn patrolio ardaloedd mwy
trefol y Sir gan mwyaf, eu bod, wrth ymateb i wybodaeth, yn patrolio ardaloedd
mwy gwledig y Sir hefyd os oes angen;
·
rhoi gwybod os bydd cwynion yn cael eu cefnogi, bod y
rhesymau dros eu cefnogi yn amrywio o achos i achos. Nid oeddent bob amser
yn cael eu cefnogi oherwydd ymddygiad y swyddog Kingdom, mewn rhai achosion
roeddent yn cael eu cefnogi oherwydd diffyg tystiolaeth;
·
cadarnhawyd bod FPN am ‘droseddau begera’ ond wedi’u rhoi
mewn un ardal benodol o’r sir.
Roedd y rhain yn cael
eu rhoi mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd y troseddwyr dan
sylw yn droseddwyr cyson a gweithiodd Kingdom gyda’r Heddlu i roi’r FPN hyn. Pe bai’n dod i’r amlwg
bod problemau iechyd meddwl wrth wraidd eu hymddygiad, byddai Kingdom a’r
Cyngor yn gweithio yn agos gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac asiantaethau
eraill gyda'r bwriad o geisio sicrhau cefnogaeth briodol a digonol i’r
unigolion dan sylw;
·
cadarnhau bod tua 93% o’r FPN a roddwyd yn ystod 2017
wedi’u rhoi ar gyfer troseddau yn ymwneud ag ysmygu, a'r mwyafrif am beidio
taflu sigarennau mewn modd cyfrifol. Mewn perthynas â gwastraff a daflwyd ar ochr y ffordd,
gweithiodd y Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd a Kingdom yn agos gyda’r
Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol. Er y gall Kingdom roi FPN am daflu sbwriel ayyb, nid oedd
gan ei swyddogion y pwerau i ddilyn cerbydau ayyb rhag ofn i rywun daflu
sbwriel;
·
esboniodd bod gwelliant perfformiad y Sir o ran arolygon
Cadwch Gymru'n Daclus ddim yn ymwneud yn unig â gwaith gorfodaeth Kingdom, er
bod eu gwaith wedi cyfrannu yn sylweddol at strydoedd glanach a thaclusach yn y
sir.
Roedd y gwelliant yn
ymwneud â gorfodaeth effeithiol sydd wedi’i gefnogi gan wella ymwybyddiaeth,
addysgu’r cyhoedd am eu cyfrifoldebau a blaenoriaeth y Gwasanaethau
Amgylcheddol o ran glanhau baw cŵn;
·
cadarnhaodd y gallai’r aelodau weld contract y Cyngor
gyda Kingdom, ac nad oedd y contract yn cynnwys unrhyw dargedau penodedig;
·
rhoddodd wybod, er bod y nifer o FPN ar gyfer baw
cŵn yn lleihau, mai’r rheswm dros hyn oedd bod llai o ddigwyddiadau yn
cael eu hadrodd.
Os oedd aelodau
etholedig a’r cyhoedd yn gwybod am ardaloedd lle roedd baw cŵn yn gyson
uchel neu yn cynyddu, dylent roi gwybod i Ganolfan Gwasanaethau Cwsmer y Cyngor
i alluogi’r Cyngor i ofyn i Kingdom anfon swyddogion i’r ardaloedd hynny;
·
cadarnhaodd bod y contract sydd gan y Cyngor gyda Kingdom
yn cael ei adolygu yn flynyddol, ac os yw’r aelodau yn teimlo y dylai’r cwmni
dreulio mwy o amser mewn ardaloedd mwy gwledig o'r sir, y gellir trafod hyn fel
rhan o'r broses adolygu; a
·
cadarnhaodd bod Atodiad A yr adroddiad wedi rhestru'r
nifer a mathau o droseddau y cyflwynwyd FPN ar eu cyfer, ac nid y nifer ymweliadau
ag ardaloedd penodol y sir.
Esboniwyd hefyd bod y
ffigwr incwm blynyddol o tua £300K a nodwyd ar gyfer Kingdom yn Sir Ddinbych yn
incwm ac nid elw. Roedd rhaid
ariannu cyflogau a chostau eraill o’r ffigwr incwm, ac felly byddai’r ffigwr
elw yn llawer is.
Rhoddodd rhai aelodau wybod i'r Pwyllgor eu bod wedi bod
gyda swyddogion Kingdom wrth iddynt batrolio eu hardaloedd a bod eu gwaith a'u
ymddygiad wedi gwneud cryn argraff arnynt. Rhoesant wybod eu bod wedi synnu at
ddiffyg parch ac agwedd rhai aelodau o’r cyhoedd tuag at eu cymunedau a’r
amgylchedd a pha mor barod oeddent i daflu sbwriel yn anghyfrifol a gadael baw
ci mewn mannau cyhoeddus, cyfleusterau cymunedol ac ardaloedd hamdden i’r teulu
fel Marine Lake yn y Rhyl. Tanlinellodd yr Aelodau’r risgiau i iechyd y
cyhoedd ac i’r diwydiant amaethyddol o ganlyniad i faw cŵn a bod angen i
holl breswylwyr ac ymwelwyr y sir fod yn gyfrifol mewn perthynas â’r amgylchedd
leol.
Ar ddiwedd y drafodaeth holodd rhai aelodau a allai’r Cyngor, oherwydd
arbenigedd Sir Ddinbych mewn rheoli’r contract gofnodi troseddau amgylcheddol
gyda Kingdom, weithredu gwasanaeth rhanbarthol neu is-ranbarthol i ailfuddsoddi
mewn gwasanaethau eraill er lles preswylwyr Sir Ddinbych. Roedd nifer o
gynghorwyr o’r farn bod strydoedd Sir Ddinbych yn llawer glanach rŵan nag
yr oeddent cyn i Kingdom gael eu penodi i ddarparu gwasanaethau gorfodi
troseddau amgylcheddol, ond y bydd werth cynnal ymarfer meincnodi i werthuso
effeithiolrwydd y gwasanaeth cyfredol yn erbyn y rhai a ddarparwyd gan
ddarparwyr posibl eraill cyn rhoi’r contract nesaf. O ganlyniad, gwnaethant
ofyn i’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion:
·
archwilio, trwy’r Gwasanaeth Addysg ac ysgolion ayyb, sut
all yr Awdurdod wella a chryfhau ei ddarpariaeth addysg fel y mae’n ymwneud ag
ymddygiad a chyfrifoldeb unigolion tuag at yr amgylchedd a throseddau
amgylcheddol;
·
estyn gwahoddiad i bob cynghorydd sir gysgodi swyddog
Kingdom wrth iddynt batrolio eu ward i weld yn union beth y maent yn ei wneud a
sut; a
·
dylai bod gwasanaeth mewnol Sir Ddinbych ymysg y
dewisiadau posibl i’w harchwilio ar gyfer darpariaeth i’r dyfodol; gwasanaeth
ar y cyd gyda sir neu siroedd eraill, a gwasanaeth Cyngor Sir Ddinbych a allai
ddarparu gwasanaethau gorfodi troseddau amgylcheddol i awdurdodau eraill gan
gynhyrchu incwm i Sir Ddinbych.
Pwysleisiodd pob aelod oedd yn bresennol eu bod yn siomedig iawn gyda
phenderfyniad Kingdom Security Limited i beidio anfon cynrychiolydd i’r
cyfarfod.
Penderfynwyd: - yn amodol ar
ddatblygu’r camau gweithredu uchod, bod y Cabinet yn y man yn derbyn
gwerthusiad dewisiadau gydag argymhellion ar gyfer darparu gwasanaethau gorfodi
ar gyfer troseddau amgylcheddol yn y dyfodol.
Dogfennau ategol:
- Kingdom Report 070618, Eitem 6. PDF 219 KB
- Kingdom Report 070618 Apps A & B, Eitem 6. PDF 183 KB
- Kingdom Report 070618 App C, Eitem 6. PDF 266 KB